Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r erthygl yn cyflwyno gwybodaeth am newidiadau yn nifer yr ail gartrefi trethadwy a gofnodwyd yng Ngwynedd a Dwyfor rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, fel un ffynhonnell wybodaeth a allai roi cipolwg sylfaenol ar gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor. Mae adran gyntaf yr erthygl hon yn cyflwyno data ar gyfer Gwynedd gyfan, tra bod ail ran yr erthygl yn canolbwyntio ar ardal Dwyfor yn unig. Mae Dwyfor yn ardal yng Ngwynedd sy’n ymestyn o Benrhyn Llŷn i’r ardal i’r gorllewin o Borthmadog.

Ffynonellau

Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn yr erthygl hon yn seiliedig ar ddata treth gyngor ar lefel eiddo. Daw’r data hwn o systemau gweinyddol awdurdodau lleol a ddefnyddir i brosesu taliadau’r dreth gyngor. Darperir y data gan awdurdodau lleol i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bob mis, a chan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i Lywodraeth Cymru bob chwe mis. Mae’r data hwn yn dangos faint o ail gartrefi trethadwy sydd mewn ardal benodol ar adeg benodol. 

Mae mwy nag un ffynhonnell wybodaeth ar gael am anheddau’r dreth gyngor ac ail gartrefi trethadwy. Mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu amcangyfrifon statudol blynyddol o’u sylfaen treth gyngor, gan gynnwys nifer yr ail gartrefi trethadwy sy’n debygol o fod yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r broses hon yn cael ei llywodraethu gan ddeddfwriaeth ac yn cael ei chwblhau at ddibenion pennu’r dreth gyngor, fel mesur swyddogol o sylfaen drethu awdurdod i sicrhau bod modd penderfynu ar lefelau’r dreth gyngor yn lleol. Er mwyn cynhyrchu’r amcangyfrifon statudol, mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r rhestr brisio a ddarparwyd iddynt gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Maent yn addasu ar gyfer unrhyw newidiadau y maent yn credu sy’n debygol o ddigwydd cyn y flwyddyn ariannol dan sylw. Gallwch ddysgu mwy am yr amcangyfrifon hyn, sy’n cael eu cyhoeddi’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru, yn natganiad anheddau’r Dreth Gyngor..

Mae rhai gwahaniaethau yn nifer yr ail gartrefi a ganfuwyd wrth gymharu’r data a ddefnyddiwyd i lywio’r erthygl hon â’r amcangyfrifon statudol o’r dreth gyngor a ddarparwyd at ddibenion gosod trethi (gweler Ffynonellau data: rhagor o wybodaeth i gymharu’r ffigurau hyn). Mae nifer o resymau pam mae’r gwahaniaethau hyn yn debygol o ddigwydd. Yn benodol, mae’r cyfrifiadau ar gyfer ail gartrefi yn cael eu cyfrifo mewn ffyrdd gwahanol at ddibenion gwahanol (mae un yn ddetholiad o systemau gweinyddol sy’n dangos ail gartrefi trethadwy ar ddyddiad penodol, tra bo’r llall yn amcangyfrifiad gan awdurdod lleol o nifer yr ail gartrefi trethadwy yn y flwyddyn ariannol nesaf). Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data treth gyngor ar lefel eiddo a dynnwyd ar 13 Ebrill yn adlewyrchu newidiadau y mae’r awdurdod lleol yn rhagweld a fydd yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Gall newidiadau yn nifer anheddau’r dreth gyngor ddigwydd fel mater o drefn o fewn blynyddoedd hefyd, er enghraifft drwy adeiladu neu ddymchwel cartrefi. Yn ogystal â hyn, mae'r data a ddefnyddiwyd ar gyfer yr erthygl hon wedi cael eu defnyddio ar gyfer prosesau paru cyfeiriad. O ganlyniad, efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng y ddwy ffynhonnell yn cael eu hesbonio gan gyfyngiadau'r broses paru cyfeiriadau - edrychwch ar Paru cyfeiriadau i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae nifer o newidiadau deddfwriaethol wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a fyddai wedi dod i rym yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn yr erthygl hon. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu’r trothwyon gosod sylfaenol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, i’w gosod am o leiaf 182 diwrnod mewn cyfnod o ddeuddeg mis, a chyflwyno eithriadau ychwanegol i bremiwm y dreth gyngor lle mae amodau cynllunio yn atal meddiannaeth barhaol.

Diffiniad treth gyngor o ail gartref

At ddibenion y dreth gyngor, diffinnir ail gartref fel annedd nad ydw’n unig gartref neu’n brif gartref person, ac sydd wedi’i dodrefnu’n sylweddol. Diffinnir yr anheddau hyn yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddfwriaeth y DU) fel rhai sy’n cael ‘eu meddiannu o bryd i’w gilydd’, ond cyfeirir atynt yn fwy cyffredin fel ‘ail gartrefi’.  Nid yw’r diffiniad hwn o ail gartrefi wedi’i gyfyngu i eiddo a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau/penwythnos preifat, ac mae’n cynnwys anheddau a gedwir at ddibenion gwaith, anheddau sydd ar gael i’w gwerthu, cartrefi tymhorol a charafannau. Mae’r erthygl hon yn cyflwyno data ar gyfer ail gartrefi trethadwy yn unig (nid yw ail gartrefi sydd wedi cael eithriadi’r (Cyngor Gwynedd) dreth gyngor wedi cael eu cynnwys yn y cyfrif hwn ar gyfer ail gartrefi).

Premiymau ail gartrefi

Ers 2017, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael pwerau cyfreithiol disgresiwn i godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor. Mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid codi premiwm ac mae rhai meysydd o ddisgresiwn lleol yn cael eu caniatáu o fewn y meini prawf. Ym mis Rhagfyr 2022, bu Cyngor Gwynedd godi’r premiwm hwn i 150% ar gyfer ail gartrefi, a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Nid oes modd defnyddio’r premiwm hwn ar gyfer rhai mathau o ail gartrefi, gan gynnwys cartrefi sy’n cael eu marchnata i’w gwerthu neu eu gosod (cyfnod penodol am flwyddyn), lleiniau carafannau a feddiannir, a chartrefi tymhorol lle mae meddiannaeth gydol y flwyddyn wedi’i wahardd. Mae rhagor o wybodaeth am y premiymau a godir yng Ngwynedd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Ym mis Mehefin 2023, cyflwynodd Cyngor Gwynedd hysbysiad Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o eiddo fel ail gartrefi yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Daeth Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rym ar 1 Medi 2024, sy’n golygu y byddai angen i unrhyw un sy’n dymuno newid annedd breswyl i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu eiddo defnydd cymysg penodol o’r dyddiad hwn geisio cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Ar hyn o bryd, dim ond i gartrefi yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd y mae’r cyfarwyddyd Erthygl 4 yn berthnasol, ac nid yw’n berthnasol i gartrefi sy’n dod o fewn Ardal Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hysbysiad Cyfarwyddyd Erthygl 4 ym mis Mawrth 2024. Os bydd yr Awdurdod yn cadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn cael ei roi ar waith o 1 Mehefin 2025 ymlaen.

Gwybodaeth arall am ail gartrefi

Gellir gweld gwybodaeth o’r data treth gyngor ar lefel eiddo a gyflwynir yn yr erthygl hon ar gyfer rhannau eraill o Gymru yn Ail gartrefi trethadwy: Mawrth 2023. Rydym yn bwriadu ailadrodd y dadansoddiad hwn ar gyfer Cymru gyfan gan ddefnyddio data Ebrill 2025 erbyn Awst 2025. Rydym yn parhau i archwilio dichonoldeb cysylltu data treth gyngor â data ardrethi annomestig VOA (NDR), er mwyn deall symud eiddo rhwng ail gartref a llety gosod tymor byr yn well.

Fel y soniwyd yn yr adran Ffynonellau uchod, mae awdurdodau lleol hefyd yn cynhyrchu amcangyfrifon blynyddol o nifer yr ail gartrefi trethadwy sy’n debygol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar lefel awdurdod lleol yn natganiad anheddau’r Dreth Gyngor (i gymharu’r  ffigyrau a gyhoeddwyd yn natganiad anheddau’r Dreth Gyngor â ffigyrau’r erthygl hon, gweler adran Ffynonellau – rhagor o wybodaeth yr erthygl hon). 

Gweler Ail gartrefi: beth mae’r data yn ei ddweud wrthym? i gael gwybodaeth am sut mae’r data a gyflwynir yn yr erthygl hon yn cymharu â ffynonellau gwybodaeth eraill am ail gartrefi.

Nodyn ar yr erthygl hon

Yn yr erthygl hon, mae nifer yr anheddau wedi'u talgrynnu i'r 10 agosaf. Am y rheswm hwn, efallai na fydd y cyfansymiau’n hafal i swm y dadansoddiad. Mae’r canrannau wedi cael eu cyfrifo o ffigurau heb eu talgrynnu. Mae’r wybodaeth a gyflwynir ar gyfer ail gartrefi trethadwy yn unig (nid yw ail gartrefi sydd wedi cael eithriadi’r dreth gyngor wedi cael eu cynnwys yn y cyfrif hwn ar gyfer ail gartrefi).

Prif bwyntiau ar gyfer Gwynedd

  • Mae dadansoddiad o ddata treth gyngor ar lefel eiddo yn dangos bod 4,370 o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd ar 13 Ebrill 2024, i lawr 5% o 13 Ebrill 2023.
  • O’r holl ail gartrefi trethadwy (gan gynnwys carafannau) yng Ngwynedd, cafodd premiwm y dreth gyngor ei godi ar 83% ohonynt (3,640 o gartrefi).
  • Roedd ail gartrefi trethadwy yn fwyaf cyffredin yn ardal allbwn ehangach haen ganol (MSOA) Abersoch ac Aberdaron ym mhen draw Penrhyn Llŷn, lle roedd 890 o ail gartrefi, a MSOA Tywyn a Llangelynnin, sydd wedi’u lleoli yn rhan fwyaf deheuol Gwynedd, lle roedd 810 o ail gartrefi.
  • O’r 4,610 o anheddau a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023, roedd 3,750 (81%) yn dal i gael eu cofnodi fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024.
  • Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, cafodd 620 o anheddau eu dosbarthu o’r newydd fel ail gartrefi trethadwy.
  • Ar 13 Ebrill 2024, roedd carafannau (gan gynnwys cabanau gwyliau) yn cyfrif am 12% o’r holl ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd (510 o ail gartrefi).

Ail gartrefi yng Ngwynedd yn ôl Ardal Allbwn Ehangach Haen Ganol (MSOA)

Yn yr erthygl hon, rydym wedi defnyddio enwau MSOA 2021 a ddatblygwyd gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Gweler Chwilio'r rhestr MSOA am ragor o fanylion.

Ar 13 Ebrill 2024, roedd 4,370 o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd, a oedd yn cyfrif am 8% o’r holl gartrefi trethadwy yn yr ardal. Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, gostyngodd nifer yr ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd 5% (o 4,610 i 4,370, sef cwymp o 230 o gartrefi). Dros yr un cyfnod, roedd cyfran yr ail gartrefi y codwyd premium arnynt yn dal yr un fath, sef 83%, gyda 3,840 o ail gartrefi yn talu premiwm ar 13 Ebrill 2023, a 3,640 o gartrefi ar 13 Ebrill 2024.

Roedd nifer yr ail gartrefi trethadwy yn amrywio ar draws gwahanol rannau o Wynedd. Ar 13 Ebrill 2024, roedd 7 MSOA yn cynnwys llai na 100 o ail gartrefi trethadwy, 8 MSOA yn cynnwys rhwng 100 a 500 o ail gartrefi trethadwy a 2 MSOA yn cynnwys dros 800 o ail gartrefi trethadwy.

Ar 13 Ebrill 2024, roedd y nifer lleiaf o ail gartrefi trethadwy wedi’u lleoli yng ngogledd-ddwyrain Gwynedd, yn ardal Arfon, yn agos at Ynys Môn a Chonwy. Yn yr ardaloedd allbwn ehangach haen ganol yn y rhan hon o Wynedd (Dinas Bangor, De Bangor, Bethesda, Bethel a Llanrug, Llanberis a Deiniolen, Dwyrain Caernarfon a Gorllewin Caernarfon a Waunfawr), roedd ail gartrefi yn cyfrif am lai na 4% o’r holl gartrefi trethadwy.

Yn y cyfamser, ar yr un pryd, gwelwyd y nifer uchaf o ail gartrefi trethadwy yn MSOA Abersoch, Aberdaron, Tywyn a Llangelynnin. Canfuwyd bod Abersoch ac Aberdaron, ym mhen draw Penrhyn Llŷn, yn cynnwys 890 o ail gartrefi trethadwy, sy’n cyfrif am 28% o’r holl gartrefi trethadwy yn yr MSOA hwn. Codwyd premiwm ar 840 (94%) o’r 890 o ail gartrefi hynny. Canfuwyd bod Tywyn a Llangelynnin, sydd wedi’u lleoli yn rhan fwyaf deheuol Gwynedd, yn cynnwys 810 o ail gartrefi trethadwy (sy’n cyfrif am 18% o’r holl gartrefi trethadwy yn yr MSOA hwn). Codwyd premiwm ar 600 (74%) o’r 810 o ail gartrefi hynny, (gweler Ail gartrefi yn ôl math o eiddo  i gael rhagor o wybodaeth am y premiymau a godir yn Nhywyn a Llangelynnin).

Ffigur 1: Nifer o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd yn ôl yr MSOA, 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Map o Wynedd yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer yr ail gartrefi y gellir codi tâl amdanynt yn uwch na 500 yn MSOAs Abersoch ac Aberdaron a Tywyn a Llangelynnin, ar 13 Ebrill 2024          

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

[Nodyn 1] Mae gwerthoedd o dan enwau MSOA yn dangos niferoedd gwirioneddol o ail gartrefi trethadwy

Ffigur 2: Canran o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd yn ôl MSOA, 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Map o Wynedd yn tynnu sylw at yr ail gartrefi ar 13 Ebrill 2024 oedd mwy nag 20% o'r holl gartrefi treth gyngor a godir yn MSOAs ac Abersoch a Aberdaron.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

[Nodyn 1] Mae gwerthoedd o dan enwau MSOA yn nodi canrannau gwirioneddol o'r holl gartrefi trethadwy treth gyngor a gofnodwyd fel ail gartrefi.

Cartrefi’n symud rhwng dosbarthiadau’r dreth gyngor yng Ngwynedd

Ar 13 Ebrill 2023, cofnodwyd 4,610 o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd. Dim ond 3,750 (81%) o’r cartrefi hynny a oedd yn dal i gael eu cofnodi fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024.

O’r 850 o gartrefi a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023, ond nid ar 13 Ebrill 2024, cofnodwyd 11% (90 o gartrefi) fel cartrefi gwag trethadwy, codwyd tâl prif breswylfa ar 60% (510 o gartrefi) a rhoddwyd eithriad i’r dreth gyngor i 12% (110 o gartrefi). Nid oedd modd paru y 150 cartref arall (17%) â chofnod treth gyngor cyfatebol ar 13 Ebrill 2024. Mae nifer o resymau pam nad yw cartref wedi cael ei baru â chofnod treth gyngor ar 13 Ebrill 2024. Er enghraifft, gallai’r cartref fod wedi cael ei ddymchwel neu ei uno, gallai’r eiddo fod wedi cael ei ailddosbarthu’n annomestig; neu gallai problemau ansawdd data fod wedi atal paru cyfeiriad llwyddiannus rhwng blynyddoedd. Mae’r data diweddaraf am ddymchweliadau (StatsCymru) yng Ngwynedd yn dangos bod cyfanswm o 55 o anheddau wedi cael eu dymchwel yn yr ardal yn 2022-23.

Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, cafodd 620 o anheddau eu dosbarthu o’r newydd fel ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd. Cofnodwyd 11% (70 o gartrefi) o’r 620 cartref hynny, fel cartrefi gwag trethadwy ar 13 Ebrill 2023, codwyd tâl prif breswylfa ar 44% (280 o gartrefi) a rhoddwyd eithriad i’r dreth gyngor i 14% (80 o gartrefi). Nid oedd modd cysylltu’r 190 cartref arall (31%) â chofnod treth gyngor cyfatebol ar 13 Ebrill 2023. Mae nifer o resymau pam nad yw cofnod cyngor dreth wedi cael ei baru â chofnod cyfatebol ar 13 Ebrill 2023. Er enghraifft, gallai’r cartref fod yn adeilad newydd neu’n un sydd wedi ei ail-lunio; gallai’r eiddo fod wedi cael ei ailddosbarthu’n annomestig; neu gallai materion ansawdd data fod wedi atal paru llwyddiannus rhwng blynyddoedd. Mae’r data diweddaraf am adeiladu tai newydd (StatsCymru) yng Ngwynedd yn dangos bod 94 o anheddau newydd wedi eu hadeiladu yn yr ardal yn 2023-24.

Ffigur 3: Eiddo’n symud i mewn ac allan o’r dosbarthiad ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd, 13 Ebrill 2023 i 13 Ebrill 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Diagram Venn yn tynnu sylw at y ffaith bod 3,750 eiddo yng Ngwynedd yn parhau i gael eu cofnodi fel ail gartrefi rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

Tabl 1: Cartrefi’n symud rhwng dosbarthiadau’r dreth gyngor yng Ngwynedd rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]
Dosbarthiad Treth y CyngorAil gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024Cartrefi gwag trethadwy ar 13 Ebrill 2024Preswylfa gynradd ar 13 Ebrill 2024 [Nodyn 2]Wedi'i eithrio ar 13 Ebrill 2024
Ail gartref y gellir ei godi ar 13 Ebrill 20233,75090510110
Cartref gwag y gellir ei godi ar 13 Ebrill 20237072043060
Preswylfa gynradd ar 13 Ebrill 2023 [Nodyn 2]28031047,0701,070
Wedi'i eithrio ar 13 Ebrill 2023802008501,550

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl yn tynnu sylw at y 4,610 o ail gartrefi trethadwy a gofnodwyd yng Ngwynedd ar 13 Ebrill 2023, parhaodd 3,750 o gartrefi i gael eu cofnodi fel ail gartrefi, cofnodwyd bod 90 o gartrefi yn gartrefi gwag y codir tâl amdanynt, codwyd 510 o gartrefi fel preswyliad cynradd ac roedd 110 o gartrefi yn derbyn eithriad treth gyngor ar 13 Ebrill 2024.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

[Nodyn 1] Dim ond gwybodaeth ar gyfer eiddo y gellid eu cysylltu ar 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024 y mae Tabl 1 yn ei chyflwyno. Yng Ngwynedd, nid oedd modd paru 150 o gartrefi a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023 â chofnod cyfatebol ar 13 Ebrill 2024. Nid oedd modd paru 190 o gartrefi eraill a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ym mis Ebrill 2024 â chofnod cyfatebol ar 13 Ebrill 2023. Oherwydd bod y ffigyrau a gyflwynir yn Nhabl 1 dim ond yn cynrychioli cartrefi sydd wedi’u cysylltu rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, efallai na fyddant yn cyfateb i amcangyfrifon sylfaen drethu awdurdodau lleol a gyhoeddwyd yn natganiad anheddau’r dreth cyngor.

[Nodyn 2] Nid yw’n cynnwys cartrefi y gellir eu defnyddio fel prif breswylfa sydd wedi cael eu heithrio.

Ail gartrefi yng Ngwynedd yn ôl math o eiddo

Er mwyn llunio dadansoddiad o ail gartrefi yn ôl y math o eiddo, rydym wedi cysylltu’r data treth gyngor ar lefel eiddo â data Arolwg Ordnans (OS) AddressBase. Ar 13 Ebrill 2024, canfuwyd bod 38% o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd yn dai sengl (1,680 o gartrefi), 12% yn dai pâr (520 o gartrefi) a 26% yn dai teras (1,120 o gartrefi). Canfuwyd bod cyfran lai o ail gartrefi trethadwy yn fflatiau (gan gynnwys fflatiau deulawr a rhandai, (9%, 380 o gartrefi)) neu’n garafannau (gan gynnwys cabanau gwyliau (12%, 510 o gartrefi)). Nid oedd modd paru’r 170 cartref arall (4%) â math o annedd breswyl.

Ffigur 4: Nifer yr ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd yn ôl y math o eiddo, 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: siart bar yn dangos bod 38% o’ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd ar 13 Ebrill 2024 yn dai ar wahân.                              

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd ac Arolwg Ordnans AddressBase Premium

[Nodyn 1] Nid yw Ffigur 3 yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer 170 o ail gartrefi nad oedd modd eu paru â math o annedd breswyl.

[Nodyn 2] Mae’n cynnwys fflatiau deulawr a rhandai. 

[Nodyn 3] Yn cynnwys cabanau gwyliau.

Yn ardaloedd allbwn ehangach haen ganol Abersoch, Aberdaron a Thywyn a Llangelynnin roedd rhywfaint o amrywiaeth yn nosbarthiad ail gartrefi trethadwy yn ôl math o eiddo. Canfuwyd bod cyfran uwch o ail gartrefi trethadwy yn Abersoch ac Aberdaron yn dai sengl (64%, 570 o gartrefi), a gwelwyd bod cyfran lai ohonynt yn dai pâr (11%, 100 o gartrefi), yn dai teras (16%, 140 o gartrefi) neu’n fflatiau hunangynhwysol (gan gynnwys fflatiau deulawr a rhandai (5%, 50 o gartrefi)). Yn Abersoch ac Aberdaron, nid oedd modd paru 30 o ail gartrefi trethadwy (3%) â math o annedd breswyl.

Yn Nhywyn a Llangelynnin, canfuwyd bod cyfran lai o lawer o ail gartrefi trethadwy yn dai sengl (27%, 220 o gartrefi), a chanfuwyd bod cyfran lawer mwy yn garafanau (gan gynnwys cabanau gwyliau (20%, 160 o gartrefi). O’r ail gartrefi a oedd yn weddill, canfuwyd bod 11% (90 o gartrefi) yn dai pâr, 29% (240 o gartrefi) yn dai teras a 9% (70% o gartrefi) yn fflatiau (yn cynnwys fflatiau deulawr). Yn Nhywyn a Llangelynnin, nid oedd modd paru 20 o ail gartrefi trethadwy (3%) â math o annedd breswyl.

Ar 13 Ebrill 2024, dim ond 4% o ail gartrefi trethadwy y canfuwyd eu bod yn garafannau (gan gynnwys cabanau gwyliau) oedd yn talu premiwm (20 o gartrefi), o’i gymharu â 94% o dai sengl (1,570 o gartrefi), 91% o dai pâr (470 o dai), 97% o dai teras (1,090 o gartrefi) a 91% o fflatiau (gan gynnwys fflatiau deulawr (350 o gartrefi)). Ni ellir defnyddio llawer o garafannau a chabannau gwyliau am y flwyddyn gyfan ac, yn yr achosion hyn, nid oes yn rhaid i berchnogion dalu premiwm.

Yn Nhywyn a Llangelynnin, codwyd premiwm ar gyfran lai o ail gartrefi (74%, o’i gymharu ag 83% ar gyfer Gwynedd yn gyffredinol). Mae hyn yn bennaf oherwydd y gyfran uwch o garafannau (gan gynnwys cabanau gwyliau) a ganfuwyd yn Nhywyn a Llangelynnin, gyda charafannau’n cyfrif am 20% o’r holl ail gartrefi trethadwy yn yr ardal.

Dwyfor

Mae Dwyfor yn ardal yng Ngwynedd sy’n ymestyn o Benrhyn Llŷn i’r ardal i’r gorllewin o Borthmadog. Dewiswyd Dwyfor fel yr ardal brawf ar gyfer cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd oherwydd ei maint daearyddol, y clwstwr o ail gartrefi sy’n bodoli yno, ac effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.

Ffigur 5: Map o Ddwyfor

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Map yn dangos ffin Dwyfor yng Ngwynedd.

