Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect rhyngwladol yw Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (Global Entrepreneurship Monitor - GEM) sy'n cynnwys 46 economi yn 2023 ac sy'n ceisio darparu gwybodaeth am faes entrepreneuraidd gwledydd. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos bod entrepreneuriaeth yn sbardun pwysig ar gyfer tyfu economi, cystadleurwydd a chreu swyddi. Defnyddir canlyniadau dadansoddiad data GEM fel dangosyddion meincnodi allweddol gan awdurdodau rhanbarthol a chenedlaethol ledled y byd.  Maint y sampl yng Nghymru yn 2023 oedd 1,517 o oedolion dros 18 oed o ganlyniad i Lywodraeth Cymru yn rhoi hwb i sampl cenedlaethol y DU. 

Prif ganfyddiadau

  • Cyfradd cyfanswm yr entrepreneuriaeth cyfnod cynnar (TEA) yng Nghymru yn 2023 oedd 11.5%. Roedd hwn yn gynnydd ystadegol sylweddol ar y gyfradd o 7.8% yn 2022, ac erbyn hyn, yr uchaf erioed. Nid oedd y gyfradd yn 2023 yn sylweddol wahanol i'r gyfradd yn Lloegr (10.8%) a'r DU (10.7%). 
  • Yn 2023 cafodd entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru eu cymell gryfaf i ddechrau busnes naill ai i ennill bywoliaeth gan fod swyddi’n brin neu i adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn (dros 60% yr un). Roeddent yn lleiaf tebygol o sefydlu busnes i barhau â thraddodiad teuluol. 
  • Ar 9.5% nid oedd cyfradd TEA benywod Cymru yn 2023 yn sylweddol wahanol i gyfradd y dynion sef 13.5%. Roedd y ddwy gyfradd wedi cynyddu ers 2022, ond yn weddol debyg i gyfradd 2022, er bod cyfradd y dynion bellach ar ei huchaf erioed i Gymru. Nid oedd cyfradd TEA benywod yng Nghymru yn 2023 yn dra gwahanol i gyfradd y DU, ac nid oedd gwahaniaeth felly i ddynion chwaith. 
  • Mae lefel entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru yn llawer uwch yn 2023 nag yn 2002: sef 14.0% o'i gymharu â 2.0%. Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn y gyfradd TEA ar draws grwpiau oedran yng Nghymru yn 2023.
  • Dywed tua dwy ran o bump (39.1%) o bobl heblaw entrepreneuriaid fod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i ddechrau busnes ac mae cyfran debyg (42.9%) yn adnabod entrepreneur a ddechreuodd fusnes o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cyfran lawer uwch o bobl ifanc (18 i 24 oed), sef 61%, yn adnabod entrepreneur o gymharu â'r boblogaeth ehangach heblaw entrepreneuriaid.
  • Mae cyfran lawer is o bobl heblaw entrepreneuriaid yng Nghymru (29%) yn credu bod cyfleoedd da i ddechrau busnes yn lleol o fewn y 6 mis nesaf o gymharu â'r DU (37%). Er hyn, roedd cyfraddau ofn methiant yn debyg; yn 2023 dywedodd bron i dair rhan o bump o'r rhai yng Nghymru a'r DU, a nododd gyfleoedd cychwyn busnes, y byddai ofn methiant yn eu hatal rhag cychwyn busnes.
  • Mae'r bwriad i ddechrau busnes yn parhau i fod yn uwch yn 2023. Mae cyfanswm o 20.0% o oedolion nad ydynt yn entrepreneuriaid o oedran gweithio yng Nghymru yn disgwyl dechrau busnes o fewn y tair blynedd nesaf, yn debyg i gyfradd y DU o 19.7%.   

Cefndir

Mae Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (GEM) yn brosiect rhyngwladol sy'n ceisio rhoi gwybod am faes entrepreneuraidd gwledydd yn seiliedig ar y cynseiliau canlynol. Yn gyntaf, mae ffyniant economi yn dibynnu’n helaeth ar sector entrepreneuriaeth dynamig. Yn ail, mae gallu entrepreneuraidd economi yn cynnwys unigolion o bob grŵp mewn cymdeithas sydd â'r gallu a'r cymhelliant i ddechrau busnesau ac mae’n dibynnu ar ganfyddiadau cymdeithasol cadarnhaol am entrepreneuriaeth. Yn drydydd, mae entrepreneuriaeth twf uchel yn cyfrannu’n allweddol at gyflogaeth newydd mewn economi, ac mae cystadleurwydd cenedlaethol yn dibynnu ar fentrau entrepreneuraidd arloesol a thrawsffiniol.

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn noddi elfen Cymru o brosiect ymchwil GEM UK. Mae ysgogi entrepreneuriaeth yn her bwysig o hyd i'r rhanbarth ac mae LlC wedi arwain y gwaith o sicrhau ei bod wedi'i hymgorffori yn ei gweithgareddau craidd. Hon yw’r unfed flwyddyn ar hugain i Lywodraeth Cymru gymryd rhan yn GEM. O'r 364,000 a ymatebodd i arolygon GEM UK ar gyfer y cyfnod 2002 i 2023, mae tua 70,000 o ymatebwyr o Gymru. Erbyn hyn, Cymru sydd ag un o'r cronfeydd data mwyaf ar agweddau, gweithgarwch a dyheadau entrepreneuraidd gwledydd cartref y DU am y cyfnod hwn. Mae hyn yn dra defnyddiol wrth ddadansoddi tueddiadau ar gyfer is-boblogaethau pwysig yng Nghymru, fel menywod, pobl ifanc neu bobl hŷn.

Defnyddir canlyniadau dadansoddiad data GEM fel dangosyddion meincnodi allweddol gan awdurdodau rhanbarthol a chenedlaethol ledled y byd. Maent hefyd yn galluogi cymharu â rhanbarthau eraill y DU a gwledydd eraill sy'n cymryd rhan yn GEM. At ei gilydd, mae gallu unigryw GEM i ddarparu gwybodaeth am faes entrepreneuraidd gwledydd mewn cyd-destun byd-eang yn gwneud ei ddata'n adnodd angenrheidiol ar gyfer unrhyw ymgais ddifrifol at astudio ac olrhain ymddygiad entrepreneuraidd. 

Mae'n bwysig inni ddeall yn well benderfynyddion entrepreneuriaeth cyfnod cynnar oherwydd bod tystiolaeth i awgrymu cysylltiad rhwng cyfraddau uwch o entrepreneuriaeth a ffyniant economaidd cyffredinol, yn enwedig mewn economïau fel Cymru sy'n cael eu sbarduno gan arloesedd.

Sut mae GEM yn mesur gweithgaredd entrepreneuraidd

Mae GEM yn creu mynegai o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar (a elwir yn TEA) gan ddefnyddio'r dull canlynol:

  • Cynhelir arolwg ffôn o hapsampl o'r boblogaeth oedolion rhwng mis Mai a mis Medi. 
  • Y mynegai TEA yw swm yr ymatebwyr hynny a ddosbarthir fel entrepreneuriaid eginol ac entrepreneuriaid busnes newydd. (Y cam cynllunio gweithredol y mae'r entrepreneur wedi gwneud rhywbeth ynddo yn ystod y 12 mis diwethaf i helpu i ddechrau busnes newydd, busnes newydd y bydd yn berchen ar ran ohono o leiaf, ac nad yw wedi talu cyflogau nac incwm arall i'r perchnogion yn ystod y 3 mis diwethaf. Caiff yr ail gam ei ddiffinio fel un sydd rhwng 4 a 42 mis ar ôl i'r fenter newydd ddechrau darparu incwm i'r perchnogion. Cyfeirir at entrepreneuriaid sydd o leiaf yn rheoli ac yn berchen ar ran o fusnes newydd a fu’n talu rhyw fath o incwm i'r perchnogion am 4 mis o leiaf ac nid mwy na 42 mis fel entrepreneuriaid busnes newydd).

Nid yw'r mynegai TEA yn mesur pob gweithgaredd entrepreneuraidd ac nid yw'n seiliedig ar arolwg o endidau busnes. Mae'n mesur nodweddion unigolion entrepreneuraidd a'r mathau o endidau y maent yn eu sefydlu. Fel y cyfryw, mae'n fesur unigryw a rhyngwladol gymharol o duedd ddiwylliannol cenedl, neu ranbarth, i fod yn entrepreneuraidd.

Yn flaenorol yn GEM, y dull i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o weithgaredd entrepreneuraidd oedd mesur i ba raddau yr oedd y gweithgaredd yn seiliedig ar anghenraid (h.y. nid oes dewisiadau gwell ar gyfer gwaith) neu gyfle (lle gallai entrepreneuriaid fod yn manteisio ar y potensial i greu marchnad newydd). Mae'r cwestiynau cymhelliant cyfredol, sy'n rhychwantu dewis ehangach, yn fodd o ddatgrynhoi cymhelliant entrepreneuraidd yn fanylach na'r dewis deuaidd blaenorol a ganiatawyd. Yn ogystal â gweithgaredd, mae arolwg GEM yn gofyn i'r holl ymatebwyr am eu hagweddau tuag at weithgarwch entrepreneuraidd, ac yn holi entrepreneuriaid am eu dyheadau.

Esbonnir y fethodoleg, y meintiau sampl a'r systemau pwysoli a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg poblogaeth oedolion 2023 GEM UK 2023/24 yn fanylach yn adroddiad GEM UK 2023/24. Cyflwynwyd newid pwysig yn nyluniad y sampl yn 2010 pan ddewiswyd 10% o'r ymatebwyr ym mhob Swyddfa Ranbarthol y Llywodraeth (GOR) ar hap o aelwydydd a oedd â ffonau symudol ond nid llinellau ffôn sefydlog. Yn 2015, cynyddwyd hyn i 20%, yn unol ag amcangyfrifon diweddar yng nghyfran aelwydydd â ffonau symudol yn unig yn y DU ac mae hynny wedi'i gynnal yn arolwg 2023. O ganlyniad, yn yr adroddiad hwn, gwneir cymariaethau â gwledydd eraill a thueddiadau sy'n seiliedig ar amser yn y DU gan ddefnyddio'r sampl lawn (aelwydydd llinell dir a ffonau symudol yn unig yn ogystal â dull cymysg CATI/Ar-lein).

