Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, a sefydlwyd flwyddyn yn ôl o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, wedi ystyried cyfraddau isafswm cyflog newydd ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae hefyd wedi ystyried sgiliau a datblygu gyrfaoedd o fewn y sector
Yr wyf yn ddiolchgar fod y Panel wedi paratoi gorchymyn cyflogau newydd mewn drafft a wedi ei gyflwyno i mi ei gymeradwyo. Yr wyf wedi cyfeirio’r gorchymyn yn ôl i'r panel i ystyried, cyn ei ailgyflwyno i mi. Hyd nes y daw unrhyw orchymyn cyflogau newydd i rym, bydd gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn parhau i fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016.
Mae’r cynnydd yn y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn y DU ar 1 Ebrill yn effeithio ar gyflogau rhai gweithwyr fferm yng Nghymru. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r newidiadau mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol a gyflogir yng ngraddau 1 a 2
Gradd | Isafswm cyfradd fesul awr o 1 Ebrill 2017 |
Gradd 1: 25 a drosodd: | £7.50 |
Gradd 1: 21-24: | £7.05 |
Gradd 1: 16-20: | £6.72 |
Gradd 2: 25 oed a drosodd: | £7.50 |
Bydd yr holl gategorïau a graddau eraill o weithwyr yn amodol ar y cyfraddau a bennir yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016. Bydd y cyfraddau ar gyfer prentisiaid hefyd yn aros yn ddigyfnewid. Mae rhagor o wybodaeth am y cyflogau hynny ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/agricultural-sector-wales-act-2014/interim-order/?skip=1&lang=cy