Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhieni yn Nwyrain Caerdydd yn elwa ar ddull arloesol o ddysgu oedolion, diolch i gynllun newydd sy'n cael ei redeg gan Goleg Caerdydd a'r Fro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun peilot, a ddarperir gan dîm Dysgu Teulu Coleg Caerdydd a'r Fro, yn un o gyfres o gynlluniau peilot Cwricwlwm Dinasyddion a ariennir gan Lywodraeth Cymru, lle mae oedolion yn cael cynllunio eu cwricwlwm eu hunain.

Gan ddefnyddio'r ysgol uwchradd leol, Ysgol Uwchradd y Dwyrain ar Gampws Cymunedol y Dwyrain, ac ysgolion cynradd lleol, fe wnaeth staff Coleg Caerdydd a'r Fro estyn llaw at rieni drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu â theuluoedd, siarad â rhieni yn y maes chwarae a chynnal arolygon i ddarganfod beth yr hoffent ddysgu amdano a sut i gael gwared ar unrhyw rwystrau i ddysgu.

Cafodd cynnwys gwersi ei greu o'r dechrau, ar sail anghenion dysgwyr sy'n oedolion. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys rheoli cyllid y teulu ac effeithiau'r argyfwng costau byw ac amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â hunan-ddiogelwch a diogelwch cymunedol, sydd yn destun pryder yn yr ardal leol.

Fel rhan o'r dull gweithredu ysgolion bro a ddefnyddir yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain, cafodd rhieni gyfle i gael gwersi yn yr ysgol am 3 awr yr wythnos. Nid yn unig y gwnaeth hyn drawsnewid bywydau rhieni, mae hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar blant i weld rhiant yn yr ysgol yn dysgu. Mae ymchwil wedi dangos y gall hyn arwain at wella presenoldeb a chyrhaeddiad plant.

Elfen a oedd yn allweddol i lwyddiant y fenter oedd gwrando go iawn ar anghenion oedolion sy'n dysgu a chyd-greu rhaglen dan arweiniad yr oedolion a oedd hefyd yn nodi sefydliadau a allent ddarparu cefnogaeth a rhoi'r hyder i bobl ddysgu.

Roedd meithrin perthnasoedd dibynadwy â Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn yr ysgolion lleol yn rhoi cyfleoedd i chwalu'r rhwystrau i oedolion fynd i'r sesiynau mewn ysgol gyfarwydd a darparu rhwydwaith o gefnogaeth a oedd yn meithrin hyder a pherthnasoedd cadarnhaol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Dyma Wythnos Addysg Oedolion, cyfle i ddathlu llwyddiannau dysgwyr, ac ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau er gwell.

Mae'r cynlluniau peilot ar y Cwricwlwm Dinasyddion yn helpu i gyflawni'r uchelgais hwn trwy ddefnyddio gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â dysgwyr a gwella canlyniadau. Mae hyn ar waith yn effeithiol ar lawr gwlad yma yn Nwyrain Caerdydd lle mae teuluoedd cyfan yn elwa ar y cynllun newydd hwn.

Mae'r cynllun peilot a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 wedi creu newid diwylliannol sylweddol yn y dull o ymdrin ag addysg oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae ei etifeddiaeth yn golygu bod gan staff well dealltwriaeth o sut i ymgysylltu ag oedolion sy'n dysgu, a mwy o ymwybyddiaeth o botensial y cwricwlwm newydd ac mae perthynas agos wedi'i sefydlu nid yn unig gydag Ysgol Uwchradd y Dwyrain, ond hefyd llawer o ysgolion cynradd yr ardal.

Mae ymchwil wedi canfod bod oedolion sy'n ddysgwyr sydd wedi elwa ar y mathau hyn o gynlluniau yn teimlo'n fwy cyflogadwy a bod ganddynt fwy o ymdeimlad o les.

Wrth ddychwelyd i fyd addysg ar ôl salwch trychinebus, cofrestrodd Katie Martinson ar y cwrs gallu ariannol 'Plant Clyfar ag Arian', yn ysgol ei mab, Ysgol Uwchradd y Dwyrain ar Gampws Cymunedol y Dwyrain. Er ei bod yn dal i frwydro yn erbyn ei thrafferthion lleferydd a  gweithrediad echddygol, ond roedd yn awyddus i helpu llythrennedd ariannol ei mab, felly dilynodd y cwrs er mwyn ennill gwybodaeth ariannol ac ers hynny mae wedi cwblhau cymhwyster achredu mewn rheoli cyllideb.

Wrth i'w hyder dyfu, chwaraeodd Katie ran ganolog yn y gwaith o gyd-greu'r cwrs, gan awgrymu meysydd o allu ariannol lle mae ar deuluoedd angen help, a mynd ati i ymchwilio i apiau digidol a fyddai'n helpu gyda chyllidebu a rhannu arfer gorau â myfyrwyr eraill.

Dywedodd Wayne Carter, Uwch Bennaeth Astudiaethau Academaidd, Sylfaen a Dysgu Oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro:

Mae gwrando ar ddysgwyr yn rhannu straeon am yr effaith y mae dysgu wedi'i chael arnyn nhw, eu plant a'u teuluoedd wedi gwneud imi deimlo'n wylaidd. Yn ein sesiynau, mae llawer o'r oedolion sy'n ddysgwyr yn siarad am y gobaith maen nhw'n ei deimlo, yr ymdeimlad o berthyn maen nhw wedi'i ddarganfod, a'u cyffro ynghylch eu dyfodol. 

Mae'r ddarpariaeth yn cynnig ail gyfle i oedolion ddatblygu eu sgiliau eu hunain wrth gefnogi addysg eu plant. Mae teuluoedd yn dweud wrthym am ganlyniadau cadarnhaol y rhaglen fel gwell iechyd meddwl a lles, a'i bod wedi meithrin perthynas gadarnhaol gyda'u plant, rhieni eraill, eu hysgol leol a'u cymuned.

Roedd cyfanswm o 260 o oedolion yn cymryd rhan yn y cynllun, cwblhaodd 245 eu cwrs ac ennill cymhwyster a chrëwyd 23 o gyrsiau newydd.

Dywedodd Josh Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sy'n rheoli cynlluniau peilot y Cwricwlwm Dinasyddion:

Yr hyn sy'n gwneud y Cwricwlwm Dinasyddion yn wirioneddol wahanol yw'r ffordd y mae'n cael ei ddatblygu a'i addysgu. Nid yw'n ymwneud â rhyw awduron cwricwlwm clyfar yn meddwl am y pynciau y maen nhw'n credu y dylai myfyrwyr ddysgu amdanynt. Mae i'w wneud â gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu'r hyn y maen nhw eisiau'i ddysgu a sut maen nhw eisiau dysgu amdano.

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid rhagorol gan gynnwys Coleg Caerdydd a'r Fro ac ysgolion lleol yng Nghaerdydd i ddatblygu'r Cwricwlwm Dinasyddion. Rydyn ni nawr yn edrych ar sefydlu'r dull hwn o weithredu ar draws darpariaeth addysg oedolion, gan sicrhau bod Cymru'n genedl lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Erbyn 2025, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £60 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Ysgolion Bro ledled Cymru i agor eu cyfleusterau yn ddiogel i deuluoedd a'r gymuned ehangach.

Yn ogystal, mae £6.5 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd sy'n cael eu cyflogi gan ysgolion, a rhan o'u rôl fydd gwella lefelau presenoldeb disgyblion.

Mae treial o Reolwyr Ysgolion Bro a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau, i ddatblygu gwell ymgysylltiad rhwng ysgolion a'u cymunedau.