Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn i helpu gweithwyr y sector cyhoeddus i gyfathrebu ynghylch strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Diben y pecyn

Mae'r pecyn cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn sicrhau bod ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu yn gydlynol, yn gadarn, yn gydweithredol ac yn gydnaws â'r amcanion a nodir yn Strategaeth Trais a Cham-drin 2022 i 2026.

Mae'r pecyn yn arddangos ein hymrwymiad i barhau â'n gwaith gyda gweithwyr proffesiynol er mwyn eu helpu i ddarganfod, herio ac atgyfeirio achosion o drais a cham-drin. Mae'n adlewyrchu ein polisi iechyd cyhoeddus ac ymyriadau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn newid ymddygiad i ddadnormaleiddio trais a cham-drin a'r agweddau sy'n ei hyrwyddo.

Mae'n rhoi manylion am sut y byddwn yn rhannu datblygiadau a diweddariadau allweddol gyda'n rhanddeiliaid.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl lenyddiaeth, y negeseuon a'r mentrau codi ymwybyddiaeth yn gynhwysol ac wedi'u llywio gan waith ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o gwestiwn trais a cham-drin.

Bydd y pecyn yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i'r gwaith ddatblygu.

Amcanion y strategaeth genedlaethol

  1. Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono. 
  2. Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
  3. Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
  4. Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal trais a cham-drin.
  5. Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
  6. Rhoi'r un mynediad i bob dioddefwr at wasanaethau croestoriadol ac ymatebol o ansawdd uchel, a arweinir gan anghenion, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n cael adnoddau priodol ledled Cymru.

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Timau a chyfrifoldebau

Tîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru

  • Byw Heb Ofn 
  • Ymgyrch Iawn

Tîm Trais a Cham-drin Llywodraeth Cymru

  • Hyfforddiant peilot mewn sefyllfaoedd niweidiol
  • Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol 
  • Y Grŵp Cyfathrebu ynghylch Trais a Cham-drin 
  • Y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ynghylch Trais a Cham-drin
  • Panel Craffu Llais Goroeswyr Trais a Cham-drin 

Tîm Glasbrint Trais a Cham-drin

  • Cyfathrebu ac Ymgysylltu Glasbrint Trais a Cham-drin

Egwyddorion

  • Cydweithredu
  • Gwrth-hiliaeth
  • Cynwysoldeb a hygyrchedd
  • Perthnasedd ac amseroldeb
  • Tystiolaeth 
  • Polisi iechyd cyhoeddus
  • Mesuradwyedd a gwerthuso

Ymgysylltu â rhanddeiliaid 

Er mwyn helpu i newid ymddygiad ar lefel cymdeithas gyfan, a dadnormaleiddio trais a cham-drin a'r agweddau sy'n ei hyrwyddo, mae ymgysylltu â phawb sy'n rhan o'r darlun, gan gynnwys dynion a bechgyn, yn rhan annatod o'n llwyddiant.

 Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad a chyfranogiad ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, cymunedau ledled Cymru ac, yn hollbwysig, lleisiau goroeswyr a'r rhai sydd â phrofiad personol.

Er mwyn cynnal ein hegwyddorion cyfathrebu ac ymgysylltu, mae gennym Ganllaw a Phecyn Croestoriadedd Glasbrint Trais a Cham-drin i'n cefnogi yn ogystal â'r Pecyn Ymgysylltu â Goroeswyr a ddatblygwyd gan Cymorth i Ferched Cymru.

Rhanddeiliaid allweddol

Penderfynwyr Strategol - y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a goroeswyr o banel craffu a chynnwys llais goroeswyr.

Rhanddeiliaid sylfaenol

  • Llywodraeth Cymru
  • Tân ac Achub
  • Y sector preifat 
  • Y Comisiynydd Cam-drin Domestig 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Y Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc
  • Y Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Corff cyhoeddus anadrannol
  • Awdurdodau lleol 
  • Addysg 
  • Yr heddlu 
  • Trafnidiaeth 
  • Cwmnïau budd cymunedol 
  • Sefydliadau anllywodraethol 
  • Dioddefwyr a goroeswyr 
  • Canolfannau ymchwil 
  • Iechyd 
  • HMPPS 
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi 
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 
  • Chwaraeon
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Sefydliadau ehangach nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y ffrydiau gwaith

Rhanddeiliaid eilaidd 

  • Dioddefwyr a goroeswyr y tu allan i'r panel llais goroeswyr
  • Busnesau cenedlaethol a lleol
  • Y cyhoedd yn ehangach
  • Sefydliadau chwaraeon a hamdden
  • Cyrff rheoleiddiol
  • Staff gweithredol o sefydliadau a gynrychiolir
  • Staff gweithredol o sefydliadau a gynrychiolir
  • Y cyfryngau a'r wasg
  • Sefydliadau llawr gwlad
  • Staff gweithredol o sefydliadau NAD ydynt yn cael eu cynrychioli
  • Llywodraeth y DU
  • Cymunedau lleol
  • Rhanddeiliaid buddiol*

Cyfryngau cyflawni

  • Byw Heb Ofn
  • Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
  • Ymgyrch Iawn
  • Hyfforddiant peilot mewn sefyllfaoedd niweidiol
  • Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Busnes Polisi Trais a Cham-drin
  • Y Grŵp Cyfathrebu ynghylch Trais a Cham-drin
  • Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Trais a Cham-drin

Canlyniadau

  • Newid diwylliannol yn safbwyntiau pobl ac anoddefgarwch tuag at yr agweddau a'r credoau sy'n sail i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Newid ymddygiad hirdymor.
  • Lleihau troseddu.
  • Cymunedau diogelach.
  • Gwell ymateb cymdeithasol i ddeall ac ymateb i drais a cham-drin.
  • Llwybrau atgyfeirio a chefnogi clir ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr a'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau.
  • Cefnogaeth dosturiol sy'n ystyried trawma i bob dioddefwr a goroeswr.
  • Mwy o wasanaethau sy'n gymwys yn ddiwylliannol ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr a'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau.
  • Gwella sgiliau pobl yn y gymuned i godi llais a sicrhau dim goddefgarwch i drais a cham-drin.
  • Gweithlu mwy gwybodus, hyderus a chymwys.
  • Lleihau risg drwy ddiwallu anghenion cyn gynted â phosibl.
  • Dull cyson o weithredu ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol ledled Cymru ar draws ein systemau.
  • Gostyngiad yn y nifer sy'n dod yn ôl yn gyson i ofyn am ein gwasanaethau.

Sut y byddwn yn cyfathrebu ynghylch ein cynnydd

Briff Trais a Cham-drin 7 Munud  

  • Pa mor aml: Bob chwarter
  • Cyfrwng: E-bost 
  • Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
  • Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint 

Cyfarfodydd ffrydiau gwaith Trais a Cham-drin 

  • Pa mor aml: Bob chwarter
  • Cyfrwng: Timau
  • Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
  • Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint 

Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a'r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol

  • Pa mor aml: Bob 4 mis
  • Cyfrwng: Timau, diweddariadau ysgrifenedig a llafar 
  • Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
  • Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint 

Diweddariadau polisi Trais a Cham-drin

  • Pa mor aml: Yn ôl yr angen / dwywaith y flwyddyn 
  • Cyfrwng: E-bost 
  • Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol, sylfaenol ac eilaidd 
  • Cyfrifoldeb: Tîm Polisi Trais a Cham-drin 

Adroddiad Blynyddol Trais a Cham-drin

  • Pa mor aml: Bob hydref 
  • Cyfrwng: LLYW.CYMRU
  • Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol, sylfaenol ac eilaidd 
  • Cyfrifoldeb: Tîm Polisi Trais a Cham-drin