Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Heddiw rwy'n cyflwyno'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Cytunodd y Cynulliad, yn dilyn trafodaeth ddoe yn y Cyfarfod Llawn, y bydd y Bil hwn yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Rwyf hefyd wedi gosod Memorandwm Esboniadol i'r Bil.
Bwriad y Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n cwmpasu pynciau wedi eu datganoli i Gymru wrth i'r DU ymadael â'r UE. Ar ben hynny, bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pynciau hyn yn gweithio'n effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ac ar ôl i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gael ei diddymu gan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU ("y Bil i Ymadael â'r UE").
Bydd y Bil hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddeddfu ar gyfer cynnal cydweddiad rheoleiddiol â'r UE, nawr ac yn y dyfodol, er mwyn i fusnesau Cymru fedru parhau i gael mynediad at farchnad yr UE. Ac fe fydd yn creu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith fel bod rhaid i Lywodraeth y DU, oni bai bod Senedd y DU yn deddfu i'r gwrthwyneb, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud is-ddeddfwriaeth o fewn cwmpas cyfraith yr UE sy’n newid deddfwriaeth ddatganoledig.
Datblygwyd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) mewn ymateb i ddarpariaethau o fewn y Bil i Ymadael â'r UE a fyddai'n tanseilio ein setliad datganoli. Fel y dywedwyd dro ar ôl tro, mae angen diwygio'r darpariaethau'n sylweddol cyn i Lywodraeth Cymru fedru argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad i'r Bil hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Yr opsiwn a ffefrir gennym o hyd yw gweld gwelliannau i’r Bil i Ymadael â'r UE er mwyn iddo weithredu'n deg ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan. Er ein bod yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r gwelliannau hyn - ac yn wir rydym wedi symud ymlaen cryn dipyn dros yr wythnosau diwethaf - rydym eto i ddod i gytundeb.
Dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n anghyfrifol i ni fethu â pharatoi ar gyfer sefyllfa o weld y Cynulliad yn gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil i Ymadael â'r UE. Mae'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn opsiwn wrth gefn i sicrhau parhad deddfwriaethol yng Nghymru mewn ffordd sy'n parchu'r setliad datganoli. Rhaid i ni barhau i gael sicrwydd cyfreithiol i fusnesau a dinasyddion Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE - bydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn ffordd o ddarparu'r sicrwydd cyfreithiol hwnnw.
Un peth sy'n sicr - dydy'r Bil hwn ddim yn atal nac yn rhwystro Brexit. Mae'r Llywodraeth hon yn parchu ac yn derbyn canlyniad refferendwm yr UE ac fe fydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn hwyluso ymadawiad trefnus mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, doedd y bleidlais dros ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ddim yn bleidlais dros wyrdroi datganoli. Mae'r setliad datganoli presennol yng Nghymru wedi cael cefnogaeth mewn dau refferendwm - yn 1997 a 2011. Dydy Brexit ddim yn esgus i anwybyddu'r ddwy bleidlais hon.
Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn parhau i drafod y posibilrwydd o ddiwygio'r Bil i Ymadael â'r UE sydd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Os bydd modd dod i gytundeb, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE. Ond os na fydd hyn yn bosibl, bydd y Bil hwn yn hanfodol ar gyfer diogelu buddiannau Cymru a datganoli.