Rheoliadau Marchnata Hadau (Hybridiau Gwenith CMS) (Arbrawf Dros Dro) (Cymru) 2024: asesiad effaith integredig
Asesiad o ddeddfwriaeth ar gyfer arbrawf dros dro i ganiatáu i rai mathau o hadau gwenith hybrid gyrraedd gwahanol safonau ardystio sy’n ofynnol ar hyn o bryd ar gyfer mathau eraill o wenith hybrid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth y disgwylir iddi ddod i rym ar 7 Hydref 2024. Enw’r ddeddfwriaeth yw “Rheoliadau Marchnata Hadau (Hybridiau Gwenith CMS) (Arbrawf Dros Dro) (Cymru) 2024”.
Mae’r rheoliadau yn sefydlu arbrawf dros dro, sydd i bara saith mlynedd, i alluogi hadau gwenith hybrid a gynhyrchir drwy Anffrwythlondeb Gwrywol Cytoplasmig (CMS) i gyrraedd safonau ardystio gwahanol nag sy’n ofynnol ar hyn o bryd ar gyfer gwenith hybrid yn Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).
Diben yr arbrawf dros dro yw:
- profi gofynion eraill ar gyfer ardystio hadau gwenith hybrid a gynhyrchir drwy Anffrwythlondeb Gwrywol Cytoplasmig (CMS) fel y gellir eu marchnata
- gosod safonau y mae’n rhaid i’r cnwd eu cyrraedd, sy’n gysylltiedig â chynhyrchu hybridiau drwy CMS, er enghraifft y lefel o anffrwythlondeb gwrywol.
Ni chaniateir marchnata hadau rhywogaethau amaethyddol allweddol, gan gynnwys gwenith, oni fyddant wedi eu hardystio, a hynny yn dilyn proses o archwilio cnydau a’u dadansoddi mewn labordy. Mae’r broses ardystio yn sicrhau bod tyfwyr yn defnyddio hadau o ansawdd uchel sy’n bur, a fydd yn egino ac yn tyfu ac sydd gan fwyaf yn rhydd o blâu, clefydau a chwyn.
Mae’r gofynion ardystio y mae’n rhaid i hadau eu bodloni yn amrywio gan ddibynnu ar y rhywogaeth, ac a ydynt yn hybrid. Gall hybridiau fod o fantais i dyfwyr gan eu bod yn aml yn cynhyrchu mwy o gnwd ac mae ganddynt well ymwrthedd i glefydau.
Mae’r safonau presennol yn Rheoliadau 2012 ar gyfer gwenith hybrid yn seiliedig ar y rhai ar gyfer hadau gwenith hybrid a gynhyrchir drwy ddull hybrideiddio cemegol. Mae cynhyrchu hybridiau drwy’r dull CMS yn defnyddio system gynhyrchu gyfunol pan fo’r llinach anffrwythlon o blanhigion yn cael ei pheillio gan linach arall o wenith, sy’n wahanol yn enetig.
Gall y system gynhyrchu gyfunol hon arwain at gyfradd uwch o “alldeipiau” (planhigion nad ydynt yn driw i’r disgrifiad o’r amrywogaeth ac nad ydynt felly yn cyrraedd safonau purdeb amrywogaethol) yn yr hadau hybrid a gynhyrchir o’i chymharu â hybridiau a gynhyrchir drwy gyfrwng hybrideiddio cemegol. O ganlyniad, efallai na fydd hadau gwenith hybrid CMS yn cyrraedd y safon purdeb amrywogaethol bresennol o 90% a bydd yr arbrawf dros dro hwn yn eu galluogi i gael eu hardystio at ddiben marchnata yn ôl safon purdeb amrywogaethol o 85%.
Mae’r safonau arfaethedig yn seiliedig ar safonau rhyngwladol sy’n cael eu treialu mewn arbrawf dros dro gan gynlluniau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer Ardystio Amrywogaethol Hadau, y mae’r DU yn aelod ohono. Rhoddodd yr UE yr un safonau â’r OECD ar waith yn 2022 fel rhan o arbrawf dros dro. Cyflwynodd Gweinidogion yr Alban newid cyfatebol i’w deddfwriaeth yn 2023 - Rheoliadau Diwygio Had Ydau (Yr Alban) 2023.
Mae’r gofynion yn rhai dros dro oherwydd, ar ôl eu tyfu ar raddfa fawr, o dan amodau hinsoddol gwahanol, gall hybridiau gwenith CMS berfformio’n wahanol i’r disgwyl – er enghraifft, gallant gyrraedd safon purdeb amrywogaethol uwch. Felly, bydd yr wybodaeth a gesglir o’r arbrawf dros dro yn ein helpu i ganfod a yw’r safonau dros dro yn briodol ac a oes modd eu defnyddio i lywio unrhyw newid parhaol i’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys
Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno i alluogi tyfwyr i dreialu’r defnydd o ddeunydd gwenith hybrid CMS fel rhan o arbrawf dros dro saith mlynedd fel bod modd ei farchnata â phurdeb amrywogaethol is. Rhagwelir na fydd hybridiau gwenith CMS yn gallu cyrraedd y safonau purdeb amrywogaethol presennol ac felly ni fyddent ar gael i’w marchnata heb y newid rheoliadol hwn. Gallai defnyddio hadau gwenith hybrid a gynhyrchir drwy CMS dalu ar ei ganfed yn nhermau lefel uwch o gnydau a gwell ymwrthedd i glefydau nag amrywogaethau confensiynol o hadau gwenith. Mae gwell ymwrthedd i glefydau yn debygol o olygu bod angen llai o fewnbynnau cemegol. Gall lefel uwch o gnydau olygu mwy o elw i’r tyfwr a llai o gostau i’r sawl sy’n prynu’r cynnyrch gan gyfrannu at gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Mae pwerau yn Neddf Amrywogaethau Planhigion a Hadau 1964 (“Deddf 1964”) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth i esemptio cyfranogwyr awdurdodedig a’u hamrywogaethau awdurdodedig o hadau rhag bodloni gofynion penodol a nodir yn Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012. Mae adran 16(1) o Ddeddf 1964 yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny cyn gwneud rheoliadau.
Cynhaliwyd ymgynghoriad dwyieithog anffurfiol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Defra drwy e-bost. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid a chanddynt fuddiant gan gynnwys bridwyr planhigion a chanddynt fuddiant mewn hybridiau a grwpiau rhanddeiliaid yn cynrychioli tyfwyr, bridwyr planhigion a’r rhai o’r diwydiant hadau ac amaethyddol yng Nghymru a Lloegr. Gofynnodd yr ymgynghoriad i randdeiliaid a oeddent yn cytuno â chyflwyno arbrawf dros dro fel bod modd marchnata hybridiau gwenith CMS, a’r safonau ardystio arfaethedig. Cafwyd pum ymateb, oll yn cefnogi’r cynigion.
Adran 8. Casgliad
Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Cynhaliwyd ymgynghoriad dwyieithog anffurfiol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Defra drwy e-bost. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid a chanddynt fuddiant gan gynnwys bridwyr planhigion a chanddynt fuddiant mewn hybridiau a grwpiau rhanddeiliaid yn cynrychioli tyfwyr, bridwyr planhigion a’r rhai o’r diwydiant hadau ac amaethyddol yng Nghymru a Lloegr. Gofynnodd yr ymgynghoriad i randdeiliaid a oeddent yn cytuno â chyflwyno arbrawf dros dro fel bod modd marchnata hybridiau gwenith CMS, a’r safonau ardystio arfaethedig. Cafwyd pum ymateb, oll yn cefnogi’r cynigion.
Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?
Gallai defnyddio hadau gwenith hybrid a gynhyrchir drwy CMS dalu ar ei ganfed yn nhermau lefel uwch o gnydau a gwell ymwrthedd i glefydau nag amrywogaethau confensiynol o hadau gwenith. Mae gwell ymwrthedd i glefydau yn debygol o olygu bod angen llai o fewnbynnau cemegol. Gall lefel uwch o gnydau olygu mwy o elw i’r tyfwr a llai o gostau i’r sawl sy’n prynu’r cynnyrch gan gyfrannu at gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Gan ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn cefnogi nodau llesiant Llywodraeth Cymru?
Mae’r Rheoliadau hyn yn cefnogi’r mwyafrif o’r nodau llesiant a chânt effaith gadarnhaol ar y gwaith o gyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol ‘Cymru gydnerth’ a’r effeithiau cysylltiedig ar y nod ‘Cymru lewyrchus’.
- Cymru gydnerth – gall hybridiau fod o fantais i dyfwyr am eu bod yn aml yn cynhyrchu lefel uwch o gnydau ac yn cynnig gwell ymwrthedd i glefydau a allai gyfrannu at feithrin y gallu i wrthsefyll risgiau hinsoddol.
- Cymru lewyrchus – gall hybridiau gynnig buddiannau posibl o ran lefelau uwch o gnydau a gwell ymwrthedd i glefydau o gymharu ag amrywogaethau confensiynol o hadau gwenith gan felly gyfrannu at gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Diben arbrofion dros dro yw meithrin gwybodaeth o’r byd go iawn gyda’r nod o wedyn wneud newidiadau parhaol i ddeddfwriaeth os yw’r canlyniadau yn dynodi y byddai hyn yn fuddiol. Gall eu defnydd atal sefyllfaoedd pan fo cnydau hadau sy’n dal i fod o ddefnydd i ffermwyr yn cael eu tynnu o’r farchnad yn ddiangen, am nad yw’r gofynion presennol yn addas, neu ystyried a oes galw o fewn y diwydiant am newidiadau i’r prosesau ardystio presennol.