Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion yng Nghymru a San Steffan wedi cytuno i 'weithio mewn partneriaeth' i ddiwygio'r rheilffyrdd, gwella seilwaith, a darparu gwell gwasanaethau i deithwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn cyfarfod rhyng-weinidogol allweddol yn Llundain yr wythnos hon, trafododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, a Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Hendy, flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio rheilffyrdd y DU. 

Mae'r rhain yn cynnwys datblygu uned fusnes sy'n cael ei gyrru'n lleol ac wedi'i grymuso ar gyfer Rheilffyrdd Prydain yng Nghymru, cyflawni ymrwymiadau i greu rhaglen o welliannau i Gymru a rhoi mwy o lais i Gymru ar fanyleb gwasanaethau trawsffiniol. 

Wrth wneud sylw yn dilyn y cyfarfod, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

Rwy'n teimlo’n gyffrous am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio rheilffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, ochr yn ochr â diwydiant, i lunio dyfodol disglair ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.

"Mae’r penderfyniad yn gweld diwedd ar y system masnachfreinio rheilffyrdd, sydd wedi torri, ac yn gam ymlaen pwysig. Mae'n golygu y bydd gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn aros mewn dwylo cyhoeddus - gan ei gwneud yn haws i integreiddio rheilffyrdd gyda bysiau a chyflawni ein gweledigaeth o Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn. 

"Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu rhaglen y cytunwyd arni ar y cyd o welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol. 

Meddai Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Hendy: 

Rydym yn benderfynol o ddiwygio ein rheilffyrdd i ddarparu gwell gwasanaethau i deithwyr ledled Prydain a chreu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer rhwydwaith modern integredig gyda theithwyr yn ganolog iddi.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei blaenoriaethau ym maes trafnidiaeth a'n huchelgeisiau cyffredin ar gyfer rheilffyrdd, gan gyflawni gwelliannau i’r seilwaith ledled y wlad i hybu cyfleoedd a thwf economaidd.