Mae'r adroddiad canlynol yn cyflwyno crynodeb o'r prif ganlyniadau a'r themâu allweddol sy'n deillio o arolwg GEM yn 2023 yn ogystal â dadansoddiad o'r un flynedd ar hugain o ddata GEM (2002 i 2023).

Cyfanswm gweithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar

Roedd cyfradd yr entrepreneuriaeth cyfnod cynnar Cymru yn 2023 yn 11.5% a oedd yn gynnydd ar yr amcangyfrif o 7.8% yn 2022. Roedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol. Roedd y gyfradd yng Nghymru yn 2023 yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr (10.8%) ac amcangyfrif y DU o 10.7% (Ffigur 1), ond heb fod yn wahanol iawn iddynt. 

 Ar y cyfan, mae cyfradd TEA o 11.5% yng Nghymru yn cyfateb i ryw un o bob naw oedolyn rhwng 18 a 64 oed, neu oddeutu 211,000 o unigolion, yr oedd 74% ohonynt yn y camau cynnar iawn o ddechrau busnes (entrepreneuriaid eginol 8.5%) a'r gweddill ohonynt â busnes newydd a oedd rhwng 4 a 42 mis oed. Y ffigur cymharol ar gyfer perchnogion busnes eginol yn y DU oedd 7.3%.

Image
Ffigur 1: Cyfanswm gweithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA) yng Ngwledydd Cartref y DU 2023
Ffigur 1: Cyfanswm gweithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA) yng Ngwledydd Cartref y DU 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Fel y dengys Ffigur 2a, mae cyfradd y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru a'r DU wedi parhau'n gymharol sefydlog rhwng 2004 a 2010, sef tua 6%. Dargyfeiriodd y cyfraddau wedi hynny, ynghyd ag anwadalrwydd yn y ddwy gyfres. Yn debyg i rannau eraill o'r DU, cyrhaeddodd gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru uchafbwynt newydd yn 2021 sef 10.3%. Ar ôl gostyngiad yn 2022, rhagorwyd ar hyn yn 2023 gyda'r gyfradd TEA yng Nghymru ar ei huchaf erioed, sef 11.5%. Mewn cymhariaeth, mae cyfradd y DU wedi gostwng ers 2021 ond mae'n parhau i fod ar lefel uwch o'i chymharu â'r cyfartaledd tymor hir blaenorol. 

Yn 2023 roedd y gyfradd gweithgarwch entrepreneuraidd eginol yng Nghymru yn 8.5%, wedi cynyddu’n sylweddol o 5.2% yn 2022. Roedd y gyfradd perchnogaeth busnes newydd o 3.9% wedi cynyddu ond heb fod yn wahanol iawn i'r gyfradd o 2.7% yn 2022. Mewn cymhariaeth, nid oedd y gyfradd entrepreneuriaeth eginol yn y DU wedi newid rhyw lawer rhwng 2022 a 2023, sef 7.1% a 7.3% yn y drefn honno. Roedd y gyfradd perchnogaeth busnes newydd ar gyfer y DU hefyd yn debyg yn y ddwy flynedd sef 4.3% yn 2022 a 4.2% yn 2023. Yn seiliedig ar hyn, mae'r gwahaniaeth yng nghyfraddau TEA rhwng Cymru a'r DU yn 2023 yn bennaf oherwydd gwahaniaethau ym mherchnogaeth ar fusnesau eginol.

Image
Ffigur 2a: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a'r DU 2002 i 2023
Ffigur 2a: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a'r DU 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Hyd at 2011 roedd cyfraddau TEA Dwyrain a Gorllewin Cymru yn dilyn tueddiadau tebyg (Ffigur 2b). Er i fwlch agor gryn dipyn rhwng y ddau wedi hynny, nid oedd y cyfraddau’n sylweddol wahanol. O 2017 ymlaen bu'r gyfradd yng Ngorllewin Cymru yn uwch i raddau helaeth nag yn Nwyrain Cymru ond ni fu'r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol. Mae hyn yn dal yn wir yn 2023 lle'r oedd y gyfradd TEA yn Nwyrain Cymru yn 10.8% o'i chymharu â chyfradd o 12.3% yng Ngorllewin Cymru. 

Image
Ffigur 2a: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a'r DU 2002 i 2023
Ffigur 2a: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a'r DU 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Yn arolwg 2020, cyflwynwyd dull newydd a gwell o edrych ar gymhellion sylfaenwyr ar gyfer dechrau eu busnes. Cyn hynny roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn rhy gyfyngedig ac nid oedd ond yn caniatáu ar gyfer dewis rhwng entrepreneuriaeth anghenraid a chyfle yn unig. Disodlwyd y cwestiynau hyn gan y rhai a oedd yn caniatáu cyfuniad o gymhellion, gan alluogi set fwy realistig o sbardunau ar gyfer cychwyn busnes. 

