Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy ar gyfer adfer natur. Bwriad y dull hwn yw cynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael fel y gallwn fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfwng natur a'r pwysau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth - gan gynnwys newid hinsawdd, llygredd, a rheolaeth anghynaliadwy ar adnoddau naturiol. 

Gan gydnabod y pryderon sy'n bodoli am gyllid cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyfres o egwyddorion. Bwriad yr egwyddorion hyn yw sicrhau bod unrhyw gyllid yn ddibynadwy iawn, o fudd i gymunedau lleol ac yn ymgysylltu â nhw ac yn osgoi newid defnydd tir amhriodol a gwyrddgalchu. Maent wedi'u cynllunio i fod yn rhan o ddull ehangach gan Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd sy’n galluogi ar gyfer marchnadoedd gwasanaethau ecosystem o ansawdd uchel wedi'u teilwra i anghenion penodol Cymru a’i chyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. 

Sut i ymateb

Ymateb drwy lenwi'r ffurflen ar-lein neu gwblhau'r holiadur a'i hanfon at: sustainable.finance@llyw.cymru

Os ydych yn bwriadu ymateb yn ysgrifenedig, anfonwch ffurflenni wedi'u cwblhau at:

Is-adran Morol a Bioamrywiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: sustainable.finance@llyw.cymru

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Consultation on Draft Sustainable Investment Principles.

Crynodeb

Mae natur yn dirywio'n fyd-eang ar gyfraddau sy’n ddigynsail mewn hanes dynol ac mae cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu. Bydd cyrraedd targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang a'r targedau hynny sydd i'w gosod ar y lefel genedlaethol yn gofyn am gamau parhaus a thrawsnewidiol. 

Bydd cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer adfer natur yn gofyn am lefelau sylweddol uwch o gyllid. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth fel arfer yn cael ei hariannu drwy gyllid cyhoeddus, gan gynnwys cynlluniau grant a thrwy sefydliadau fel cyrff anllywodraethol / rheolwyr tir gan ddefnyddio incwm o roddion / a enillwyd. Mae cynyddu ac amrywio’r cyllid sydd ar gael yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys rhoi dyngarol, arian cymunedol a buddsoddiad preifat. 

Cefndir

Bydd cynyddu maint a chyflymder y camau gweithredu i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a chyrraedd nodau byd-eang erbyn 2030 yn gofyn am gynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys cyllid gan y sector preifat, mentrau dan arweiniad y gymuned a rhoddion dyngarol. Daeth Adroddiad y Bwlch Cyllid ar gyfer Natur y DU (ar hive.greenfinanceinstitute.com) i'r casgliad bod Cymru yn wynebu bwlch ariannol o £5-7 biliwn ar gyfer targedau sy'n gysylltiedig â natur dros y 10 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys y cyllid sydd ei angen i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, yn ogystal â meysydd eraill fel gwella ansawdd dŵr a lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn nodi bod atebion sy'n seiliedig ar natur yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Mae gan farchnadoedd ar gyfer natur, a'r gwasanaethau amgylcheddol y mae natur yn eu darparu, y potensial i harneisio galluogrwydd ac adnoddau'r sector preifat i ddefnyddio cyfalaf yn effeithlon ac annog yr arloesedd sydd ei angen. Ond mae'n rhaid i farchnadoedd amgylcheddol gael eu cynllunio'n dda a'u llywodraethu’n dda er mwyn atal 'gwyrddgalchu' a sicrhau eu bod yn dangos uniondeb, yn cyflawni gwelliant amgylcheddol go iawn ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac o fudd iddynt.

Cynhyrchodd Finance Earth, Eunomia ac RSPB Cymru adroddiad i Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad model cyflawni cynaliadwy ar gyfer adfer natur yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i:

  • gefnogi llwybrau buddsoddi trwy ddarparu cymorth parodrwydd buddsoddi "o'r gwaelod i fyny" a chyfalaf buddsoddi ad-daladwy consesiynol/colled gyntaf "o'r brig i lawr"
  • sefydlu egwyddorion ar gyfer ymgysylltu â'r farchnad gwasanaethau ecosystem dibynadwy iawn a chod "Gorau-yn-y-Dosbarth" yng Nghymru
  • egluro rôl y sector cyhoeddus wrth gefnogi marchnadoedd preifat drwy ddiwygio ac ailgynllunio cynlluniau cymhorthdal amgylcheddol.

