Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Ers i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gael ei lansio ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, mae’r amser aros i blant sy’n derbyn gofal gael eu lleoli at ddibenion mabwysiadu wedi gostwng o 16.5 mis ar gyfartaledd yn 2014-15 i 15.2 mis erbyn diwedd 2015-16. Ochr yn ochr â’r llwyddiant hwn, mae nifer y mabwysiadwyr sydd wedi cael eu recriwtio wedi cynyddu, mae amserlenni ar gyfer cymeradwyo yn lleihau ac mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn recriwtio rhieni sy’n mabwysiadu yn benodol ar gyfer y plant hynny sy'n aros hwyaf.
Nid ydym yn tanbrisio’r heriau y gall teuluoedd sy'n mabwysiadu eu hwynebu. Bydd ar rai, ond nid pob un, angen cymorth ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud. O’r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Brifysgol Caerdydd ar gymorth mabwysiadu a chan Brifysgol Bryste ynghylch tarfu ar drefniadau mabwysiadu, pan fo angen cymorth fe wyddom fod angen iddo fod yn amserol, yn hygyrch, yn briodol, yn dosturiol ac yn broffesiynol. Mae cymorth mabwysiadu o ansawdd dda yn helpu i wrthbwyso'r angen am wasanaethau mwy dwys yn nes ymlaen a gall atal aflonyddwch yn achos mabwysiadu.Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid o £110,000 yn ystod 2015-16 i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol er mwyn iddo ymgymryd â rhaglen waith i ddatblygu ymhellach ymagwedd strategol at fabwysiadu a gwasanaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru. O ganlyniad, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cynhyrchu fframwaith ar gyfer cymorth mabwysiadu sy'n amlinellu cynllun gweithredu ar gyfer datblygu a gweithredu'r model hwn ledled Cymru. Yn unol â’r dull a ddefnyddir yn fwy cyffredinol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae'r fframwaith hwn yn mabwysiadu dull tair haen i gael gafael ar wasanaethau, yn dibynnu ar lefel yr angen am gymorth. Y tair lefel o wasanaeth i'w chynnig i fabwysiadwyr a'u teuluoedd yw:- gwasanaethau cyffredinol: cynnig cyngor, darparu cylchlythyr a grwpiau cymorth
- gwasanaethau prif ffrwd wedi’u targedu (symleiddio mynediad ar gyfer asesiadau a darparu gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl; cyrsiau rhianta gyda ffocws ar ddatblygu ymlyniad a rhianta plant sydd wedi cael trawma cynnar)
- gwasanaethau therapiwtig.