Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Cydymffurfio (rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio) a gweithredu (mae angen i'r derbynydd gymryd camau gweithredu penodol).

Categori:

Deddfwriaeth.

Teitl:

Cyfarwyddydau i gymhwyso'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru: cod ymarfer i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG, Awst 2024.

I'w weithredu gan:

Byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru.

Angen gweithredu erbyn:

O 1 Medi 2024 ymlaen.

Anfonwr:

Bethan Jones Edwards,
Pennaeth y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.

Albert Heaney,
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddfagenedlaethol@llyw.cymru 

Dogfennau amgaeedig:

Fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth

Annwyl Gydweithwyr

Rydym yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu y cafodd drafft o'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru: cod ymarfer ("y fframwaith cenedlaethol") ei osod gerbron y Senedd ar 11 Mehefin ac, yn dilyn y cyfnod dirymu o 40 diwrnod pan na wnaeth y Senedd benderfynu peidio â chymeradwyo'r drafft o'r cod, ei ddyroddi ar 24 Gorffennaf.

Mae’r cod yn gymwys i gomisiynu gwasanaethau "gofal a chymorth" gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG.

Ar 1 Awst lansiodd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth becyn cymorth digidol y fframwaith cenedlaethol (comisiynu). Mae'n cynnwys adnoddau i helpu comisiynwyr i weithredu a chyflawni egwyddorion a safonau'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth. Mae'r pecyn cymorth agored a chyhoeddus hwn ar gael drwy blatfform cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n galluogi aelodau i gael gwybod pan gaiff adnoddau newydd eu hychwanegu ato.

Yn ogystal, ceir y gymuned comisiynu gofal a chymorth (y fframwaith cenedlaethol) sy'n gymuned gaeedig, wedi'i chyfyngu i gomisiynwyr awdurdodau lleol a GIG Cymru. Bydd yn cynnig ffordd effeithiol i'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth gysylltu'n uniongyrchol â chomisiynwyr gofal a chymorth, yn ogystal â'r sector ehangach, a gweithio mewn modd cydgynhyrchiol â nhw.

Ar 27 Awst 2024, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Camau gweithredu

Y camau gweithredu yw:

  • gofynnir i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG nodi bod y fframwaith cenedlaethol yn dod i rym ar 1 Medi yn sgil gwneud y gorchymyn
  • rhaid i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG gydymffurfio â'r cyfarwyddydau h.y. o 1 Medi ymlaen rhaid iddynt arfer eu swyddogaethau yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn y fframwaith cenedlaethol
  • yn unol â darpariaethau'r fframwaith cenedlaethol, rhaid i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG gydweithio ag awdurdodau lleol mewn perthynas â'r gofynion a'r canllawiau ynghylch partneriaeth a chydweithredu sydd wedi'u nodi yn y fframwaith cenedlaethol
  • gofynnir i gomisiynwyr gofal a chymorth byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau GIG a chydweithwyr perthnasol eraill gofrestru fel y bo'n berthnasol â'r cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru y cyfeirir atynt uchod

Yn gywir,

Judith ac Albert

Judith Paget,
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Albert Heaney CBE,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio a Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.