Neidio i'r prif gynnwy

Mae Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi penodi Aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr Aelod sydd newydd ei phenodi yw Dr Lowri Cunnington Wynn, a fydd yn gwasanaethu fel Aelod o 1 Medi 2024 – 31 Awst 2028.

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae Lowri wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu Troseddeg Werdd, gyda diddordeb mewn materion amgylcheddol a gwyrdd. Mae hi wedi cyhoeddi'n benodol ar gyfiawnder amgylcheddol ac ecolegol, effaith yr argyfwng hinsawdd ar yr iaith Gymraeg a sut y gall mentrau llawr gwlad helpu i adeiladu dyfodol gwell.

Erbyn hyn, mae hi’n gweithio fel Uwch Ymgynghorydd Ymchwil i gwmni Wavehill, yn cynllunio asesiadau effaith, prosiectau ymchwil penodol a chynnal ymgynghoriadau cymunedol yn seiliedig ar amryw o bynciau gwahanol. Yn ddiweddar mae Lowri wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg ar gyfer Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gyda'r nod o ddatblygu polisïau'r dyfodol i gynnal y Gymraeg yn y cymunedau hynny a ystyrir yn draddodiadol yn gadarnleoedd iddi. Mae'r rôl hon yn tynnu sylw at effaith sylweddol datblygiad cymunedol ac adeiladu gallu cymunedol, ar oroesiad y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, mae Lowri bellach yn byw yn Llanfrothen ac ynghyd â'i chefndir academaidd, mae hi’n angerddol am weithio o fewn ei chymuned. Mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau yn ei milltir sgwâr gan gynnwys edrych ar effaith twristiaeth ar y cymunedau llechi ôl diwydiannol a’r potensial ar gyfer twristiaeth gymunedol fwy cynaliadwy.

Telir £5,265 y flwyddyn i Aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan adlewyrchu ymrwymiad amser o o leiaf 44 diwrnod y flwyddyn. 

Cwblhawyd y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Mae Dr Lowri Cunnington Wynn wedi datgan nad yw hi wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd nid oes ganddi unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill.