Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid: 18 Gorffennaf 2024

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Joanne Sims (JS)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Simon Stewart (SS)
  • Deb Austin (DA)
  • Sian Tomos (ST)
  • David Williams (DW)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (TK)

Ymddiheuriadau

  • Marco Gil-Cervantes (MG) 

Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi ei ddatgan

Cofnodion a phwyntiau gweithredu y cyfarfod blaenorol

Adolygodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Mai 2024. 

Diolchodd SL i'r sector, CWVYS, aelodau'r Bwrdd a swyddogion Llywodraeth Cymru am bob gweithgaredd yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys digwyddiad yn Nhŷ Hywel yn rhoi cyfle i bobl ifanc, Aelodau'r Senedd ac aelodau'r Bwrdd drafod blaenoriaethau allweddol.

Datblygu Corff Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol – diweddariad a throsolwg o'r camau nesaf arfaethedig

Rhoddodd DR drosolwg i'r Bwrdd o'r gwaith hyd yma mewn perthynas â datblygu corff Gwaith Ieuenctid cenedlaethol posibl, gan gynnwys cefndir hanesyddol y trafodaethau hyn a throsolwg o'r camau nesaf arfaethedig. Tynnwyd sylw at gysylltiadau â meysydd gwaith eraill, gan gynnwys yr argymhellion a wnaed gan yr adolygiad ariannu diweddar ar gyfer gwaith ieuenctid, cynigion i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, a rôl pobl ifanc.

Trafododd aelodau'r Bwrdd bedwar maes allweddol mewn perthynas â datblygu corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys rhaglenni peilot sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar ddatblygu'r gweithlu, marchnata ac ymgysylltu, yn ogystal â swyddogaethau allweddol y byddai'n ofynnol i gorff cenedlaethol eu cyflawni.

Mae swyddogion yn bwriadu casglu adborth gan randdeiliaid allweddol dros y misoedd nesaf i lywio ymgysylltiad ehangach ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt yn ddiweddarach yn 2024. Roedd aelodau'r bwrdd yn awyddus i ddysgu o sefydlu cyrff a sefydliadau eraill, a darparu cyfleoedd i ystod eang o gynrychiolwyr rannu eu barn, gan ddilyn model tebyg i'r un a fabwysiadwyd ar gyfer gwaith i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Bydd tystiolaeth a gesglir o gam nesaf y gwaith hwn yn helpu i lywio opsiynau sydd i'w cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gyfeiriad y gwaith hwn yn y dyfodol.

Unrhyw fater arall

Rhoddodd DR grynodeb o'r gwaith hyd yma a'r camau nesaf ar gyfer yr adolygiad ariannu ar gyfer gwaith ieuenctid. Bydd y Bwrdd yn trafod canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad yn ei gyfarfod nesaf ym mis Hydref.

Bydd fforwm preswyl ar gyfer pobl ifanc yn cael ei gynnal ym mis Awst gan ganolbwyntio ar ddatblygu model llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc. Mae Urdd Gobaith Cymru wedi'i gontractio i gyflwyno'r fforwm hwn ar ran Llywodraeth Cymru, ac maent yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp Cyfranogiad 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu i ddylunio cynnwys y fforwm. Bydd adborth gan y fforwm yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

Diolchodd Cadeirydd y bwrdd i Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Cefnogaeth i Ddysgwyr, am ei chyfraniad a'i chefnogaeth, wrth i'r Gangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc symud i adran newydd yn ystod y misoedd nesaf.

Nododd swyddogion y bydd y gynhadledd genedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn cael ei chynnal ar 20 Chwefror 2025, ac y bydd manylion pellach yn cael eu rhannu â'r sector ar hyn maes o law. 

Pwyntiau gweithredu

Swyddogion i fwrw ymlaen â gwaith ymgysylltu ar gorff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid, a datblygu cynlluniau manylach ar gyfer gwaith ymgysylltu ehangach o dymor yr hydref 2024 ymlaen.

Aelodau'r Bwrdd i gyfarfod ddechrau Medi 2024 i drafod casgliadau ac argymhellion yr adolygiad cyllido gwaith ieuenctid.

Swyddogion i ddarparu crynodeb o'r newyddion diweddaraf am gyllidebau ar gyfer aelodau'r Bwrdd.

Dyddiad a ffocws y cyfarfod nesaf

3 Hydref 2024.