Y pedwar cymhelliad yw "gwneud gwahaniaeth yn y byd", "adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn", "parhau â thraddodiad teuluol" ac "ennill bywoliaeth gan fod swyddi’n brin." Gellir ystyried bod y ddau gyntaf yn cael eu sbarduno’n fwy gan gyfle, tra bod y trydydd yn fwy cymhleth gan y gallai hwn fod oherwydd cyfle neu anghenraid. Gellir ystyried bod yr olaf yn cael ei sbarduno’n fwy gan anghenraid. Fodd bynnag, y pwynt sylfaenol yw nad yw'r opsiynau hyn bellach yn annibynnol ar ei gilydd, a gall entrepreneuriaid grybwyll mwy nag un cymhelliant ac i ba raddau y maent yn uniaethu â nhw. Sylwch nad yw'r cymhellion hyn yn cynnwys ymreolaeth nac annibyniaeth; y rheswm am hyn yw bod profion ymlaen llaw wedi dangos bod hwn yn gymhelliant cyffredinol i entrepreneuriaid ac nad yw'n gwahaniaethu rhwng mathau o entrepreneuriaid. 

Mae Ffigur 3 yn dangos dadansoddiad o'r cymhellion hyn fesul cenedl gartref fel canran o entrepreneuriaid cyfnod cynnar. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd entrepreneuriaid cyfnod cynnar ym mhob gwlad gartref yn llawer llai tebygol o grybwyll “parhau â thraddodiad teuluol" yn rhesem dros ddechrau busnes na'r holl gymhellion eraill. Cymru oedd â'r gyfran isaf yn crybwyll y cymhelliant hwn sef 15.7% yn unig, tua hanner cyfran y DU. Y ddau brif gymhelliad dros gychwyn busnes oedd "ennill bywoliaeth am fod swyddi'n brin" ac "adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn". Cafodd ychydig dros 60% o'r rhai yng Nghymru eu cymell gan un o’r ddau reswm hyn. Roedd cyfrannau'r DU yn agosach at 70%. Cafodd llai na hanner y rhai yng Nghymru eu cymell i gychwyn eu busnes "i wneud gwahaniaeth yn y byd". Roedd hyn eto tua 10 pwynt canran yn is na chyfran y DU. 

Image
Ffigur 3:  Cymhelliant ar gyfer Entrepreneuriaeth yng Ngwledydd Cartref y DU 2023
Ffigur 3: Cymhelliant ar gyfer Entrepreneuriaeth yng Ngwledydd Cartref y DU 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Pwy yw'r entrepreneuriaid yng Nghymru?

Rhywedd

Fel arfer, mae gan ddynion gyfraddau gweithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar uwch na menywod. Yn 2023 roedd cyfradd TEA gwrywod yng Nghymru yn 13.5% o'i chymharu â chyfradd benywod o 9.5% - nid oedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol. Er bod cyfraddau’r gwrywod yn uwch na chyfraddau’r benywod yn y DU a’r gwledydd cartref yn 2023 (Ffigur 4), nid oedd y gwahaniaethau yn ystadegol arwyddocaol. 

Yn hanesyddol, bu'r gymhareb o weithgarwch entrepreneuraidd benywod i wrywod oddeutu 50% yn y DU ond mae'r bwlch wedi lleihau'n sylweddol dros amser, sef 85% yn 2023. Y gymhareb yng Nghymru yn 2023 oedd 70%, i fyny o 64% yn 2022. Roedd cymhareb Gogledd Iwerddon yn debyg i Gymru sef 73% tra bod cymarebau Lloegr a'r Alban yn debyg i'r DU sef 85% ac 86% yn y drefn honno 

Gall cymarebau blynyddol amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, felly fe'u gwelir orau dros y tymor hwy. Mae'r cymarebau cyfartalog hirdymor dros gyfnod 2002 i 2023 yn awgrymu bod dynion bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn entrepreneuriaid cyfnod cynnar na benywod gyda chymhareb o 59% yng Nghymru, 56% yn Lloegr a 58% yn yr Alban. Mae cymhareb TEA benywod i wrywod Gogledd Iwerddon yn is sef dim ond 44% oherwydd y cyfraddau gweithgaredd entrepreneuraidd isel hanesyddol ymhlith benywod.  

Image
Ffigur 4: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Rhywedd yng Ngwledydd Cartref y DU yn 2023
Ffigur 4: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Rhywedd yng Ngwledydd Cartref y DU yn 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Mae cyfradd TEA benywod yng Nghymru wedi amrywio ers 2011, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed o 9.8% yn 2021 (Ffigur 5). Er gwaethaf y gostyngiad yn 2022 mae'r gyfradd wedi adlamu yn 2023 i 9.5%. Cyrhaeddodd TEA gwrywod Cymru record newydd o 10.7% yn 2021 ond rhagorwyd ar hyn ymhellach yn 2023 i 13.5%.  Dengys Ffigur 5 fod cyfraddau TEA benywod yng Nghymru yn cyfateb i duedd y DU tan 2010 ac ar ôl cyfnod o wahaniaeth mae'n ymddangos eu bod yn olrhain tuedd y DU eto o 2018. Ar wahân i'r gostyngiad yn 2022, ail-gyfarfu cyfraddau’r benywod yn 2023 i ychydig o dan 10%.  

