Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gwrthdaro buddiannau?

1. Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio, wrth ymgymryd â ‘chaffaeliad a gwmpesir’, ystyried nifer o amcanion, sy'n cynnwys gweithredu ag uniondeb, a chael eu gweld yn gweithredu felly (adran 12(1)(d) o'r Ddeddf). Gellir peryglu uniondeb caffaeliad os bydd buddiannau allanol neu breifat yn dylanwadu arno. Ochr yn ochr ag amcanion y caffaeliad, mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ymdrin ag achosion o wrthdaro buddiannau wrth ymgymryd â chaffaeliad a gwmpesir (Rhan 5 o'r Ddeddf).

2. Bydd achos o wrthdaro buddiannau yn codi yng nghyd-destun caffaeliad pan fydd gwrthdaro rhwng buddiannau person sy'n gweithredu mewn perthynas â chaffaeliad a buddiannau'r caffaeliad ei hun.

3. Mae angen rheoli achosion o wrthdaro buddiannau yn effeithiol er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd ymddiried mewn awdurdodau contractio i ymgymryd â phrosesau caffael cyhoeddus yn gyfrifol ac yn ddiduedd. Mae hefyd yn helpu i annog cyflenwyr i gymryd rhan mewn caffaeliadau, gan roi hyder iddynt y byddant yn cael eu trin yn deg ac y bydd cystadleuaeth ddilys. Os na chaiff achosion o wrthdaro buddiannau eu nodi a'u lliniaru'n effeithiol, gall fod canlyniadau pellgyrhaeddol. Gall arwain at gyhuddiadau o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth, heriau cyfreithiol a thanseilio hyder y cyhoedd yn uniondeb sefydliadau cyhoeddus.

4. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio nodi a pharhau i adolygu achosion gwirioneddol o wrthdaro buddiannau ac achosion posibl. Rhaid iddynt hefyd liniaru achosion o wrthdaro buddiannau a mynd i'r afael ag amgylchiadau sy'n debygol, ym marn yr awdurdod contractio, o beri i berson rhesymol gredu ar gam fod achos o wrthdaro buddiannau neu achos posibl o wrthdaro buddiannau (‘achos canfyddiadol o wrthdaro buddiannau’).

5. Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r darpariaethau yn y Ddeddf ac yn cynnwys cyngor i awdurdodau contractio ynglŷn â sut i gydymffurfio â'r Ddeddf. Bwriedir cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael Cymru newydd ar reoli achosion o wrthdaro buddiannau mewn caffaeliadau hefyd. Bydd y nodyn hwn yn disodli'r cynnwys ar wrthdaro yng nghanllaw Llywodraeth y DU sy'n cyd-fynd â Nodyn Polisi Caffael 04/21: Cymhwyso Gwaharddiadau mewn Caffael Cyhoeddus, Rheoli Gwrthdaro Buddiannau a Chwythu'r Chwiban, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu achosion o wrthdaro buddiannau?

6. Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag achosion o wrthdaro buddiannau, ac felly'r canllaw hwn, yn gymwys i unrhyw gaffaeliad a gwmpesir. Nodir y prif ddarpariaethau ar achosion o wrthdaro buddiannau yn adrannau 81-83 o'r Ddeddf.

7. Mae'r gofynion yn y Ddeddf yn cyd-fynd ag ystyriaethau eraill, megis:

  1. erlyniad am dwyll, llwgrwobrwyo, llygredigaeth drwy gamddefnyddio statws neu gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus os na chaiff achosion o wrthdaro eu rheoli'n briodol
  2. y ffaith y gall tuedd neu duedd ymddangosiadol wrth wneud penderfyniadau fod yn sail dros gynnal adolygiad barnwrol
  3. bod deiliaid swyddi cyhoeddus yn ddarostyngedig i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a chodau safonau moesegol amrywiol (er enghraifft, cod y Gwasanaeth Sifil, cod rheoli'r Gwasanaeth Sifil, Cod y Gweinidogion a rheolau penodiadau busnes), a
  4. rheolau mewnol perthnasol eraill busnesau neu sefydliadau.

