Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Roedd gan y Comisiwn ddau amcan eang.

Yr amcan cyntaf oedd ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru'n parhau i fod yn rhan annatod ohoni. Yr ail amcan oedd ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Cyflwynodd y Comisiwn ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2024.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i argymhellion y comisiwn ar 12 Mawrth 2024.