Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru: Medi 2024
Diweddariad Medi 2024 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ynghylch ein datblygiadau diweddaraf, ymgynghoriadau a chynlluniau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.
Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.
Llesiant Cymru
Rydym yn paratoi i ddiweddaru adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer eleni, a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Medi 2024. Bob blwyddyn, rydym yn anelu at wella'r adroddiad. Eleni, rydym yn canolbwyntio ar wella'r defnydd o'r adroddiad ac effaith yr adroddiad ac rydym yn anelu at wella'r naratif ynghylch y cynnydd a wnaed dros amser mewn perthynas â'r cerrig milltir cenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch Ystadegau.ProsiectauBlaenoriaethUchel@llyw.cymru.
Yr economi a'r farchnad lafur
Economi
Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Mae'r grŵp yn rhan o gynllun ymgysylltu â defnyddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer ystadegau economaidd ac yn cynnig safbwynt allanol ar ystadegau a gyhoeddir o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hefyd yn fforwm i rannu gwybodaeth. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein.
Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru.
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi'r pennawd cynhyrchiant is-ranbarthol, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cynhyrchiant blynyddol ar gyfer Cymru a rhanbarthau is-Gymru yn 2022. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein datganiad dangosyddion allbynnau tymor-byr ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2024 ym mis Gorffennaf.
Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer gwariant gros ymchwil a datblygu ar gyfer 2022 ar 9 Awst 2024. Rydym hefyd wedi parhau i ddiweddaru dangosfwrdd economi Cymru mewn rhifau.
Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru.
Y Farchnad Lafur
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data, er gwaethaf ymdrechion i ailbwysoli'r amcangyfrifon. Caiff ystadegau'r llafurlu sy'n deillio o'r Arolwg o'r Llafurlu eu labelu fel ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn.
Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Mae SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS) a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Mae diweddariad SYG ar gynnydd yr Arolwg Trawsnewidiol o'r Llafurlu a'r Arolwg o'r Llafurlu ym mis Mehefin 2024 yn nodi y bydd yn parhau i gynnal y ddau arolwg am o leiaf chwe mis arall, cyn asesu a ddylid newid i ddefnyddio'r Arolwg Trawsnewidiol o'r Llafurlu fel y brif ffynhonnell mewn allbynnau cyhoeddedig.
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol.
Allbwn arall a gyhoeddwyd ym mis Mehefin oedd y diweddariad chwarterol ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) sy'n cyflwyno'r data ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 ac yn rhoi ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc (unigolion rhwng 16 a 24 oed) heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru.
Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru.
Addysg
Ysgolion
Gwnaethom barhau i gyhoeddi data misol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr haf. Bydd y datganiad yn ailddechrau yn yr hydref gyda'r datganiad cyntaf wedi'i amserlennu ar gyfer mis Medi.
Cafodd y datganiadau ystadegol canlynol eu cyhoeddi rhwng Mehefin a mis Awst:
Cafodd canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion mis Ionawr 2024 eu cyhoeddi ar 31 Gorffennaf 2024
Cyhoeddwyd Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2023 i Awst 2024 ar 27 Awst 2024
Cyhoeddwyd Cyflawniad academaidd disgyblion Cyfnod Allweddol 3: 2024 ar 29 Awst 2024
Datganiadau ystadegol yn yr hydref
Hydref 2024
Canlyniadau arholiadau dros dro ar 3 Hydref 2024
Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2022 i Awst 2023 ym mis Hydref 2024
Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2023 i Awst 2024, hefyd ym mis Hydref 2024
Rhagfyr 2024
Canlyniadau arholiadau terfynol ym mis Rhagfyr 2024
Absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2023 i Awst 2024 ym mis Rhagfyr 2024.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata'r gweithlu ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
Yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael o ganlyniadau'r Cyfrifiad o'r Gweithlu Ysgolion yw ystadegau mis Tachwedd 2023.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata'r gweithlu ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn educationworkforcedata@llyw.cymru.
Addysg Ôl-16
Mae ein cyhoeddiadau diweddar wedi cynnwys y datganiad ystadegol cyflawn o ystadegau Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a'r diweddariad chwarterol diweddaraf ar raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd, ar gyfer ail chwarter blwyddyn academaidd 2023/24 (Tachwedd 2023 i Ionawr 2024).
Yn y dyfodol, caiff nifer o ystadegau yn y maes hwn eu cynhyrchu nawr gan Medr, sef y corff hyd braich newydd sy'n gyfrifol am gyllido a goruchwylio ymchwil ac addysg ôl-16 o fis Awst 2024. Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am rai ystadegau o hyd. Caiff ystadegau ar lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio a Twf Swyddi Cymru+ eu harwain gan dîm ystadegau'r farchnad lafur. Caiff ystadegau ar waith ieuenctid eu harwain gan Ystadegau Ysgolion.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ystadegau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau neu ddysgu oedolion, cysylltwch â ystadegau.addysgol16@llyw.cymru, a chaiff eich ymholiad ei drosglwyddo i'r tîm yn Medr.
Addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Cafodd y ddau gyhoeddiad pennawd blynyddol, sef Deilliannau graddedigion: Awst 2021 i Orffennaf 2022 a Myfyrwyr mewn addysg uwch: Awst 2022 i Orffennaf 2023 eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf a mis Awst, yn y drefn honno, gan y tîm addysg uwch a chyllid myfyrwyr.
Er mwyn rhoi adborth neu ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch neges e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.
Tai
Ers y diweddariad diwethaf, mae'r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:
Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 30 Gorffennaf)
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mai 2024 (cyhoeddwyd 25 Gorffennaf)
Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 (cyhoeddwyd 25 Gorffennaf)
Amcangyfrifon stoc annedd: ar 31 Mawrth 2023 (cyhoeddwyd 24 Gorffennaf)
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 4 Mehefin)
Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Cyflwr tai a thlodi tanwydd
Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi diweddariad blynyddol i'n hystadegau Adeiladu tai newydd ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024.
Mae'r Dangosfwrdd tlodi tanwydd a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2023 wedi cael ei ddiweddaru fel bod y data allanol diweddaraf sydd ar gael yn bwydo i mewn i'r dangosfwrdd, fel data ar incwm a phrisiau ynni. Y bwriad yw y caiff yr holl fetrigau tlodi tanwydd yn y dangosfwrdd eu diweddaru ar ôl i'r holl waith dadansoddi gael ei gwblhau, ac mae disgwyl i hyn ddigwydd haf nesaf yn 2025.
Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Ystadegau ysbytai
Yn y chwarter hwn, gwnaethom ddiweddaru ein diweddariad misol arferol i'n Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG ac yn y chwarter hwn rydym wedi cyhoeddi tabl StatsCymru newydd sy'n dangos gwybodaeth reoli am Gleifion atgyfeiriad am driniaeth unigryw yn ôl bwrdd iechyd dros amser.
Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr eraill ledled y DU i gydgynhyrchu adroddiad cymharedd ar Amseroedd aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd y GIG ledled y DU (SYG) sy'n canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y gellir cymharu'r setiau data hyn ledled y DU ac yn ychwanegu at adroddiad cymharedd a gyhoeddwyd eisoes ar Amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y DU (SYG) a Data ar amseroedd ymateb ambiwlansys yn y DU (SYG).
Yn ogystal â chyhoeddi rhagor o ddiweddariadau blynyddol i'r ystadegau ar Welyau y GIG.
Gweithlu a gwariant y GIG
Y chwarter hwn cafwyd diweddariad i'n cyfres o ystadegau chwarterol ar weithlu'r GIG, gan gynnwys: y Gweithlu practis cyffredinol, Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, Absenoldeb oherwydd salwch y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG.
Gofal sylfaenol a chymdeithasol
Yn ystod y chwarter hwn, cyhoeddwyd data ar Weithgaredd practis cyffredinol am y tro cyntaf, gan gynnwys data ar apwyntiadau, modd, y math o ymarferydd ac ymgynghoriad; a gweithgareddau ychwanegol dethol eraill.
Cafwyd diweddariad hefyd i'r ystadegau blynyddol ar Gofrestrau clefydau practis cyffredinol, gyda data ar fynychder clefydau yn seiliedig ar gofrestrau clefydau a gedwir gan bractisau cyffredinol, gan gynnwys diagnosis o ddementia.
Iechyd y boblogaeth
Yn ystod y chwarter hwn, gwnaethom gyhoeddi dadansoddiad ychwanegol yn ôl statws beichiogrwydd ar gyfer menywod 16 i 54 oed mewn perthynas â Ffordd o fyw, iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016 i 17 i 2019 i 20 am y tro cyntaf.
