Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, cododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig yn dilyn pryderon difrifol am effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant y sefydliad, ansawdd gwasanaethau a chamau i ad-drefnu gwasanaethau, trefniadau llywodraethu, diogelwch cleifion, trefniadau cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Cyhoeddwyd pedwar adroddiad ar gynnydd hyd yma, sy'n myfyrio ar y cynnydd a wnaed dros 12 mis cyntaf y penderfyniad presennol i uwchgyfeirio i fesurau arbennig, gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd, a gwelliannau a heriau a nodwyd.

Yn adroddiad cynnydd blwyddyn un, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024, daethom i'r casgliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlogi fel sefydliad ac wedi dechrau gosod y sylfeini i ddod yn sefydliad cynaliadwy. Gwnaethom hefyd gydnabod bod y camau a'r prosesau a roddwyd ar waith gan y bwrdd a'r tîm gweithredol yn dechrau cael effaith, ond y byddai angen rhagor o waith tîm ac arweinyddiaeth effeithiol er mwyn adeiladu ar y rhain dros y 12 mis nesaf.

Cyflwynodd y bwrdd iechyd ei adroddiad ei hun yn myfyrio ar y 12 mis cyntaf o'r uwchgyfeirio i fesurau arbennig i'w Fwrdd ym mis Mawrth 2024. Mae hefyd yn rhoi diweddariadau ychwanegol i'r cyhoedd drwy ei wefan.

Cefndir

Ym mis Mai 2024, cytunodd Prif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar fframwaith mesurau arbennig diwygiedig, gan gynnwys meini prawf isgyfeirio, gan bennu blaenoriaethau a disgwyliadau clir ar draws chwe pharth ar gyfer cyfnod nesaf yr ymyriad mesurau arbennig cyfredol.

Goruchwylio mesurau arbennig

Mae'r bwrdd iechyd yn destun goruchwylio sylweddol o hyd fel rhan o'r uwchgyfeirio i fesurau arbennig, gan gynnwys:

  • fforwm gwella mesurau arbennig chwarterol gyda'r bwrdd, a gaiff ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar yn bresennol hefyd
  • cyfarfodydd misol rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd i asesu cynnydd yn erbyn amcanion y cadeirydd, gan gynnwys cynnydd yn erbyn cynllun cytûn y bwrdd iechyd ar gyfer ymateb i'r mesurau arbennig
  • cyfarfodydd sicrwydd iechyd meddwl i bob oedran â'r bwrdd iechyd, a gaiff eu cadeirio gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar
  • bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol, a gaiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr GIG Cymru, er mwyn adolygu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau'r mesurau arbennig
  • cyfarfodydd rhwng y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i olrhain cynnydd gan gynnwys, ymhlith eraill, gyfarfodydd canser a gofal llygaid misol; cyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig misol; cyfarfodydd tîm gweithredol ar y cyd a gynhelir ddwywaith y flwyddyn; a chyfarfodydd cyswllt rheolaidd ynghylch cyllid, ansawdd, gofal a gynlluniwyd a gofal heb ei drefnu
  • ymweliadau rheolaidd â lleoliadau'r bwrdd iechyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar a'r Prif Weinidog

Pa gynnydd a wnaed?

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd dros y chwarter diwethaf (Ebrill i Fehefin 2024) yn erbyn blaenoriaethau'r mesurau arbennig y cytunwyd arnynt. Bu'r ffocws dros y cyfnod hwn ar ymateb y bwrdd iechyd i'r materion difrifol a arweiniodd at uwchgyfeirio i fesurau arbennig, datblygu ac adeiladu'r bwrdd, ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder a rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol.

Llywodraethu

Mae gan y bwrdd iechyd amrywiaeth lawn o aelodau annibynnol, a gefnogir gan gyfarwyddwr gweithredol llywodraethu newydd, a benodwyd ym mis Ebrill 2024, ac a fydd yn darparu'r gallu a'r galluogrwydd arwain sy'n ofynnol i atgyfnerthu prosesau llywodraethu corfforaethol ym mhob rhan o'r sefydliad. Mae hyn wedi galluogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei brosesau llywodraethu ar draws wyth pwyllgor y Bwrdd a thri grŵp cynghori'r bwrdd, sy'n gwbl weithredol erbyn hyn ac sy'n adrodd yn rheolaidd i'r bwrdd. Yn unol ag argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd, diwygiwyd cylch gorchwyl pob un o'r grwpiau hyn.

Cafodd ymwybyddiaeth ac ystyriaeth y bwrdd o ansawdd a diogelwch gwasanaethau ym mhob rhan o'r sefydliad a'r profiad a geir ohonynt eu gwella drwy gyflwyno adroddiad ansawdd ym mhob un o gyfarfodydd y bwrdd. Cyflwynwyd adroddiad ar brofiad dinasyddion hefyd a chaiff ei gyflwyno i gyfarfodydd y bwrdd bob chwarter, ynghyd â stori profiad cleifion, i roi cipolwg i'r bwrdd ar faterion presennol a rhoi cyfle i ddysgu a datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gleifion.

Cynhelir sesiynau datblygu'r bwrdd yn rheolaidd ac maent yn cefnogi'r aelodau annibynnol i ddysgu mwy am feysydd penodol o waith y bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi cynllun datblygu'r bwrdd a gymeradwywyd ar gyfer 2024 i 2025.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd wrth roi argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd ar waith ac mae'n disgwyl gallu cyflawni ei ymateb i'r argymhellion sy'n weddill erbyn mis Ionawr 2025.

Ansawdd gofal

Cymeradwyodd y bwrdd ddull y bwrdd iechyd o gyflwyno system rheoli ansawdd ym mis Mai 2024. Caiff y system ei hategu gan gynllun gweithredu, hwb system rheoli ansawdd a fydd yn tywys ac yn cynorthwyo unigolion, timau ac adrannau ym mhob rhan o'r sefydliad yn rhyngweithiol i ddatblygu eu hasesiad rheoli ansawdd a'u gwelliannau.

Mae'r ffocws bellach ar roi'r system ar waith. Mae'r bwrdd wedi cytuno i ddefnyddio'r system rheoli ansawdd ar gyfer adrannau fasgwlaidd ac wroleg yn y lle cyntaf. Mae gan y ddau wasanaeth hyn broblemau ansawdd hysbys iawn ac sydd ar gamau gwahanol o'r daith i ddatblygu.

Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu ei broses a'i systemau llywodraethu ansawdd wrth ddelio â materion treftadaeth difrifol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw'n gyflym. Mae hyn yn cynnwys achosion y tynnwyd sylw atynt gan grwneriaid Ei Fawrhydi ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys methiannau i weithredu'n brydlon gyda'r broses gwynion; cynllunio a chefnogaeth strategol annigonol neu aneffeithiol yn mynd rhagddynt; amseroldeb ymchwiliadau'r bwrdd iechyd a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion cleifion papur.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cwblhau cam un o'r gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen ymchwiliadau, a arweiniodd at adolygiad o'i brosesau ymchwilio a rhoi gwersi a ddysgwyd ar waith ar draws pob rhan o'r sefydliad. Mae hyn wedi llywio'r broses o ddatblygu polisi integredig newydd ar gyfer ymchwilio i ddigwyddiadau, cwynion a marwolaethau, a fydd yn cynnwys cleifion neu deuluoedd o'r dechrau ac yn cynnwys cyfraniadau staff drwyddi draw. 

