Mae cam datblygu'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) newydd ar agor ar gyfer ceisiadau tan 27 Medi.
Bydd yr INRS yn galluogi ffermwyr ac eraill i weithio gyda'i gilydd i wella ein hadnoddau naturiol a darparu buddion i fusnesau fferm a busnesau gwledig.
Mae gweminar wedi ei threfnu gan Cyswllt Ffermio ar 11 Medi i roi cyfle i ffermwyr ddysgu mwy am y cynllun a holi cwestiynau.
Er bod y cynllun ar wahân i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio elfen gydweithredol y cynllun yn ystod y cyfnod interim hwn.
Mae'r cynllun yn rhan o gam paratoadol o weithgareddau a allai arwain at brosiectau cydweithredol yn barod i gymryd rhan yn Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd y cynllun yn darparu cyllid ar gyfer cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur ar y raddfa briodol, gan dargedu camau gweithredu ac ymyriadau i wella a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu i ganolbwyntio ar weithredu ar y cyd - gan alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i wneud rhywbeth y maen nhw'n ei wneud yn dda iawn - sef cydweithio i ddarparu atebion arloesol. Bydd y prosiectau hyn yn gwella ein hadnoddau naturiol mewn ffordd sy'n darparu buddion i fusnesau fferm a busnesau gwledig, cymunedau gwledig, a manteision cymdeithasol ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Gallai hyn gynnwys gwella ein priddoedd llawn carbon fel mawndiroedd, creu a rheoli coetiroedd, cyflwyno dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a diogelu tirweddau a nodweddion hanesyddol. Neu, cymryd camau i wella cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol, gwella cysylltedd, graddfa, gallu i addasu neu amrywiaeth cynefinoedd lled-naturiol a’n nodweddion naturiol, gan sicrhau gwydnwch ecosystemau. Gallai prosiectau hefyd gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig drwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig: llyfryn rheolau