Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1. Mae'r byd caffael yng Nghymru wedi newid yn sgil tair deddf a fydd yn effeithio ar y ffordd y mae'r sector cyhoeddus yn caffael yng Nghymru. Y tair deddf yw:

2. Yn ogystal â'r meysydd deddfwriaethol hyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCDC) yn cynnig fframwaith cyffredinol ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru.

3. Bydd y canllaw hwn yn rhoi disgrifiad bras o bob un o'r deddfau uchod ac o ran y Ddeddf Caffael, bydd hefyd yn nodi unrhyw wahaniaethau penodol yng Nghymru.

Deddf Caffael 2023

4. Pan ddaw'r ddeddf hon i rym, bydd yn disodli'r ddeddfwriaeth gaffael bresennol yng Nghymru, sef Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (PCR), Rheoliadau Contract Cyfleustodau 2016 (UCR), a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 (CCR). Gweler canllawiau ar wahân ar drefniadau trosiannol ac arbed i benderfynu sut y bydd caffaeliadau sy'n pontio dyddiad gweithredu'r Ddeddf yn cael eu cyflawni a pha ddeddfwriaeth fydd yn berthnasol.

5. Bydd y Ddeddf yn rheoli'r ffordd y mae Awdurdodau Cymreig Datganoledig (DWAs) (fel y'u diffinnir yn adran 111 o'r Ddeddf Caffael) yn caffael contractau sy'n dod o dan gwmpas y Ddeddf gan sicrhau cydymffurfiaeth â Chytundebau. Rhyngwladol.

6. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (Rheoliadau Cymru), sydd o dan y Ddeddf ac sy'n darparu'r manylion sydd eu hangen er mwyn i'r gyfraith weithredu'n ymarferol a chael ei gorfodi.

Gwahaniaethau i Gymru

7. Mae'r darpariaethau o fewn y Ddeddf Gaffael a Rheoliadau Cymru yn berthnasol yn bennaf i DWAs a rhai nad ydynt yn DWAs (megis Awdurdodau Contractio Lloegr) yn yr un modd, fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau pwysig. Nodir y rhain isod:

Deddf Caffael adrannau 53(4) a 77(3)

Nid oes yn rhaid i DWAs gyhoeddi contractau cyhoeddus neu gontractau wedi'u haddasu sy'n werth mwy na £5m.

Mae gan Gymru randdirymiad sy'n dileu'r gofyniad hwn ac eithrio pan fydd DWA yn dyfarnu contract yn unol â threfniant caffael a gadwyd yn ôl (heb ei ddatganoli). Er enghraifft, o dan fframwaith a ddyfarnwyd gan Wasanaethau Masnachol y Goron (CCS).

Deddf Caffael Adran 14

Mae gofyn i DWAs roi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn hytrach na'r Datganiad Polisi Caffael Cenedlaethol (NPPS). Lle ceir cydweithio trawsffiniol, bydd y datganiad polisi sy'n berthnasol yn dibynnu ar bwy yw'r awdurdod sy'n arwain / awdurdod caffael canolog.

Rheoliadau Cymreig adrannau 28 i 31

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn gofyn i DWAs gyhoeddi enwau cyflenwyr aflwyddiannus mewn Hysbysiadau Dyfarnu Contractau ar gyfer contractau sy'n werth mwy na £5m, oni bai bod y contract wedi'i roi o dan drefniant caffael a gadwyd yn ôl (heb ei ddatganoli). Fodd bynnag, bydd angen iddo ddarparu'r wybodaeth hon at ddibenion casglu a dadansoddi data. Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllaw ar wahân ar hyn.

Rheoliadau Cymreig adran 26

Bydd angen i ACD gadarnhau bod asesiad gwrthdaro wedi'i baratoi a'i adolygu pan fydd yn cyhoeddi hysbysiad addasu marchnad deinamig.