Mae prosiect hefyd yn mynd rhagddo i roi sicrwydd ar ansawdd ymchwiliadau, ymgorffori gwersi a ddysgwyd a thystiolaeth ategol ar gyfer ymchwiliadau a gwblhawyd yn flaenorol. Rhannwyd cyflwyniad ar yr hyn a ddysgwyd o reoliad 28 neu adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol yng ngrŵp sicrwydd rheoleiddiol y bwrdd iechyd a chynhaliwyd sesiynau hyfforddiant ym mis Mai 2024.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn canolbwyntio ar ei broses ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau adroddadwy cenedlaethol. Mae pob digwyddiad adroddadwy cenedlaethol yn agored i adolygiad cyflym 'make it safe', a Phanel Dysgu Cyflym (dan arweiniad swyddog gweithredol neu ddirprwy clinigol) mewn rhai achosion ac ymchwiliad pellach. Caiff y gwersi a ddysgwyd a'r camau gweithredu o bob un eu cofnodi ar fodiwl rheoli digwyddiadau Datix Cymru. Caiff ffurflenni dysgu eu drafftio ar gyfer pob ymchwiliad a'u cyflwyno i Weithrediaeth y GIG i roi sicrwydd ar wersi a ddysgwyd a chamau gweithredu. 

Perfformiad a chanlyniadau

Mae nifer yr amseroedd aros hir i gleifion wedi lleihau, ar y cam cleifion allanol ac ar y cam trin ers mis Chwefror 2023. Rhwng mis Chwefror 2023 a mis Mehefin 2024, mae nifer y llwybrau cleifion orthopedig ar gyfer y cyfnod rhwng atgyfeirio cleifion a'u trin sy'n aros mwy na 104 o wythnosau wedi lleihau 4.7% a chafwyd gostyngiad o 19.9% yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy nag wyth wythnos ar gyfer eu profion diagnostig yn yr un cyfnod. Mae'r perfformiad ar gyfer cleifion canser yn amrywiol o hyd, yr effeithiwyd arno gan heriau mewn gwasanaethau fel wroleg a dermatoleg.

Mae ffocws gwirioneddol yn y bwrdd iechyd ar ddileu amserau aros hir ar gyfer gofal a gynlluniwyd gydag ymrwymiad i drin yn ei dro yn rhoi mesurau effeithlonrwydd ar waith ac yn gwella cynhyrchiant.

Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl amrywiol ar gyfer pobl dan 18 oed wedi gwella, gyda 79.6% o'r asesiadau'n cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod ym mis Mehefin 2024 o gymharu â 57.8% ym mis Chwefror a 41.6% o ymyriadau yn dechrau o fewn 28 diwrnod ym mis Mehefin 2024 o gymharu â 26.8% ym mis Chwefror 2023. Er y gwelliant hwn, erys y perfformiad islaw'r targed o 80% ar gyfer pob un o'r mesurau hyn. Ar gyfer iechyd meddwl oedolion, erys y perfformiad ar gyfer ymyriadau a gaiff eu cwblhau o fewn 28 diwrnod uwchlaw'r targed ar 82.4% ym mis Mehefin 2024, a gwelwyd gwelliant ar gyfer asesiadau a gwblhawyd o fewn 28 diwrnod ar 74.7% ym mis Mehefin 2024.

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio'n agos â chydweithwyr yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y rhaglen Chwe Nod genedlaethol a phroses Gweithrediaeth y GIG i wella darpariaeth weithredol o wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng a diogelwch a phrofiad cleifion. Fodd bynnag, mae'r perfformiad ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn her sylweddol o hyd.

Arweinyddiaeth, galluogrwydd a diwylliant

Mae gwaith mewn perthynas â diwylliant a datblygu arweinyddiaeth dosturiol yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd. Caiff cynnydd yn y maes hwn ei fonitro gan bwyllgor pobl a diwylliant y bwrdd iechyd. Roedd tua 250 o bobl o bob rhan o'r bwrdd iechyd yn bresennol mewn cynhadledd arweinyddiaeth lle cafwyd anerchiad gan yr Athro Michael West, arbenigwr mewn arweinyddiaeth dosturiol a Henry Engelhardt, cyn Brif Swyddog Gweithredol Admiral Insurance, a chafwyd ymateb da.

Sefydlwyd rhaglen i recriwtio uwch-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr gweithredol gan gynnwys:

  • cyfarwyddwr gweithredol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddorau iechyd, i ddechrau ym mis Awst 2024; deiliad y swydd fydd yr arweinydd gweithredol ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • cyfarwyddwr comisiynu a pherfformiad i ddechrau ym mis Hydref 2024
  • cyfarwyddwr cymuned iechyd integredig (canolog) dros dro i ddechrau ym mis Awst
  • mae cyfarwyddwr gweithredol iechyd y cyhoedd dros dro yn weithredol

Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda phartner chwilio gweithredol i recriwtio'n barhaol i swyddi cyfarwyddwr gweithredol y gweithlu a datblygiad sefydliadol a phrif swyddog gweithredu.

Mae'r bwrdd iechyd yn dechrau dangos sut mae'n datblygu ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a myfyrio sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys dysgu o gwestau, dysgu o wallau meddygol a dysgu o safonau ysgrifennu adroddiadau ar ymchwiliadau. Roedd y gwersi a ddysgwyd o wallau meddygol yn cynnwys pwysigrwydd dysgu o ffactorau dynol a phwysigrwydd integreiddio i adolygiadau diogelwch cleifion. Mae gwersi sefydliadol wedi'u rhannu drwy'r sefydliad mewn perthynas â gweinyddu o batsys trawsgroenol gan ddefnyddio'r dull briffio saith munud.

Trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol

Comisiynwyd adolygiad o brosesau rheoli contractau a chaffael gan y bwrdd iechyd a chafodd ei gynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Datblygodd yr adroddiad 24 o gamau gweithredu i'w hystyried gan y bwrdd iechyd, Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gwnaed cynnydd sylweddol yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd. O'r 13 o gamau gweithredu ar gyfer y bwrdd iechyd, mae 11 wedi'u cwblhau, ac mae'r ddau arall yn mynd rhagddynt.

Roedd sefyllfa alldro’r bwrdd iechyd ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023 i 2024 yn ddiffyg o £24.347m. Roedd hyn £4.347m yn uwch na’r cyfanswm rheoli targed o £20m a osodwyd yn 2023/24. Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd yn ystod y flwyddyn yn erbyn ei gynllun gwreiddiol, ond roedd yn un o dri bwrdd iechyd na chadwodd at y cyfanswm rheoli targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan y bwrdd iechyd ddiffyg blwyddyn lawn a gynlluniwyd o £19.8m ar gyfer 2024/25, sy'n welliant o £4.6m o gymharu â'r sefyllfa alldro ar ddiwedd 2023/24. Mae hyn yn seiliedig ar ragdybiaeth y cyflawnir targed arbedion blynyddol o £48m.

Cynhaliodd y bwrdd iechyd gyfarfod Bwrdd Eithriadol ar 10 Gorffennaf 2024 i drafod ei adroddiad blynyddol a'i gyfrifon ar gyfer 2023 i 2024. Bu'r Bwrdd hefyd yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y cyfrifon, lle daeth yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad bod y cyfrifon yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd.

Fodd bynnag, nododd yr Archwilydd Cyffredinol farn reol amodol ar reoleidd-dra ar y cyfrifon:

  • gan nad oedd y bwrdd iechyd wedi cyflawni ei ddyletswydd ariannol i fantoli'r cyfrifon yn erbyn ei derfyn adnoddau refeniw dros dair blynedd rhwng 2021 i 2022 a 2023 i 2024
  • gan fod y bwrdd iechyd wedi mynd i wariant afreolaidd ac wedi torri ei gyfarwyddiadau ariannol sefydlog drwy wneud taliadau i gyn-aelod gweithredol dros dro o'r bwrdd ar gyfradd uwch na chyflog cymeradwy Llywodraeth Cymru ar gyfer y rôl; ni chafwyd cymeradwyaeth y bwrdd a Gweinidogion Cymru, yn groes i ofynion cyfarwyddiadau ariannol sefydlog y bwrdd iechyd

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi bod y bwrdd iechyd erbyn hyn yn atgyfnerthu ei reolaethau a'i drefniadau llywodraethu yn unol â hynny.

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i wneud cynnydd, gyda chymorth tîm cynllunio a chyflawni ariannol Gweithrediaeth y GIG, ar y cynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y canlynol:

  • parhau i gryfhau trefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol
  • sicrhau bod cynllun ariannol cadarn, y gellir ei gyflawni, ar waith i wireddu’r sefyllfa ragolygol yn 2024 i 2025
  • trosi cyfleoedd yn arbedion i gefnogi cyflawni ariannol yn 2024 i 2025 ac ar sail reolaidd
  • sicrhau bod cynlluniau clir ar waith i ddefnyddio adnoddau i gyflawni blaenoriaethau gwella a pherfformiad

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Cwblhawyd adolygiad annibynnol o brosesau cynllunio integredig yn y bwrdd iechyd. Cymeradwywyd cynllun gweithredu'r bwrdd iechyd ac ymateb ei reolwyr i'r adolygiad gan ei Bwyllgor Perfformiad, Cyllid a Llywodraethu Gwybodaeth ar 30 Ebrill 2024.

Mae'r bwrdd iechyd wedi nodi bod sawl elfen o'i gynllun gweithredu eisoes ar waith, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i gefnogi gwaith i ail-ddylunio’r broses gynllunio, mynediad i addysgu ar lefel diploma i gefnogi a datblygu galluogrwydd cynllunio, ac adolygiad cychwynnol o allu a galluogrwydd cynllunio corfforaethol. Caiff nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen eu sefydlu hefyd i oruchwylio meysydd gwaith penodol, ac adroddir ar gynnydd yn unol â gofynion y fframwaith mesurau arbennig y cytunwyd arnynt.

Ni lwyddodd y bwrdd iechyd i gyflwyno cynllun tymor canolig integredig ar gyfer 2024/27 yn unol ag adran 175(2A) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014) ac yn unol â Fframwaith Cynllunio'r GIG. Mae wedi cyflwyno cynllun blynyddol ar gyfer 2024 i 2025. Dyma'r cynllun cyntaf a ddatblygwyd gan y bwrdd iechyd o dan arweinyddiaeth y cadeirydd a'r prif weithredwr newydd, gyda chefnogaeth newid sylweddol yn aelodaeth y bwrdd ac mae'n dangos uchelgais clir i symud y tu hwnt i'r heriau sydd wedi arwain at uwchgyfeirio i fesurau arbennig i sefyllfa lle gall y bwrdd iechyd weithredu mewn modd cynaliadwy i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i sefydlu a datblygu ei Strategaeth Gwasanaethau Clinigol a'i Gynllun Clinigol yn 2024 i 2025. Caiff hyn ei gefnogi gan drafodaeth â ffocws yn sesiwn datblygu'r bwrdd ym mis Gorffennaf 2024.

Gwasanaethau bregus

Iechyd meddwl

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Mae tîm gweithredol y bwrdd iechyd wedi datblygu a chytuno ar gynlluniau gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a Niwroddatblygiad. Mae pob maes bellach yn cynnig oriau estynedig a bydd y ffocws ar ddatblygu hyn yn fodel cynaliadwy.

Datblygwyd cynnig model gwasanaeth drafft cychwynnol ar gyfer niwroddatblygiad i gefnogi'r newid o fodel sy'n canolbwyntio ar ddiagnosis tuag at fodel a arweinir gan anghenion, i ddiwallu anghenion teuluoedd a phlant yn well. Cynlluniwyd gweithdy ar gyfer mis Medi i geisio adborth rhanbarthol, a ddilynir gan gynllun ymgysylltu ehangach â chydweithwyr eraill yn y bwrdd iechyd, yn yr awdurdod lleol ac yn y trydydd sector i geisio barn cyn parhau.

Adolygiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o adolygiadau iechyd meddwl

Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol o adolygiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o adolygiadau iechyd meddwl i'r bwrdd ar 30 Mai 2024, lle ymrwymodd y bwrdd iechyd i baratoi cynllun ymateb manwl yn nodi camau gweithredu ac amserlenni mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad i'w hystyried gan y bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu'r Coleg fod tystiolaeth dda neu gref yr ymgorfforwyd 37 allan o gyfanswm o 84 (44%) o argymhellion yn y pedwar adroddiad allanol. Roedd rhywfaint o dystiolaeth yr ymgorfforwyd bron i hanner (41; 49%) o'r argymhellion a phrin oedd y dystiolaeth neu ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ar gyfer chwech o'r argymhellion (7%).

Diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl

Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol o asesiad diogelwch ar y cyd o leoliadau i gleifion mewnol iechyd meddwl, a gynhaliwyd gan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol (NCCU) a Gweithrediaeth y GIG ar wefan y bwrdd iechyd, ynghyd â'i ymateb rheoli. Trafodwyd y rhain yn ei gyfarfod bwrdd ym mis Tachwedd 2023.

Cynhaliwyd asesiad dilynol chwe mis yn ddiweddarach i fesur i ba raddau yr oedd y camau gweithredu a nodwyd gan yr adolygiad wedi'u rhoi ar waith. Rhannwyd yr adroddiad o'r asesiad dilynol yn ffurfiol â'r bwrdd iechyd ym mis Mai 2024.

Mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlu is-grŵp cyflawni diogelwch cleifion mewnol NCCU i roi trosolwg ac i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn ei gynllun gweithredu, ac y gellir dangos tystiolaeth o'r cynnydd hwn. Mae adroddiad ar ôl cynllun gweithredu'r NCCU wrthi'n cael ei ddatblygu, gan nodi'r gwaith a wnaed fel rhan o'r adolygiad. Bydd hwn yn sail i ymateb y bwrdd iechyd i NCCU a Gweithrediaeth y GIG ym mis Awst 2024.

Gwasanaethau fasgwlaidd

Comisiynodd Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â Gweithrediaeth y GIG a'r bwrdd iechyd, fel rhan o'r ymyriad mesurau arbennig, asesiad sicrwydd dwy ran o ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd a gwasanaethau cysylltiedig eraill, er mwyn asesu i ba raddau y mae argymhellion o adolygiadau ac adroddiadau blaenorol wedi cael eu rhoi ar waith mewn modd cynaliadwy.

Roedd rhan gyntaf yr asesiad hwn yn canolbwyntio ar gynllun gwella gwasanaethau fasgwlaidd cyfunol y bwrdd iechyd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r argymhellion a'r uwchgyfeirio o adolygiadau blaenorol o'r gwasanaeth. Roedd hefyd yn ystyried y dulliau llywodraethu clinigol sydd ar waith a'u heffeithiolrwydd mewn perthynas â gwasanaethau fasgwlaidd. Rhannwyd yr asesiad a'r adroddiad terfynol o'r gwaith hwn â'r bwrdd iechyd ym mis Hydref 2023 ac roedd yn tynnu sylw at welliant cyffredinol yn ansawdd a diogelwch y gwasanaeth fasgwlaidd.

Roedd yr ail ran yn cynnwys asesiad gan banel yr adolygiad o ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd o 40 o nodiadau achos mewn perthynas â nifer o weithdrefnau fasgwlaidd gwahanol a gynhaliwyd rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023. Rhannwyd yr adroddiad terfynol o'r asesiad hwn â'r bwrdd ym mis Mawrth 2024. Canfu'r panel yr ystyriwyd bod 38 o'r 40 o weithdrefnau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn yn dderbyniol. Nodwyd deg argymhelliad ar gyfer gwelliant pellach o'r rhan gyntaf ac 17 o argymhellion o'r ail ran.

Paratowyd adroddiad cynnydd ar y gwelliannau a wneir mewn gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd i'w ystyried gan y bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.

Casgliad

Mae'r fframwaith mesurau arbennig yn egluro ein disgwyliadau o ran y blaenoriaethau a'r cerrig milltir y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd eu cyflawni wrth i ni symud i gam nesaf yr uwchgyfeirio i fesurau arbennig.

Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd drwy ein trefniadau goruchwylio a sicrwydd, er mwyn sicrhau bod y gwelliannau gofynnol mewn perthynas â chanlyniadau, perfformiad, gwasanaethau clinigol bregus ac ansawdd a diogelwch yn cael eu cyflymu, a bod y systemau a'r strwythurau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy.