Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau hyn wedi'u llunio i'ch helpu i lenwi'r ffurflen gais am grant cyfalaf Ynni Cymru

Bwriad y ddogfen hon yw rhoi arweiniad cyffredinol yn unig ac nid oes ganddi unrhyw rym cyfreithiol. Mae'r sail gyfreithiol y bydd grantiau'n cael eu cynnig a'u talu arni wedi'i nodi yn amodau'r grant. Bydd yr amodau penodol a fydd yn berthnasol i unrhyw grant a gynigir os bydd eich cais yn llwyddiannus, yn cael eu nodi yn y Llythyr Dyfarnu Grant ffurfiol. 

Os nad ydych yn siŵr am unrhyw un o amodau'r grant neu'r cymalau yn y datganiad y bydd gofyn ichi ei wneud ar ddiwedd y ffurflen gais, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Cyn i chi ddechrau

Cyn cyflwyno'ch cais, cyfrifoldeb yr ymgeisydd arweiniol yw sicrhau:

  • bod yr holl wybodaeth yn eich cais yn gywir
  • bod eich cynnig yn bodloni'r meini prawf ac felly'n gymwys
  • bod pob adran o'r cais wedi'i llenwi
  • os ydych yn cyflwyno cais cydweithredol, bod yr holl bartneriaid wedi llofnodi'r cais

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru drwy Ynni Cymru yn gweithio i helpu i ddatblygu a darparu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru. Mae cronfa o hyd at £10 miliwn ar gyfer grantiau cyfalaf ar gael i sefydliadau cymwys i gynnal prosiectau SLES ledled Cymru. Ar gyfer gwaith cyfalaf yn unig y mae'r arian hwn ac ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau cyn cynnig y grant. Dim ond un cais fesul sefydliad fa ganiateir, ac rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau cydweithredol.

Bydd ceisiadau'n cael eu gwerthuso, mewn cystadleuaeth â cheisiadau eraill, ar sail y meini prawf canlynol:

  • Ymarferoldeb y cynllun
  • Yn gyson ag egwyddorion SLES Ynni Cymru ac amcanion ehangach
  • Manteision
  • Costau a Chaffael

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm, 18 Hydref 2024 a rhaid cwblhau’r prosiectau erbyn 31 Mawrth 2025.

Amcanion Ynni Cymru

Bydd y grant cyfalaf yn helpu sefydliadau cymwys i wireddu amcanion Ynni Cymru, sef: 

  • Cyflymu'r broses o newid i SLES ledled Cymru a'u defnyddio; 
  • Cynyddu'r ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i bobl leol a ddefnyddir ac a gynhyrchir yng Nghymru;   
  • Gwneud prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i bobl leol mor effeithiol ac effeithlon â phosib;  
  • Hwyluso pontio cyfiawn i sero net, gan gadw'r manteision yng nghymunedau Cymru. 

Beth fydd yn cael ei ariannu?

  • Mae cyllideb o hyd at £10 miliwn o gyllid grant cyfalaf.
  • Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2025.
  • Y grant lleiaf y gellir ei roi i brosiect unigol yw £25,000.
  • Y grant mwyaf y gellir ei roi i brosiect unigol yw £1m.
  • Nid oes yn rhaid wrth gyllid cyfatebol, ond bydd ceisiadau sydd ag elfen o arian cyfatebol yn cael blaenoriaeth.
  • Rydym am ariannu ystod amrywiol o brosiectau SLES ledled Cymru. Felly mae cyllid ar gael i ariannu prosiectau SLES newydd, neu elfennau o brosiect sy'n arwain at greu SLES. 
  • Yn ystod y broses werthuso, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny sy'n brosiectau SLES amlfector (pŵer, gwres a thrafnidiaeth). 
  • Anogir ceisiadau cydweithredol. Ar gyfer ymgeiswyr sy'n Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), bydd ceisiadau cydweithredol rhwng BBaChau a sefydliadau cymunedol yn cael blaenoriaeth. 
  • Y grant mwyaf sydd ar gael fesul sefydliad sy'n ymgeisio yw £1m i gynnal gwaith cyfalaf sy'n cyd-fynd ag egwyddorion SLES a nodir isod.
  • Sylwch fod y cyllid sydd ar gael yn cydymffurfio â'r rheolau cymhorthdal (gweler yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod yn y canllawiau).

