Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ynni Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned a Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES). Mae SLES yn dod â chynhyrchu, storio, galw a seilwaith ynni at ei gilydd mewn ardal leol. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau'r manteision lleol mwyaf.

Rydym wedi creu rhaglen ariannu grant cyfalaf gwerth £10 miliwn. Gall sefydliadau, a busnesau bach a chanolig (BBaChau) sydd am ddatblygu SLES yng Nghymru wneud cais am gyllid. 

Bydd angen i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025.

Bydd ceisiadau am Grant Cyfalaf Ynni Cymru yn cau ar 5pm 18 Hydref 2024.

Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar gyda rhagor o wybodaeth. Bydd y weminar yn cael ei chynnal rhwng 1pm a 2pm ar 12 Medi 2024.

Darllenwch y canllawiau ymgeisio i helpu i gefnogi eich cais.

Gwneud cais am Grant Cyfalaf Ynni Cymru