Yn ogystal, cafwyd diweddariad i'r ystadegau blynyddol ar Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, Ystadegau bwydo ar y fron a Rhaglen Plant Iach Cymru.
Yn ogystal â cheisiadau ad hoc pellach ar oedolion sy'n adrodd mynegai màs y corff o 40 neu fwy.
Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Yn ystod y chwarter hwn hefyd, gwelwyd diweddariadau rheolaidd i ystadegau iechyd meddwl ar Dderbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac amrywiaeth o ystadegau eraill gan gynnwys; mesurau gofal llygaid a gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae nifer o allbynnau eraill ar gael gan sefydliadau partner, gan gynnwys diweddariadau i Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chamddefnyddio sylweddau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae gwaith maes Arolwg Cenedlaethol 2024-25 wrthi'n mynd rhagddo, a bydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025.
Mae pwysau o ran costau, a'r cyfraddau ymateb is i arolygon yn gyffredinol, yn golygu mai'r maint sampl a gyflawnwyd sy'n cael ei amcangyfrif ar gyfer 2024-25 yw 9,000 o bobl (o'i gymharu â thua 12,000 y flwyddyn a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol); ac mae'n bosibl y bydd y cyfanswm terfynol yn is. Bydd hyn yn cyfyngu ar y cyfle i ddadansoddi grwpiau demograffig a daearyddol bach, rhywbeth yr ydym yn gwybod sy'n hanfodol i ddefnyddwyr yr arolwg. Bydd hefyd yn cyfyngu ar ein gallu i wella argaeledd data yn ôl nodweddion gwarchodedig.
Penderfynwyd felly na fydd gwaith maes ar gyfer 2025-26 yn mynd yn ei flaen. Mae gwaith wedi dechrau ar ailgynllunio'r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Yn yr hydref, bydd y Cabinet yn trafod opsiynau ar gyfer ailgynllunio'r arolwg a, bryd hynny, byddwn yn anfon diweddariad pellach atoch ynglŷn â'r ffordd ymlaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy anfon e-bost i arolygon@llyw.cymru.
Cyfiawnder cymdeithasol
Tlodi
Yn dilyn ein crynodebau data blynyddol ar dlodi incwm cymharol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi dwy set ad hoc o dablau ym mis Mehefin mewn ymateb i geisiadau gan ddefnyddwyr:
Poblogaeth mewn tlodi incwm cymharol, yn ôl oedran y plentyn ieuengaf ar gyfer dadansoddiadau amrywiol, ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 i'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2023
Poblogaeth mewn tlodi incwm cymharol, yn ôl man geni a gwlad ddatganoledig pennaeth yr aelwyd, ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020 i'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2023
Costau byw
Ar 25 Gorffennaf 2024, gwnaethom gyhoeddi'r trydydd datganiad fel rhan o gyfres chwarterol newydd o ystadegau'r Gronfa Cymorth Dewisol, a oedd yn cynnwys dadansoddiadau manylach yn ôl oedran ac awdurdod lleol. Byddwn yn parhau i gyhoeddi diweddariadau i'r dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyflwyno amcangyfrifon tlodi tanwydd a data cysylltiedig ar gyfer Cymru. Cyfeirir at y rhain a ffynonellau eraill o ddata ar yr argyfwng costau byw mewn blog Digidol a Data a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod data ar lefel Cymru ar fetrigau costau byw allweddol ar gael lle bo hynny'n bosibl.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Rydym yn parhau i weithio gyda'n “grwpiau maes” o arbenigwyr i adolygu'r cynigion ar gyfer dangosyddion y mynegai nesaf, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd 2025 / dechrau 2026. Darllenwch ein blog Digidol a Data am ragor o gefndir ar amseriad y mynegai nesaf, yr hyn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar a'r newid mewn ffiniau ardaloedd bach.
Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.
Yr ymateb i'r argyfwng yn Wcráin
Ar 5 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd SYG Deiliaid fisa sy'n byw yn y DU o dan Gynlluniau Dyngarol Wcráin, arolwg dilynol - dadansoddiad yn ôl gwlad breswyl: 15 Ebrill i 22 Ebrill 2024.
Ar 22 Awst 2024, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddiweddariad data demograffig ar gynllun Noddi Wcráin a'r cynllun Teuluoedd o Wcráin. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddiad o'r unigolion hynny o Wcráin sydd wedi gwneud cais am fisa neu wedi derbyn fisa, neu sydd wedi cyrraedd y DU â noddwyr yng Nghymru, wedi'u haenu yn ôl oedran a rhyw, hyd at 30 Mehefin 2024.
Ar 22 Awst 2024, cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Lleol ddata cyflogaeth ar gyfer gwladolion Wcráin sy'n byw yn y DU rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mehefin 2024. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer gwladolion Wcráin sy'n byw yng Nghymru, yn ôl rhyw.
Mae'r data wythnosol ar fisâu a newydd-ddyfodiaid o dan Gynlluniau Wcráin yn ogystal â'r ystadegau a gyhoeddir bob pythefnos ar nifer y ceisiadau am fisâu, nifer y fisâu a roddir a nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd â noddwyr yng Nghymru (Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau) yn parhau i gael eu diweddaru.
Diogelwch cymunedol
Rydym yn awyddus i gael adborth gan y rhai sy'n defnyddio ein hystadegau tân. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw rai o'r allbynnau ystadegol isod, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Ystadegau achosion tân ac achub
Perfformiad awdurdodau tân ac achub
Trosedd a chyfiawnder
Gwnaethom gyhoeddi diweddariad i'n Dangosfwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Rhyngweithiol ym mis Awst i gynnwys data ar gyfer 2022-23. Anfonwch unrhyw adborth i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Cydraddoldeb
Ar 20 Awst 2024, cyhoeddwyd taenlenni data agored ar StatsCymru a oedd yn cynnwys data poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer nodweddion cydraddoldeb yn ôl oedran, rhyw ac awdurdod lleol. Mae'r tablau data hyn yn cynnwys niferoedd a chanrannau pobl yn ôl grŵp ethnig, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a phobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl:
Caiff dadansoddiadau pellach sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac anghydraddoldeb pobl anabl o safbwynt croestoriadol eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Rydym wrthi hefyd yn ailwampio'r Archwiliad Data Chydraddoldebau. Diben yr archwiliad hwn yw casglu gwybodaeth am y data a gesglir ac a gyhoeddir mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig a nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â chydraddoldebau. Caiff hwn ei gyhoeddi yn ystod hydref 2024.
Anfonwch e-bost at YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw adborth.
Gwnaethom gyhoeddi diweddariad Ionawr 2024 i'r Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr ym mis Mehefin, yn dilyn newid i'r system a ddefnyddir i brosesu'r data.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am y ffordd rydych yn defnyddio adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gwefan StatsCymru, neu'r hyn yr hoffech ei gael o ddata Cyfrifiad 2021, yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Masnach
Arolwg Masnach Cymru
Cafodd y dadansoddiad o ddata 2022 ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2024 ac mae ar gael yma, Arolwg Masnach Cymru: 2022.
Ni chaiff data eu casglu yn 2024 a fydd yn galluogi'r tîm dadansoddi i gynnal dadansoddiad manylach o ddata a gasglwyd yn flaenorol ac ailystyried yr achos busnes dros barhau â'r Arolwg Masnach yn y dyfodol.
Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru
Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 eu cyhoeddi ar 13 Mehefin 2024. Nid yw tablau allforio cysylltiedig StatsCymru yn cael eu diweddaru mwyach.
Ochr yn ochr â'r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data'r chwarter diweddaraf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddiweddaru'r dangosfwrdd, gan ymgorffori symiau o ddata a chyflwyno gwelliannau hygyrchedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Trafnidiaeth
Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom gyhoeddi Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: 2023 ac, ym mis Gorffennaf 2024, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon dros dro ar gyfer Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: Ionawr i Fawrth 2024 a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein datganiad ar Hyd a chyflwr ffyrdd: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 ar 28 Awst 2024.
I roi adborth ac i wneud sylwadau, e-bostiwch ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n dadansoddi canlyniadau'r peilot hwn er mwyn penderfynu ar y dyluniad gorau ar gyfer yr arolwg terfynol a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r holiadur a'r dyddiadur teithio sy'n rhan o'r arolwg, er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'r data sydd eu hangen.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal astudiaeth beilot arall ar raddfa lai o'r arolwg rhwng mis Medi a mis Hydref 2024. Bydd y peilot hwn yn profi'r ffordd y mae'r arolwg yn gweithio ac yn cael ei roi ar waith gan ddefnyddio pob modd cwblhau (ar-lein, ffôn ac wyneb yn wyneb).
Mae rhagor o wybodaeth am nodau ac amcanion y ddwy astudiaeth beilot ar gael yn yr adroddiad WNTS Stage 1b: Qualitative and Quantitative testing report (Trafnidiaeth Cymru).
Mae Trafnidiaeth Cymru bellach mewn sefyllfa i ddechrau meddwl sut y caiff y data eu cyhoeddi, pan fyddant ar gael. Mae'n bwysig cyflwyno'r data'n effeithiol ac mewn ffordd y mae defnyddwyr yn ei hoffi. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi sawl opsiwn cyhoeddi ar gyfer datganiadau ar bynciau penodol ac mae'n awyddus i glywed eich dewisiadau.
Yn ogystal, mae'n gofyn i ddefnyddwyr nodi eu diddordeb mewn gwahanol lefelau o ddadansoddiadau daearyddol a demograffig. Rydym am i drefn cyhoeddiadau Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru gyd-fynd â'r hyn sy'n werthfawr ac yn berthnasol ym marn rhanddeiliaid.
Gellir anfon unrhyw sylwadau, cwestiynau neu adborth pellach at y tîm yn arolwgteithio@trc.cymru.
Y Gymraeg
Cyfrifiad 2021
Ar 30 Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi dadansoddiad mewn perthynas â'r Gymraeg yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Ceir rhestr lawn o allbynnau Cyfrifiad 2021, gan gynnwys ar y Gymraeg, ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'n cynllun gwaith ar y cyd â'r SYG
Cyhoeddwyd y data diweddaraf ar y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar 27 Mehefin. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Y Gymraeg) er mwyn cynnwys y data diweddaraf.
Yn sgil cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar raglen waith a fydd yn ystyried ymhellach rai o'r gwahaniaethau a welwyd gennym rhwng y cyfrifiad a rhai o'n ffynonellau data eraill ar y Gymraeg, megis yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Cafodd diweddariad ar gynnydd ein cynllun gwaith ar y cyd â SYG ei gynnwys yn ein datganiad diweddaraf ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar 27 Mehefin.
Ceisiadau ystadegol ad-hoc
Cafodd data ar Agweddau pobl ifanc tuag at y Gymraeg o Arolwg Defnydd Iaith Gymraeg 2019 i 2020 eu cyhoeddi ar 22 Gorffennaf.
Data ar y Gymraeg y tu allan i Gymru
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddata cynhwysfawr ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru a allai roi darlun cywir o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr neu weddill y DU. Fel rhan o'n rhaglen waith ar y cyd â SYG, byddwn yn dogfennu gofynion defnyddwyr ar gyfer data am y Gymraeg y tu allan i Gymru.
Os ydych yn defnyddio ystadegau ar y Gymraeg a bod gennych unrhyw sylwadau ar ddata ar y Gymraeg ar gyfer y boblogaeth sy'n byw y tu allan i Gymru, neu ar y gofynion o ran y data hynny, cysylltwch.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.
Amaethyddiaeth a'r amgylchedd
Datgarboneiddio a Newid yn yr Hinsawdd
Mehefin 2024
Cafodd Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2022 Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol (Yr Adran Ddiogeledd Ynni a Sero Net a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) eu cyhoeddi.
E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Cyllid Llywodraeth Leol
Cyllidebau refeniw a rhagolygon cyfalaf
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi manylion am gyllidebau refeniw a rhagolygon cyfalaf awdurdodau lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a data refeniw a chyfalaf cysylltiedig ar StatsCymru.
Cyllidebau ysgolion
Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi manylion am gyllidebau ysgolion cyffredinol awdurdodau lleol a chyllidebau Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.
Casglu'r dreth gyngor
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi manylion am gyfraddau casglu'r dreth gyngor ar gyfer 2023-24 ynghyd â thablau cysylltiedig StatsCymru.
StatsCymru
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y blog Digidol a Data: diweddariad pellach i ddefnyddwyr OData StatsCymru.
Poblogaeth a demograffeg
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.