Egwyddorion System Ynni Lleol Clyfar (SLES)

Mae SLES yn uno gwahanol asedau cynhyrchu ynni, storio ynni, rheoli'r galw am ynni a seilwaith ynni mewn ardal, er mwyn gallu eu rhedeg yn fwy deallus a darparu buddion lleol. 

  • Clyfar - mae prosiectau clyfar yn defnyddio data ac offer rheoli i sicrhau bod ynni'n cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon ac effeithiol, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn (e.e. systemau a meddalwedd rheoli ar gyfer monitro ac awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a / neu fasnachu ynni). 
  • Lleol - bydd prosiectau'n eiddo i bobl leol (Canllawiau i ddatblygwyr, cymunedau lleol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau), ac yn cydnabod bod gan leoedd a chymunedau gwahanol yng Nghymru anghenion gwahanol, a bydd manteision yn aros yn yr ardal (e.e. perchnogaeth leol a manteision carbon, ariannol ac amgylcheddol a chymdeithasol ehangach).
  • System Ynni - mae prosiectau'n defnyddio sawl math o dechnoleg (e.e. cyfuniad o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol i annog defnyddio ynni adnewyddadwy; gwresogi, oeri a dŵr twym carbon isel; cludiant allyriadau isel iawn; lleihau'r galw; cydleoli technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy; defnydd gorau posibl o gapasiti'r grid a storio ynni). 

Enghreifftiau o Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)

Disgrifir enghreifftiau o brosiectau SLES posibl isod, i helpu ymgeiswyr i ddeall sut i roi egwyddorion SLES uchod ar waith, ond nodwch mai diben yr enghreifftiau hyn yw esbonio yn unig ac nad ydynt yn gynhwysfawr:

Enghraifft 1

Mae adeilad (e.e. swyddfa, canolfan gymunedol, canolfan hamdden ac ati) yn gosod paneli solar (PV), batri storio, pwmp gwres ffynhonnell aer ac offer rheoli a mesuryddion clyfar. Mae'r cyfuniad o dechnolegau wedi'i gynllunio i gynhyrchu cymaint o ynni at eu dibenion eu hunain â phosibl ar y safle a lleihau allyriadau carbon yr adeilad. 

Enghraifft 2

Grŵp o BBaChau sy'n gweithio gyda sefydliad cymunedol i osod paneli solar, pympiau gwres, batris a seilwaith gwefru cerbydau trydan ym mhob rhan o barc busnes bach. Mae'r cyfuniad o dechnolegau wedi'i gynllunio i gynhyrchu cymaint o ynni at eu dibenion eu hunain â phosibl ar y safle a lleihau allyriadau carbon y parc busnes.

Enghraifft 3

Cyd-leoli system storio ynni mewn batri (BESS), cynhyrchydd trydan adnewyddadwy ategol (e.e. tyrbin gwynt) a seilwaith gwefru cerbydau trydan, i gyd ar fferm solar sy'n bod i roi hyblygrwydd i'r grid a'i gryfhau gyda'r trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio yn y fan a'r lle. Gall gynnig marchnadoedd refeniw newydd i'r system, diolch i'r BESS.

Pwysig

Ym mhob un o'r enghreifftiau uchod, rhaid pwysleisio pwysigrwydd gwaith dichonoldeb a modelu trylwyr. Bydd angen tystiolaeth o ddichonoldeb a dyluniad eich prosiect a'r gwaith modelu (a rhagdybiaethau sylfaenol) a wnaed ar ei gyfer, i gefnogi'ch cais.

