Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn Wrecsam yn helpu pobl ifanc i ffynnu trwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau o ddau gyfleuster yng nghanol y ddinas, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb, atal digartrefedd a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyfarfod â staff a phobl ifanc yn siop INFO a Chanolfan Pobl Ifanc Victoria, clywodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn uniongyrchol sut roedd yr amrywiaeth eang o wasanaethau yn helpu pobl ifanc 11 i 25 oed. 

Mae'r prosiect arobryn 'Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty' yn un o'r prosiectau yng Nghanolfan Pobl Ifanc Victoria ac mae'n gweithio gyda phobl ifanc yn Wrecsam a Sir y Fflint sy’n ymddwyn mewn ffyrdd hunan-niweidiol. Ers 2019 bu cynnydd o 278% mewn atgyfeiriadau'n ymwneud â hunan-niweidio yn Inspire.

Drwy feithrin sgiliau ymdopi, gwella lles emosiynol a lleihau ynysu, mae'r prosiect gwaith ieuenctid hwn yn helpu i leihau achosion o hunan-niwed a all arwain at unigolion yn cael eu derbyn i ysbyty.

Y llynedd fe wnaeth Siop INFO ymdrin â thros 10,000 o ymholiadau gan bobl ifanc yn amrywio o gyngor iechyd meddwl i geisiadau am wybodaeth ynghylch iechyd rhywiol. Mae adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi dangos gwelliant mewn sawl agwedd ar eu lles emosiynol, seicolegol, cymdeithasol ac ariannol ar ôl cael mynediad at y gwasanaeth.

Ochr yn ochr â chyngor ac arweiniad cyffredinol ar unrhyw faterion iechyd a lles sy'n achosi pryder iddynt, mae darpariaeth bwrpasol i gael sy’n rhoi cymorth wyneb yn wyneb i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol.

Gall pobl ifanc hefyd ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth am weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd drwy wefan ryngweithiol 'Wrecsam Ifanc'. 

Trwy'r Grant Cymorth Ieuenctid, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darparu a datblygu cyfleoedd gwaith ieuenctid hanfodol o ansawdd i bobl ifanc ledled y wlad.

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn aml yn darparu ffynhonnell gymorth amgen y tu allan i leoliadau ffurfiol ysgol neu goleg. Ar adeg pan fydd llawer o bobl ifanc yn ystyried eu hopsiynau ar ôl cael canlyniadau arholiadau neu gwblhau cymwysterau, gall gwasanaethau gwaith ieuenctid fel y ddwy ganolfan hon yn Wrecsam fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a chymorth yn ystod cyfnod heriol.

Dywedodd Lynne Neagle:

Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld faint o effaith y mae'r prosiectau gwaith ieuenctid hyn yn ei chael ar fywydau pobl ifanc yma yn Wrecsam. Mae arnaf eisiau i Gymru fod yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod ble i fynd am help ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae gwaith ieuenctid yn wasanaeth sy'n helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial ac i ddod o hyd i'w llais fel aelodau grymusol o'u cymunedau. Dyna pam rwyf wedi diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid i sicrhau bod eu rôl hanfodol yn parhau i gael effaith gadarnhaol a thrawsnewidiol ar ein pobl ifanc a'n cymunedau.

Dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth Gwasanaethau Atal a Chymorth Cyngor Wrecsam:

Rydym yn falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymweld â ni heddiw er mwyn i ni roi llwyfan i ddau o'r gwasanaethau rhagorol a ddarperir gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bob person ifanc, yn enwedig pan fônt fwyaf eu hangen. Mae lleoli timau gyda'i gilydd yn y Vic a Siop INFO, yn golygu y gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad mewn da bryd, ac ar yr un pryd fwynhau mannau diogel i gymdeithasu â phobl ifanc eraill.

Rydym yn falch iawn o'r Gwasanaethau Ieuenctid yn Wrecsam, sy'n cael eu darparu gan y Cyngor a'r Sector Gwirfoddol a lle rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cynnig i bobl ifanc yn eang ac yn amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol.