Mae’n rhaid i chi gadarnhau eich cymhwysedd parhaus ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru bob tymor. Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch i wneud hyn i'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig.
Rhaid i chi fewngofnodi i'ch cyfrif a gwneud un o'r camau gweithredu canlynol:
- cadarnhau nad oes unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau
- diweddaru eich manylion i adlewyrchu eich amgylchiadau presennol
Gofynnir i rieni nad ydynt yn cymryd camau cyn y dyddiad cau i ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd parhaus.
Profi eich cymhwyster
Rydym yn cysylltu â sampl o rieni bob tymor i ofyn am brawf o gymhwyster parhaus. Rhaid i chi lanlwytho tystiolaeth i'ch cyfrif ar-lein pan ofynnir i chi. Nid oes angen i chi ail-lwytho tystysgrif geni eich plentyn.
Gweld rhestr o ddogfennau sydd eu hangen i ddangos eich cymhwysedd.
Sut i uwchlwytho tystiolaeth i'ch cyfrif
- mewngofnodwch i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru
- dewiswch 'Dywedwch wrthym am newid i'ch manylion' o ddangosfwrdd eich cyfrif
- dewiswch 'Newid' i ddiweddaru unrhyw fanylion sydd wedi newid ers i chi wneud cais am y tro cyntaf
- ewch ymlaen i'r adran 'Llwytho dogfennau'
- dewiswch 'Newid' i lanlwytho dogfennau tystiolaeth newydd
Mewngofnodwch i'ch cyfrif i ddechrau.
Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth pan ofynnir i chi, cewch eich rhoi mewn Cyfnod Eithrio Dros Dro.
Os oes angen help arnoch gyda'r broses hon cysylltwch â ni.