Neidio i'r prif gynnwy

Yr Wythnos Dim Gwastraff hwn (2–6 Medi 2024) mae Benthyg Cymru yn hyrwyddo'r mudiad 'Paid Prynu—Benthyg Bob Tro'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru a Benthyg Cymru yn annog pobl ledled Cymru i ddod o hyd i'w Llyfrgell Pethau agosaf – canolfan gymunedol lle gall pobl fenthyg eitemau sydd eu hangen arnyn nhw, gan rannu adnoddau sydd eisoes yn eu hardal leol.

Yn hytrach na phrynu eitemau – sy'n gallu bod yn gostus a chyfrannu at annibendod mewn cartrefi a gwastraff tirlenwi – mae benthyg yn cynnig dewis arall cynaliadwy, sy'n caniatáu i bobl fenthyg yn lle prynu ac arbed arian. 

Mae'r ymgyrch genedlaethol yn gofyn i gymunedau ledled Cymru feddwl cyn prynu: Mae Benthyg Cymru yn rhagweld Cymru lle mae gan bawb fynediad i Lyfrgell Pethau, ac mae'r sefydliad yn gweithio i sefydlu rhwydwaith ledled Cymru i sicrhau bod pawb ledled y wlad yn gallu benthyg yr hyn sydd ei angen arnyn nhw'n gyflym, yn hawdd ac yn fforddiadwy.

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, â RE:MAKE yng Nghasnewydd (cartref un o Lyfrgelloedd Pethau Benthyg Cymru), a chael profiad uniongyrchol o  ba mor hawdd yw cofrestru a benthyg o gatalog helaeth o eitemau defnyddiol megis golchwyr pwysau, glanhawyr carped ac offer gwersylla. 

Dywedodd: 

Mae gan fentrau fel Benthyg Cymru ran bwysig i'w chwarae wrth symud Cymru tuag at economi fwy cylchol, gwarchod adnoddau ac arafu gweithgynhyrchu diangen.

Dim benthyg offer yw unig bwrpas mentrau sy'n cael eu gyrru gan y gymuned, fel Llyfrgelloedd Pethau –  maen nhw hefyd yn ymwneud ag adeiladu cymuned, rhannu syniadau, a chefnogi ein gilydd.

Mae Becky Harford, cyd-sylfaenydd Benthyg Cymru, yn egluro cenhadaeth y sefydliad: 

Yn syml, mae gennyn ni ormod o bethau! Rhaid inni rannu'r pethau hynny. Nid oes angen dril ar bawb yn eich cymdogaeth, nid oes gan bawb le i storio pethau, ac ni all pawb fforddio prynu'r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Drwy fenthyca, gallwn ni helpu ein gilydd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae llai o bethau'n golygu llai o effaith ar y blaned.

Ers ei sefydlu yn 2017, mae Benthyg Cymru wedi helpu i sefydlu 25 Llyfrgell Pethau ledled Cymru, o Gaerdydd i Fethesda, ac mae llawer mwy'n cael eu datblygu. Ers 2020 mae pobl ledled Cymru wedi benthyg 13,000 o eitemau! – o offer ymarferol DIY i offerynnau ac offer crefftio i ddysgu hobïau newydd. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru: 

Mae Caffi Trwsio Cymru yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Paid Prynu—Benthyg Bob Tro! Mae caffis trwsio a llyfrgelloedd pethau'n gweithio'n wych gyda'i gilydd, gan fod angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar lawer o'r eitemau sy'n cael eu rhoi ar fenthyg, ac weithiau mae angen eu trwsio – rhywbeth y gall ein  gwirfoddolwyr medrus eu gwneud.

Mae siop RE:MAKE Casnewydd yn enghraifft arloesol o sut y gall dod â thrwsio a benthyg at ei gilydd greu adnodd cymunedol ffyniannus, gan gyflymu'r newid i'r economi gylchol wrth gefnogi pobl leol.

Mae Benthyg Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i ddatblygu eu model Llyfrgell Pethau eu hunain, gan ei deilwra i anghenion lleol.

Maen nhw hefyd yn cynnal eu prosiectau eu hunain fel RE:MAKE – y siop drwsio ac ailddefnyddio gyntaf ar y stryd fawr yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chaffi Trwsio Cymru. Yn wahanol i gorfforaethau, nid yw Benthyg Cymru yn bwriadu masnachfreinio na gwneud elw o Lyfrgelloedd Pethau. Yn hytrach, eu nod yw hwyluso'r broses sefydlu ar gyfer cymunedau sydd â diddordeb yn y model cynaliadwy hwn.