Y prif wasanaethau ecosystem a'r marchnadoedd cysylltiedig a nodwyd fel blaenoriaeth ar gyfer adfer natur yng Nghymru yw:

  • lleihau a gwaredu allyriadau carbon deuocsid, o greu coetiroedd ac adfer mawndir, yn seiliedig ar werthu credydau carbon ym marchnad wirfoddol y DU
  • gwasanaethau ecosystem wedi’u lleoli ar fferm, yn seiliedig ar werthu canlyniadau amgylcheddol a gynhyrchir o arferion ffermio mwy adfywiol a chyfeillgar i natur, fel atafaelu carbon pridd a gwrychoedd
  • rheoli llifogydd yn naturiol, yn seiliedig ar werthu canlyniadau lleihau perygl llifogydd sy'n deillio o Atebion sy'n Seiliedig ar Natur, fel cynlluniau ail-alinio wedi’i reoli a gwlyptiroedd
  • ansawdd dŵr, yn seiliedig ar werthu credydau maetholion
  • bioamrywiaeth, yn seiliedig ar werthu unedau bioamrywiaeth neu gredydau a gynhyrchwyd o brosiectau creu cynefinoedd ac adfer ar y tir ac yn yr amgylchedd morol
  • hamdden, yn seiliedig ar incwm a gynhyrchir o weithgareddau sy'n seiliedig ar natur a thwristiaeth.

Mae crynodeb gweithredol yr adroddiad hwn ar gael yn Atodiad 2. 

Atebion sy'n seiliedig ar natur

Wrth ddatblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn:

  • datrysiadau sy'n seiliedig ar natur
    mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig Rhaglen Amgylcheddol y Cenhadloedd Unedig yn diffinio ateb sy'n seiliedig ar natur (ar wedocs.unep.org) fel camau i ddiogelu, rheoli ac adfer ecosystemau naturiol neu rai sydd wedi'u haddasu mewn ffordd gynaliadwy, sy'n mynd i'r afael â heriau cymdeithasol yn effeithiol ac yn addasol, ac ar yr un pryd yn darparu llesiant dynol a buddion bioamrywiaeth. Fe’i mabwysiadwyd gan yr IUCN yng Nghyngres Cadwraeth y Byd 2016, a'r 
  • gwasanaethau ecosystem
    mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (ar leap.unep.org) yn defnyddio diffiniad Asesiad Ecosystem y Mileniwm ar gyfer gwasanaethau ecosystem sy'n nodi mai gwasanaethau ecosystem yw'r buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol a ddaw o ecosystemau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u rhannu'n bedwar categori; gwasanaethau darparu, rheoleiddio, diwylliannol a chefnogi.

y mae'r rhain yn eu cynhyrchu. Mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn nodi bod datrysiadau sy'n seiliedig ar natur yn hanfodol i wrthdroi effeithiau dinistriol colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd a diraddio tir yn fyd-eang. Mae angen i atebion sy'n seiliedig ar natur fod wrth wraidd addasu yn sgil newid hinsawdd, yn enwedig o ystyried y rôl y gall mawndiroedd, priddoedd, coedwigaeth, morfa heli a charbon glas ei chwarae wrth gyflawni sero net. 

Mae enghreifftiau o atebion sy'n seiliedig ar natur a'r gwasanaethau ecosystem y maent yn eu darparu yn cynnwys:

  • creu coetiroedd ac adfer mawndir sy'n atafaelu allyriadau carbon deuocsid (CO2)
  • adfer gwlyptiroedd sy'n gweithredu fel dull o reoli llifogydd yn naturiol, gan leihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr
  • adfer morwellt, morfa heli a chynefinoedd arfordirol eraill sy'n gallu atafaelu carbon, gwella ansawdd dŵr a bod o fudd i fioamrywiaeth
  • mae arferion ffermio adfywiol a chyfeillgar i natur o fudd o ran cyflwr pridd, ac mae cynefinoedd fel gwrychoedd yn cynyddu bioamrywiaeth a charbon cymynrodd.

Wrth ddatblygu'r dull newydd hwn bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar gyllid cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur. Mae hyn yn cynnwys:

  • darparu cyllid drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur i gefnogi meithrin gallu gyda ffocws ar barodrwydd buddsodd
  • trwy Bartneriaeth yr Arfordir a'r Moroedd, gweithiodd y grŵp Buddsoddiad Glas gyda phartneriaid gan gynnwys CGGC, RSPB a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i ddatblygu cronfa gwella amgylcheddol morol (MARINE fund Cymru)
  • archwilio dichonoldeb llwyfan masnachu maetholion.

Y sefyllfa bresennol

Mae'r gwaith hyd yma ar gyllid cynaliadwy wedi bod yn gyfyngedig, yn bennaf oherwydd pryderon am gyfranogiad y sector preifat wrth adfer natur. Mae'r ffocws wedi bod ar ddatblygu sylfaen ar gyfer y gwaith hwn gan gynnwys ceisio'r cyngor technegol y cyfeirir ato uchod, ac ymgysylltu â datblygiadau sy'n digwydd ar lefel y DU (gweler yr adran isod) pan fo gennym y gallu i wneud hynny. Rydym wedi:

  • darparu cyllid drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur i gefnogi meithrin gallu gyda ffocws ar barodrwydd buddsoddi
  • sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen cyllid cynaliadwy sydd wedi cydgynhyrchu egwyddorion buddsoddi cyfrifol drafft
  • trwy Bartneriaeth yr Arfordir a'r Moroedd, gweithiodd y grŵp Buddsoddiad Glas gyda phartneriaid gan gynnwys CGGC, RSPB a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i ddatblygu cronfa gwella amgylcheddol morol (MARINE fund Cymru) sy'n dysgu o fodel a ddatblygwyd yn yr Alban (ar smeef.scot).
  • datblygu mentrau peilot posibl (i'w cyflwyno fel rhan o MA sydd i ddod)

Mae adroddiad ar ddichonoldeb platfform masnachu maetholion ar gyfer ansawdd dŵr hefyd wedi'i gynhyrchu mewn ymateb i'r camau sy'n cefnogi heriau Ffosffad Afonydd ACA.

Mae buddsoddiad sector preifat mewn adferiad natur eisoes yn digwydd yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid amgylcheddol yn cymryd rhan weithredol mewn cyllid cynaliadwy ac maent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfeiriad ac i:

  • nodi'r rhwystrau i fuddsoddiad preifat ar raddfa fawr ym maes adfer natur a sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn 
  • sefydlu fframwaith i sicrhau bod marchnadoedd amgylcheddol yn ddibynadwy iawn
  • darparu cymorth ar gyfer datblygu prosiectau parodrwydd i fuddsoddi, safonau a risg ar gyfer marchnadoedd amgylcheddol
  • datblygu strategaeth cyllid natur
  • egluro’r sefyllfa i Gymru yng nghyd-destun egwyddorion a marchnadoedd y DU.

Ymrwymiadau

Yn ystod sesiwn graffu cyllideb CCEI, ymrwymodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd i gyhoeddi egwyddorion ar fuddsoddiad cynaliadwy ar gyfer ymgysylltu / ymgynghori cyn yr Haf. Mae'r gwaith paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad yn parhau ac rydym yn gobeithio cyhoeddi'r egwyddorion drafft ar ein gwefan dros y mis nesaf. 

Datblygiadau'r DU

Mae Llywodraeth y DU a'r Alban yn symud ymlaen ar frys, ac mae llu o fentrau eisoes yn cael eu datblygu ar farchnadoedd cyllid cynaliadwy ac ecosystemau yn fwy eang. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Safonau Buddsoddi Natur, sy’n cael ei harwain gan y Sefydliad Safonau Prydeinig a’i chefnogi gan Defra. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i oresgyn rhwystrau i fuddsoddi mewn natur a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i gyflymu cynnydd ar nodau amgylcheddol fel gwrthdroi colli bioamrywiaeth a chyflawni sero net.

Yn ddiweddar, mae BSI wedi gofyn am farn ar egwyddorion a fframwaith trosfwaol i:

  • greu'r amodau ar gyfer cysondeb a dibynadwyedd uchel ar draws pob marchnad natur
  • cefnogi marchnadoedd natur i sicrhau canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol
  • amddiffyn rhag peryglon gweithgarwch mewn marchnadoedd natur yn arwain at ganlyniadau anfwriadol negyddol
  • cefnogi darparu gwybodaeth o farchnadoedd natur sy'n atal, a/neu'n helpu i ddarganfod, gwyrddgalchu

Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban egwyddorion buddsoddi cyfrifol (ar gov.scot) ac maent wedi datblygu ffrydiau gwaith amrywiol i ddatblygu a chefnogi cyllid cynaliadwy. 

Egwyddorion

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar gyfres o egwyddorion buddsoddi cyfrifol i fframio ein dull gweithredu a sicrhau bod buddsoddiad yn ategu ymrwymiadau a gofynion cyfreithiol presennol gan gynnwys:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 - Bydd cefnogi natur i adfer yn cyfrannu at gyflawni nifer o'r nodau llesiant a ddiffinnir o dan y Ddeddf, yn enwedig 'Cymru Gydnerth'
  • mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol  i sicrhau bod adnoddau naturiol ac ecosystemau yn gydnerth ac yn gallu darparu buddion (gwasanaethau ecosystem) nawr, ac ar gyfer y dyfodol, drwy 'reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy'
  • y Bil Llywodraethiant Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth sydd ar ddod a fydd yn gosod targedau bioamrywiaeth domestig statudol
  • y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, yn enwedig targed 19 ar ddefnyddio cyllid, gan gynnwys ysgogi cynlluniau arloesol fel talu am wasanaethau ecosystem, bondiau gwyrdd, credydau a chyfraniadau tuag at osgoi dirywiad mewn bioamrywiaeth, a mecanweithiau rhannu buddion, gyda mesurau diogelu amgylcheddol a chymdeithasol
  • argymhellion yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth a oedd yn cydnabod yr angen i ddatgloi cyllid cyhoeddus a phreifat i gyflawni ar gyfer natur ar raddfa a chyflymdra llawer mwy. Yn yr un modd, nododd yr archwiliad dwfn i Goed a Phren yr angen i ystyried modelau i sicrhau mwy o fuddsoddiad preifat i greu coetiroedd
  • ein rhwymedigaeth ar gyfer Defnyddio Tir yn Gynaliadwy a gyflwynwyd gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Mae'r egwyddorion arfaethedig wedi'u nodi isod:

  1. Cefnogi defnydd tir integredig a rhannu buddion yn deg 

  • dylai buddsoddi yn adnoddau naturiol Cymru a’r defnydd ohonynt greu buddion sy'n cael eu rhannu rhwng buddiannau cyhoeddus, preifat a chymunedol mewn ffordd deg ac sy'n cefnogi blaenoriaethau ac economïau lleol
  • dylid cyfuno buddsoddiad mewn adnoddau naturiol ar gyfer rheoli carbon gyda chyflawni canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach, megis gwella bioamrywiaeth, cydnerthedd mewn perthynas â chyflenwadau bwyd, rheoli llifogydd yn naturiol, atafaelu carbon a lleihau allyriadau
  • os ydynt yn ceisio sicrhau unedau carbon neu fuddsoddiad mewn adnoddau naturiol, dylai buddsoddwyr ystyried a oes angen bod yn berchen ar dir. Lle bo'n bosibl, dylent ystyried cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a chydweithredu/partneriaethau â chymunedau a all sicrhau budd cymdeithasol ac economaidd ehangach.
  1. Darparu manteision lles cyhoeddus, preifat, cymunedol a diwylliannol

  • dylai penderfyniadau buddsoddi a rheoli gydnabod amgylchiadau lleol ac addasrwydd tir, dŵr croyw neu fôr at ddibenion penodol ac ymateb iddynt. Yn ogystal, dylent geisio diogelu a gwella cyfalaf naturiol a llesiant diwylliannol presennol
  • dylai penderfyniadau buddsoddi a rheoli ddangos ystyriaeth o effeithiau cadarnhaol a negyddol ar draws y pedwar cyfalaf (naturiol, cymdeithasol, economaidd, llesiant diwylliannol).
  1. Dangos arferion gorau wrth ymgysylltu a chydweithio 

  • dylai buddsoddiad ddangos ymgysylltiad a chydweithio â chymunedau lleol mewn penderfyniadau ynghylch newid defnydd tir, dŵr croyw a’r môr. Mae angen i ymgysylltu fod yn ystyrlon, yn gynnar a chynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid
  • dylai buddsoddwyr a rheolwyr tir gydweithio'n agored â thirfeddianwyr, cyrff cyhoeddus a phartïon eraill sydd â diddordeb i gyfrannu at ddull cydlynol o ddarparu buddion.
  1. Arddangos dulliau gweithredu seiliedig ar werthoedd ac sy’n dangos uniondeb

  • dylid gallu mesur a gwirio buddsoddiad mewn adnoddau naturiol. Dylai credydau neu unedau a werthir fod yn seiliedig ar yr asesiad cadarn o'r budd sydd i'w ddarparu (er enghraifft faint o garbon sydd i’w atafaelu neu lygredd maetholion i’w leihau). Ar ôl eu gweithredu, dylai prosiectau gael eu gwirio gan gorff cymwys i sicrhau bod y canlyniadau amgylcheddol wedi'u cyflawni
  • wrth ystyried buddsoddi neu fasnachu, dylai rhanddeiliaid geisio cyngor proffesiynol a defnyddio methodolegau cymeradwy a ddiffinnir mewn codau a safonau sefydledig, sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd
  • dim cyfrif dwbl - ni ddylid gwerthu credydau/unedau meintiol o'r un gwasanaeth ecosystem ddwywaith na'u defnyddio fel sail ar gyfer dau hawliad. Er enghraifft, perchennog tir sy'n gwerthu credydau carbon a gynhyrchir o adfer mawndir, ond yna hefyd yn hawlio'r credydau carbon hynny i liniaru ei allyriadau carbon ei hun. Dylai tirfeddianwyr a rheolwyr sy'n ystyried gwerthu credydau carbon ystyried eu hanghenion rheoli carbon eu hunain yn awr ac yn y dyfodol cyn gwneud hynny
  • tryloywder - dylid cael cofrestrfeydd cydnabyddedig, credadwy, hygyrch i'r cyhoedd i gofrestru, olrhain a dileu hawliau neu gredydau wedi'u dilysu er mwyn osgoi cyfrif dwbl, cyhoeddi dwbl neu werthu dwbl. Dylai cofrestrfeydd ddarparu digon o ddata i ganiatáu i gyfranogwyr y farchnad gynnal diwydrwydd dyladwy priodol o brosiectau, a dylid cofnodi data mewn ffyrdd safonol at ddibenion monitro a goruchwylio
  • ychwanegedd - rhaid i unrhyw gredydau neu unedau a roddir fod yn seiliedig ar welliannau amgylcheddol newydd, a pheidio â chynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol presennol na gwelliannau amgylcheddol a fyddai mwy na thebyg wedi digwydd waeth beth fo'u buddsoddiad ychwanegol
  • darparu buddion parhaol i sicrhau bod canlyniadau amgylcheddol dan gontract yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn debygol o fod yn amrywiol yn dibynnu ar y farchnad, gan adlewyrchu o ble mae gwahanol fuddion o fyd natur yn deillio. Rhaid i'r rhain hefyd gydnabod risgiau a mesurau lliniaru cyflenwi, er enghraifft y risg o dân neu glefyd.

Cwestiynau ymgynghori

Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw farn ar yr egwyddorion arfaethedig, yn enwedig ar y cwestiynau canlynol. Rhowch dystiolaeth i gefnogi'ch ateb.

Cwestiwn 1: Beth yw eich barn am yr egwyddorion arfaethedig?

Efallai yr hoffech ystyried:

  • pa mor effeithiol y bydd yr egwyddorion yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau
  • pa mor ddefnyddiol yw'r egwyddorion hyn i wahanol sefydliadau
  • sut y gallai sefydliadau ddefnyddio neu gymhwyso'r egwyddorion hyn
  • a oes unrhyw fylchau neu hepgoriadau yn yr egwyddorion
  • y cysylltiad rhwng yr egwyddorion a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Cwestiwn 2: Beth yw eich barn ar sut y gellir cymhwyso'r egwyddorion i ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystem? 

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno neu'n anghytuno bod ein dull arfaethedig yn ategu gwerthoedd/safonau cynlluniau a chodau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd?

Efallai y byddwch am ystyried yr enghreifftiau hyn:

Cwestiwn 4: Beth yw eich barn am ein dull arfaethedig o archwilio cyllid cynaliadwy yng Nghymru?

Cwestiwn 5: Beth ydych chi'n meddwl yw'r rhwystrau sy’n atal pobl a chymunedau Cymru rhag cymryd rhan mewn adferiad natur?

Cwestiwn 6: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw'n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod amdanynt:

Mae'n debygol y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad.  Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru     
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/