Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025.

Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid i'w rhoi ar waith.

Bydd y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn trawsnewid y ffordd y mae awdurdodau contractio Cymru yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith, gan ddod ag ystod o fuddion i gyflenwyr, gan gynnwys: 

  • Platfform digidol canolog: Bydd cyflenwyr yn gallu cofrestru a storio eu manylion fel y gellir eu defnyddio ar gyfer cynigion lluosog.
  • Gwelededd cynlluniau caffael: Bydd gwell mesurau tryloywder yn caniatáu i gyflenwyr weld hysbysiadau caffael awdurdodau contractio Cymru ar GwerthwchiGymru a'r platfform digidol canolog, gan gynnwys piblinellau o gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer contractau dros £2m. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i gyflenwyr baratoi ar gyfer darparu, naill ai fel prif gontractwyr, aelodau o gonsortia neu  is-gontractwyr yn y gadwyn gyflenwi.
  • Prosesau symlach ar gyfer cyflwyno cynigion: Bydd prosesau symlach yn ei gwneud hi'n haws i gyflenwyr gyflwyno cynigion, trafod a gweithio mewn partneriaeth â'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Gweithdrefnau hyblyg: Bydd y weithdrefn Hyblyg Gystadleuol newydd yn caniatáu i awdurdodau contractio Cymru ddylunio eu proses gaffael eu hunain, sy'n arbennig o fuddiol ar gyfer datrysiadau cymhleth, uwch-dechnolegol neu arloesol.
  • Fframweithiau masnachol hyblyg: Mae'r fframweithiau agored newydd yn fwy hyblyg felly nid yw darpar gyflenwyr yn cael eu cau allan am gyfnodau hir.
  • Dyletswydd i ystyried BBaChau: Bydd dyletswydd ar awdurdodau contractio Cymru i ystyried y rhwystrau sy'n wynebu BBaChau ac ystyried sut y gellir eu goresgyn yn helpu busnesau llai i gystadlu am fwy o gontractau cyhoeddus.
  • Talu'n brydlon: Bydd darpariaethau cryfach ar gyfer talu'n brydlon ledled y gadwyn gyflenwi yn galluogi BBaChau i elwa ar delerau talu 30 diwrnod ar ystod ehangach o gontractau sector cyhoeddus.

Bydd y newidiadau hyn yn ysgogi arloesedd, yn cyflawni canlyniadau gwell ac yn ymgorffori tryloywder drwy gydol y cylch oes masnachol, fel y gall pawb gael mynediad at ddata caffael a gweld sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Er nad yw'r Ddeddf Caffael yn llywodraethu cyflenwyr yn uniongyrchol mewn gwirionedd, ei nod yw ei gwneud yn haws i chi wneud busnes gyda'r sectorau cyhoeddus a chyfleustodau, felly mae angen i chi ddeall beth mae'n ei olygu i'ch sefydliad.

Rydym yn annog pob cyflenwr i edrych ar y gyfres o fideos hyfforddi byr ‘Rhannu Gwybodaeth’, sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer cyflenwyr, gan gynnwys BBaChau a Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol.

Camau allweddol ar gyfer cyflenwyr

  • Cofrestru: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y platfform digidol canolog unwaith y bydd hwn ar gael i gael gafael ar eich ID cyflenwr unigryw ac i weld yr holl Hysbysiadau a gyhoeddir o dan y Ddeddf Caffael.
  • Gwybodaeth Graidd: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau gwybodaeth graidd y cyflenwr ar y platfform digidol canolog os ydych yn dymuno tendro am gontractau sector cyhoeddus.
  • Telerau talu: Dylech fod yn ymwybodol o'r telerau talu 30 diwrnod sydd ymhlyg ym mhob “is-gontract cyhoeddus”.

Gwybodaeth allweddol ar gyfer cyflenwyr

  • Rheoli Perfformiad: Bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio Cymru osod Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer contractau dros £5m a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn.
  • Rhagwaharddiad a gwaharddiad: Bydd rhestr rhagwaharddiad yn bodoli. Bydd cyflenwyr sydd i'w cofnodi ar y rhestr yn cael hysbysiad yn gyntaf. Gall cyflenwr wneud cais i gael ei dynnu o'r rhestr ar unrhyw adeg.

Byddwn yn parhau i ychwanegu deunydd at ein tudalen LLYW.CYMRU a rhannu adnoddau gyda'n rhwydwaith o bartïon â buddiant wrth i ni symud tuag at fynd yn fyw. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Ddeddf Caffael neu'r rheoliadau cysylltiedig, e-bostiwch: ProcurementReformTeam@llyw.cymru.

Mae adnoddau mwy cyffredinol i helpu cyflenwyr gyda'r broses dendro a sut i gael y gorau o wefan GwerthwchiGymru hefyd ar gael yma.