Dysgwch am y tarfu presennol ar gyflenwadau meddyginiaethau, a'r rhesymau pam mae hyn yn digwydd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae unrhyw darfu ar gyflenwad meddyginiaeth yn peri pryder i'r bobl sydd ei hangen a'u clinigwyr. Fel arfer, mae'r anawsterau hyn yn effeithio ar gyfran fach iawn o feddyginiaethau yn y GIG. Gellir rheoli'r prinder gan mwyaf heb amharu ar gyflenwadau pobl.
Y rhesymau y tu ôl i brinder meddyginiaethau
Mae prinder meddyginiaethau'n digwydd oherwydd y canlynol:
- cynnydd yn y galw, sy'n mynd y tu hwnt i gapasiti'r gwneuthurwr
- tarfu ar ddeunyddiau crai
- problemau gweithgynhyrchu
Datganoli a phrinder meddyginiaethau
Fel mater a gedwir yn ôl, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cynnal y cyflenwad o feddyginiaethau i'r DU. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gydlynu ddigwydd rhwng y DU, y llywodraethau datganoledig, a'r GIG er mwyn rheoli'r effeithiau ar gleifion ac ar y GIG. Mae'n golygu ein bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, rhagnodwyr, a fferyllfeydd.
Dewisiadau cleifion yn ystod prinder meddyginiaethau
Mae pob fferyllfa yn cyrchu ei chyflenwad o feddyginiaethau o rwydwaith o fferyllfeydd cyfanwerthu. Yn eu tro, mae'r rhain yn cyrchu meddyginiaethau oddi wrth amrywiaeth o weithgynhyrchwyr. Ar adegau o gyflenwi ysbeidiol, mae'n bosibl y bydd meddyginiaethau'n cyrraedd fferyllfeydd gwahanol ar wahanol adegau. Efallai y bydd angen i chi fynd â'ch presgripsiwn i fwy nag un fferyllfa i gael eich meddyginiaeth.
Dylai pobl y mae’n anodd iddynt gael eu meddyginiaeth drafod dewisiadau eraill gyda'u clinigydd.
Gall weithwyr iechyd proffesiynol cael rhagor o wybodaeth trwy'r Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.
Protocolau prinder difrifol
Fel arfer, rhaid i fferyllydd ddarparu'r feddyginiaeth a'r dos fel y maen nhw'n cael eu hysgrifennu ar y presgripsiwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod dewisiadau eraill a fyddai'n addas, y gellir eu defnyddio ar adegau o gynnydd mawr yn y galw. Mewn achosion felly, gall Llywodraeth y DU gyhoeddi 'protocol prinder difrifol'.
Mae protocol prinder difrifol yn caniatáu i fferyllydd roi meddyginiaeth addas arall a allai fod yn wahanol i'r feddyginiaeth sydd ar y presgripsiwn. Gallai hyn olygu dim ond cyfnewid tabledi a chapsiwlau, neu roi brand gwahanol o'r un feddyginiaeth.