Ffynhonnell: Data treth cyngor lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

Prif bwyntiau ar gyfer Dwyfor

  • Mae dadansoddiad o ddata treth gyngor ar lefel eiddo yn dangos bod 1,880 o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor ar 13 Ebrill 2024, i lawr 1% o 13 Ebrill 2023.
  • Codwyd premiwm ar y rhan fwyaf o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor (1,750 o gartrefi, 93% o’r holl ail gartrefi trethadwy).
  • Roedd ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn fwyaf cyffredin ym mhen draw Penrhyn Llŷn, yn MSOA Abersoch ac Aberdaron.
  • O’r 1,910 o anheddau a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023, roedd 1,640 (86%) yn dal i gael eu cofnodi fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024.
  • Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, cafodd 240 o anheddau yn Nwyfor eu dosbarthu o’r newydd fel ail gartrefi trethadwy.
  • Ar 13 Ebrill 2024, roedd bron i hanner yr holl ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn dai sengl (920 o gartrefi, 49%).

Ail gartrefi yn Nwyfor

Ar 13 Ebrill 2024, roedd 1,880 o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor, a oedd yn cyfrif am 14% o’r holl gartrefi trethadwy yn yr ardal. Ar draws Gwynedd gyfan, roedd ail gartrefi yn cyfrif am gyfran lai o’r holl gartrefi trethadwy (8%). Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, gostyngodd nifer yr ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd 1% (o 1,910 i 1,880). Dros yr un cyfnod, gwelwyd gostyngiad mwy sylweddol o 5% ar draws Gwynedd yn gyffredinol. Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, roedd cyfran yr ail gartrefi y codwyd premium arnynt yn dal yr un fath, sef 93% (gyda 1,780 o ail gartrefi yn talu premiwm ar 13 Ebrill 2023, o’i gymharu â 1,750 ar 13 Ebrill 2024. Ar draws Gwynedd gyfan, codwyd premiwm ar gyfran lai o ail gartrefi (83%). Gellir egluro hyn i raddau helaeth drwy nifer y carafannau nad ydynt efallai’n gorfod talu premiymau mewn rhannau eraill o Wynedd.

Ar 13 Ebrill 2024, roedd ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn fwyaf cyffredin ym mhen draw Pen Llŷn, yn MSOA Abersoch ac Aberdaron, lle roedd 890 o ail gartrefi trethadwy, a oedd yn cyfrif am 28% o’r holl gartrefi trethadwy yn yr MSOA hwn. Yn y cyfamser, roedd y nifer lleiaf o ail gartrefi trethadwy wedi’u lleoli yng nghanol gogledd Dwyfor ac mewn rhannau o ardaloedd allbwn ehangach haen ganol Pen-y-groes, Tal-y-sarn a Dyffryn Nantlle o fewn ffin ardal Dwyfor.

Gweler Ffigur 1 a Ffigur 2 i weld sut mae niferoedd ail gartrefi trethadwy yn amrywio ar draws gwahanol rannau o Ddwyfor.

Cartrefi’n symud rhwng dosbarthiadau’r dreth gyngor yn Nwyfor

Ar 13 Ebrill 2023, cofnodwyd 1,910 o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor. Dim ond 1,640 (86%) o’r 1,910 cartrefi hynny a oedd yn dal i gael eu cofnodi fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024.

O’r 270 o gartrefi a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023, ond nid ar 13 Ebrill 2024, cofnodwyd 12% (30 o gartrefi) fel cartrefi gwag trethadwy, codwyd tâl prif breswylfa ar 59% (160 o gartrefi) a rhoddwyd eithriad i’r dreth gyngor i 11% (30 o gartrefi). Nid oedd modd paru’r 50 cartref arall (18%) â chofnod treth gyngor cyfatebol ar 13 Ebrill 2024. Fel yr eglurwyd uchod, mae nifer o resymau pam nad yw eiddo wedi cael ei baru â chofnod treth gyngor ar 13 Ebrill 2024. Er enghraifft, gallai’r cartref fod wedi cael ei ddymchwel neu ei uno, gallai’r eiddo fod wedi cael ei ailddosbarthu’n annomestig o’r newydd; neu gallai problemau ansawdd data fod wedi atal paru cyfeiriad llwyddiannus rhwng blynyddoedd. Mae’r data diweddaraf am ddymchweliadau (StatsCymru) yn dangos bod cyfanswm o 55 o anheddau wedi cael eu dymchwel yng Ngwynedd yn 2022-23.

Rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, cafodd 240 o anheddau eu dosbarthu o’r newydd fel ail gartrefi trethadwy. Cofnodwyd 12% (30 o gartrefi) o’r 240 cartref hynny, fel cartrefi gwag trethadwy ar 13 Ebrill 2023, codwyd tâl prif breswylfa ar 41% (100 o gartrefi) a rhoddwyd eithriad i’r dreth gyngor i 10% (20 o gartrefi). Nid oedd modd cysylltu’r 90 cartref arall (38%) â chofnod treth gyngor cyfatebol ar 13 Ebrill 2023. Fel y nodwyd uchod, efallai fod nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys y VOA yn adeiladu tai newydd neu’n ail-lunio eiddo, mathau o eiddo domestig ac annomestig yn cael eu hailddosbarthu neu broblemau ansawdd data wrth baru cyfeiriadau. Er enghraifft, mae’r data adeiladu tai newydd (StatsCymru) yn dangos bod cyfanswm o 94 o anheddau newydd wedi cael eu cwblhau ar draws Gwynedd gyfan yn 2023-24.