Rheoliadau Cymreig adran 5

Er mwyn cyflawni'i ymrwymiad i gyhoeddi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth ar y Platfform Digidol Canolog (CDP), rhaid i DWAs gyflwyno'r hysbysiad, dogfen neu wybodaeth ar Blatfform Digidol Cymru, GwerthwchiGymru oni bai nad yw ar gael. Bydd GwerthwchiGymru, yn ei dro, yn rhoi'r data i'r CDP a bydd hefyd yn eu cyhoeddi ar GwerthwchiGymru ei hun (ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ar y CDP).

Deddf Caffael Adran 85

Ar gyfer contractau a reoleiddir sydd o dan y trothwy, caiff DWAs eu cyfyngu ar nifer y tendrau a gyflwynir, hynny ar sail asesiad o addasrwydd y cyflenwr i gyflawni'r contract (h.y. cam yr Holiadur Cyn-Cymhwyso).

Mae contract a reoleiddir sydd o dan y trothwy yn golygu contract sydd o dan y trothwy nad yw'n gontract esempt, yn gontract consesiwn neu'n gontract cyfleustodau.

Rheoliadau Cymreig adran 37

Bydd angen rhifau adnabod unigryw ar gyfer hysbysiad manylion contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy.

Mae contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy yn gontract a reoleiddir sydd o dan y trothwy sy'n werth mwy na £30,000 (gan gynnwys TAW) ar gyfer contractau i'w dyfarnu gan DWA. Fodd bynnag, os yw DWA hefyd yn awdurdod llywodraeth ganolog (CGA) ac yn dyfarnu contract hysbysadwy o dan y trothwy o dan drefniant caffael a gadwyd yn ôl (heb ei ddatganoli) (er enghraifft pan fo CGA wedi defnyddio fframwaith CCS), yna mae'r gwerth yn uwch na £12,000 (gan gynnwys TAW).

Ceir rhestr o CGAs yn Atodlen 2 o Reoliadau Cymru.

8. Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn a ddaw i rym ar yr un pryd â'r Ddeddf a'r Rheoliadau Cymreig y cyfeirir atynt uchod. Bydd y rheoliadau hyn yn diweddaru'r symiau trothwy a restrir yn Atodlen 1 o'r Ddeddf yn unol â throthwyon y GPA, y manylir arnynt yn PPN 11/23; a bydd yn rhoi manylion ar sut y dylid cyfrifo'r canrannau sydd wedi'u cynnwys yn Atodlen 2 y Ddeddf (Contractau Esempt), er y dylid nodi mai bwriad y polisi yw cynnal effaith yr esemptiadau yn y PCR a'r UCR.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

9. Mae'r dyletswyddau caffael yn y Ddeddf SPPP o ran bod yn gymdeithasol gyfrifol, yn gofyn i gyrff cyhoeddus wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trwy gaffael mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfrifol. Mae'r dyletswyddau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn ategu'r dyletswyddau llesiant presennol y mae cyrff cyhoeddus penodol eisoes yn ddarostyngedig iddynt o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn yr adran hon o'r canllawiau, ystyr "corff cyhoeddus" yw person a restrir fel "corff cyhoeddus" yn adran 6(1) Deddf Llesiant 2015, ond at ddibenion adrannau 16 ac 18 nid yw'n cynnwys Gweinidogion Cymru.

10. Bydd y Ddeddf SPPP a'r rheoliadau sy'n rhan o'r Ddeddf yn dod i rym ar adeg pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol yng ngoleuni gweithgareddau diwygio caffael ehangach.

11. Mae'r rhestr o Awdurdodau Contractio y mae'n rhaid iddynt ddilyn y dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol yn y Ddeddf SPPP yn wahanol i'r rhai a ddiffinnir fel awdurdodau Cymreig datganoledig yn y Ddeddf Caffael. Ystyr "awdurdod contractio" yn y Ddeddf SPPP yw corff, deiliad swydd neu berson arall a restrir yn Atodlen 1 o'r Ddeddf honno.

12. Gall cyrff cyhoeddus ac awdurdodau contractio a ddaw o dan y Ddeddf SPPP ddefnyddio'r amser hwn i baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw yn ei sgil.

13. Rhestrir isod grynodeb o ofynion allweddol y Ddeddf sy'n gysylltiedig â chaffael:

Adran 24

Dyletswydd i gaffael mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol. Mae hyn yn golygu bod gofyn i awdurdod contractio geisio gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy gaffael, cyfrannu at nodau llesiant a gosod a chyhoeddi amcanion. Mae’n gymwys i bob math o gaffael.

Adran 25

Ar gyfer contractau adeiladu mawr (dros £2m), rhaid i awdurdodau contractio roi sylw i gymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol, ystyried eu cynnwys mewn contractau perthnasol, a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith os ydynt wedi'u cynnwys. (Noder Mae dyletswydd hysbysu yn berthnasol os gwneir penderfyniad i beidio â chynnwys y cymalau, gweler isod).

Adran 26

Ar gyfer contractau allanoli gwasanaethau, rhaid i awdurdodau contractio ddilyn y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu a'r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol, ystyried eu cynnwys mewn contractau perthnasol, a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith os ydynt wedi'u cynnwys. (Noder Mae dyletswydd hysbysu yn gymwys os gwneir penderfyniad i beidio â chynnwys y cymalau, gweler isod).

Adrannau 28 a 34

Os oes cymalau ynghylch gwaith/gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr neu gontract allanoli gwasanaethau, yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod contractio gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu cyflawni pan fydd y contractwr yn llofnodi is-gontract gyda gweithredwr economaidd arall.

Adrannau 29 a 35

Rhaid i'r awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os nad yw cymalau ynghylch gwaith/gweithlu cyhoeddus cymdeithasol i'w cynnwys neu wedi'u cynnwys yn y contractau perthnasol, neu os nad oes proses i sicrhau bod y rhwymedigaethau mewn cymalau o'r fath yn cael eu cyflawni yn y contract/is-gontract. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y rhesymau. Os nad ydynt yn fodlon â'r rhesymau, gallant orchymyn bod yr awdurdod contractio'n cynnwys y cymalau. Bydd crynodeb o ganlyniad ddadansoddiad Gweinidogion Cymru yn cael ei gyhoeddi.

Adran 38

Rhaid i awdurdod contractio lunio strategaeth (“strategaeth gaffael”) sy’n nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cynnal proses gaffael gyhoeddus.

Adran 39

Rhaid i'r awdurdod contractio sydd wedi dyfarnu contractaupenodol yn ystod blwyddyn ariannol baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar waith caffael y sector cyhoeddus sy'n nodi sut y mae wedi cyflawni ei amcanion. Bydd yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr adroddiadau blynyddol yn cael ei disgrifio mewn rheoliadau.

Adran 40

Rhaid i awdurdod contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr o gontractau. Bydd y contractau y bydd angen eu cofrestru yn cael eu diffinio mewn rheoliadau.

Rheoliadau Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024

14. Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf HSP yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd, sy'n cael eu darparu ar ran y GIG yng Nghymru, yn cael eu caffael.

15. Bydd y rheoliadau a wneir o dan Ddeddf HSP yn newid y ffordd y caiff 'awdurdodau perthnasol' (fel y'u diffinnir gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 - mae adran 10A(9) yn diffinio awdurdod perthnasol fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru) gaffael rhai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, drwy gyflwyno trefn gaffael newydd a fydd yn cynyddu hyblygrwydd, yn lleihau biwrocratiaeth, ac yn annog cydweithio a phartneriaethau. Mae'r newidiadau a gynigir i drefn gaffael y gwasanaeth iechyd yn rhannol mewn ymateb i gyflwyno Cyfundrefn Dewis Darparwyr (PSR) yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yn Lloegr.