Beth sydd wedi newid?

8. Mae'r Ddeddf yn cadw natur sylfaenol y rhwymedigaethau o'r ddeddfwriaeth flaenorol (gweler rheoliadau 24 ac 84 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, rheoliad 42 o Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2015, a rheoliad 35 o Reoliadau Contractau Consesiwn 2016), ond mae'n cryfhau'r gofynion drwy wneud rhai newidiadau pwysig. Mae'r Ddeddf yn cadw dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion yn hytrach na rheolau rhagnodol, ond mae rhai newidiadau pwysig:

  1. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gofyniad i awdurdodau contractio baratoi asesiad gwrthdaro ffurfiol a chadarnhau'n gyhoeddus fod hyn wedi'i wneud a'i fod wedi cael ei adolygu a'i ddiwygio yn ôl yr angen. Roedd Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2015 a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gymryd camau priodol i nodi achosion o wrthdaro buddiannau ac, ar gyfer contractau a gaffaelwyd o dan y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, roedd rheoliad 84(1)(i) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau a nodwyd a mesurau dilynol a roddwyd ar waith yn yr adroddiad caffael. Mae'r Ddeddf yn mynd gam ymhellach i ffurfioli hyn gyda mwy o dryloywder a phrosesau cadw cofnodion.
     
  2. O dan y Ddeddf, mae'n rhaid gwahardd cyflenwr o'r caffaeliad pan fydd achos o wrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i'r cyflenwr os na ellir cymryd camau i osgoi'r fantais honno neu os bydd y cyflenwr yn gwrthod cymryd unrhyw gamau angenrheidiol. Roedd Rheoliad 57(8)(e) o'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yn cynnwys sail ddisgresiynol dros wahardd lle na ellid unioni'r achos o wrthdaro yn effeithiol gan ddefnyddio dull arall a oedd yn llai ymwthiol, er y gall awdurdodau contractio, o dan rai amgylchiadau, fod wedi dewis gwahardd cyflenwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â thriniaeth gyfartal. (Nid oedd hyn wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth flaenorol arall).
     
  3. Mae'r Ddeddf yn egluro y gall Gweinidogion fod yn destun achos o wrthdaro buddiannau, a hynny am y gall Gweinidogion ddylanwadu ar benderfyniadau caffael. Drwy bennu Gweinidogion yn y Ddeddf, mae'n helpu i sicrhau bod achosion o wrthdaro buddiannau yn cael eu hystyried ar bob lefel. Wrth gwrs, ni fydd Gweinidogion yn rhan o bob caffaeliad.
     
  4. Mae'r Ddeddf yn darparu y gall fod yn ofynnol i gyflenwyr gymryd rhai camau er mwyn lliniaru achos o wrthdaro buddiannau ac y cânt eu gwahardd os byddant yn gwrthod gwneud hynny. Mae hyn oherwydd bod disgwyl i gyflenwyr gyrraedd y safonau uchaf o ran uniondeb wrth gyflenwi a darparu nwyddau, gwasanaethau a gweithiau a gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw.
     
  5. Mae'r Ddeddf yn nodi'n glir fod angen rheoli achosion o wrthdaro buddiannau drwy gydol cylch oes y caffaeliad. Mae'n dechrau ar y cam cynllunio, cyn cyhoeddi hysbysiad tendro neu dryloywder, neu hysbysiad marchnad ddynamig yn sefydlu marchnad ddynamig, ac mae'n parhau drwy gydol y broses gaffael ar gyfer y contract a'r gwaith o reoli'r contract neu'r farchnad ddynamig hyd at ddiwedd y contract neu'r farchnad ddynamig.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

Nodi achosion o wrthdaro buddiannau

9. Mae adran 81(1) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i nodi, a pharhau i adolygu, mewn perthynas â chaffaeliad, unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau neu achosion posibl o wrthdaro buddiannau. Mae'n rhaid i awdurdodau contractio hefyd fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau mewn perthynas ag achosion canfyddiadol o wrthdaro buddiannau (gweler paragraff 20 isod).