Image
Ffigur 5: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar Benywod yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023
Ffigur 5: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar Benywod yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Oedran 

Yn y DU, unigolion rhwng 25 a 34 oed sydd fel arfer yn arddangos y cyfraddau uchaf o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar er nad yw hyn bob amser yn wir yn y gwledydd cartref. Yn 2023 yn y DU roedd gan y rhai 45 oed neu'n hŷn gyfraddau gweithgaredd entrepreneuraidd llawer is na phobl ifanc 25 i 34 oed, ac roedd hyn hefyd yn wir yn Lloegr. Yn ogystal, roedd gan bobl ifanc 18 i 24 oed yn Lloegr gyfradd TEA lawer uwch na phobl 55 i 64 oed. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau gweithgaredd entrepreneuraidd ar draws y bandiau oedran (Ffigur 6). 

Image
Ffigur 6: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Oedran yng Ngwledydd Cartref y DU, 2023
Ffigur 6: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Oedran yng Ngwledydd Cartref y DU, 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Ers nifer o flynyddoedd, bu gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru yn symud tuag at genhedlaeth iau; er enghraifft roedd cyfraddau TEA arbennig o uchel ar gyfer pobl ifanc 18 i 24 oed yn ystod cyfnod y Dirwasgiad Mawr, gan gyrraedd uchafbwynt o 10.2% yn 2011. Gostyngodd yn ôl yn y cyfamser ond cododd i’r lefel uchaf erioed sef 16.5% yn 2021. Yn 2023 mae'r gyfradd yn is na'r uchafbwynt, ond mae'n parhau i fod yn uwch sef 14.0% (Ffigur 7). Bu cyfradd y DU hefyd yn cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r gyfradd o 12.9% yn 2023 bron yr un fath â'r gyfradd uchaf o 13.0% yn 2021. 

O'i chymharu â'r DU, mae'r gyfradd uwch o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru a welwyd yn ystod y dirwasgiad yn awgrymu eu bod yn wynebu hinsawdd economaidd anoddach, a’r diffyg swyddi’n golygu bod angen troi at hunangyflogaeth, cyn i hynny fynd ymaith wrth i’r economi adfer. Ers 2015 bu cynnydd mewn entrepreneuriaeth ieuenctid yn y DU nad oedd wedi'i adlewyrchu yng Nghymru; hynny yw tan 2020 pan ymddengys y pandemig ei fod wedi sbarduno entrepreneuriaeth anghenraid ymhlith y grŵp oedran hwn. Mae hyn wedi parhau ers hynny a gall hefyd adlewyrchu'r ddarpariaeth gynyddol o weithgareddau entrepreneuriaeth ieuenctid gan Lywodraeth Cymru. Bu addysg fenter yn ffactor pwysig yn cyfrannu yn ystod y degawdau diwethaf ac mae'r dystiolaeth hon yn dangos y gallai fod yn cael effaith ar weithgareddau entrepreneuraidd gwirioneddol y bobl ifanc hyn.

Image
Ffigur 7: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023
Ffigur 7: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Un dadansoddiad a allai fod yn fwy defnyddiol yw asesu'r duedd yn y gyfradd TEA ar gyfer y grŵp oedran 18 i 29 (lle mae fel petai toriad naturiol yn nata gweithgaredd GEM y DU) a chymharu hynny â'r grŵp oedran 30 i 64. Mae ffigurau 8 a 9 yn dangos bod y gyfradd TEA ar gyfer oedolion ifanc yng Nghymru, er gwaethaf llawer o amrywiadau blynyddol, wedi codi mwy na phedair gwaith dros ddau ddegawd o 3.4% yn 2002 i 14.0% yn 2023. Fodd bynnag, roedd cyfradd 2023 i lawr o'i huchafbwynt o 15.3% yn 2021. Yn y gwledydd cartref eraill cafwyd hefyd gynnydd yng nghyfraddau TEA pobl 18 i 29 oed dros y cyfnod, er bod hwnnw ar gyfradd is na Chymru. 

Mae'r cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer y grŵp oedran 30 i 64 wedi codi’n arafach dros y ddau ddegawd diwethaf na'r grŵp oedran 18 i 29. Ond roedd y cyfraddau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2023 yn cynrychioli uchafbwyntiau newydd. Yng Nghymru, cododd cyfradd y TEA ar gyfer y rhai 30 i 64 oed o 4.4% yn 2002 i 10.8% yn 2023. Yng Ngogledd Iwerddon gwelwyd y twf cyflymaf, gan godi o 3.5% yn 2002 i 8.9% yn 2023. Cynyddodd cyfradd yr Alban o 5.7% i 8.7%. Roedd y cyfraddau yn Lloegr a'r DU ar eu huchaf yn 2021, er bod cyfraddau 2023 yn dal wedi cynyddu'n sylweddol ers 2002.    

Image
Ffigur 8: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU ar gyfer pobl ifanc 18 i 29 oed, 2002 i 2023
Ffigur 8: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU ar gyfer pobl ifanc 18 i 29 oed, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)
Image
Ffigur 9: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU ar gyfer pobl 30 i 64 oed, 2002 i 2023
Ffigur 9: Tueddiadau yng Nghyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU ar gyfer pobl 30 i 64 oed, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Addysg 

Fel arfer, mae gan raddedigion yn y DU gyfraddau uwch o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar na'r rhai nad ydynt yn raddedigion. Yn 2023 roedd cyfradd TEA graddedigion y DU sef 14.4% yn sylweddol uwch na'r gyfradd o 7.8% ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion (Ffigur 10). Er bod y ddwy gyfradd yn wahanol i'r rhai yn 2022 nid oedd y naill na'r llall yn wahanol iawn.

Yn 2023 roedd cyfradd TEA graddedigion Cymru sef 17.4% yn sylweddol uwch yn ystadegol na'r gyfradd o 7.6% ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion. Yn 2023 Gogledd Iwerddon oedd yr unig wlad gartref lle nad oedd y gyfradd TEA ar gyfer graddedigion yn ystadegol sylweddol uwch nag ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion. 

Yn 2023 Cymru oedd yr unig wlad gartref lle'r oedd cyfradd TEA graddedigion yn ystadegol sylweddol uwch na'r gyfradd yn 2022, gan godi o 10.3% i 17.4%. Nid oedd gwahaniaeth sylweddol yn y cyfraddau TEA blynyddol ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion, er gwaethaf cynnydd o 6.0% i 7.6% dros y flwyddyn. Ni fu newid ystadegol arwyddocaol dros y flwyddyn ychwaith yn y cyfraddau TEA ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion yn unrhyw un o'r gwledydd cartref na'r DU.   

Image
Ffigur 10: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU yn ôl Statws Graddedigion, 2023
Ffigur 10: Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd Cartref y DU yn ôl Statws Graddedigion, 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Agweddau a bwriadau entrepreneuraidd

Mae GEM wedi datblygu nifer o ddatganiadau agweddol sy'n darparu dirprwy ar gyfer potensial entrepreneuraidd mewn gwlad/rhanbarth. Maent yn cynnwys adnabod rhywun sydd wedi dechrau busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; dealltwriaeth o gyfleoedd da ar gyfer cychwyn busnes; hunangred mewn meddu ar y sgiliau perthnasol i sefydlu busnes a pha mor aml mae ofn methiant yn rhwystro pobl rhag sefydlu busnes. 

Crybwyllir data agweddol GEM yma ar gyfer y rhan honno o'r boblogaeth nad ydynt eisoes yn entrepreneuriaid, gan y gall unigolion sy'n ymwneud â gweithgaredd entrepreneuraidd deimlo eu bod yn gorfod darparu atebion cadarnhaol yn yr Arolwg Poblogaeth Oedolion (APS).

Yng Nghymru yn 2023 mae 42.9% o unigolion nad ydynt yn entrepreneuriaid yn nodi eu bod yn adnabod entrepreneur, nad yw'n wahanol iawn i gyfradd y DU o 45.2% (Ffigur 11), na’r gyfradd yn 2022. Mae 39.1% o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn credu bod ganddynt y sgiliau i sefydlu busnes, sydd unwaith eto’n debyg i gyfartaledd y DU o 40.8%. 

Dim ond 28.6% o'r rhai nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru sy'n credu bod cyfleoedd cychwyn da yn eu hardal yn ystod y chwe mis nesaf. Roedd hyn i lawr o 33.0% yn 2022 ond nid oedd hyn yn ystadegol arwyddocaol. Mewn cymhariaeth, roedd 37.1% o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yn y DU yn credu bod cyfleoedd cychwyn da a oedd yn sylweddol uwch na'r gyfran yng Nghymru. 

Arhosodd ofn methiant yn gymharol uchel yn 2023. Dywedodd tua thri o bob pump o'r rhai nad oeddent yn entrepreneuriaid yng Nghymru a'r DU, a oedd yn gweld cyfleoedd cychwyn da i fusnesau, y byddai ofn methiant yn eu hatal rhag cychwyn busnes.

Image
Ffigur 11: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd yng Nghymru a'r DU 2023
Ffigur 11: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd yng Nghymru a'r DU 2023 

Mae Ffigur 12 yn dangos yr un agweddau tuag at entrepreneuriaeth pan gaiff ei gyfyngu i bobl ifanc 18 i 24 oed yn unig. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng Cymru a'r DU yn y canfyddiad o gyfleoedd i gychwyn busnes, er nad oedd hyn yn ystadegol arwyddocaol. Dim ond 29.1% o bobl ifanc nad oeddent yn entrepreneuriaid yng Nghymru a welodd gyfleoedd cychwyn da yn eu hardal yn y 6 mis nesaf, o'u cymharu â 41.2% yn y DU. 

Wrth gymharu agweddau pobl ifanc yn erbyn pawb nad yw’n entrepreneur (fel y dangosir yn Ffigur 11) mae cyfran sylweddol uwch o bobl ifanc yng Nghymru yn adnabod rhywun sydd wedi dechrau busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sef 61% o'u cymharu â 42.9% ar gyfer y boblogaeth ehangach nad ydynt yn entrepreneuriaid. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yn y mesurau agweddol eraill. Roedd hyn yr un fath yn y DU lle mae cyfran sylweddol uwch o bobl ifanc hefyd yn adnabod rhywun sydd wedi dechrau busnes (53.6%) na'r boblogaeth ehangach (45.2%). Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn y mesurau eraill.  

Image
Ffigur 12: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru a'r DU 2023
Ffigur 12: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru a'r DU 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Yn arolwg 2023 roedd 28.6% o'r boblogaeth oedran gweithio heblaw entrepreneuriaid yng Nghymru yn cytuno bod cyfleoedd da i ddechrau busnes yn eu hardal leol yn ystod y chwe mis nesaf o'u cymharu â 37.1% yn y DU. Nid oedd cyfradd 2023 yng Nghymru yn llawer is nag yn 2022 pan oedd y gyfradd yn 33.0%. Roedd cyfradd y DU yn debyg iawn i 2022, gan symud o 37.0% i 37.1%. Roedd y bwlch ystadegol arwyddocaol yn y canfyddiad o gyfleoedd rhwng Cymru a'r DU a welwyd ers yr argyfwng ariannol byd-eang wedi culhau'n ddiweddar ond wedi ailagor yn 2023 (Ffigur 13). 

Image
Ffigur 13: Canfyddiad o Gyfleoedd Cychwyn Busnes yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023
Ffigur 13: Canfyddiad o Gyfleoedd Cychwyn Busnes yng Nghymru a'r DU, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Roedd cyfran y boblogaeth heblaw entrepreneuriaid yng Nghymru sy'n gweld cyfleoedd da i gychwyn busnes ond sy'n nodi y byddai ofn methu yn eu hatal rhag dechrau busnes yn 60.2% yn 2023, a oedd yn weddol debyg i 2022 pan oedd yn 59.8%. Nid oedd cyfradd y DU o 56.5% ychwaith yn sylweddol wahanol i'r gyfradd gyfatebol yn 2022 o 58.0%. 

Dengys ffigur 14 fod ofn methu wedi codi yng Nghymru ers 2017 fel y gwnaeth yn y gwledydd cartref eraill. Mae'n ddigon posibl bod y duedd hon i fyny yn adlewyrchu'r lefelau cynyddol o ansicrwydd ynghylch Brexit yn ystod y cyfnod hwnnw. Cyfrannodd y pandemig ymhellach at fwy o ofn methiant, gyda chynnydd yn cael ei weld ers 2020. Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau ofn methiant ar draws y gwledydd cartref yn 2023.

Image
Ffigur 14: Ofn Methiant ymhlith y rhai sy'n gweld Cyfleoedd yng Ngwledydd Cartref y DU, 2002 i 2023
Ffigur 14: Ofn Methiant ymhlith y rhai sy'n gweld Cyfleoedd yng Ngwledydd Cartref y DU, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Roedd cyfran yr oedolion oedran gwaith heblaw entrepreneuriaid yng Nghymru sy'n disgwyl dechrau busnes o fewn y tair blynedd nesaf yn 20.0% yn 2023. Roedd hyn yn fwy, er nad llawer yn fwy, na'r uchafbwynt blaenorol o 18.8% yn 2021 (Ffigur 15). Roedd amcangyfrif y DU o 19.7% yn 2023 hefyd yn weddol debyg i 2021 a 2022. Roedd y cynnydd blaenorol yn y cyfraddau bwriad hyn yn ystod yr argyfwng ariannol byd-eang o bosibl yn adlewyrchu rhesymau anghenraid. Er bod gostyngiad yn y gyfradd yn 2022 yng Nghymru, mae'n debygol bod y cynnydd cyffredinol a welwyd ers 2020 wedi adlewyrchu cyfuniad o anghenraid a bwriad yn sgil y pandemig oherwydd colli swyddi ond hefyd ffyrdd newydd o weithio a chyfleoedd digidol. 

Image
Ffigur 15: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn tair blynedd) yng Nghymru a'r DU ymhlith y boblogaeth nad yw’n entrepreneuraidd, 2002 i 2023
Ffigur 15: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn tair blynedd) yng Nghymru a'r DU ymhlith y boblogaeth nad yw’n entrepreneuraidd, 2002 i 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Yn 2023, roedd cyfran y dynion nad oeddent yn weithredol yn entrepreneuraidd yng Nghymru a nododd eu bod yn bwriadu cychwyn busnes yn y tair blynedd nesaf, sef 24.4%, yn sylweddol uwch na'r gyfradd hon ar gyfer menywod sef 15.7% (Ffigur 16).  Roedd cyfradd y gwrywod hefyd wedi cynyddu'n sylweddol ers y gyfradd gyfatebol yn 2022. 

Mae cyfraddau bwriad 2023 ar gyfer Cymru yn cyfateb i gymhareb benywod i wrywod o 64%, sy'n is na'r gyfradd honno ar gyfer entrepreneuriaeth cyfnod cynnar yng Nghymru (70%). Mae'r gymhareb yn cymharu â 74% yn Lloegr, 95% yn yr Alban, 65% yng Ngogledd Iwerddon a 75% yn y DU gyfan. 

Image
Ffigur 16: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn tair blynedd) yng Ngwledydd Cartref y DU yn ôl Rhywedd, 2023 (
Ffigur 16: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn tair blynedd) yng Ngwledydd Cartref y DU yn ôl Rhywedd, 2023 (Ffynhonnell: APS GEM)

Rhuglder y Gymraeg a gweithgaredd entrepreneuraidd

Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn 2023 yng nghyfraddau TEA y rhai yng Nghymru a oedd yn rhugl mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig (12.2%); a oedd yn gallu siarad a deall rhywfaint o Gymraeg (13.2%), ac nad oedd ganddynt fawr o sgiliau Cymraeg os o gwbl (10.6%). Fodd bynnag, roedd cyfradd TEA y rhai nad oedd ganddynt fawr o sgiliau Cymraeg os o gwbl yn llawer uwch yn 2023 nag ydoedd yn 2022 (6.1%). 

Sylwadau i gloi

Cynyddodd gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru yn sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn ymateb i'r pandemig, gan gyrraedd 10.3% yn 2021. Gostyngodd yn 2022 ond mae cyfradd 2023 o 11.5% yn cynrychioli lefel uchaf erioed newydd i Gymru. Mae'r bwriad i ddechrau busnes hefyd yn fywiog o hyd yn 2023 gydag un o bob pum oedolyn nad yw'n entrepreneur yn bwriadu dechrau busnes o fewn tair blynedd. Cyrhaeddodd cyfraddau bwriad ddigidau dwbl am y tro cyntaf yn 2020 ac maent wedi aros yn uchel ers hynny. Fodd bynnag, yn 2023, mewn un chwarter, mae cyfran sylweddol uwch o ddynion yng Nghymru yn bwriadu dechrau busnes na benywod (15.7%).

Mae hyder o fewn y boblogaeth o ran gallu i gychwyn busnes llwyddiannus a'r amodau i wneud hynny hefyd yn cael ei ddangos trwy gyfraddau cynyddol gweithgarwch entrepreneuraidd yn ôl rhywedd ac oedran. Gan barhau â thueddiad y blynyddoedd diwethaf nid oes gwahaniaeth sylweddol yng nghyfraddau TEA gwrywod a benywod, tra bod cyfradd y gwrywod bellach ar ei huchaf erioed. Mae entrepreneuriaeth ieuenctid hefyd yn parhau i gynyddu o gymharu â lefelau cyn yr argyfwng ariannol byd-eang, tra bod cyfran y boblogaeth ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid sy'n adnabod entrepreneur yn sylweddol uwch nag y mae ar gyfer y boblogaeth ehangach nad ydynt yn entrepreneuriaid.

Ynghyd â gweithgaredd entrepreneuraidd, mae agweddau tuag at entrepreneuriaeth hefyd yn gymharol obeithiol. Mae tua dwy ran o bump (39.1%) o'r rhai nad ydynt yn entrepreneuriaid yn datgan bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i ddechrau busnes ac mae cyfran debyg (42.9%) yn adnabod entrepreneur sydd wedi dechrau busnes o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r rhain yn gyfrannau tebyg i 2022 ac maent yn nodwedd bwysig ar ecosystem entrepreneuraidd. Mae lle i wella ymhellach o fewn canfyddiad o gyfleoedd. Er bod y gyfradd ar gyfer Cymru wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, mae llai na 30% o'r rhai nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn credu y bydd cyfleoedd da i gychwyn busnes yn lleol o fewn y chwe mis nesaf. Mae hyn yn sylweddol is na chyfran y DU o 37.1%.

Mae ofn methiant hefyd yn parhau i fod yn broblem ond yn 2023 mae'r gyfradd yng Nghymru yn debyg i'r DU. Yn 2023 dywedodd tri o bob pump o'r rhai yng Nghymru a nododd gyfleoedd cychwyn busnes y byddai ofn methiant yn eu hatal rhag dechrau busnes. Er hyn, nid yw fel petai wedi effeithio ar fwriadwyr yn y dyfodol. 

Mae'r cwestiynau cymhelliant wedi'u diweddaru yn arolwg GEM UK yn rhoi cipolwg diddorol ar feddylfryd entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru. Yn 2023 eu cymhelliant cryfach o hyd i ddechrau busnes yw naill ai ennill bywoliaeth gan fod swyddi’n brin neu adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn. Mae ychydig llai na hanner yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn y byd, er bod hyn yn is nag y mae yn y DU. Parhau traddodiad busnes teuluol yw'r ffactor cymhelliant lleiaf pwysig o hyd yng Nghymru ac mewn mannau eraill.  Mae hyn yn wahaniad pwysig o gymhelliant entrepreneuraidd sy'n mynd y tu hwnt i deipoleg ddeuaidd syml rhwng cyfle ac anghenraid. 

Ar y cyfan, mae gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru yn parhau i ffynnu. Mewn gwirionedd, dros yr 20 mlynedd diwethaf mae cyfraddau entrepreneuriaeth cyfnod cynnar wedi dyblu, gyda lefelau uwch nag erioed yn 2023 yn gyffredinol ac mewn entrepreneuriaeth dynion. Mae entrepreneuriaeth ieuenctid hefyd yn sylweddol uwch nag ydoedd yn 2002 a, gyda chyfran fwy o bobl ifanc yn adnabod entrepreneur, mae potensial pellach i'r grŵp oedran hwn barhau i gyflymu gweithgaredd entrepreneuraidd yn y blynyddoedd i ddod. 

Ymwadiad

Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan gonsortiwm GEM a thîm GEM UK; cyfrifoldeb yr awduron yn unig yw dadansoddi a dehongli’r data.

I gael gwybod rhagor am brosiect GEM UK, cysylltwch â’r:

Athro Mark Hart
Grŵp Economeg, Cyllid ac Entrepreneuriaeth
Ysgol Fusnes Aston, Prifysgol Aston
Aston Triangle, Birmingham, B4 7ET

E-bost: mark.hart@aston.ac.uk