Technolegau cymwys

Yn unol ag egwyddorion SLES a'r enghreifftiau uchod (yn ogystal ag enghreifftiau o brosiectau SLES sy'n gweithio), gallai'r technolegau sy'n gymwys i gael cyllid gynnwys cyfuniad o'r canlynol:

  • Systemau clyfar fel systemau rheoli adeiladau, goleuo clyfar, systemau clyfar ar gyfer monitro'r grid a mesuryddion clyfar. 
  • Technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel:
    • Treulio anaerobig
    • Hydro
    • Paneli Solar (PV) a solar thermol
    • Gwynt
  • Technoleg gwresogi, oeri a dŵr twym carbon isel, fel pympiau gwres (unrhyw fath), solar thermol a rhwydweithiau gwres. 
  • Seilwaith cludiant allyriadau isel iawn, fel Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan (EVCI). 
  • Technolegau storio ynni fel storio mewn batri, storio ynni thermol a storio gwres.

Yn ogystal â chost y technolegau, gellir cynnwys gwaith galluogi rhesymol - fel y rhai sy'n ymwneud â dylunio a pheirianneg, cyflenwi prosiectau, offer, gosod a chomisiynu - ar yr amod eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â'r technolegau sy'n cael eu gosod. Gellir cynnwys hefyd ffioedd ymgynghori a rheoli allanol sy'n gysylltiedig â gosod/adeiladu'r prosiect.

Costau anghymwys

  • Costau refeniw mewnol, fel costau staff, gweithrediadau neu gynnal a chadw. 
  • Mesurau nad ydynt yn arwain at neu'n helpu i arbed carbon, gan gynnwys:
    • Unrhyw offer sy'n gwresogi â thanwydd ffosil e.e. boeleri nwy, CHP nwy
    • Cael gwared ar system wresogi carbon isel sy'n dal â bywyd defnyddiol ar ôl.
  • Costau gwaith adnewyddu ehangach ar adeiladau, fel gwaith ar adeiladwaith yr adeilad neu ailddodrefnu. 
  • Gwaith ôl-weithredol, sydd eisoes wedi dechrau neu ei gwblhau. 
  • Gwelliannau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. 
  • Gwaith dichonoldeb neu gysyniadol. 
  • Costau swyddfa, gan gynnwys rhent, dwr, nwy a thrydan, offer swyddfa.
  • Costau teithio a chynhaliaeth. 
  • TAW y gellir ei gael yn ôl - bydd angen i ymgeiswyr reoli'r agwedd hon ar eu llif arian yn briodol os byddant yn talu TAW mewn un flwyddyn ariannol ond yn ei gael yn ôl yn y nesaf. 
  • Costau wrth gefn, gan mai mater i'r ymgeisydd eu rheoli fydd unrhyw gostau uwch na'r disgwyl.

Pwy sy'n cael gwneud cais?

Bydd y sefydliadau canlynol, sydd â'u pencadlys neu sydd â man gweithredu yng Nghymru, yn cael gneud cais: 

  • Sefydliadau cymunedol 
  • Mentrau Cymdeithasol â chyfansoddiad cyfreithiol. Gall Menter Gymdeithasol fod, ymhlith eraill, yn:
    • Gwmni Buddiannau Cymunedol 
    • Cwmni cyfyngedig drwy warant neu gyfranddaliadau 
    • Cymdeithas Gydweithredol a Chymdeithas Budd Cymunedol 
    • Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus 
    • Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 
    • Elusen gofrestredig: 
  • Busnesau Bach a Chanolig cyfreithlon, sydd hefyd yn cyflogi pobl yng Nghymru (gweler yr Eirfa am ragor o fanylion ynghylch pa BBaChau sy'n gymwys)
  • Cyrff sector cyhoeddus

Mae croeso i sefydliadau gyflwyno ceisiadau cydweithredol. O ran ymgeiswyr sy'n BBaChau, bydd prosiectau lle mae BBaCh yn gweithio gyda sefydliad cymunedol neu fenter gymdeithasol yn cael blaenoriaeth. 

