Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5 miliwn arall i gefnogi ac amddiffyn cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich Cymru a Cadw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Jane Hutt yn gwneud y cyhoeddiad heddiw ar ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth, ac mae'r ddau ymhlith y sefydliadau sy'n elwa ar y cyllid.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol sy’n wynebu sefydliadau diwylliannol a chwaraeon ac wedi gweithredu i’w helpu i liniaru’r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Daw'r £5m ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn £725,000 a bydd y Comisiwn Brenhinol yn elwa ar £90,000. Yn ogystal, bydd £1.5m yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn cynnwys darparu cymorth i sefydliadau celfyddydol sy'n canolbwyntio ar wytnwch sefydliadol. Bydd Chwaraeon Cymru yn derbyn £1m, tra bydd Amgueddfa Cymru yn elwa ar £940,000. Bydd cyllid o £745,000 hefyd i Cadw i ddiogelu ei gynaliadwyedd ariannol.

Mae'r pecyn cymorth yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf gwerth £3.2m a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer gwaith atgyweirio i'w wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jane Hutt:

“Mae'r sefydliadau hyn yn allweddol ar gyfer cyflawni nifer o'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac maent yn chwarae rôl sylfaenol o ran hyrwyddo lles meddyliol ac iechyd corfforol da ac yn dod â chymunedau ynghyd. Does dim dwywaith am yr effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael ar bobl ledled Cymru.

“Rydym yn llwyr gydnabod fod hwn yn gyfnod ariannol anodd i'n sefydliadau celfyddydol a chwaraeon hyd braich yn ogystal ag i Cadw, a gwyddom na fydd y cyllid hwn yn mynd i'r afael â'r holl faterion y mae'r sefydliadau hyn yn eu hwynebu. Fodd bynnag, bydd y cymorth hwn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd ariannol pellach ac yn eu gwneud yn fwy gwydn.”

Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan:

“Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos eu cefnogaeth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n bwysig sicrhau bod gan staff yn y Canolbarth delerau cyflogaeth teg, a bydd y cyfraniad tuag at y diffyg yn y Cynllun Pensiwn yn helpu i ddiogelu swyddi.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar bod yr heriau sy'n codi o gynnal casgliad digidol cenedlaethol yn cael eu cydnabod, yn enwedig yn dilyn yr ymosodiad seiber diweddar ar y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y £225,000 yn mynd tuag at seilwaith sy'n diogelu'r casgliadau digidol yn y tymor hir ac yn sicrhau mynediad atynt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gweithio o dan amgylchiadau ariannol hynod heriol. Bydd y cymorth ariannol hwn yn ein galluogi i fuddsoddi mewn rhaglenni gwaith penodol a fydd yn helpu i osod sylfaen ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy i Amgueddfa Cymru.”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys:

“Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi cydnabod y pwysau ariannol parhaus y mae'r sector yn eu hwynebu, a bydd y cymorth ychwanegol hwn yn rhoi cyfle i ni gynorthwyo llawer o sefydliadau sy'n ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Bydd croeso mawr i'r newyddion hyn.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Christopher Catling:

“Bydd y swm ychwanegol o £90,000 y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r Comisiwn Brenhinol yn ein galluogi i ddigideiddio ein harchifau a ddefnyddir amlaf a sicrhau eu bod ar gael i ddefnyddwyr ar-lein. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi ein gwasanaeth ymholiadau prysur, ac rydym yn ddiolchgar iawn amdano.”

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies:

“Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am wrando arnom ynghylch y pwysau y mae toriadau i'r gyllideb wedi'u rhoi ar y sector. Er ei fod yn parhau i fod yn gyfnod heriol, rydym yn dal i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i bawb yng Nghymru fwynhau bod yn egnïol ac rydym yn croesawu'n fawr y cadarnhad hwn am gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Byddwn yn ei ddyrannu i'r partneriaid hynny a gafodd doriad yn y gyllideb yn gynharach eleni a bydd yn eu helpu i ddelio â rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu.”