Neidio i'r prif gynnwy

Presenoldeb

Glyn Hewinson, cadeirydd 
Dai Grove-White, aelod
Gareth Edwards, aelod
Gareth Enticott, aelod
Gwenllian Rees, aelod
Keith Cutler, aelod
Robert Smith, aelod
Sarah Tomlinson, aelod
Sarah Woollatt, aelod
Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru
Yr Ysgrifenyddiaeth, yr Ysgrifenyddiaeth

Siaradwyr gwadd/arsylwyr

Pennaeth Rhaglen Dileu TB Gwartheg, Llywodraeth Cymru
Polisi ac Ystadegau TB Gwartheg, Llywodraeth Cymru
Cynrychiolydd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)

1. Croeso gan y Cadeirydd a Manylion Ymarferol

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am roi o'u hamser, eu harbenigedd a'u gwaith amserol a gwerthfawr ar gyngor polisi lladd ar y fferm. 

Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau Ifan Lloyd, a chyflwynodd sylwedydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a fydd yn mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol i gynghori ar gyflawni unrhyw gyngor polisi a ystyrir. 

Atgoffodd y Cadeirydd y grŵp o'r canlynol:

  • cyfrinachedd
  • natur annibynnol y grŵp

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol. 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. 

Datganodd aelodau'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) wrthdaro buddiannau.

Cadarnhawyd cyfarfodydd yn y dyfodol fel a ganlyn:

  • Dydd Mercher 9 Hydref 2024 
  • Dydd Iau 23 Ionawr 2025
  • Dydd Iau 10 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025
  • Dydd Iau 16 Hydref 2025

Anogwyd aelodau TAG i nodi pynciau ar gyfer canolbwyntio arnynt yn y dyfodol. 

2. Cyflwyniad a sgwrs gan filfeddygon a ffermwyr sy'n rhan o brosiect Sir Benfro

Cyflwynodd mynychwyr sy'n rhan o brosiect Sir Benfro (gan gynnwys milfeddygon a ffermwyr) eu hunain, a rhoddwyd cyflwyniad yn ymdrin â'r canlynol:

  • realiti TB yn Sir Benfro gyda ffeithiau a ffigurau
  • gwrthdroi tynghediaeth
  • astudiaethau achos
  • defnyddio data o brosiect Moch Daear Marw Cymru 
  • asesu bioddiogelwch a'r defnydd o 'sgoriau fferm'
  • ymgysylltu
  • effeithiau eilaidd Prosiect Sir Benfro
  • dulliau rhagweithiol vs adweithiol o reoli TB 
  • syniadau ar sut i gyflymu'r broses o ddileu TB yng Nghymru

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau drwy gydol eu cyflwyniad. 

Diolchodd y Cadeirydd i brosiect Sir Benfro a phwysleisiodd pa mor bwysig yw bod y Grŵp Cynghori Technegol yn clywed safbwyntiau ffermwyr a milfeddygon. 

Diolchodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru i'r Grŵp Cynghori Technegol am eu gwaith ar ladd ar y fferm, a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am eu cyngor derbyniol a'u penderfyniadau polisi diweddar. Rhoddodd APHA ddiweddariad ar y newidiadau i'r polisi lladd ar y fferm o safbwynt gweithredu a chyflawni. 

3. Cyflwyniad data TB gan Lywodraeth Cymru

Cyflwynwyd trosolwg o ddata TB i'r Grwp Cynghori Technegol oedd yn cwmpasu:

  • demograffeg buchesi
  • achosion mewn buchesi
  • mynychder mewn buchesi
  • haint parhaus mewn buchesi
  • ailheintio mewn buchesi
  • data cymharol Cymru a Lloegr

Cafodd yr aelodau gyfle i gael sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.

Diolchodd y Cadeirydd am y cyflwyniad clir a gwerthfawr, a diolchodd y Grŵp Cynghori Technegol am drafod data cymhleth. 

4. Cyflwyniad Cymorth TB gan Lywodraeth Cymru

Cyflwynwyd diweddariad ar Cymorth TB gan Lywodraeth Cymru ac yna cafwyd sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r Grŵp.

Roedd y diweddariad yn cynnwys:

  • cefndir ar cymorth
  • gweithgareddau cyfredol a’r nifer sy'n cymryd rhan
  • cysylltiadau â phrosiectau a rhaglenni eraill
  • gwaith cychwynnol gyda rhanddeiliaid i adolygu Cymorth.

Trafododd aelodau'r Grŵp ystyriaethau tymor byr a thymor hirach o ran Cymorth a'r canlyniadau a fwriadwyd. Awgrymwyd bod angen rhoi nifer o elfennau ar waith, gan gynnwys:

  • yn y lle cyntaf, dylai Llywodraeth Cymru asesu dichonoldeb newid cwmpas Cymorth TB
  • pwysleisiwyd yn gryf pa mor werthfawr yw bod ffermwyr a milfeddygon yn cydweithio i benderfynu ar gamau gweithredu ar lefel buches, a chynllunio iechyd. Dywedodd y Grŵp Cynghori Technegol fod hyn yn berthnasol i fuchesi heb TB, yn ogystal â'r rhai sy'n profi achosion o TB ymysg y fuches. 
  • o ran yr ail, pwysleisiwyd pa mor hwylus yw data profion croen TB i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a rheoli risg clefydau, gan gynnwys wrth brynu stoc i mewn. 
  • cynghorodd aelodau'r Grŵp Cynghori Technegol y dylid gofyn i'r ddau Bartner Cyflawni Milfeddygol yng Nghymru nodi bylchau yn yr hyfforddiant presennol ar gyfer profwyr tuberculin cymeradwy a milfeddygon sy'n ymwneud â TB gwartheg. 

Diolchodd y Cadeirydd i'r arweinydd polisi a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau adborth a thrafodaethau pellach rhwng y Grŵp a rhanddeiliaid perthnasol. 

5. Cyflwyniad APHA

Rhoddodd cynrychiolydd APHA gyflwyniad i aelodau oedd yn cynnwys:

  • beth mae APHA yn ei wneud
  • pwy ydyn nhw
  • mathau a rhychwant y gwaith sy'n gysylltiedig â TB a gyflawnir gan APHA
  • perthynas rhwng polisi a chyflawni, gan gynnwys newid.

Cafodd yr aelodau gyfle i gael sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd APHA am eu cyflwyniad a phwysleisiodd bwysigrwydd ystyried goblygiadau cyflawni bob amser pan fydd y Grŵp Cynghori Technegol yn datblygu eu cyngor. 

6. Cyflwyniad Polisi gan Lywodraeth Cymru

Oherwydd anawsterau technegol, tynnwyd yr eitem hon oddi ar yr agenda a bydd yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod nesaf. 

7. Unrhyw fater arall

Gofynnwyd i aelodau'r Grŵp Cynghori Technegol gadarnhau eu barn a'u cyngor ar fynediad i ffermwyr at ddata profion croen TB ar gais. 

Cytunodd yr Aelodau yn unfrydol y dylai data profion croen TB fod ar gael i ffermwyr ar gais. Gofynnodd y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru ac APHA nodi a datrys y rhwystrau i hyn, a rhoi adborth yn y cyfarfod nesaf. 

8. Diolch a sylwadau i gloi

Diolchodd y Cadeirydd a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru i'r aelodau a'r siaradwyr a daeth y cyfarfod i ben. 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: Dydd Mercher 9 Hydref 2024