Rydym yn croesawu ceisiadau cydweithredol gan sefydliadau cymwys a restrir uchod.

Caffael: gwerth am arian

Os bydd angen prynu nwyddau a/neu wasanaethau arnoch i gynnal y prosiect SLES, rhaid eu prynu mewn modd cystadleuol a chynaliadwy a rhaid dangos eich bod (i) wedi cael y gwerth gorau o'r arian cyhoeddus, ac (ii) wedi cydymffurfio â pholisi gwrthdaro buddiannau eich sefydliad ar yr adeg berthnasol. Cawn ofyn am dystiolaeth gennych i ddangos eich bod yn cydymffurfio â’r gofyn hwn. Gallai tystiolaeth o’r fath fod ar ffurf tystiolaeth eich bod:

  • yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau, deddfwriaeth neu ganllawiau caffael sydd mewn grym o bryd i’w gilydd yr ydych chi, neu unrhyw berson sy’n cynnal busnes neu swyddogaeth o’r un natur â chi neu natur debyg ichi, yn ddarostyngedig iddynt; neu
  • yn cydymffurfio â’ch polisi caffael fydd mewn grym ar yr adeg berthnasol; neu
  • wedi cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig ar gyfer y nwyddau a/neu’r gwasanaethau perthnasol.

Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’r fath inni’n gyflym ar ôl ein cais ysgrifenedig am dystiolaeth o’r fath.

Trosolwg o'r prosesau ymgeisio a dethol

  • Cam 1: Ynni Cymru yn lansio cais agored am brosiectau: 3 Medi 2024.
  • Cam 2: Gwybodaeth am y grant cyfalaf ar-lein: 12 Medi 2024. 
  • Cam 3: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 5pm, 18 Hydref 2024. 
  • Cam 4: Bydd ceisiadau'n cael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio, yn gyflawn, a bod y dogfennau ategol perthnasol wedi'u hatodi.  
  • Cam 5: Bydd ceisiadau sy'n cydymffurfio yn cael eu gwerthuso ar sail gystadleuol yn erbyn y meini prawf sgorio a ddisgrifir isod. 
  • Cam 6: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Llythyr Dyfarnu Grant ym mis Rhagfyr 2024 yn nodi'r grant mwyaf a gynigir, cyfnod y grant, amodau'r grant a'r amserlen dalu.  
  • Cam 7: Rhaid hawlio'r grant erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Llythyr Dyfarnu gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio briodol ac anfon y dogfennau ategol y gofynnir amdanyn nhw yn y Llythyr Dyfarnu. Bydd rheolau hawlio penodol a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod amdanynt.

Ffurflen gais a'r broses werthuso

Mae'r ffurflen gais wedi'i rhannu'n nifer o adrannau. Mae rhai'n gofyn pa mor gymwys ydych chi, rhai yn gofyn am wybodaeth bwysig, a bydd rhai ohonynt yn cael eu defnyddio gan y panel penderfynu i asesu ceisiadau. Mae'r tabl isod yn nodi manylion pob adran. Dylech ddarllen y tabl a'r ffurflen gais gyda'i gilydd.

Adran 1: Pwy sy'n gymwys

Cwestiynau 1 i 6: Cyfres o gwestiynau i gadarnhau bod y prosiect yn gymwys i fynd yn ei flaen i'r cam ymgeisio. Sylwer, mae C6 yn gofyn i'r ymgeisydd gadarnhau fod ganddo o leiaf 3 blynedd o les ar yr adeilad/tir. Os yw ymgeisydd ynghanol ei les, mae hynny'n dderbyniol.  

