Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Ym mis Mawrth eleni, gofynnais i Aled Roberts i gynnal adolygiad brys o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020. Hoffwn ddiolch i Aled Roberts am ei holl waith wrth gynnal yr adolygiad hwn ac i swyddogion yr Awdurdodau Lleol am eu cyfraniad a’u hamser. Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhanddeiliaid eraill i gyd am gyfrannu eu safbwyntiau a’u sylwadau.
Wrth lansio a chyhoeddi ein strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi gosod ei chynlluniau a’i disgwyliadau ar gyfer cryfhau a gosod sylfeini i ddyfodol yr Iaith Gymraeg. Mae addysg wrth wraidd y strategaeth ac felly mae sicrhau bod fframwaith ar gyfer cynllunio addas a chadarn yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid i ni nawr yrru’r cwch i’r dwr trwy osod sylfeini cadarn ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru gyfan.
Mae’r adolygiad hwn yn cynnig gorolwg lefel uchel o’r cynlluniau yn ogystal â chyfres o argymhellion sydd yn sail ar gyfer newid. Bydd yn sefydlu perthynas gwahanol a mwy ystyrlon gyda’n partneriaid. Gyda’n gilydd, mae angen cryfhau’r ffordd yr ydym yn cydweithio fel ein bod yn gallu gwella’r ffordd yr ydym yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn golygu sicrhau’r nifer cywir o ysgolion a gweithlu addysgu o’r safon uchaf.
Yr wythnos hon, byddaf yn ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol er mwyn rhoi adborth ar eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Bydd gofyn i bob Awdurdod Lleol gyflwyno addasiadau i’w cynlluniau a hoffwn ddiolch i bawb am fod mor barod i gydweithio. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r berthynas sydd wedi cael eu sefydlu gyda’r awdurdodau lleol fel ein bod ni’n mynd ati i ddatblygu a gweithredu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Rydym yn gwybod fod y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynllunio, ond mae angen mynd ymhellach. Mae cymaint wedi newid ers i’r Ddeddf Trefniadaeth a Safonau Ysgolion (Cymru) 2013 ddod i rym ac i’r CSGAau ddod yn ofyniad statudol. Mae angen i’r cyd-destun a’r hinsawdd ar gyfer cynllunio addysg Cymraeg gael ei addasu a’i foderneiddio nawr er mwyn adlewyrchu uchelgais Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gatalydd allweddol ar gyfer newid.
Fe drafodaf yr adolygiad gyda cydweithwyr yn y Llywodraeth dros yr haf a byddaf yn cyflwyno ymateb y Llywodraeth yn gynnar yn yr Hydref i sicrhau na fydd parodrwydd Awdurdodau Lleol i weithio gyda ni i ddatrys rhai o’r diffygion yn y cynlluniau yn cael ei golli. Mae’n bwysig i ni i gael y system gynllunio yn iawn, ac nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried ar wahân. Rwy’n ddiolchgar i Aled Roberts am ei waith ar y cam cyntaf yma tuag at newid ac rwy’n edrych ymlaen i adeiladu ar y gwaith hwn yn y dyfodol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.