Cyfarfod y Cabinet: 8 Gorffennaf 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 8 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Jayne Bryant AS
- Sarah Murphy AS
Apologies
- Julie James AS
Officials
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat, Prif Weinidog Cymru
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Darren Griffiths, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Owen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 1 Gorffennaf.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cyfarfod â Phrif Weinidog y DU
2.1 Soniodd y Prif Weinidog am ei gyfarfod â Prif Weinidog y DU, a oedd wedi digwydd yn gynharach y prynhawn hwnnw. Roedd y drafodaeth wedi canolbwyntio ar ddyfodol Gwaith Dur Port Talbot, yr effaith ar yr economi ehangach, a'r angen i wella cysylltiadau rhynglywodraethol.
2.2 Ar ôl y cyfarfod hwnnw, roedd Prif Weinidog Cymru hefyd wedi cynnal cyfarfod dwyochrog gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Tata Steel
2.3 Nododd y Cabinet fod yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes a Masnach a Llywydd y Bwrdd Masnach yn parhau i gynnal trafodaethau gyda rheolwyr Tata Steel.
Ymweliad Brenhinol
2.4 Nodwyd y byddai'r Brenin a'r Frenhines yn ymweld â'r Senedd ddydd Iau i ddathlu 25 mlynedd ers datganoli yng Nghymru.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod yr amser ar gyfer cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), a oedd wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, wedi ei leihau i ddwy awr. Roedd yr amser pleidleisio arferol wedi ei drefnu ar gyfer 4:15pm ddydd Mawrth, cyn y ddadl cyfnod tri, a byddai amser pleidleisio tua 5:55pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2024