Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a'r sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ('y Ddeddf Amaethyddiaeth’):

  •  i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
  •  i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd
  • i gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu, ac 
  • i warchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hybu cyfleoedd y cyhoedd i’w defnyddio ac ymgysylltu â nhw, a chynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso’r defnydd ohoni

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn Materion Gwledig Cymru. 

Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig  (CANI) a'r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler Sut i wneud cais yn adran C a'r llyfryn Sut i gwblhau.

Adran A: cyflwyniad

Mae'r CANI wedi'i ddatblygu i feithrin gallu a galluogrwydd er mwyn gweithredu ar y cyd, gan alluogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir ac eraill i gydweithio ar lefel tirwedd, dalgylch neu Gymru gyfan. 

Er bod y cynllun ar wahân i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio elfen gydweithredol y cynllun hwn yn ystod y cyfnod interim. 

Mae'r cynllun yn rhan o gam paratoadol o weithgareddau a allai arwain at brosiectau cydweithredol yn barod i gymryd rhan yn Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Bydd y cynllun yn darparu cyllid ar gyfer cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur ar y raddfa briodol, gan dargedu camau gweithredu ac ymyriadau i wella a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Gallai hyn ddigwydd trwy wella ein priddoedd carbon cyfoethog fel mawndiroedd, creu a rheoli coetir, cyflwyno dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a diogelu tirwedd a nodweddion hanesyddol. Cymryd camau i wella cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol, gwella cysylltedd, graddfa, gallu i addasu neu amrywiaeth cynefinoedd lled-naturiol a’n nodweddion naturiol, gan sicrhau gwydnwch ecosystemau. Cryfhau gwydnwch rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru drwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.

Mae'r cynllun yn gwreiddio egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy: Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: canllaw er mwyn cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd sy'n rhoi camau ar waith i wella ein hadnoddau naturiol mewn ffordd sy'n sicrhau manteision i fusnesau fferm a busnesau gwledig, cymunedau gwledig, a manteision cymdeithasol ehangach. Hefyd, bydd yn cefnogi ac yn hwyluso'r broses o gydlynu â chynlluniau eraill er mwyn ymgymryd â'r camau hanfodol sydd eu hangen i wella gwytnwch busnesau fferm a busnesau gwledig a chymunedau gwledig er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. 

Bydd y cynllun yn ariannu camau gweithredu penodedig â blaenoriaeth ar lawr gwlad trwy gytundebau aml-flwyddyn, sy'n cyflwyno ymyriadau eang ac uchelgeisiol ar draws tirweddau parhaus er mwyn cyflawni yn erbyn ein prif amcanion:

  • ymateb i'r argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd
  • llywio'r gwaith o ddatblygu cyfnodau a/neu gynlluniau posibl yn y dyfodol, a
  • chefnogi rhagor o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng ffermwyr, rheolwyr tir eraill a sefydliadau ehangach

Felly, mae'r cynllun yn ceisio hwyluso datblygiad grwpiau a nodi tir neu dirweddau parhaus y gellir eu dwyn ynghyd i gyflawni nodau'r prosiect. Nid oes angen i'r tir ffinio yn uniongyrchol; gellir diffinio tirwedd barhaus yn ôl ei natur neu ei statws a/neu ei chysylltu trwy ecosystemau, cynefinoedd neu nodweddion naturiol integredig. 

Bydd angen i brosiectau nodi ffocws neu thema'r prosiect. Rhaid i'r ffocws hwn fod yn gysylltiedig â her neu heriau cenedlaethol neu leol. Gallent fod yn heriau cenedlaethol sydd wedi'u cynnwys yn ein Polisi adnoddau naturiol, ymrwymiadau Newid Hinsawdd ac Economi Werdd y Rhaglen Lywodraethu, sef i wneud y mwyaf o bŵer amddiffynnol natur trwy ffermio, ac ehangu trefniadau i greu mannau gwyrdd neu eu gwella’n sylweddol. Gall prosiectau gyfrannu at dargedau plannu coed, 30x30, targedau bioamrywiaeth byd-eang neu faterion a heriau amgylcheddol lleol sydd wedi'u diffinio gan Ddatganiadau Ardal (ar Cyfoeth Naturiol Cymru). Bydd rhaid i brosiectau gysylltu'r ffocws hwn â'r amcanion a'r canlyniadau yn y canllawiau hyn, gan sicrhau'r camau cywir yn y lle cywir. 

Fel cynllun sydd â'r nod o gefnogi'r diwydiant amaethyddol, bydd yn ofynnol i CANI weithio tuag at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. 

