Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw pumed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), sy'n cynnwys argymhellion ar gyfer diwygio cyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2024. 

Hoffwn ddiolch i'r IWPRB am lunio adroddiad mor fanwl sy'n darparu dadansoddiad annibynnol a chynhwysfawr ynghyd ag argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwn eu datblygu i wella cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru.    

Mae'r IWPRB yn gwneud 12 argymhelliad ar gyfer cyflog ac amodau athrawon. 

Argymhelliad 1 yw cynyddu cyflogau a lwfansau 4.3% o fis Medi 2024. Cafodd yr argymhelliad hwn ei wneud gan yr IWPRB ym mis Mehefin 2024 ac fe ystyriodd y ffactorau perthnasol bryd hynny. Ers derbyn adroddiad yr IWPRB, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn argymhellion y Corff Adolygu Athrawon Ysgolion (STRB) i gynyddu cyflogau a lwfansau athrawon yn Lloegr 5.5% o fis Medi 2024. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw ein hannibyniaeth i wneud penderfyniadau ynghylch cyflog athrawon a byddwn yn parhau i barchu’r broses annibynnol o adolygu cyflogau ar draws sector cyhoeddus ehangach Cymru. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau nad oes anfantais i gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru. Felly, rwy’n mynd ymhellach nag argymhelliad yr IWPRB ac yn hytrach byddaf yn ymgynghori ar gynnydd o 5.5% i gyflogau a lwfansau o fis Medi 2024.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi £5 miliwn o gyllid i gefnogi argymhelliad 5 ynghylch symud Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i'r Ystod Cyflog Arweinyddiaeth. Bydd hyn yn gofyn am waith manwl pellach sy'n mynd rhagddo.

Ar ôl ystyried yn ofalus, byddaf yn derbyn argymhellion 2-11 mewn egwyddor, yn amodol ar gynnal ymgynghoriad. Ceir rhestr lawn o’r argymhellion yn yr adroddiad a chrynodeb o'm hymateb yn Atodiad A.

Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw wedi bod yn bosibl o ganlyniad i’n dull partneriaeth gymdeithasol ynghyd ag arbenigedd annibynnol yr IWPRB. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, i wobrwyo a chydnabod y gwaith rhagorol y mae athrawon yn parhau i'w wneud yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd derbyn yr argymhellion hyn yn cefnogi ymhellach y gwelliannau sydd eisoes ar y gweill ar gyfer y gweithlu addysg ac yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn gwerthfawr.

Byddaf nawr yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol erbyn 7 Hydref ar fy ymateb i'r argymhellion ym mhumed adroddiad yr IWPRB a'r newidiadau arfaethedig i'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru), sy'n cynnwys y cynnydd arfaethedig i gyflog athrawon. Byddaf yn ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol. 

Yn ogystal, rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ymgynghoriad ar weithredu rhai o'r argymhellion a wnaed yn Adolygiad Strategol y IWPRB o Strwythur Cyflog ac Amodau Athrawon ac Arweinwyr yng Nghymru, a dderbyniais mewn egwyddor ym mis Ebrill eleni. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn Atodiad B. Rwyf am fwrw ymlaen i weithredu'r argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Strategol, yn enwedig y rhai nad oes costau sylweddol ynghlwm wrthynt ac nad ydynt yn cael effaith fawr ar lwyth gwaith. Byddaf yn parhau i gydweithio â'r sector ar weithredu'r argymhellion sy'n weddill.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.