Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn feistr ar gwch pysgota hamdden am diwna asgell las, rhaid i chi gwblhau ffurflen dal a rhyddhau.

Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen o fewn 24 awr i ddiwedd y daith bysgota.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais gofynnir ichi gwblhau;

  • dyddiad y daith bysgota
  • sawl tiwna asgell las gafodd ei ddal 
  • maint y pysgod (mewn modfeddi)
  • lleoliad y gweithgaredd pysgota (gan ddefnyddio rhif yr ardal ICES)
  • p'un a oedd y tiwna asgell las yn cael ei ryddhau yn farw neu'n fyw
  • gwybodaeth am unrhyw sgil-ddalfa

Rydym yn casglu'r wybodaeth hon at ddibenion adrodd mewn perthynas ag Erthygl 19G o Reoliad (UE) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor fel y'i diwygiwyd.