10. Mae ‘achos o wrthdaro buddiannau’ yn codi pan fydd achos gwirioneddol o wrthdaro buddiannau. Er enghraifft, pan fydd person sy'n asesu tendrau mewn caffaeliad yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cyflenwr sydd wedi cyflwyno tendr. Ceir ‘achos posibl o wrthdaro buddiannau’ lle bydd achos o wrthdaro buddiannau yn codi yn y dyfodol os bydd amgylchiadau penodol yn codi. Er enghraifft, mae rhywun a fydd yn asesu tendrau yn briod â Phrif Swyddog Gweithredol busnes sydd yn y broses o ddod yn berchen ar gwmni arall, ac mae'r cwmni hwnnw wedi cyflwyno tendr yn ddiweddar. Yn ôl y diffiniad yn adran 81(4) o'r Ddeddf, mae ‘buddiant’ yn cynnwys buddiant personol, proffesiynol neu ariannol a all fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

11. Mae'r personau y dylid ystyried achosion o wrthdaro, neu achosion posibl o wrthdaro, yn eu cylch fel a ganlyn:

  1. person sy'n gweithredu dros neu ar ran yr awdurdod contractio mewn perthynas â'r caffaeliad, a
  2. Gweinidog sy'n gweithredu mewn perthynas â'r caffaeliad.

12. Bydd person yn gweithredu ‘mewn perthynas â'r’ caffaeliad (ac felly dylid ei ystyried) os bydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar benderfyniad a wneir gan neu ar ran awdurdod contractio.

13. Nodir isod enghreifftiau o bersonau a all weithredu mewn perthynas â chaffaeliad ac a all felly fod yn berthnasol wrth ystyried achosion o wrthdaro buddiannau: yr uwch-swyddog cyfrifol, deiliad y gyllideb, y cyfarwyddwr masnachol, aelodau o'r bwrdd rheoli, staff masnachol, pobl a fydd yn asesu tendrau, arbenigwyr allanol, secondeion ac ymgynghorwyr o'r sector preifat, aelodau anweithredol o'r bwrdd, cynghorwyr arbennig, cyflogeion swyddfa breifat ac, fel y'i nodwyd yn adran 81(2)(b) o'r Ddeddf, Weinidogion.

14. Nid yw'r Ddeddf yn nodi'r camau penodol y mae'n rhaid i awdurdodau contractio eu cymryd i nodi achos o wrthdaro neu achos posibl o wrthdaro buddiannau a gall hyn amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, gall fod yn briodol cymryd camau pellach mewn perthynas ag unigolion sydd â chysylltiad agos â'r caffaeliad ac sydd â mwy o allu i ddylanwadu ar ei ganlyniad. Gall awdurdodau contractio, er enghraifft:

  1. ei gwneud yn ofynnol i unigolion gwblhau datganiad gwrthdaro buddiannau sy'n benodol i'r caffaeliad
  2. edrych ar ddatganiadau gwrthdaro buddiannau sydd eisoes yn bodoli i weld a ydynt yn cynnwys unrhyw fuddiannau perthnasol
  3. edrych ar ddatganiadau neu gofrestrau cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol i Weinidogion
  4. gofyn i unigolion a/neu dimau ar gyfer y caffaeliad sydd ar ddod gadarnhau a oes unrhyw fuddiannau perthnasol ac, os felly, a oes angen cymryd camau lliniaru.

Lliniaru achosion o wrthdaro buddiannau

15. Mae adran 82 o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad oes unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn rhoi mantais nac anfantais annheg i gyflenwr mewn perthynas â chaffaeliad. Os bydd achos o wrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i gyflenwr ac ni ellir osgoi hyn, neu os bydd y cyflenwr yn gwrthod cymryd y camau sy'n ofynnol gan yr awdurdod contractio i'w osgoi, rhaid i'r cyflenwr, mewn perthynas â'r caffaeliad:

  1. gael ei drin fel cyflenwr gwaharddedig at ddiben asesu tendrau o dan adran 19 o'r Ddeddf neu ddyfarnu contract yn uniongyrchol o dan adrannau 41 neu 43, ac
  2. beidio â chael caniatâd i gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn dendro gystadleuol na symud ymlaen mewn proses o'r fath.

* O dan amgylchiadau eithriadol, mae adran 41 yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig os bydd o'r farn bod budd cyhoeddus tra phwysig mewn gwneud hynny. Yn y senario hon, mae'n rhaid i awdurdod contractio gymryd pob cam rhesymol i liniaru'r achos o wrthdaro buddiannau o hyd a chydymffurfio ag adran 83 mewn perthynas ag asesiad gwrthdaro.

16. Bydd angen i awdurdodau contractio ystyried pa gamau y mae'n rhesymol eu cymryd o dan adran 82(1) o'r Ddeddf fesul achos, gan ystyried natur yr achos o wrthdaro buddiannau, sut y gallai effeithio ar ddyletswyddau unigolyn a sut y gallai effeithio ar y caffaeliad. Mae enghreifftiau o gamau a allai liniaru achos o wrthdaro buddiannau yn cynnwys:

  1. adleoli unigolion sy'n destun achos neu achos bosibl o wrthdaro buddiannau oddi wrth sefyllfaoedd lle gallant ddylanwadu ar benderfyniadau
  2. darparu i fwy nag un person asesu tendrau a chynnal a chofnodi cyfarfodydd cymedroli
  3. canslo ac ailgynnal y caffaeliad
  4. cynnwys arsylwr annibynnol yn y tîm caffael
  5. sicrhau bod rheolwyr sydd â chyfrifoldeb goruchwylio priodol yn ymwybodol o'r achos o wrthdaro buddiannau a'u bod yn adolygu ac yn cymeradwyo allbynnau gan yr unigolyn
  6. monitro'r sefyllfa a chael pwyntiau adolygu er mwyn gweld a yw wedi arwain at fantais neu anfantais annheg i gyflenwr
  7. rhannu gwybodaeth am y caffaeliad a'r broses â phob cyflenwr perthnasol mewn da bryd ac ar yr un pryd.

17. Gall awdurdodau contractio gyflogi neu benodi unigolion sydd â phrofiadau amrywiol o ran gyrfa, buddiannau allanol a rhwydweithiau a all fod yn fuddiol i'r awdurdodau contractio a'i weithgareddau masnachol. Nid yw'r ddyletswydd i liniaru achosion o wrthdaro buddiannau yn golygu na all person fod â buddiannau preifat dilys. Yn hytrach, mae'n rhaid i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod buddiant preifat dilys y person yn cael ei bwyso a'i fesur yn erbyn yr angen i sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau yn mynd rhagddynt er budd y caffaeliad yn hytrach na'r buddiannau preifat, er enghraifft, sicrhau nad yw achos o wrthdaro buddiannau yn arwain at fantais neu anfantais annheg i gyflenwr.

18. Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y gall y camau a gymerir gan awdurdodau contractio i liniaru achos o wrthdaro buddiannau gynnwys gofyniad gan awdurdod contractio i gyflenwr gymryd camau rhesymol. Er enghraifft, os bydd cwmni ymgynghori yn cynghori'r awdurdod contractio ar gaffaeliad, gallai'r awdurdod contractio ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr beidio â defnyddio'r un cwmni er mwyn cynorthwyo gyda'i dendr. Mae cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i gymryd camau rhesymol er budd y cyflenwr, fel arall rhaid trin y cyflenwr fel cyflenwr gwaharddedig a'i wahardd rhag bod yn rhan o'r caffaeliad os na ellir osgoi'r achos o wrthdaro buddiannau fel arall (gweler paragraff 15 uchod (adran 82(3) a (4) o'r Ddeddf).

