Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Cafodd Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("Deddf REUL") y cydsyniad brenhinol ar 29 Mehefin 2023. Rhoddodd y Ddeddf bwerau eang i weinidogion y DU ac awdurdodau datganoledig ddirymu, disodli a diwygio is-gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd y pwerau ar gael hyd at ddiwedd 2023. Mae adran 17 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU, bob chwe mis hyd at fis Mehefin 2026, ddiweddaru dangosfwrdd o gyfraith yr UE a ddargedwir a chyhoeddi adroddiad ar ddirymu a diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir (a elwir bellach yn 'gyfraith a gymhathwyd').

O ddechrau 2024 ymlaen, nid yw cyfraith yr UE a ddargedwir (REUL) yn bodoli bellach a'r hyn sydd yn ei lle yw'r corff cyfraith a oedd yn flaenorol yn rhan o REUL ond heb gynnwys nodweddion deongliadol cyfraith yr UE a oedd yn berthnasol iddi. I wahaniaethu rhyngddynt, mae'r olaf bellach yn cael ei alw'n 'gyfraith a gymathwyd', a gellir defnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf REUL bellach i ddirymu, disodli a diwygio mewn perthynas ag is-gyfraith a gymathwyd. Gellir defnyddio'r pwerau hyn hyd at 23 Mehefin 2026.

Yn dilyn cyhoeddi'r Adroddiad Seneddol ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir Ionawr 2024 – Mehefin 2024 Llywodraeth y DU (‘Adroddiad Llywodraeth y DU’), mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r adroddiad hwn i'r Senedd ar ymwneud Cymru ag Offerynnau Statudol (OSau) y gyfraith a gymathwyd rhwng Ionawr 2024 a Mehefin 2024. 

Mae adroddiad Llywodraeth y DU ar yr un ffurf â'i hadroddiad blaenorol, er bod ganddo bennod ychwanegol ar gadw Adran 4 o hawliau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu'n fras adroddiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â defnyddio pwerau Deddf REUL i ddiddymu, diwygio neu ailddatgan cyfraith a gymathwyd a thros yr un cyfnod adrodd. Mae'r adroddiad yn ymdrin â deddfwriaeth lle mae Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau yn Neddf REUL neu wedi cydsynio i Lywodraeth y DU ddefnyddio pwerau cydredol yn Neddf REUL. Dyma'r un dull sy'n cael ei gymryd gan Lywodraeth yr Alban, a fydd hefyd yn cyhoeddi ail ddiweddariad chwemisol ar Ddeddf REUL adeg y diweddariad hwn. 

2. Polisi a rheolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfraith a gymathwyd

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod hyd at y cyhoeddiad am Etholiad Cyffredinol y DU a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024. Mae'n ymdrin â deddfwriaeth a wnaed fel rhan o agenda blaenorol Llywodraeth y DU i ddirymu, ailddatgan neu ddiwygio OSau cyfraith a gymathwyd. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd Llywodraeth Cymru â'n polisi o ddefnyddio pwerau Deddf REUL yn unig i ddiwygio deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru mewn modd cymesur a synhwyrol lle gwelwyd budd i Gymru o wneud hynny. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol a'n Rhaglen Lywodraethu ein hunain. Yn ystod y cyfnod adrodd, ni wnaethom nodi unrhyw fudd i Gymru o ddefnyddio pwerau Deddf REUL.

Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn nodi yn y cyfnod rhwng Ionawr a Mehefin 2024 fod Llywodraeth flaenorol y DU wedi gosod 24 OS i ddirymu neu ddiwygio'r gyfraith a gymhathwyd. O'r 24 hynny, gwnaed wyth gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL. Roedd yr wyth OS a wnaed gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL yn cynnwys tri a oedd yn cynnwys elfennau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig, a phump mewn meysydd a gadwyd yn ôl yn gyfan gwbl. Drwy gydol y cyfnod adrodd parhaodd Llywodraeth y DU i gyflawni ei hymrwymiad anstatudol i geisio cytundeb gan Weinidogion Cymru cyn arfer pwerau Deddf REUL mewn meysydd datganoledig fesul OS. Cafodd Llywodraeth y DU y cydsyniad y gofynnwyd amdano gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r tri OS a oedd yn cynnwys meysydd datganoledig (a restrir yn Atodiad A). 

