Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf nodi bod Adroddiadau Blynyddol 2023-2024 Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) y DU wedi’u cyhoeddi yr wythnos hon – gan gynnwys y cynnydd a wnaed gan YDG Cymru – ein partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch. 

Mae'r adroddiadau hyn yn dangos gwerth cysylltu data gweinyddol ar gyfer ymchwil. Yng Nghymru rydym yn awyddus i wneud mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol, megis cofnodion meddygon teulu, gwybodaeth am gyrhaeddiad ysgolion, neu dreth car. 

Mae llawer o gynnydd wedi bod ers cyhoeddi ein Strategaeth YDG Cymru a’r Rhaglen Waith Arfaethedig (2022-2026) a lansiwyd gennyf yn y Senedd ar 1 Rhagfyr 2022. Mae llwyddiant ein partneriaeth wedi’i fynegi’n glir yn yr Adroddiadau Blynyddol diweddaraf hyn, sy’n amlygu astudiaethau achos Cymreig a cherrig milltir a gyflawnwyd yng Nghymru. 

Mae ymchwil megis dadansoddiad data cysylltiedig ar ddiogelu ym maes cam-drin domestig, ymyriadau i atal digartrefedd, a theithio llesol, yn darparu tystiolaeth bwysig a fydd yn llywio penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn y dyfodol. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.