Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: trafodaeth y bwrdd Awst 2024
Diweddariad Awst 2024 am waith y bwrdd rhaglen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir
Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau gyda llawer llai angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal am gyfnod mor fyr â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio’r ffordd rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau sy’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol ac yn atebol yn lleol.
Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar y gofal preswyl i blant sy’n cael ei ddarparu’n breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel y sector annibynnol.
Mae bwrdd rhaglen amlasiantaeth wedi’i sefydlu i fwrw ati â’r gwaith technegol a datblygu angenrheidiol i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, ffurfio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol a sefydlogi’r farchnad.
Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen, 22 Gorffennaf 2024
Cynnydd o ran Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru):
Roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnal sawl sesiwn dystiolaeth drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf, gyda'r gweinidog yn rhoi tystiolaeth yn ogystal â sawl aelod o'r bwrdd a'u cynrychiolwyr.
Codwyd nifer o faterion gan randdeiliaid yn ystod sesiynau tystiolaeth lafar y pwyllgor, gan gynnwys:
- pryder ynghylch digonolrwydd lleoliadau ac o ganlyniad cynnydd posibl mewn gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestru
- roedd y pedwar model nid-er-elw ar wyneb y bil yn cyflwyno heriau allweddol i lawer o ddarparwyr ddod yn endid nid-er-elw gan gynnwys materion cost ac ymarferoldeb
- pryderon ynghylch y gweithlu a cholli arbenigedd gan y sector os yw darparwyr yn dewis gadael y farchnad
- mae'r broses drosglwyddo ar gyfer gofalwyr maeth yn gosod haen ychwanegol o gymhlethdod ac yn peri risg i gynnal nifer y gofalwyr maeth sydd eu hangen
- angen mwy o eglurder ynghylch trefniadau ar gyfer lleoliadau etifeddol a'r broses ar gyfer cymeradwyo lleoliadau atodol
- y goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol a'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu darpariaeth fewnol
- sicrhau digonolrwydd lleoliadau dielw o fewn yr amserlenni arfaethedig presennol i'w gweithredu
Roedd disgwyl adroddiadau gan y pwyllgor tua chanol mis Hydref 2024, a fyddai'n dynodi diwedd gwaith craffu cyfnod 1.
Yn dilyn hyn, disgwyliwyd y byddai'r Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil tua diwedd mis Hydref 2024, cyn i'r gwaith craffu Cyfnod 2 ddechrau.
Ffrydiau gwaith cam 2:
Gyda chyflwyniad y Bil, cynigiwyd y byddai angen cyfnod newydd a chanolbwyntio'r ffrydiau gwaith wrth symud ymlaen. Cytunwyd ar y canlynol:
- Byddai ffrydiau gwaith 1 a 4 yn uno i greu un ffrwd waith yn canolbwyntio ar weithredu mewn Awdurdodau Lleol a gweithio i oresgyn heriau penodol i Awdurdodau Lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
- Byddai ffrwd waith 2 yn parhau gyda rhaglen waith wedi'i diwygio rhyw ychydig ac aelodau newydd.
- Byddai ffrwd waith 3 yn parhau gyda rhaglen waith wedi'i diwygio rhyw ychydig.
Cydnabuwyd ei bod yn debygol y byddai angen sawl is-grŵp o dan y ffrydiau gwaith hyn, yn canolbwyntio ar faterion penodol, ac efallai y bydd angen aelodaeth o bob rhan o'r ffrydiau gwaith gwahanol ar gyfer y rhain.
Cyfathrebu:
Roedd y ddogfen friffio gyffredinol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi'i dosbarthu i aelodau'r Bwrdd Rhaglen a'r holl ffrydiau gwaith i'w rhannu mor eang â phosibl.
Yn ogystal, cyhoeddwyd sawl adnodd ochr yn ochr â'r Bil ac anogwyd yr aelodau i adolygu hyn a nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth neu feysydd a allai fod yn aneglur.
Ar hyn o bryd mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn llunio gwaith cyfathrebu wedi'i dargedu ar gyfer y gwahanol grwpiau y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt, i'w rhannu ag aelodau i roi sylwadau arnynt tuag at ddiwedd Haf 2024. Bydd cyfathrebu a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yn arbennig o bwysig.
Cofrestr risg:
Roedd Cofrestr Risgiau Bwrdd y Rhaglen wedi'i diwygio i gyd-fynd â thempled cofrestr risg safonol Llywodraeth Cymru.
Roedd y risgiau a nodwyd cyn hyn wedi'u cyfuno i themâu allweddol er mwyn caniatáu adolygiadau mwy trylwyr a rheolaidd gan y bwrdd.
Roedd risgiau targed wedi'u cynnwys i ddangos y lefel dderbyniol o risg neu lefel y risg y byddai'n rhaid ei oddef.
O ystyried y newidiadau a wnaed i'r fersiwn ddiweddaraf, anogwyd aelodau i adolygu'r fersiwn flaenorol a'r fersiwn newydd cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd Rhaglen lle byddai sgwrs fanwl a sylweddol yn cael ei chynnal.