Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2022, ac yn cael eu cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar gydrannau GDHI yn wahanol ac adlewyrchir hyn mewn rhai symudiadau anarferol yn y data ar gyfer 2020 a 2021, yn enwedig wrth edrych ar ardaloedd daearyddol llai.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfanswm incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn 2022 yn £58 biliwn, cynnydd o 4.4% o’i gymharu â 2021. Cynyddodd cyfanswm GDHI y DU 6.3% dros yr un cyfnod i £1,541 biliwn.
  • Roedd GDHI yng Nghymru yn £18,652 y pen yn 2022, 81.8% o ffigur y DU, i lawr 1.4 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2021.
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2022 y ail isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Rhwng 2021 a 2022 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol lleiaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 3.5%, o'i gymharu â chynnydd o 5.3% ar gyfer y DU. Gwelwyd y cynnydd uchaf yn Ne Orllewin Lloegr (i fyny 6.1%).

Yn flaenorol, roedd diffyg parhad yn nata'r boblogaeth ar gyfer rhai ardaloedd, a achoswyd gan wahaniaethau yn amseriad diweddariadau'r cyfrifiad. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi diweddaru amcangyfrifon poblogaeth holl wledydd y DU i gynnwys amcangyfrifon wedi'u seilio ar gyfer y blynyddoedd rhwng y cyfrifiadau (2012 i 2020 yng Nghymru a Lloegr a 2012 i 2021 yn yr Alban). O ganlyniad, nid oes unrhyw anghysondeb bellach yn amcangyfrifon y boblogaeth yn y datganiad hwn.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y SYG.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data a ddefnyddir yn y pennawd hwn, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Incwm Cartrefi Gros Rhanbarthol y SYG.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image