16. Cafodd Deddf HSP y Cydsyniad Brenhinol ar 05 Chwefror 2024. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar egwyddorion gweithredol trefn gaffael newydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Bydd adborth rhanddeiliaid yn bwydo cyfundrefn, rheoliadau a chanllawiau statudol PSR Cymru pan ddaw gan nodi'r camau y bydd angen i awdurdodau perthnasol eu dilyn wrth roi'r drefn gaffael newydd ar waith.

17. Y bwriad yw gosod rheoliadau PSR Cymru fydd yn sail i drefn gaffael newydd y gwasanaethau iechyd gerbron Senedd Cymru yn y misoedd nesaf. O gael cytundeb Senedd Cymru i'r rheoliadau, cynigir y bydd trefn PSR newydd Cymru yn dod i rym yn ddiweddarach eleni (2024).

Sut i roi PSR Cymru ar waith

18. Os yw awdurdod perthnasol fel y'i diffinnir gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu contractau ar gyfer 'gwasanaethau iechyd' sy'n dod o dan un neu fwy o godau'r Eirfa Gaffael Gyffredin (CPV) a nodir yn rheoliadau PSR Cymru sydd ar ddod, cynigir bod rhaid iddo ddefnyddio'r prosesau caffael a nodir yn y drefn PSR newydd ar gyfer Cymru. Yn ogystal, bydd y rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer caffaelcymysg lle gellir caffael nwyddau a gwasanaethau eraill sy'n 'gysylltiedig â' gwasanaeth iechyd perthnasol o dan drefn PSR Cymru o dan rai amgylchiadau, a nodir yn y rheoliadau.

19. Ar y llaw arall, os nad yw'r gwasanaeth iechyd wedi'i restru yn y rhestr o godau CPV yn rheoliadau PSR Cymru, yna bydd angen i'r awdurdod perthnasol ddilyn y Ddeddf Caffael.

20. Waeth a yw awdurdod contractio neu awdurdod perthnasol yn caffael o dan reoliadau'r Ddeddf Caffael neu reoliadau PSR Cymru, efallai y bydd yn dal gofyn iddynt gydymffurfio â'r egwyddorion caffael ehangach a'r meini prawf allweddol, megis y Dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyfrifol o dan Ddeddf SPPP, y Ddeddf Lesiant, ac ati.

21. Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i'w rhoi ar waith i'w gweld yn y canllawiau statudol ar gyfer PSR Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

22. Mae'r Ddeddf Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effeithiau hirdymor eu penderfyniadau, i weithio gyda phobl, cymunedau a chyda'i gilydd yn well ac i osgoi problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn rhoi cyfle i drawsnewid y ffordd y mae caffael yn cael ei gynllunio a'i wneud yng Nghymru. Trwy symud o ddull sy'n cael ei yrru gan broses tuag at ddull sy'n seiliedig ar ganlyniadau, gall hyn sicrhau bod gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

23. Mae Deddf Llesiant yn rhoi saith nod llesiant ar waith ac yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r cyrff cyhoeddus sy'n dod o dan y Ddeddf Llesiant weithio i wireddu'r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.

24. Dyma’r saith nod llesiant:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â  diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n  gyfrifol ar lefel fyd-eang
Image

 

25. Mae'r dolenni canlynol yn mynd â chi at wybodaeth allweddol:

Gofynion posibl eraill

26. Dylech hefyd ystyried a all unrhyw un o Nodiadau Polisi Caffael Cymru fod yn berthnasol i'ch proses gaffael. Er enghraifft, mae WPPN 3/21 yn annog defnyddio cyfrifon banc prosiectau (PBAs) fel ffordd o ddatrys arferion talu gwael yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus; ac mae WPPN 04/21 yn darparu'r canllawiau ar gyfer defnyddio cyfrifon banc prosiectau.

27. Mae Llywodraeth Cymru'n datblygu erfyn digidol ar gyfer mapio polisi, a fydd, drwy holiadur byr, yn eich galluogi i benderfynu pa bolisïau fydd yn berthnasol i'ch caffaeliad a'r camau priodol y dylech eu cymryd.