Wrth wneud cais am gyllid datblygu, rhaid i brosiectau ddangos sut maen nhw'n gallu cyfrannu at o leiaf 4 o'r 18 canlyniad a restrir isod: 

  • gwella ansawdd aer
  • gwella ansawdd dŵr
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maen nhw'n eu darparu
  • gwella bioamrywiaeth a chysylltedd i safleoedd gwarchodedig ar draws tirwedd a/neu gynefinoedd nad ydynt yn gyfagos (er enghraifft mewn perthynas â rhywogaeth adran 7)
  • rheoli a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol ar draws tirwedd, ar lefel ranbarthol neu genedlaethol
  • addasu i'r hinsawdd
  • cynyddu effeithlonrwydd adnoddau
  • lliniaru risgiau llifogydd a sychder
  • gwarchod a gwella tirweddau (cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol) a'r amgylchedd hanesyddol
  • helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau'r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a'u cymunedau
  • cynnal yr iaith Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd
  • dal a storio mwy o garbon
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid
  • annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy
  • gwella gwytnwch busnesau amaethyddol
  • cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a'r amgylchedd hanesyddol, a’u hymgysylltiad â nhw, neu 
  • annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (trwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir)

Bydd prosiect yn cael sgôr uchel os yw'n dangos y bydd yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. 

Mae prosiect yn gallu canolbwyntio ar flaenoriaeth leol neu genedlaethol, fel datrysiad sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy, neu effeithlonrwydd adnoddau. Mae'n gallu canolbwyntio ar le penodol a bod â sawl tirwedd ledled Cymru sydd wedi'u cysylltu gan y flaenoriaeth. Dyma rai enghreifftiau posibl o brosiectau mewn tirwedd barhaus:

  • nifer o ffermydd cyfagos yn cydweithio â sefydliadau i dargedu camau gweithredu ar brif ddalgylch afon
  • nifer o ffermydd neu ardaloedd oddi mewn i dir clustogi safle gwarchodedig neu ardal ddynodedig
  • ffermydd cyfagos yn ein hardaloedd arfordirol
  • ffermydd cyfagos oddi mewn i ardaloedd ucheldir mawr nad ydynt wedi'u hamgáu e.e. tiroedd comin
  • grŵp o ffermwyr cyfagos sy'n rheoli tir fferm yr iseldir er mwyn cefnogi cynefinoedd bridio a nythu ar gyfer rhywogaethau â blaenoriaeth 
  • nifer o dirweddau o wahanol fathau o ffermydd sydd wedi'u cysylltu trwy flaenoriaeth sydd angen cynllunio strategol ar raddfa: er enghraifft, mynd i'r afael â heriau lleol neu genedlaethol sy'n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, mynediad, rhywogaethau estron goresgynnol neu blannu coed strategol ar raddfa

Dylai prosiectau fod yn uchelgeisiol a chynnwys cynigion ar gyfer treialon neu weithgareddau peilot arloesol sy'n gysylltiedig ag amcanion y cynllun, y dirwedd, neu ei heriau ochr yn ochr â gweithgareddau rheoli tir cynaliadwy traddodiadol. Rydym yn rhagweld y bydd prosiectau mewn sefyllfa dda i sicrhau buddsoddiad preifat i ategu cyllid cyhoeddus. 

Ochr yn ochr â'r ymyriadau rheoli tir uniongyrchol, anogir prosiectau, os yw'n berthnasol i ffocws y prosiect ac amcanion y cynllun, i gynnig cynlluniau i gael gafael ar gymorth gan y sector, trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ac archwilio cyfleoedd ehangach ar gyfer daliadau sy'n cymryd rhan yn y prosiectau, er enghraifft:

  • hyfforddiant mewn mathau o dechnoleg newydd ar y fferm, gan gynnwys technoleg ailgylchu ac ynni gwyrdd adnewyddadwy
  • nodi cyfleoedd arallgyfeirio sy'n cwmpasu pren, garddwriaeth ac amaethyddiaeth
  • hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gynnwys arferion rheoli tir traddodiadol sydd â gwerth treftadaeth a/neu ddiwylliannol
  • meincnodi, adrodd a gweithio tuag at sero net; neu
  • fanteisio ar gymorth arall gan y diwydiant fel grŵp cydweithredol

Trwy gydweithio, dylai prosiectau hwyluso, cynllunio a chydlynu gweithgarwch ar raddfa; a byddant yn cael eu hannog i gysylltu â mentrau eraill os ydynt yn berthnasol i'w tirwedd. Os yw'n berthnasol, dylid cynnig gweithgareddau ar draws ffermydd unigol er mwyn cefnogi amcanion prosiectau CANI a sicrhau canlyniadau a manteision ehangach i fusnesau fferm. Cyfeirio prosiectau i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac eraill, megis grantiau ategol a mentrau ar gyfer busnesau fferm unigol sy'n arwain at gyflawni'r nodau a'r ffocws ar gyfer y dirwedd a chanlyniadau a manteision ehangach. 

Adran B: camau'r cynllun

Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y CANI yn cynnwys dau gam, Datblygu Prosiect a Chyflawni Prosiect.

