Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae’r flwyddyn nesaf yn nodi 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn sail i adroddiad Llesiant Cymru, sy’n mynnu ein bod ni’n pwyso a mesur yn flynyddol y cynnydd rydym ni’n ei wneud tuag at y saith nod llesiant.

Eleni, fe welsom ni newid bach i’r diffiniad o un o’r saith nod hynny. Fe wnaeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) newid y geiriau “gwaith teilwng” am “gwaith teg” yn y diffiniad o nod Cymru Lewyrchus. Mae’r newid hwn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’u cerrig milltir cysylltiedig i sicrhau eu bod yn dal i fesur cynnydd tuag at eiriad newydd y nod a hynny mewn ffordd briodol. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal cyn yr adroddiad Llesiant Cymru nesaf. Fel rhan o’r adolygiad hwn, byddwn ni’n ystyried y newidiadau a wnaethom ni i’r dangosyddion cenedlaethol yn 2021 a wnaeth ystyried yr argymhellion o’r Comisiwn Gwaith Teg.

Beth yw’r canfyddiadau eleni?

Mewn adroddiadau Llesiant Cymru blaenorol, rydym ni wedi canfod bod anghydraddoldebau’n ehangu, bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar incwm pobl, a bod plant a phobl ifanc yn dioddef yn waeth ers y pandemig. Gyda saib yn Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni (sy’n darparu data ar gyfer tua chwarter y dangosyddion cenedlaethol), mae nifer o bynciau lle nad oes data ar gael i ddarparu asesiad mwy diweddar. Ond o edrych ar y dangosyddion sydd wedi cael eu diweddaru eleni ac ar ddata o flynyddoedd blaenorol, nid oes fawr o dystiolaeth eto bod y tueddiadau ehangach hyn yn newid. 

Mae tystiolaeth o hyd bod pobl sydd â phrofiad o amddifadedd yn debygol o fod â chanlyniadau gwaeth. O ran llesiant meddyliol, mae’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi ehangu, ac mae pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o fod yn unig. Mae’r bwlch o ran marwolaethau y mae modd eu hosgoi rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig ar ei lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion ac ers i’r gyfres ddechrau ar gyfer menywod. Mae plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fod â chanlyniadau addysgol gwaeth, gyda’r bwlch graddau A* i C yn ehangu (ond y bwch graddau A* i A yn cyfyngu). Yn ogystal, wrth edrych ar gydlyniant cymunedol, mae tuedd amlwg tuag ymdeimlad cynyddol o gymuned, bodlonrwydd â’r ardal leol a diogelwch ar ôl iddi dywyllu wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng.

Ffordd newydd o gyfathrebu cynnydd

Wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym ni wedi ystyried sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwybodaeth newydd a ffyrdd gwell o gyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant. Gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr, eleni rydym ni’n arbrofi gyda ffordd newydd o ddangos cynnydd, gan ganolbwyntio ar yr 17 carreg filltir genedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Rydym ni wedi edrych ar y data ar gyfer pob carreg filltir ers 2015, sef pan ddaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym, ac wedi asesu a yw’r duedd wedi bod yn gwella ai peidio ers y dyddiad hwnnw. 

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 21 cynnydd i gyd. Roedd deg o’r rhain wedi gwella ers 2015, sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad cywir tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pum carreg filltir wedi dirywio, nid oedd pump wedi newid fawr ddim, neu o gwbl, ac nid oedd modd asesu cynnydd un garreg filltir gan mai dim ond blwyddyn o ddata oedd ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn y tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015.

Gallwch chi ddarllen mwy am y dull gweithredu rydym ni wedi’i fabwysiadu yn y bennod ar gerrig milltir cenedlaethol. Gan fod hon yn ffordd newydd o gyflwyno’r wybodaeth hon, rydym ni’n awyddus i glywed eich adborth ynghylch a yw hyn yn eich helpu i ddeall y cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd