Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun grant newydd i helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant cyfalaf newydd gwerth £10 miliwn i helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru. Mae'r fenter hon yn gam pwysig at wireddu amcan Cymru o gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 gan roi'r grym i gymunedau i reoli ynni eu dyfodol.
Mae'r cynllun grant yn agored i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig. Caiff ymgeiswyr eu hannog i ddatblygu prosiectau arloesol sy'n integreiddio cynhyrchu ynni, storio ynni a seilwaith ynni yn eu hardaloedd, i wneud systemau ynni yn fwy effeithlon ac i sicrhau manteision lleol, gan gynnwys costau ynni is.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Ynni:
Mae'r cynllun grant £10 miliwn hwn yn rhan ganolog o'n hymdrechion i ddatgarboneiddio ynni Cymru a sicrhau bod ein cymunedau'n profi manteision y pontio hwn.
Gyda chostau ynni yn cyfrannu at yr argyfwng costau byw, gall y prosiectau hyn leihau'r angen am seilwaith ynni mawr a datblygu system ynni lleol fwy gwydn.
Drwy roi prosiectau SLES ar waith ledled Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o raddfa'r manteision y gellir eu sicrhau i gymunedau. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu Ynni Cymru i fireinio ac ehangu'r systemau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar draws y wlad.
Dywedodd Mr Skates:
Rwy'n annog partïon sydd â diddordeb i fanteisio ar y cyfle hwn a gwneud cais am y cyllid. Gyda'n gilydd, gallwn arwain y ffordd at greu Cymru wyrddach a thecach.
Cafodd Ynni Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2023, a nod y rhaglen yw sicrhau bod buddion cynhyrchu ynni yn cael eu cadw'n lleol, gan hyrwyddo perchnogaeth leol o asedau ynni adnewyddadwy integredig mewn dwylo lleol fel strategaeth ganolog wrth bontio i economi carbon isel.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2024 i 2025.