  • yn gyntaf, gall grwpiau neu bartneriaethau newydd neu bresennol gyflwyno cais, gan amlinellu cynigion y prosiect a gwneud cais am Grant Datblygu Prosiect CANI.
  • bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn cyllid grant i ddatblygu'r prosiect ynghyd â'r canllawiau ar y meini prawf Cyflawni Prosiect, er mwyn helpu i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect Adnoddau Naturiol Integredig (INR)
  • unwaith y bydd y cynllun cyflawni prosiect a'r hawliad wedi'u cyflwyno, bydd cam datblygu'r prosiect yn dod i ben
  • ar ôl cyflwyno'r cynllun cyflawni prosiect i Taliadau Gwledig Cymru trwy RPW Ar-lein, bydd y cynlluniau'n cael eu gwirio, eu hasesu a'u sgorio yn erbyn y meini prawf Cyflawni Prosiect cyhoeddedig

Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn y cam hwn yn cael eu hystyried ar gyfer Grant Cyflawni Prosiect CANI yn amodol ar gytundeb prosiect ac argaeledd cyllideb.

Cam datblygu prosiect

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer cam ceisiadau am grant i ddatblygu prosiect CANI yw £500,000. Bydd y cyfnod hwn ar agor rhwng 22 Awst 2024 a 27 Medi 2024.

Mae grantiau am symiau rhwng £10,000 a £30,000 ar gael, ar sail y gyfradd fesul awr a hyd at 10% o'r swm hwnnw ar gyfer nwyddau traul, digwyddiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'r cymorth hwn ar gael i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect CANI manwl a fydd yn sylfaen i'r cais am grant cyflawni prosiect CANI, os yw'r cais yn llwyddiannus. 

Bydd grantiau’n darparu cymorth refeniw i ymgeiswyr llwyddiannus ar ffurf cyfradd cost safonol fesul awr o £23.41 i hwyluso cynllun cyflawni prosiect. Gellir defnyddio'r grant i ariannu asiant neu gontractwr neu i alluogi unigolion neu sefydliadau o'r grŵp i ddefnyddio eu hamser i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect manwl.

Bydd angen i geisiadau am grant cam datblygu'r prosiect gynnwys amlinelliad cychwynnol o'r prosiect, gan gynnwys manylion y canlynol:

  • yr unigolyn neu'r grŵp arweiniol, ei drefniadau llywodraethu (wedi'u cynnig os yw'r grŵp yn newydd), y strwythur arfaethedig, ac amlinelliad o'i allu i reoli prosiect o'r cwmpas a'r raddfa arfaethedig
  • y grŵp cydweithredol cychwynnol a'i aelodau ac unrhyw gynlluniau ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol
  • yr her genedlaethol neu leol ar gyfer yr ardal a nodi'r prif ffocws ar gyfer y prosiect
  • y tir neu'r dirwedd sydd i'w cynnwys, os yw'n berthnasol, neu ardal ddaearyddol y grŵp cydweithredol, ac
  • effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a'u cysylltiad â'r canlyniadau a'r manteision dymunol. Byddant yn cael eu datblygu ymhellach yn unol ag amcanion a dangosyddion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a ddarparwyd yn ystod y cam datblygu

Bydd cais cam datblygu'r prosiect yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf penodedig fel a ddisgrifir yn y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig: grant datblygu prosiect

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus cam datblygu'r prosiect yn cwblhau cynllun cyflawni prosiect CANI ar RPW Ar-lein. Bydd canllawiau ar sut i gwblhau cynllun cyflawni prosiect CANI a manylion y dystiolaeth y bydd ei hangen ar gael gyda'r llythyr cymeradwyo cyllid grant datblygu prosiect.

Bydd y grant cam datblygu prosiect yn cynorthwyo prosiectau llwyddiannus i ddatblygu amlinelliad cychwynnol y prosiect er mwyn datblygu cynllun cyflawni prosiect CANI credadwy, a fydd yn cynnwys manylion am y canlynol:

  • cynllunio ymyriadau, camau gweithredu a phrosesau rheoli ar draws tirweddau neu ddalgylchoedd cysylltiedig 
  • cysylltu'r ymyriadau hyn â heriau cenedlaethol/lleol yn y dirwedd hon a nodi ffocws i sbarduno'r gweithgaredd a sicrhau'r canlyniadau dymunol a nodir yn llenyddiaeth y cynllun hwn
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol a datblygu partneriaethau a phrosesau cydweithio rhwng ffermwyr a rheolwyr tir eraill, lle bo hynny'n berthnasol
  • derbyn neu gynllunio cydsyniadau a chaniatadau (ar Cyfoeth Naturiol Cymru) statudol perthnasol
  • rhoi trefniadau llywodraethu addas ar waith
  • creu cynllun manwl ar gyfer casglu data sylfaenol, monitro a gwerthuso prosiect
  • cytuno ar drefniadau cyllido eraill lle bo hynny'n berthnasol, gan gynnwys sicrhau buddsoddiad preifat a negodi telerau, ac
  • asesiadau risg, gwerth am arian, cynlluniau lliniaru ac amserlenni

