Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ips typographus (y chwilen rhisgl sbriws wyth dant) yn bla sy'n dinistrio coed sbriws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Trosolwg

Mae Ips typographus yn bla difrifol sy'n dinistrio coed sbriws yn Ewrop, sydd wedi'i ganfod yn yr amgylchedd ehangach yn Lloegr. Rydym yn defnyddio nifer o rwydweithiau gwyliadwriaeth, gan gynnwys Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru

Pla eilaidd yw’r chwilen yn bennaf, ac mae'n well ganddynt goed sydd o dan straen neu sy'n wan. Fodd bynnag, o dan yr amodau amgylcheddol cywir, gall niferoedd y chwilod gynyddu digon i arwain at ymosodiadau ar goed iach.

Gallwch leihau'r risg o Ips typographus ar eich coetir trwy gael gwared ar ddeunydd sbriws sydd wedi'i ddifrodi gan y gwynt, wedi'i ddifrodi, neu wedi ei dorri'n ddiweddar. Y prif rywogaethau sy'n agored i niwed gan Ips typographus yw coed sbriws (gan gynnwys sbriwsen Norwy a sbriwsen Sitka). Gall coed conwydd, coed pinwydd a choed llarwydd gael eu heffeithio hefyd. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Forest Research (Chwilen rhisgl spriws wyth dant Ewropeaidd (Ips typographus) - Forest Research)

Adrodd

Cadwch olwg am arwyddion o Ips typographus. Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi sylwi ar arwyddion o'r chwilen hon, dywedwch wrthym gan ddefnyddio ein ffurflen Rhybudd Coed

Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen rhybudd coed os yw eich coetir sbriws yn dangos arwyddion o ddirywiad neu straen.