Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Procurex Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n helpu gweithwyr caffael proffesiynol i gael gwell canlyniadau i'w sefydliadau yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

Yn Procurex Cymru eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd i greu ardal nodwedd newydd. Bydd yr ardal hon yn canolbwyntio ar gydnabod rhagoriaeth ac arloesedd cyflenwyr ymhlith microfusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw.  Bydd yr ardal hon, fydd yn cael ei noddi’n llawn, yn dangos cyfraniad y cyflenwyr bach ond pwysig hyn i'r sector caffael cyhoeddus yng Nghymru ac yn annog mwy o'r mentrau cydweithredol hyn yn y dyfodol.

Gofynnir i gyflenwyr sy'n awyddus i arddangos yn y parth arddangos newydd hwn gyflwyno datganiad o ddiddordeb a fydd yn cael ei asesu gan banel annibynnol o gynrychiolwyr a ddewisir gan Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data a bydd yn cadw cofnod o’ch data personol i gynorthwyo gyda'r broses mynegi diddordeb gan gynnwys asesu, cydlynu'r parth, a hyrwyddo'r parth yn barhaus i gynulleidfaoedd allanol.   Fel y rheolydd data, Llywodraeth Cymru sy’n pennu sut a pham y gellir prosesu data personol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon sy'n gweithredu fel proseswyr data er mwyn galluogi cydlynu a chyflwyno'r parth hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • Freshwater UK Limited, sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru fel y prosesydd data, ac yn casglu'r wybodaeth mynegi diddordeb ac yn cydlynu a darparu'r parth.
  • BiP Solution UK Limited, y sefydliad sy'n gyfrifol am gyflwyno digwyddiad Procurex.
  • Bydd yn ofynnol i Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, Prifysgol Caerdydd, ddefnyddio eich data i fesur a yw'r arddangosfa wedi cyflawni ei hamcanion gwreiddiol.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am sut rydyn ni’n trin eich data wrth i chi fynegi eich diddordeb i arddangos ym Mharth Arddangos Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector yn Procurex.

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Freshwater UK Limited a BiP Solutions Limited i ddarparu'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r lle yn rhad ac am ddim i'r cyflenwyr llwyddiannus allu arddangos yn y parth hwn.

Wrth fynegi eich diddordeb, bydd gofyn i gyflenwyr gyflwyno pwynt cyswllt penodol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Sefydliad
  • Gwybodaeth am y sefydliad i gefnogi'r gwaith o asesu'r mynegiant o ddiddordeb.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a darparu'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector.  Mae gweithgareddau penodol sy’n defnyddio eich data yn cynnwys:

  • Ymgysylltu parhaus mewn perthynas â’ch mynegiant o ddiddordeb
  • Gweinyddu gweithgareddau i ddarparu'r parth
  • Darparu arweiniad a chymorth i gefnogi arddangos
  • Casglu eich adborth a'ch canlyniadau

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, sail gyfreithlon prosesu gwybodaeth yw Buddiant Dilys. Hynny yw, drwy brosesu eich data personol, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a chyflwyno'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo microgyflenwyr, elusennau, cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus a mentrau cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau llesiant yng Nghymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol a gyda phwy rydym ni’n rhannu eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a rennir yn cael ei chadw gan Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru. Bydd aelodau staff yn yr adran hon yn cael mynediad at eich gwybodaeth i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Parth. Mae unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio ar ran ddiogel o iShare (system rheoli dogfennau mewnol Llywodraeth Cymru).

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth â Freshwater UK Limited a BiP Solutions Limited i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo eich presenoldeb yn Procurex.

Am ba hyd rydym ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am hyd at 2 mlynedd. Ar ôl cyfnod o 2 flynedd bydd y data a gedwir ar ffeil yn cael ei adolygu. Os nad yw'r data'n cael ei ddefnyddio bellach, bydd yn cael ei hepgor o'n cofnodion.

Hawliau unigol

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych trwy unrhyw ran o’r ymchwil a gynhaliwyd drwy’r Rhaglen Ymchwil Gweithwyr, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun.
  • I ni gywiro gwallau yn y data hynny.
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau).
  • I’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r gwaith hwn yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cysylltwch â:

David Nicholson

Rhif ffôn: 03000 257310

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.