Rhaid i'r cynllun cyflawni prosiect ddangos gwerth am arian trwy ddarparu allbynnau arwyddocaol sydd â chysylltiad uniongyrchol â phrif ffocws y prosiect arfaethedig, a dangos prosesau cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, canlyniadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor camau gweithredu, ac amlinellu manteision lluosog rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau gwydnwch ecosystemau sy'n arwain at ganlyniadau yn unol â llenyddiaeth y cynllun hwn. 

Disgwylir i gynlluniau datblygu prosiectau amlinellu prosiect hyd at dair blynedd i'w gyflawni (yn amodol ar argaeledd cyllideb). 

Mae manylion am sut i wneud cais am y Cam Datblygu ar gael yn:

Cam cyflawni'r prosiect 

Bydd grantiau gwerth rhwng £250,000 a £1,000,000 ar gael ar gyfer cam cyflawni prosiect CANI, i gefnogi'r gwaith o gynnal gweithgareddau'r prosiect. 

Bydd cynlluniau cyflawni prosiect CANI yn cael eu hasesu yn erbyn y canllawiau a'r meini prawf sgorio y bydd prosiectau'n eu derbyn os ydynt yn llwyddo i sicrhau'r grant datblygu. Hefyd, byddant yn cael eu hasesu ar sail cydweddiad strategol â gofynion y cynllun a amlinellir yn y ddogfen hon. 

Bydd prosiectau’n cael eu harfarnu trwy ddefnyddio'r dystiolaeth yng nghynllun cyflawni'r prosiect, ac os ydynt yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig cyllid grant cyflawni prosiect CANI yn nhrefn teilyngdod (yn amodol ar y gyllideb). 

Prosiectau cymeradwy'r cam cyflawni 

Gallai'r Cam Cyflawni Prosiect gynnwys gweithgareddau sy'n gymwys o dan gynlluniau presennol eraill Llywodraeth Cymru, ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu gan y cynlluniau neu'r rhaglenni presennol ac eithrio Creu Coetir ac Adfer Mawndiroedd. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cyfeirio at y cynlluniau perthnasol o dan broses gydweithredol. Bydd unrhyw gamau gweithredu ychwanegol sy'n cael eu hariannu gan CANI, lle bo'n berthnasol, yn rhedeg yn gyfochrog â hyn. Hefyd, gall gweithgareddau fod yn gymwys os yw'r gweithgaredd yn rhagori ar ofynion contract neu ddyfarniad grant presennol.

Ni all prosiect CANI dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sydd eisoes yn derbyn arian grant trwy gynlluniau neu raglenni eraill sy'n cael eu darparu ar gyfer neu ar ran Llywodraeth Cymru neu unrhyw ddarparwyr cyllid eraill.

Bydd unrhyw geisiadau neu hawliadau ar gyfer gweithgareddau a fyddai'n gymwys o dan gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn amodol ar gymhwystra, cyfraddau cyllido a thelerau ac amodau'r cynlluniau hynny. 

Bydd prosiectau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd drwy gydol y cam cyflawni er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni yn unol â’r amserlen ac o fewn y gyllideb, eu bod yn cyflawni'r camau a'r allbynnau disgwyliedig, a'u bod yn cynnig gwerth da am arian. Os nodir nad yw prosiectau yn cyflawni'n effeithiol, bydd cyllid grant prosiect mewn perygl. Hefyd, bydd prosiectau’n cael eu hadolygu i asesu unrhyw effaith ar weithgareddau prosiect sy'n deillio o newidiadau rheoleiddio posibl neu newidiadau posibl i gynlluniau. 

Cynlluniau creu coetir

Os yw'r prosiect cymeradwy’n cynnwys plannu coetir, rhaid i brosiectau gyflwyno cais i'r Cynllun Cynllunio Coetir fel bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gallu asesu eu cynnig i Blannu Coetir. Os yw'r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai'r gwaith plannu’n cael ei gymeradwyo fel rhan o'r Cynllun Plannu Creu Coetir am y 5 mlynedd ganlynol. Mae Canllawiau'r Cynllun ar gael yma Cynllun Cynllunio Creu Coetir: llyfryn rheolau.

Mawndir

Dim ond 3-4% o arwynebedd Cymru y mae mawndiroedd yn ei orchuddio ond maent yn storio tua 30% o'r holl garbon sydd yn y pridd. Mae mawndiroedd sydd mewn cyflwr da yn rheoleiddio llif dŵr drwy arafu a storio dŵr yn y gaeaf a'i ryddhau mewn cyfnodau sychach dros yr haf; maent yn lleihau'r risg o danau gwyllt; maent yn dal a storio carbon; ac yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Mae mawndiroedd yn cael eu creu ar raddfa o 1mm y flwyddyn felly mae dyfnder o 1m o fawn yn cynrychioli dros fil o flynyddoedd o storio carbon. 

Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn darparu strwythur i gydlynu, monitro ac adrodd ar adfer mawndiroedd a chyflwr mawndiroedd yng Nghymru. Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)

Rhaid i gais i'r CANI sy'n cynnwys gwaith adfer mawndir sicrhau bod y cynigion yn cyd-fynd â themâu blaenoriaeth a thelerau ac amodau NPAP. Rhaid i brosiectau cymeradwy wneud cais i NPAP, a bydd yr elfen adfer mawndir yn rhan o'r cynllun hwnnw.

Ar gyfer prosiectau a fydd yn cynnwys camau gweithredu sy'n gofyn am gymorth Creu Coetir neu NPAP, bydd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo rhwng cynlluniau yn ystod y cam ymgeisio er mwyn lleihau'r gorbenion ar gyfer ymgeisydd CANI sy'n defnyddio sawl cynllun. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar ddiwedd y cam datblygu yn cael gwybod am y manylion hyn. 

Rhagdaliadau 

Byddwn yn talu fel arfer ar ffurf ôl-daliadau (h.y. ar ôl i dderbynnydd y grant ysgwyddo’r gwariant); ond rydym yn sylweddoli nad oes gan rai mudiadau Trydydd Sector lawer o arian wrth gefn ac nid oes ganddynt yr adnoddau i wneud y gwaith cyn cael eu talu am ei wneud. Felly, os ydych wedi ymrwymo i wariant, gallwn ystyried rhoi rhagdaliad i chi i dalu amdano, ond dim ond os oes tystiolaeth glir bod ei angen. 

Adran C: cymhwystra ar gyfer y cynllun

Cymhwystra grŵp  

Mae'r CANI yn agored i grwpiau a phartneriaethau newydd a phresennol sydd eisiau dod at ei gilydd i gyflawni prosiectau tirwedd, dalgylch neu genedlaethol sy'n cefnogi'r amcanion a'r canlyniadau a nodir yn y canllawiau hyn. 

Rhaid i grwpiau cydweithredol gynnwys 2 fusnes fferm o leiaf a bydd y busnesau hynny’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol. Yn ogystal â'r ddau fusnes fferm, gall unigolion neu sefydliadau eraill, megis ffermwyr, rheolwyr tir, tirfeddianwyr neu goedwigwyr eraill sy'n rheoli tir mewn tirwedd, neu gorff cyhoeddus, sefydliad amgylcheddol anllywodraethol, awdurdod lleol, elusen, ymddiriedolaeth, buddsoddwyr preifat, busnesau neu gwmnïau neu sefydliad ategol perthnasol arall gydweithio â'r grŵp hefyd.

Rhaid i grwpiau cydweithredol gynnwys dau fusnes fferm o leiaf a bydd y busnesau hynny’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol. Yn ogystal â'r ddau fusnes fferm, rhaid i o leiaf un unigolyn neu sefydliad arall fod yn rhan o'r gwaith cydweithredol. Gall hyn gynnwys ffermwyr eraill, rheolwyr tir, tirfeddianwyr neu goedwigwyr sydd â rheolaeth dros dir mewn tirwedd neu gorff cyhoeddus; Sefydliadau Anllywodraethol amgylcheddol; awdurdodau lleol, elusennau, ymddiriedolaethau, buddsoddwyr preifat, busnesau neu sefydliadau ategol eraill.

Diffinnir gweithgaredd amaethyddol fel:

  • cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio a gweithredu 
  • cadw tir amaethyddol mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer ei bori neu ei drin ond heb ei baratoi yn fwy na thrwy ddulliau neu â pheiriannau amaethyddol arferol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu rheoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd
  • cynnal gweithgarwch sy’n bodloni gofynion sylfaenol ar dir amaethyddol sy’n cael ei gadw’n naturiol mewn cyflwr addas ar gyfer ei bori neu ei drin. Yng Nghymru, morfeydd heli a thwyni tywod yw’r rheini. Rhaid ichi o leiaf bori’r tir hwn gyda 0.01 i 0.05 uned da byw yr hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, neu reoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd

Gall y canlynol wneud cais am gyllid grant i ddatblygu prosiect CANI: 

  • gall ymgeisydd arweiniol wneud cais ar ran grŵp cydweithredol neu grŵp
  • grwpiau neu bartneriaethau newydd a phresennol sydd wedi ffurfio endid cyfreithiol a strwythur llywodraethu
  • hwylusydd neu gontractwr sy'n gweithio ar ran grŵp

Rhaid i'r ymgeisydd arweiniol neu'r grŵp fod wedi cofrestru â Taliadau Gwledig Cymru a chael Rhif Cyfeirnod Cwsmer. Mae manylion ar gyfer cofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru ar gael yma

Rhaid i'r ymgeisydd ar gyfer cyllid grant CANI fod yn endid cyfreithiol sydd â strwythurau llywodraethu a chydymffurfiaeth ariannol sy’n ofynnol i reoli cyllid grant. 

Os nad oes gan y grŵp unrhyw strwythur ffurfiol a'i fod yn cael ei gefnogi gan sefydliad arweiniol, rhaid sefydlu cytundeb mewnol fel rhan o'r gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni prosiect CANI, wedi'i lofnodi gan holl bartïon y cais. 

Dylai’r cytundeb hwn:

  • nodi'r mynegiant o gytundeb i barhau
  • nodi bwriadau parodrwydd a rhwymedigaethau, a 
  • diffinio rôl a chyfrifoldebau pob person, personau neu sefydliad yn y grŵp

Rhaid cyflwyno copi o'r cytundeb mewnol hwn gyda'r cynllun cyflawni prosiect CANI yn ystod y Cam Cyflawni Prosiect. 

Cymhwystra tir

Mae'n rhaid i unrhyw dir fod yng Nghymru.

Bydd tir y 2 fusnes fferm wedi’i gofrestru gyda’r RPW. 

Bydd pob math o dir yn gymwys ar gyfer camau arfaethedig, gan gynnwys tir y tu mewn neu'r tu allan i ardaloedd gwarchodedig a dynodedig, tir comin a thir pori a rennir. 

Gall y tir fod o dan amrywiaeth o drefniadau rheoli neu ddefnydd presennol – gan gynnwys amaethyddiaeth a choedwigaeth. Gall hyn gynnwys tir sy'n cael ei reoli er budd amgylcheddol yn unig, ar yr amod ei fod o fewn ardal prosiect ehangach sy'n cwmpasu'r dirwedd amaethyddol. Er enghraifft, coetir hynafol SoDdGA oddi mewn i brosiect graddfa ddalgylch. 

Mae tir sydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol presennol, neu unrhyw gytundeb/dyfarniad grant arall ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, yn gymwys i fod yn rhan o brosiect cydweithredol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw weithgareddau neu brosesau rheoli a gynigir ragori ar y gofynion yn y cytundebau/dyfarniadau grant presennol. 

Os oes gan y prosiect neu unrhyw weithgaredd arfaethedig mewn cais y potensial i effeithio ar safle gwarchodedig, rhaid i chi sicrhau bod gennych chi'r cydsyniad, y caniatâd a'r trwyddedau perthnasol, er enghraifft SoDdGA. Gallwch wirio a yw tir yn cynnwys neu wrth ymyl safle gwarchodedig yn Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig (ar Cyfoeth Naturiol Cymru). Bydd y gweithgaredd arfaethedig a'r math o ddynodiad yn penderfynu â phwy y bydd angen cysylltu a pha gydsyniad neu ganiatâd sydd ei angen. Os yw cynigion y prosiect ar dir dynodedig, mae'n rhaid i chi ddangos tystiolaeth o ymgysylltu neu o ohebu â CNC yn eich cais. 

Rhaid i'r holl dir a ddisgrifir y cynllun fod o dan reolaeth y partneriaid sy'n cydweithredu. Rhaid i bartneriaid sy'n cydweithredu gael rheolaeth lawn a diogelwch deiliadaeth dros y tir yn eich cais am gyfnod llawn y cynigion (gan gynnwys unrhyw ofynion gwydnwch neu gynnal a chadw). Os nad oes gennych reolaeth lawn dros y tir, rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth dros y tir a chynnwys tystiolaeth o gymeradwyaeth gyda'ch cais neu gael cydlofnod ar y cais gan y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr, y landlord neu'r corff perthnasol.   

Os bydd y prosiect yn cynnwys tir sydd o dan feddiant un ffermwr tenant neu fwy, rhaid dangos tystiolaeth i ddangos bod y ffermwyr tenant hynny wedi cydsynio i fod yn rhan o’r gwaith cydweithredol a’r broses benderfynu ac nad oes newidiadau wedi’u gwneud i’w hawliau neu gytundebau tenantiaeth heb eu cydsyniad. 

Tir Comin

Ar gyfer ceisiadau ar dir comin, bydd perchennog y tir yn rhan o’r cytundeb CANI neu bydd wedi rhoi ei gydsyniad iddo. 

Mae tir comin yn gymwys o dan y CANI. Rhaid i geisiadau am weithgaredd ar dir comin gael eu cefnogi gan gydsyniad ysgrifenedig y tirfeddiannwr ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sy'n wahanol i'r hawliau cofrestredig dros ardal y tir comin dan sylw. Hefyd, rhaid i'r cais nodi'n glir pa gamau gweithredu sydd angen cydsyniad ffurfiol o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall, ynghyd â'r camau gweithredu nad oes angen cydsyniad ffurfiol ar eu cyfer. Os oes angen cydsyniad ffurfiol, dylai'r ymgeisydd nodi pa gydsyniad sydd ei angen a'r amserlen debygol i sicrhau'r caniatâd angenrheidiol. 

Rhaid i geisiadau ar dir comin nad ydynt yn cynnwys pob parti sydd â buddiant cyfreithiol dros unrhyw ran o ardal y cais nodi'n glir yn y cais sut y bydd amcanion a chanlyniadau'r cynnig yn cael eu cyflawni ac na fyddant yn cael eu peryglu drwy beidio â chynnwys pawb sydd â buddiant cyfreithiol. 

Adran D: gweithgareddau cymwys

Bydd grant cyflawni CANI yn darparu cyllid refeniw a chyfalaf sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau tymhorol parhaus i wreiddio a sefydlu unrhyw welliannau hefyd. Dylai unrhyw weithgareddau gyd-fynd â gofynion cynlluniau presennol, a gallent gynnwys: 

  • plannu coed a sefydlu rheoli coetir gweithredol
  • adfer a chreu gwrychoedd
  • symud a dileu Rhywogaethau Estron Goresgynnol
  • ymyriadau rheoli perygl llifogydd yn naturiol
  • gwella a chreu gwlyptir trwy fesurau ail-wlychu a chefnogi pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau
  • gwella a chreu cynefin glannau'r afon ac adfer afonydd
  • gwella cynefin a mawndir ucheldir ac agored
  • gwella a chreu cynefin iseldir
  • gwella a chreu glaswelltir amrywiol - cynyddu amrywiaeth mewn glaswelltir sydd wedi'i wella a chyflwyno gwyndwn amlrywogaeth, adfer dolydd gwair traddodiadol, creu lleiniau a mannau adar gwyllt, bywyd gwyllt a pheillio
  • adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi
  • gwella mynediad at gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
  • mesurau wedi'u targedu i helpu i adfer ac ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt penodol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 - Rhestrau Adran 7 o Gynefinoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn i Gymru megis creu a sefydlu cynefin nythu a bwydo; gan gynnwys mesurau i reoli ysglyfaethu na ellir ei osgoi i helpu’r rhywogaethau hynny fel rhan o weithredu ar lefel tirlun ehangach
  • mesurau wedi'u targedu i wella ansawdd dŵr ac iechyd y pridd trwy leihau llygredd amaethyddol, lleihau'r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy reoli plâu a maetholion mewn ffordd integredig

Ochr yn ochr â'r gweithgareddau rheoli tir, gall y CANI wneud y canlynol: 

Adran E: costau cymwys

Rhaid i'r holl gostau fod â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect. Os oes gan Lywodraeth Cymru gost safonol ar gyfer gweithgaredd/eitem fel rhan o'r cynlluniau presennol, ac os yw'r gweithgaredd yn cael ei gyflawni ar dir sy'n eiddo i unigolyn neu sy'n cael ei reoli gan unigolyn, bydd y prosiect CANI yn cael cynnig y costau safonol hyn. Bydd costau safonol, os ydynt ar gael, yn cael eu cymhwyso ar gyfer y rhan fwyaf o gamau gweithredu ac ymyriadau ar ddaliadau unigol.

Ar gyfer gweithgarwch pwrpasol er budd amgylcheddol ac ymyriadau sy'n cyflenwi nwyddau cyhoeddus yn bennaf a lle nad oes cost safonol ar gael, bydd angen i chi gael dyfynbrisiau am y gwaith (yn dilyn rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus) ar sail cost wirioneddol. Ariennir hyd at 100% o'r gost ar sail costau sydd wedi'u hysgwyddo, os oes cysylltiad uniongyrchol ag enillion amgylcheddol ac nad oes cysylltiad ag enillion masnachol preifat neu gynhyrchu cynradd. 

Gall eitemau cyfalaf neu beiriannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect fod yn gymwys os yw'r prosiect yn gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ffocws y prosiect, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol sy'n cynnig gwerth da am arian. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu ar sail prosiectau unigol, ac os penderfynir eu bod yn gymwys, gellir gwneud cyfraniad at y costau ar y sail hon. Nid yw eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd neu weithgarwch masnachol yn gymwys.

Hwyluso a gweithredu: costau ar gyfer pobl, gan gynnwys costau cysylltiedig fel teithio a chynhaliaeth. Gall hyn gynnwys y costau sy'n cael eu hysgwyddo gan fusnesau neu sefydliadau ar gyfer sefydlu a chyflawni'r gweithgareddau cydweithredol.

Mentora: costau ar gyfer pobl sy'n gallu darparu cymorth arbenigol i sefydliadau a grwpiau i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a'u harbenigedd eu hunain yng nghyd-destun gweithgareddau prosiect. 