Asesiadau gwrthdaro

19. Mae adran 83(1) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid paratoi asesiad gwrthdaro cyn cyhoeddi tendr neu hysbysiad tryloywder neu hysbysiad marchnad ddynamig mewn perthynas â sefydlu marchnad ddynamig. Mae Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hefyd yn darparu bod yn rhaid i asesiad gwrthdaro gael ei baratoi cyn cyhoeddi hysbysiad addasu marchnad ddynamig.

20. Mae asesiad gwrthdaro yn gofnod i'w gadw gan yr awdurdod contractio y mae'n rhaid iddo gynnwys (fel sy'n ofynnol gan adran 83(3) o'r Ddeddf) fanylion am achosion o wrthdaro buddiannau ac achosion posibl o wrthdaro buddiannau a nodwyd ac unrhyw gamau a gymerwyd, neu a gaiff eu cymryd, i'w lliniaru. Mae adran 83(4) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol, os bydd achos canfyddiadol o wrthdaro buddiannau yn bodoli, rhaid i'r awdurdod contractio hefyd gynnwys yn yr asesiad gwrthdaro fanylion unrhyw gamau y mae'r awdurdod contractio wedi'u cymryd neu y bydd yn eu cymryd i ddangos nad yw achos o wrthdaro buddiannau nac achos posibl o wrthdaro buddiannau yn bodoli. Fel y nodwyd ym mharagraff 4, ystyr achos canfyddiadol o wrthdaro buddiannau yw pan fydd amgylchiadau sy'n debygol, ym marn yr awdurdod contractio, o beri i berson rhesymol gredu ar gam fod achos o wrthdaro buddiannau neu achos posibl o wrthdaro buddiannau. Wrth gynnal caffaeliad, dylai awdurdodau contractio fod yn ymwybodol o'r ffordd y gallai amgylchiadau ymddangos i eraill, hyd yn oed os byddant o'r farn nad oes unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau nac achosion posibl o wrthdaro buddiannau. Bydd cydymffurfio â'r rhwymedigaeth hon yn helpu awdurdodau contractio i liniaru unrhyw bryderon bod achos o wrthdaro buddiannau yn bodoli pan nad oes un mewn gwirionedd.

21. Bydd angen ymdrin ag asesiadau gwrthdaro yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol. Er bod y Ddeddf yn caniatáu i strwythur a fformat yr asesiad gwrthdaro gael eu llywodraethu gan yr awdurdod contractio, byddai'n arfer dda ac yn helpu i ddangos cydymffurfiaeth ag adran 83(3) o'r Ddeddf pe bai'r wybodaeth ganlynol yn cael ei chynnwys:

  1. unigolion a/neu dimau sy'n berthnasol i'r caffaeliad a'u rolau
  2. sut mae unigolion/timau yn berthnasol i'r caffaeliad
  3. a yw'r wybodaeth neu'r datganiad gofynnol ynghylch achosion o wrthdaro buddiannau wedi dod i law
  4. d. a oes unrhyw achosion gwirioneddol, posibl neu ganfyddiadol o wrthdaro buddiannau wedi cael eu nodi (a manylion yr achosion hynny)
  5. camau lliniaru
  6. a oes gan gyflenwr fantais neu anfantais annheg o hyd yn dilyn unrhyw gamau lliniaru
  7. pryd y cafodd yr asesiad gwrthdaro ei adolygu ddiwethaf a'r adolygiad nesaf sydd wedi'i gynllunio.

22. Mae adrannau 83(5) ac 83(6) o'r Ddeddf yn darparu, nes y bydd yr awdurdod contractio (fel y bo'n berthnasol) wedi cyhoeddi ei benderfyniad i beidio â dyfarnu contract neu wedi cyhoeddi hysbysiad terfynu contract mewn perthynas â'r caffaeliad neu hysbysiad marchnad ddynamig mewn perthynas â'r farchnad yn peidio â gweithredu (ar gyfer cyfleustodau preifat, gan adlewyrchu nad yw rhai gofynion o ran hysbysiadau yn gymwys iddynt, mae adran 83(7) yn nodi amgylchiadau cyfatebol), rhaid iddo wneud y canlynol, mewn perthynas â'r asesiad gwrthdaro:

  1. ei adolygu'n barhaus
  2. ei ddiwygio yn ôl yr angen
  3. wrth gyhoeddi unrhyw ‘hysbysiad perthnasol’, cadarnhau ei fod wedi cael ei baratoi a'i ddiwygio yn unol ag adran 83 o'r Ddeddf. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r asesiad gwrthdaro ei hun gael ei gyhoeddi, dim ond cadarnhad ei fod wedi cael ei baratoi a'i ddiwygio. Mae adran 83(8) o'r Ddeddf yn darparu mai'r hysbysiadau perthnasol yw:
    1. hysbysiad tendro
    2. hysbysiad tryloywder
    3. hysbysiad marchnad ddynamig mewn perthynas â sefydlu marchnad ddynamig*
    4. hysbysiad manylion contract sy'n ymwneud â chontract cyhoeddus, neu
    5. hysbysiad newid contract.

* Nid oes rhwymedigaeth o dan y Ddeddf i awdurdodau contractio gynnwys cadarnhad bod asesiad gwrthdaro wedi cael ei baratoi a'i ddiwygio pan gaiff marchnad ddynamig ei haddasu. Fodd bynnag, mae'n rhaid i awdurdodau contractio sy'n sefydlu ac yn gweithredu'r farchnad ddynamig barhau i adolygu unrhyw asesiad gwrthdaro a diwygio'r asesiad yn ôl yr angen.

23. Er y gallai awdurdodau contractio ddefnyddio hysbysiadau eraill (er enghraifft, hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad neu hysbysiad dyfarnu contract) fel ffordd o ysgogi adolygiad o'u hasesiad gwrthdaro, nid oes gofyniad o dan y Ddeddf i gadarnhau mewn hysbysiadau o'r fath fod yr asesiad wedi cael ei baratoi a'i ddiwygio.

24. Mae'n arfer dda i awdurdodau contractio bennu amser i archwilio eu hasesiadau gwrthdaro er mwyn cadarnhau eu bod yn gyfredol. Yn ogystal ag adolygiad wedi'i gynllunio, dylai'r asesiad gwrthdaro gael ei ddiweddaru pan fydd newidiadau allweddol i bersonél neu'r contract (er enghraifft, lle caiff contract ei ddiwygio ac nid oes angen hysbysiad newid contract). Mae hyn yn arbennig o berthnasol os bydd yr awdurdod contractio, ar ôl ymrwymo i'r contract, yn symud y cyfrifoldeb am y contract oddi wrth y tîm caffael i dîm rheoli contractau neu dîm gweithrediadau.

Caffaeliadau sydd o dan y trothwy

25. Nid yw'r darpariaethau yn y Ddeddf mewn perthynas ag achosion o wrthdaro buddiannau yn gymwys i gaffaeliadau sydd o dan y trothwy. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion sylfaenol yn debygol o fod yn berthnasol ac yn briodol o hyd. Bydd awdurdodau contractio ac unigolion sy'n gysylltiedig â chaffaeliadau sydd o dan y trothwy yn agored i, er enghraifft, erlyniad am dwyll, llwgrwobrwyo, llygredigaeth drwy gamddefnyddio statws neu gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus os na chaiff achosion o wrthdaro eu rheoli'n briodol. Rhaid i godau gwasanaeth cyhoeddus a rheolau busnes mewnol perthnasol gael eu cynnal o hyd. Felly, mae'n arfer dda ymdrin ag asesiad gwrthdaro mewn ffordd gymesur mewn caffaeliadau sydd o dan y trothwy.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar amcanion caffael a gwmpesir
  • Canllaw ar gyhoeddi gwybodaeth

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth neu hyfforddiant?