Ffigur 6: Eiddo’n symud i mewn ac allan o’r dosbarthiad ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor, 13 Ebrill 2023 i 13 Ebrill 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Diagram Venn yn tynnu sylw at 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024, roedd 1,640 eiddo yn Nwyfor yn parhau i gael eu cofnodi fel ail gartrefi.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

Tabl 2: Cartrefi’n symud rhwng dosbarthiadau’r dreth gyngor yn Nwyfor rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]
13 April 2023Ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024Cartrefi gwag trethadwy ar 13 Ebrill 2024Preswylfa gynradd ar 13 Ebrill 2024 [Nodyn 2]Wedi'i eithrio ar 13 Ebrill 2024
Ail gartref y gellir ei godi ar 13 Ebrill 20231,6403016030
Cartref gwag y gellir ei godi ar 13 Ebrill 20233021010020
Preswylfa gynradd ar 13 Ebrill 2023 [Nodyn 2]1007010,790220
Wedi'i eithrio ar 13 Ebrill 20232060130130

Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn tynnu sylw at y 1,910 o ail gartrefi trethadwy a gofnodwyd yn Nwyfor ar 13 Ebrill 2023, roedd 1,640 o gartrefi yn parhau i gael eu cofnodi fel ail gartrefi, cofnodwyd bod 30 o gartrefi yn gartrefi gwag y codir tâl amdanynt, codwyd 160 o gartrefi fel preswyliad cynradd ac roedd 30 o gartrefi yn derbyn eithriad treth gyngor ar 13 Ebrill 2024.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd.

[Nodyn 1] Dim ond gwybodaeth ar gyfer eiddo y gellid eu cysylltu ar 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024 y mae Tabl 2 yn ei chyflwyno. Yn Nwyfor nid oedd modd paru 50 o gartrefi a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2023 â chofnod cyfatebol ar 13 Ebrill 2024. Nid oedd modd paru 90 o gartrefi eraill a gofnodwyd fel ail gartrefi trethadwy ym mis Ebrill 2024 â chofnod cyfatebol ar 13 Ebrill 2023.

[Nodyn 2] Nid yw’n cynnwys cartrefi y gellir eu defnyddio fel prif breswylfa sydd wedi cael eu heithrio.

Ail gartrefi yn Nwyfor yn ôl math o eiddo

Er mwyn llunio dadansoddiad o ail gartrefi yn ôl y math o eiddo, rydym wedi cysylltu’r data treth gyngor ar lefel eiddo â data Arolwg Ordnans (OS) AddressBase. Ar 13 Ebrill 2024, canfuwyd bod 49% o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn dai sengl (920 o gartrefi), 13% yn dai pâr (250 o gartrefi) a 23% yn dai teras (440 o gartrefi). Canfuwyd bod cyfran lai o ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn fflatiau (gan gynnwys fflatiau deulawr a rhandai, (9%, 160 o gartrefi) neu garafanau (gan gynnwys cabanau gwyliau (2%, 30 o gartrefi)). Nid oedd modd paru’r 70 cartref arall (4%) â math o annedd breswyl.

Ffigur 7: Nifer yr ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor yn ôl y math o eiddo, 13 Ebrill 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: siart bar yn dangos bod 49% o’ail gartrefi trethadwy yn Nwyfor ar 13 Ebrill 2024 yn dai ar wahân.

Ffynhonnell: Data treth gyngor ar lefel eiddo Cyngor Gwynedd ac Arolwg Ordnans AddressBase Premium

[Nodyn 1] Nid yw Ffigur 7 yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer 70 o ail gartrefi nad oedd modd eu paru â math o annedd breswyl.

[Nodyn 2] Mae’n cynnwys fflatiau deulawr a rhandai.

[Nodyn 3] Yn cynnwys cabanau gwyliau.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Datganiad o gydymffurfedd â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae’r OSR yn gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Mae ein holl ystadegau’n cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Datganiad o Gydymffurfedd Llywodraeth Cymru.

Chwilio’r rhestr MSOA

Mae enwau MSOA a ddefnyddir yn yr erthygl hon wedi cael eu datblygu gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Er nad yw’r enwau MSOA hyn yn rhai ‘swyddogol’, gallant helpu wrth ddehongli a chyflwyno data daearyddol.

Tabl 3: Chwilio am enw MSOA 2021, Gwynedd
2021 ONS enw MSOA2021 Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin Enw MSOA
Gwynedd 001Dinas Bangor
Gwynedd 002De Bangor
Gwynedd 003Bethesda
Gwynedd 004Bethel a Llanrug
Gwynedd 005Llanberis a Deiniolen
Gwynedd 006Dwyrain Caernarfon
Gwynedd 007Gorllewin Caernarfon a Waunfawr
Gwynedd 008Pen-y-groes, Tal-y-sarn a Dyffryn Nantlle
Gwynedd 009Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd
Gwynedd 010Porthmadog
Gwynedd 011Cricieth a Llanaelhaearn
Gwynedd 012Pwllheli a Morfa Nefyn
Gwynedd 013Harlech a Llanbedr
Gwynedd 014Abersoch ac Aberdaron
Gwynedd 015Y Bala a Mawddwy
Gwynedd 016Y Bermo a Dolgellau
Gwynedd 017Tywyn a Llangelynnin

Disgrifiad o Dabl 3: Tabl yn dangos yr enw MSOA a neilltuwyd gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin ar gyfer pob MSOA yng Ngwynedd.

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Ffynonellau data: rhagor o wybodaeth

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata treth gyngor ar lefel eiddo, a dynnwyd o systemau gweinyddol awdurdodau lleol bob mis, fel arfer y 13ed. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn casglu’r data bob mis, ac mae’r data’n cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru bob chwe mis. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod unrhyw sylwadau am ansawdd data wedi cael eu cyfleu i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol cyn gynted â phosibl (er enghraifft, gwahaniaethau rhwng nifer yr ail gartrefi a gofnodwyd yn y data treth gyngor ar lefel eiddo a chyfansymiau awdurdodau lleol a gyflwynwyd fel rhan o’r ffurflenni Anheddau’r Dreth Gyngor). Lle bo’n bosibl, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac awdurdodau lleol i ddatrys y materion hyn.

Wrth edrych ar nifer cyffredinol yr ail gartrefi trethadwy, prin yw’r amrywiaeth rhwng y data treth gyngor ar lefel eiddo ac amcangyfrifon sylfaen drethu awdurdodau lleol a gynhyrchwyd ar gyfer Gwynedd. Mae data’r dreth gyngor ar lefel eiddo yn dangos bod 4,610 o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd ar 13 Ebrill 2023, a 4,370 o ail gartrefi trethadwy ar 13 Ebrill 2024. Ar gyfer yr amcangyfrifon sylfaen drethu statudol blynyddol, dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai amcangyfrif o 4,760 o ail gartrefi trethadwy ym mlwyddyn ariannol 2023-24, ac amcangyfrif o 4,440 o ail gartrefi yn 2024-25, at ddibenion pennu trethi.

Paru cyfeiriadau

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn prosesu data’r dreth gyngor ar lefel eiddo drwy ei Wasanaeth Paru Mynegai Cyfeiriad (AIMS) mewnol, er mwyn neilltuo Cyfeirnod Unigryw’r Eiddo (UPRN) i bob cofnod cyfeiriad. Yn yr erthygl hon, mae'r cyfrif ar gyfer anheddau yn adlewyrchu'r cyfrif o ran nifer yr UPRNs unigryw a neilltuwyd gan AIMS. Gall fod yn fwy heriol i baru cyfeiriadau rhai mathau o gartrefi (er enghraifft, cartrefi unigol o fewn bloc o fflatiau). Yn yr achosion hyn, efallai na fydd UPRN yn cael ei neilltuo, neu efallai y bydd yr un UPRN yn cael ei neilltuo i fwy nag un cofnod cyfeiriad.

Yn y data a dynnwyd ar gyfer Gwynedd ar 13 Ebrill 2024, ni neilltuwyd UPRN i 30 o gofnodion drwy AIMS. Mae’r cofnodion hyn wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad hwn. Pan fydd yr un UPRN wedi'i neilltuo i fwy nag un cofnod, dim ond un cofnod sydd wedi'i dynnu (rydym wedi tynnu'r cofnod cyfeiriad sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor gyntaf). Yn allbwn data Gwynedd ar gyfer mis Ebrill 2024, neilltuwyd UPRN penodol i 96% o gofnodion cyfeiriadau’r dreth gyngor. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall yn well sut y gallwn ddefnyddio’r data hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol a, lle bo modd, seilio dadansoddiad ar y parau cyfeiriad mwyaf dibynadwy.

Er mwyn llunio dadansoddiad o ail gartrefi yn ôl y math o eiddo, rydym wedi cysylltu’r data treth gyngor ar lefel eiddo â data Arolwg Ordnans (OS) AddressBase.  Gallai 96% o gofnodion treth cyngor ail gartrefi a dynnwyd ar 13 Ebrill 2024 ar gyfer Gwynedd fod yn gysylltiedig â math o annedd preswyl OS AddressBase (cafodd y 200 cofnod arall nad oedd modd eu cysylltu â math o annedd breswyl eu heithrio o’r dadansoddiad o fath o eiddo).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae’r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach, sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt gyhoeddi’r dangosyddion cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (a) fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 32/2024