Neidio i'r prif gynnwy

Nawr yw'r amser i bwyso a mesur faint o silwair sydd ei angen ar y fferm ar gyfer cyfnod y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cymorth ar gael gan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i baratoi strategaeth a chyllideb bwydo'r gaeaf ar gyfer misoedd y gaeaf er mwyn sicrhau'r proffidioldeb gorau posibl dros y cyfnod.

Yn dilyn yr Uwchgynadleddau Tywydd Eithafol a gynhaliwyd yn gynharach eleni ym mis Ebrill 2024, a thrafodaethau gyda diwydiant dros fisoedd yr haf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol. Mae'n rhaid i ni weithredu heddiw i addasu a lliniaru hyn - gan gymryd camau i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl gweld a chlywed am yr amgylchiadau eithriadol o anodd a wynebodd y sector y gaeaf diwethaf, mae'n rhaid inni fod yn rhagweithiol a chael cynllun clir ar waith.

Mae ffermwyr yn adnabod eu tir a'u ffermydd ac mae'n bwysig eu bod yn gwybod am yr help sydd ar gael i'w paratoi a'u cefnogi drwy'r gaeaf.

Mae GrassCheck GB wedi nodi bod twf glaswellt wedi gostwng yn is na'r cyfartaledd tymhorol 5 mlynedd ac mae'n sylweddol is na'r adeg hon y llynedd, oherwydd tymheredd aer is a diffyg heulwen yn ogystal â gostyngiad yn hyd y dydd yr adeg hon o'r flwyddyn.

Gallai rhai pethau i'w hystyried gynnwys.

  • paratoi cyllideb fwydo yn gynnar ar gyfer misoedd y gaeaf i sicrhau'r proffidioldeb mwyaf posibl dros y cyfnod.
  • ystyried gofynion maeth eich buches/praidd, gan sicrhau bod gan dda byw ddigon o fwyd i'w gynnal a'i gynhyrchu.
  • cyfrifo cynnwys maethol y porthiant gaeaf sydd gennych
  • defnyddiwch yr wybodaeth hon i weld a oes gennych ddiffyg neu warged ynni a fydd yn helpu i reoli eich buches/praidd a bwydo yn unol â hynny.

Fel rhan o rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mae fferm Roger a Dyddanwy Pugh yn Fferm Crickie, Llangorse, Aberhonddu, wedi bod yn monitro twf glaswellt drwy gydol y tymor tyfu.  Dywedodd Roger: 

Mae mesur glaswellt wedi ein galluogi i gynllunio ein tir pori a silwair, a'n helpu i greu Cynllun Bwydo'r Gaeaf cadarn, gan ein galluogi i ddod yn fwy gwydn yn sgil unrhyw dywydd annisgwyl.

Y gaeaf hwn, o ganlyniad i gyngor gan Cyswllt Ffermio, rydym hefyd wedi dewis tyfu Betys Porthiant fel modd o fwydo gwartheg sy'n gaeafu allan i sicrhau bod gennym ddigon o stoc o fwyd o ansawdd i gario ein gwartheg drwy'r gaeaf a lleihau'r angen am brynu bwyd anifeiliaid.

Gall ffermwyr benderfynu faint o stoc silwair sydd ei angen ar gyfer y gaeaf a chael cyngor ychwanegol drwy gael gafael ar wybodaeth gan Cyswllt Ffermio. Mae amrywiol gymorth ar gael o erthyglau technegol, cymorthfeydd personol, gwasanaeth cynghori a mentora.

Dylai ffermwyr sy'n dymuno cael y cymorth hwn siarad â'u swyddog datblygu lleol neu gysylltu â chanolfan gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.