Pwysoliad: Pasio / Methu

Adran 2: Manylion y cais

Cwestiynau 7 i 22: Rhowch fanylion eich sefydliad (os yw hwn yn gais ar y cyd â sefydliad arall, rhowch fanylion y sefydliad arweiniol).  

Pwysoliad: Dim

Adran 3: Prif gyswllt

Cwestiynau 23 i 28: Rhowch fanylion y person a fydd yn brif bwynt cyswllt i Ynni Cymru mewn perthynas â'r prosiect.  

Pwysoliad: Dim

Adran 4: Ail gyswllt

Cwestiynau 29 i 34: Rhowch fanylion pwy y dylai Ynni Cymru gysylltu ag ef/hi os na fydd y person a enwir yn adran 3 ar gael.   

Pwysoliad: Dim

Adran 5: Swyddog awdurdodi

Cwestiynau 35 i 40: Rhowch fanylion y person o'r sefydliad arweiniol sy'n cael cymeradwyo'r cyllid sy'n gysylltiedig â'r prosiect ac sy'n atebol amdano, megis swyddog Adran 151 neu Gyfarwyddwr Cyllid.

Pwysoliad: Dim

Adran 6: Ymarferoldeb 

Diben yr adran hon yw helpu Ynni Cymru i asesu lefel yr hyder y caiff y prosiect hwn ei gyflawni.

Pwysoliad: 25% o gyfanswm y marciau

Cwestiwn 41: Rhowch amserlen fanwl ar gyfer cynnal y prosiect, gyda cherrig milltir clir. Lanlwythwch i adran Dogfennau Ategol y ffurflen gais

Pwysoliad: 20%.

Cwestiwn 42: Disgrifiwch rolau aelodau tîm y prosiect ac unrhyw brofiad perthnasol 

Pwysoliad: 40%, dim mwy na 1,000 gair

Cwestiwn 43: Nodwch y tair risg fwyaf i gynnal y prosiect a sut y byddwch yn ceisio eu lleihau.

Pwysoliad: 40%, dim mwy na 1,000 gair

Adran 7: Yn gyson ag Amcanion Ynni Cymru 

Diben yr adran hon yw cadarnhau bod y prosiect yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Systemau Ynni Lleol Clyfar, ac asesu i ba raddau y mae'r prosiect yn helpu Ynni Cymru i wireddu ei amcanion.

Pwysoliad: 25% o gyfanswm y marciau

Cwestiwn 44: Esboniwch sut mae elfennau'r prosiect yn rhoi pob un o egwyddorion System Ynni Lleol Glyfar ar waith. Mae'r cwestiwn yn gofyn ichi lanlwytho tystiolaeth o waith dichonoldeb a dylunio fel dogfennau ategol. Sylwer, nid yw'r dogfennau ategol yn cyfrannu at derfyn geiriau'r adran hon.

Pwysoliad: 75%, Dim mwy na 1,500 gair

Cwestiwn 45: Nodwch sut mae'r cynnig yn gyson ag amcanion ehangach Ynni Cymru (gweler adran amcanion Ynni Cymru yn y Canllawiau). 

Pwysoliad: 25%, Dim mwy na 800 gair

Adran 8: Manteision

Bydd yr adran hon yn helpu Ynni Cymru i ddeall y manteision y bydd pob prosiect yn eu darparu, ac yn ei alluogi i werthuso gwerth am arian gwahanol brosiectau.  

Pwysoliad: 25% o gyfanswm y marciau

Cwestiwn 46: Disgrifiwch y prif fanteision y bydd y prosiect hwn yn eu darparu'n uniongyrchol, a lefel y fantais. Rhaid i fwy na dim ond yr ymgeisydd elwa ar y manteision. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n cynnig manteision cymdeithasol (e.e. trechu anghydraddoldeb), economaidd (e.e. arbed costau ynni) ac amgylcheddol (e.e. arbed carbon) ehangach

Pwysoliad: 100%, Dim mwy na 1,400 gair

Adran 9: Costau'r Prosiect a Chaffael 

Mae'r adran hon yn gofyn i ymgeiswyr rannu manylion costau ag Ynni Cymru er mwyn ei helpu i werthuso gwerth am arian gwahanol brosiectau. 

