Partneriaeth Arloesi Ewrop (yn prosiectau gan Grwpiau Gweithredol, dan arweiniad ffermwyr neu goedwigwyr. Wedi’i cynlluniwyd i dreialu technolegau arloesol mewn busnesau ffermio a choedwigaeth.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Partneriaeth Arloesi Ewrop Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ganfyddiadau
- Nod craidd EIP oedd darparu mecanwaith y gall ffermwyr a choedwigwyr ei ddefnyddio i dreialu eu syniadau, ac i hyn gael ei ddangos i’r sector ehangach, gan arwain at fwy o bobl yn manteisio arnynt ac felly newid mwy trawsnewidiol.
- Mae'r cynllun wedi llwyddo i gyflawni nifer y prosiectau a fwriadwyd ac wedi rhagori ar y targed ar gyfer nifer y sefydliadau a fu’n rhan o Grwpiau Gweithredol
- Roedd yr effaith ar aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn sylweddol, gyda’r rhan fwyaf o ffermwyr/coedwigwyr yn dweud eu bod wedi gwneud newidiadau i’w harferion o ganlyniad i’r ymchwil.
- Gwnaeth y gwerthusiad hefyd ganfod buddion diriaethol yn gysylltiedig â'r newidiadau hynny, yn enwedig gwelliannau i iechyd anifeiliaid a gostyngiad mewn costau’n ymwneud ag iechyd; gwelliannau i gynnyrch busnesau; a chanlyniadau amgylcheddol
- Roedd yr arbenigedd a gynigiwyd gan y cynllun yn ysgogiad pwysicach er mwyn i fusnesau ymwneud ag ef na’r cymorth ariannol a roddwyd i gyflawni'r prosiectau. Mae hwn yn bwynt pwysig i'w ystyried wrth feddwl am sut y dylai cynlluniau edrych yn y dyfodol ac a ddylai fod elfen hwyluso.
- Mae'n bwysig nodi bod y cynllun wedi llwyddo i ymgysylltu â rhai busnesau ffermio nad ydynt wedi ymwneud ag ymyriadau blaenorol i'r un graddau (e.e. dywedodd 30% nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth ariannol yn y pum mlynedd diwethaf).
Adroddiadau
Gwerthusiad Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd yng Nghymru: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.