Mae datblygiad Ardal y Dywysoges yn trawsnewid adeilad gwag, segur yn fannau manwerthu a swyddfeydd o ansawdd uchel yng nghanol dinas Abertawe.
![Ardal y Dywysoges](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2024-08/Building.jpg?itok=vvnVO9gM)
Mae'r llawr gwaelod yn cynnwys gofod ar gyfer uned manwerthu hyblyg gyda thri llawr uwchben sy'n darparu swyddfeydd moethus.
Mae man ar gyfer storio beiciau ar y safle a gardd ar y to hefyd yn cael eu darparu a byddant yn hygyrch i feddianwyr.
Mae'r lleoliad hefyd yn annog teithio llesol gyda chysylltiadau trafnidiaeth Abertawe o fewn pellter cerdded.
Darparwyd cyllid grant gwerth dros £2.6m drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant, â'r safle:
Mae trawsnewid adeiladau gwag a segur a dechrau eu defnyddio eto yn yr 21ain ganrif yn un o brif gonglfeini ein Rhaglen Trawsnewid Trefi.
Bydd yr adeilad yn cynnig pedwar llawr o ofod manwerthu a gofod swyddfa gwych a ddatblygwyd i'r safon uchaf ac a fydd yn cefnogi twf economaidd lleol.
Dim ond un o blith y prosiectau adfywio sydd ar y gweill yn Abertawe ar hyn o bryd sy'n derbyn cymorth Trawsnewid Trefi yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y mannau unwaith y bydd y gwaith datblygu'n cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:
Mae trawsnewid gwerth £1bn Abertawe yn parhau i symud ymlaen ar raddfa a chyflymder.
Mae Ardal y Dywysoges eithriadol, ynghyd â llawer o ddatblygiadau eraill, yn dangos sut mae’r sector preifat yn dilyn y cyngor a’r sector cyhoeddus i gefnogi’r rhaglen hon yn hyderus gyda buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd.
Mae positifrwydd ein sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i greu mwy o gartrefi, swyddfeydd, mannau manwerthu a chynigion hamdden yn adeiladu dyfodol cynaliadwy mawr i Abertawe, gan ddod â swyddi, cyfleoedd ac optimistiaeth.