Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin eleni. Bydd y Ddeddf hon yn cyflwyno nifer fawr o ddiwygiadau i'n sefydliad, fel ehangu i gynnwys 96 Aelod o 2026.

Daeth y gwaith craffu ar Fil ar wahân, sef Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), i ddiwedd Cyfnod 1 yn y Senedd ym mis Gorffennaf, ac rwy'n ddiolchgar am holl gyfraniadau’r Aelodau i'r trafodion hynny.

Yfory, bydd y Prif Weinidog yn nodi ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaethol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, gan nodi'r meysydd hynny y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn canolbwyntio ei hegni'n llawn arnynt wrth gyflawni canlyniadau gweladwy i bobl Cymru.

O ganlyniad, rydym yn edrych ar draws y llywodraeth ar feysydd lle gallwn roi ein hamcanion polisi a deddfwriaethol ar waith mewn ffordd fwy ymarferol ac amserol.

Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu cyflwyno cynnig i dynnu'r Bil yn ôl o ystyriaeth bellach y Senedd. Bydd y cynnig hwn yn cael ei drafod, ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi.

Yn ystod y ddadl Cyfnod 1, fe wnaeth cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn y Senedd nodi'n glir eu bod wedi ymrwymo i'r maes pwysig o sicrhau cynrychiolaeth ddigonol gan fenywod yn y Senedd nesaf. 

Mae ein hymrwymiad i sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd a denu mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn parhau, ond rydym wedi ystyried dros yr haf ac wedi penderfynu mai'r ffordd orau y gallwn gyflawni newid ymarferol ar gyfer etholiad Senedd 2026 yw drwy fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd wahanol.

Nid yw tynnu'r Bil hwn yn ôl yn atal pleidiau gwleidyddol rhag ystyried pa gamau y gallant eu rhoi ar waith drwy eu prosesau dethol ymgeiswyr.

Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gen i roi gwybod y byddaf yn cyflymu datblygiad canllawiau newydd ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynrychiolaeth gan fenywod yn ogystal ag ystod ehangach o briodoleddau ac amgylchiadau.

Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill, a byddwn yn ymgynghori yn gyhoeddus arno yn fuan. Bydd y canllawiau felly ar gael cyn i’r prosesau dethol ymgeiswyr gan bleidiau gwleidyddol ddechrau ar gyfer etholiad 2026.

Rwy'n rhagweld y bydd y dull hwn yn helpu i gyflawni canlyniadau ymarferol a gweledol ar draws y sbectrwm gwleidyddol gyda'r nod o ddychwelyd Senedd gref ac amrywiol a all gynrychioli cymdeithas gyfan Cymru yn briodol.