Pwysoliad: 25% o gyfanswm y marciau

Cwestiwn 47: Nodwch faint o grant Ynni Cymru sydd ei angen ar y prosiect, a pha gyfran o gost y prosiect y mae hyn yn ei gynrychioli. Bydd y wybodaeth a'r rhesymau a roddwch wrth ateb cwestiynau 50-61 yn cael eu defnyddio gan y panel gwerthuso i sgorio C47. 

Pwysoliad: 34%, Dim mwy na 500 gair

Cwestiwn 48: Disgrifiwch y camau y byddwch yn eu dilyn i gaffael nwyddau a gwasanaethau, a sut mae'r camau hyn yn helpu i sicrhau gwerth am arian.

Pwysoliad: 33%, Dim mwy na 500 gair

Question 49: Disgrifiwch unrhyw ffynonellau cyllid ychwanegol rydych wedi'u sicrhau ar gyfer y prosiect, pam mae angen arian cyhoeddus a'r gwahaniaeth y bydd yr arian cyhoeddus yn ei wneud.

Pwysoliad: 33%, Dim mwy na 500 gair

Cwestiynau 50 i 64: Mae'r gyfres hon o gwestiynau yn gofyn am fanylion eich costau.

Pwysoliad: Dim

Adran 10: Dogfennau ategol

Cwestiynau 65 i 67: Ychwanegwch dystiolaeth o'r cydsyniadau rydych wedi'u cael megis cynllunio, les adeiladau, gwaith dichonoldeb, ac unrhyw ddyfynbrisiau, profion meddal o'r farchnad, ac ati.

Pwysoliad: Dim

Adran 11: Datganiad

Cwestiwn 68: Llofnodwch y datganiad hwn cyn ei gyflwyno, gan sicrhau bod y person a enwir yn Adran 5 wedi cymeradwyo ei gyflwyno.  

Pwysoliad: Dim

Adran 12: Diogelu Data

Cwestiwn 69: Llofnodwch y datganiad hwn cyn ei gyflwyno, gan sicrhau bod y person a enwir yn Adran 5 wedi cymeradwyo ei gyflwyno.  

Pwysoliad: Dim

Caiff ceisiadau eu sgorio gan ddefnyddio'r raddfa sgorio ganlynol. Bydd marc o 1 ar gyfer unrhyw gwestiwn yn golygu y caiff y panel gwerthuso roi'r gorau i farcio'r cais a'i wrthod.

Rhagorol

Yn dangos yn glir gydag argyhoeddiad sut y caiff yr holl ofynion eu bodloni, gyda manylion ategol llawn wedi'u darparu. Yn rhoi hyder llwyr y caiff ei gynnal mewn modd rhagorol. 

Sgôr: 5
A oes modd ei gyllido: Oes

Da iawn 

Yn dangos sut y caiff yr holl ofynion eu bodloni, gyda manylion ategol llawn wedi'u darparu. Mae'n rhoi hyder llwyr y caiff y gynnal mewn modd da iawn. 

Sgôr: 4
A oes modd ei gyllido: Oes

Da

Yn dangos y caiff y rhan fwyaf o'r gofynion eu bodloni, gyda rhai manylion ategol wedi'u darparu. Mân ddiffygion neu wendidau.  

Sgôr: 3
A oes modd ei gyllido: Oes

Derbyniol

Yn dangos y caiff rhai gofynion eu bodloni, gyda rhai manylion ategol wedi'u darparu. Rhai diffygion neu wendidau.  

Sgôr: 2
A oes modd ei gyllido: Oes

Gwael

Heb roi llawer o sicrwydd y caiff y gofynion eu bodloni. Heb ddarparu digon o fanylion ategol. Bernir nad yw'r ymateb yn ateb y gofynion. 

Sgôr: 1
A oes modd ei gyllido: Na

Sut i wneud cais

I weld Cais am Gyllid Cyfalaf Ynni Cymru, cliciwch ar y ddolen hon Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2024 i 2025. Rhaid ei gyflwyno erbyn 5pm, 18 Hydref 2024. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae'r canllawiau hyn yn rhoi arweiniad cyffredinol ond nid oes ganddynt rym cyfreithiol. 
  • Ni fydd Ynni Cymru'n atebol am unrhyw gyngor/cymorth y gall ei ddarparu.
  • Ni fydd Ynni Cymru na Llywodraeth Cymru yn atebol ichi am unrhyw golled, difrod, costau, treuliau neu rwymedigaeth arall sy'n deillio o ddarparu neu mewn cysylltiad â darparu unrhyw gyngor neu gymorth o'r math hwn a/neu unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar y cyngor neu'r cymorth hwnnw. 
  • Dyfernir cyllid drwy gystadleuaeth. Mae terfyn i'r cyllid sydd ar gael ac nid oes gwarant y caiff cyllid ei ddyfarnu i unrhyw sefydliad. Rhoddir yr holl ddyfarniadau yn ôl disgresiwn ac nid oes proses apelio. Ar gyfer ceisiadau gan BBaCh, rhoddir blaenoriaeth i geisiadau cydweithredol rhwng BBaChau a sefydliadau cymunedol.
  • Fel darparwr arian yn y sector cyhoeddus, ni ddylai'r gronfa hon ymgymryd ag unrhyw weithgaredd all ddisodli neu ystumio'r ddarpariaeth bresennol yn y farchnad.  Canolbwyntir ar fuddsoddi mewn prosiectau sy'n methu cael  buddsoddiad mwy confensiynol neu a fyddai'n ei chael hi'n anodd ei gael. Hefyd, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried yng nghyd-destun ffynonellau cyllido eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, a gellir cyfeirio ymgeiswyr tuag at y cyllid hwnnw neu at gyllid cymysg yn ôl y gofyn.
  • Nid yw Ynni Cymru na Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai gweithgareddau sy'n debygol o arwain at ddadlau ynghylch a yw'n ddefnydd priodol o arian cyhoeddus ac felly ni fyddant yn ariannu unrhyw sefydliad neu weithgaredd a allai, yn ein barn ni, ddwyn anfri ar Ynni Cymru neu Lywodraeth Cymru.
  • Gwneir dyfarniadau ar sail eu bod yn gynlluniau cymhorthdal bach yn unol â'r canllawiau yn Atodiad 2 o Ddeddf Rheoli Cymhorthdal y DU (2022).  Byddwch yn ymwybodol y bydd manylion pob dyfarniad yn cael eu cyhoeddi yng Nghronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU yn unol ag ymrwymiadau rheoli cymhorthdal Llywodraeth Cymru. 
  • Nid yw gweithgareddau sydd eisoes wedi'u dechrau o fewn cwmpas y grant hwn.
  • Sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW - Os yw'r sefydliad wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, dim ond y gwerth net y caniateir iddo ei hawlio. Felly, rhaid bod gan sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ddigon o arian i dalu am gost TAW y gwaith.
  • Sefydliadau nad ydynt wedi'u cofrrestru ar gyfer TAW - Os nad yw'r sefydliad wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna gall hawlio'r gost lawn gan gynnwys TAW oddi wrth Ynni Cymru ond ni fyddwch yn gallu hawlio'r TAW yn ôl oddi wrth HRMC.
  • Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau cydweithredol.
  • Ni chaiff sefydliad gyflwyno mwy nag un cais. 
  • Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses ymgeisio yn hygyrch, felly cysylltwch â ni os hoffech i ni wneud addasiadau rhesymol: YnniCymru@localpartnerships.gov.uk.