Cafodd nifer bach o OSau cyfraith a gymathwyd a oedd ar wahanol gamau cwblhau a thrafod rhwng llywodraethau eu hatal ar ôl cyhoeddi'r Etholiad Cyffredinol. 

Mae Llywodraeth y DU wedi rhestru yn ei Dangosfwrdd Cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith a gymathwyd holl ddeddfau'r UE a ddargedwir y mae Llywodraeth y DU wedi'u nodi hyd yma. Cafodd y rhan fwyaf o'r rhain eu harbed i sicrhau parhad deddfwriaethol yn syth ar ôl Brexit (Mae dangosfwrdd REUL yn cynnwys deddfwriaeth y DU a ddargedwir, ac sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n dod o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli . Nid yw'n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wneir gan y sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon). Cafodd y dangosfwrdd ei ddiweddaru cyn cyhoeddi adroddiad Llywodraeth y DU. 

Pan gynigiodd Llywodraeth y DU OSau gan ddefnyddio pwerau cydredol, mae'r cyswllt rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogol wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae ymgysylltiad cynnar rhwng y ddwy lywodraeth yn creu proses mwy llyfn a chyson. Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru gyda’u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod y defnydd o bwerau Ddeddf REUL yn briodol mewn cyd-destun datganoledig, gan gynnwys asesu'r effaith bolisi bosibl yng Nghymru.

3. Agenda Rheoleiddio Doethach Llywodraeth y DU

Yn Niweddariad cyntaf Llywodraeth Cymru ar Ddeddf REUL, nodom oblygiadau posibl i Gymru o fwriad blaenorol Llywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau Deddf REUL i gyflawni ei hagenda Rheoleiddio Doethach. 

Roedd yr agenda Rheoleiddio Doethach (a nodir yn Rheoleiddio Doethach i Dyfu'r Economi) yn cynnwys diwygiadau a fwriadwyd i wella rheoleiddio drwyddi draw i leihau beichiau, lleihau costau byw a sbarduno twf economaidd. Nodwyd pwerau Deddf REUL fel arf i ddirymu a diwygio rheoleiddio i gyflawni'r nod hwn. 

Agwedd graidd o’r gwaith arfaethedig i ddiwygio rheoleiddio oedd lleihau'r baich ar fusnesau. Er bod lleihau beichiau diangen ar fusnesau yn nod cyffredin, roedd y dull gweithredu yn codi'r risg o ddull dadreoleiddiol a fyddai’n erydu mesurau diogelu hanfodol a'r defnydd o bwerau Deddf REUL gan leihau gwaith craffu ar y dewisiadau hynny. 

Dim ond rhyngweithio cyfyngedig a gafwyd â Llywodraeth y DU ar sylwedd a goblygiadau'r agenda Rheoleiddio Doethach ehangach cyn cyhoeddi'r Etholiad Cyffredinol. 

4. Rhagolwg

Rydym yn disgwyl i'r etholiad a'r newid diweddar yn Llywodraeth y DU arwain at ddull newydd o ddiwygio rheoleiddio a'r defnydd o bwerau Deddf REUL. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU barhau i gynnal ymrwymiadau i beidio deddfu mewn meysydd datganoledig gan ddefnyddio pwerau cydredol heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU ar ei chynlluniau ar gyfer rheoleiddio, gan gynnwys unrhyw ddefnydd a ragwelir o bwerau Deddf REUL. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ymgysylltu cynnar rhwng y ddwy Lywodraeth i'n galluogi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd a'r pwyllgorau perthnasol am unrhyw gynigion deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd lle rydym yn rhannu blaenoriaethau a lle mae goblygiadau i Gymru, gan gynnwys archwilio unrhyw gyfleoedd i sicrhau cysondeb rhwng ein dulliau gweithredu. 

Pan fydd Llywodraeth y DU yn cynnig ac yn ceisio cydsyniad i ddefnyddio pwerau cydredol, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau fesul achos yn unol â'n blaenoriaethau ein hunain. Byddwn yn hysbysu'r Senedd yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt a'r rheolau sefydlog.

Fel y mae adroddiad Llywodraeth y DU yn ei gydnabod, mae Llywodraeth newydd y DU yn y broses o lunio cynlluniau a blaenoriaethau deddfwriaethol manwl. Mae wedi ymrwymo i greu amgylchedd o blaid busnesau gyda fframwaith rheoleiddio sy'n cefnogi arloesedd, buddsoddiad a swyddi o ansawdd uchel a bydd yn diwygio cyfraith a gymathwyd, lle bo'n berthnasol, i gyflawni'r weledigaeth honno. Rydym yn rhannu'r uchelgeisiau hyn, wrth geisio sicrhau bod yr hawliau a’r safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a nodir mewn cyfraith a gymathwyd yn cael eu diogelu.

Mae rhagolwg adroddiad Llywodraeth y DU yn cyfeirio at ddiwygio cynllunio, diwygio'r sector iechyd, gweithredu Strategaeth Ddiwydiannol newydd a chreu Swyddfa Arloesedd Rheoleiddio newydd. Mae'r Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal a chryfhau hawliau gweithwyr drwy godeiddio hawliau perthnasol adran 4 (Diddymodd Deddf REUL adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sy'n golygu nad yw hawliau a ddiogelwyd yn flaenorol gan yr adran honno (a elwir yn "hawliau adran 4") bellach yn cael eu cydnabod mewn cyfraith ddomestig, oni bai bod eu heffaith wedi'i hailddatgan gan ddefnyddio pwerau yn Neddf REUL). Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn a materion eraill. 

Disgwylir yr adroddiad chwemisol nesaf yn gynnar yn 2025 a bydd yn dilyn adroddiad Llywodraeth y DU.

Atodiad A: Defnydd Llywodraeth y DU o bwerau Deddf REUL y rhoddodd Gweinidogion Cymru gydsyniad ar eu cyfer yn ystod y Cyfnod Adrodd

Offeryn Statudol

Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) 2024

Manylion

Gwnaed diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth i ail-labelu REUL (a thermau cysylltiedig) fel "cyfraith a gymathwyd" (a thermau cysylltiedig) mewn is-ddeddfwriaeth. Hefyd gwnaed darpariaeth i ddileu cyfeiriadau mewn is-ddeddfwriaeth at hawliau a ddargedwir o dan adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a gafodd eu dileu gan Ddeddf REUL. Nod yr addasiadau hyn oedd gwella eglurder cyfreithiol y llyfr statud, gan sicrhau bod y gyfraith yn fwy hygyrch a dealladwy yn y pen draw. 

Cynnydd

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 24/01/2024 a chyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar26/01/2024. Daeth i rym 01/03/2024

Offeryn Statudol

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024

Manylion

Galluogodd yr OS i weinyddu ffioedd a thaliadau mewn 
ffordd sy'n adlewyrchu'r newidiadau i gyfundrefn rheolaethau swyddogol y ffin ar gyfer gwiriadau iechydol a phytoiechydol fel y nodir ym Model Gweithredu Targed y Ffin.

Cynnydd

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 26/02/2024 a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig ar 27/02/2024. Daeth i rym 30/04/2024

Offeryn Statudol

Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) (Dirymu) 2024

Manylion

Dilëwyd 73 darn o gyfraith a gymhathwyd ddiangen o'r llyfr statud.

Cynnydd

Gosodwyd gerbron Senedd y DU 16/04/2024 a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig ar 15/03/2024. Daeth i rym 10/05/2024