Hyfforddiant: costau i gefnogi prosesau cydweithio a phartneriaethau er mwyn ymgymryd â hyfforddiant nad oes modd ei ddarparu trwy unrhyw lwybr arall. 

Cyfathrebu a lledaenu: costau i gefnogi'r broses o roi gwybod am weithgareddau'r prosiect arfaethedig sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect; lledaenu gwybodaeth ymysg y cymunedau rhanddeiliaid allanol; cyfathrebu parhaus o fewn grwpiau a rhwng grwpiau a lledaenu canlyniadau prosiectau cydweithredol yn derfynol.

Gwerthuso: mae cost cynnal gwerthusiad annibynnol, allanol o'r prosiect yn gymwys. Un o ganlyniadau allweddol y CANI yw dysgu gwersi a chofnodi profiadau cyfranogwyr i helpu i lunio rhaglenni a phrosiectau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig ag amcanion CANI. Rhaid prisio gwerthusiad a’i gynnwys fel rhan o’r holl gynlluniau cyflawni prosiectau. Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ar ôl ei gwblhyau.

Ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorydd, costau technegol, arolygon safleoedd ecolegol a hydrolegol a ffioedd sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd; ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio; mae ffioedd sydd wedi'u hysgwyddo ar gyfer mathau o ganiatâd, trwydded a chydsyniad statudol yn gymwys hefyd.  

Hefyd, gellir darparu cymorth ar gyfer datblygu ac ymchwil, cyngor technegol ac astudiaethau dichonoldeb sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect ac amcanion y cynllun; a datblygu technegau a dulliau sydd yn eu hanfod yn addasiadau o dechnolegau presennol i sefyllfaoedd lle nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ond sy'n cyflawni'n uniongyrchol ar gyfer canlyniadau'r prosiect a'r cynllun.

Noder: Bydd unrhyw gynefin a choetir sy'n cael eu creu neu eu gwella o dan CANI yn gymwys o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a byddant yn cyfrif tuag at y gofynion cyffredinol ar gyfer cynefin a choetir. Mae ffermwyr sydd wedi gwneud gwaith priodol i gynnal cynefin neu sydd wedi cynyddu eu gorchudd coed ar y fferm fel rhan o brosiect CANI yn gallu elwa trwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy. Nid oes unrhyw anfantais iddynt.   

Adran F: cyllid dwbl

Ni all prosiect CANI cymeradwy dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sy'n cael eu hariannu gan gynlluniau neu raglenni eraill ar hyn o bryd oni bai bod y gweithgaredd neu'r rheolaeth CANI yn rhagori ar y gofyniad presennol. 

Ni all prosiect dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau/eitemau sy'n disodli gweithgareddau/eitemau a ariannwyd yn flaenorol oni bai bod y prosiect yn parhau i reoli neu wella neu adfer y gweithgareddau hynny ac nad oedd yn ofyniad gan y grant gwreiddiol i wneud hynny. 

Gall tir a nodir mewn cynnig prosiect CANI fod yn rhan o raglenni neu gynlluniau eraill neu gynnwys rhaglenni neu gynlluniau eraill sy'n gwella neu'n ategu canlyniadau'r prosiect, ond rhaid diffinio'r gwahaniad yn glir gan nodi pa weithgareddau sy'n cael eu hariannu drwy bob cynllun rhaglen, a rhaid i unrhyw weithgareddau neu reolaeth ragori ar ofynion y contractau presennol.

Mae arian cyfatebol yn berthnasol i arian trydydd parti yn unig ac nid yw'n cynnwys unrhyw gyfraniad o'ch arian eich hun at y prosiect. Os yw eich prosiect yn cynnwys eich arian eich hun a/neu unrhyw arian cyfatebol, rhaid i chi ddisgrifio natur yr arian hwn ac atodi manylion gwerth, telerau a ffynhonnell/ffynonellau arian cyfatebol gyda'ch cais llawn yn ystod y Cam Cyflawni Prosiect. 

Adran G: costau anghymwys

Gweithgareddau anghymwys 

Mae nifer o weithgareddau a buddsoddiadau yn anghymwys i dderbyn cyllid o dan CANI 

  • buddsoddi mewn cynhyrchu cynradd cynhyrchion amaethyddol neu bren
  • ni fydd taliadau rheoli cynefinoedd fel y'u nodir mewn cynlluniau presennol neu gynlluniau etifeddol yn daladwy o dan CANI, ac
  • unrhyw waith ffisegol neu wariant arall a ysgwyddwyd cyn dyddiad dechrau'r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru 

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau nad ydynt yn gymwys am gymorth grant. Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth, a bydd pob un o’r eitemau yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu tir
  • prynu da byw 
  • prynu adeiladau 
  • prynu peiriannau o werth uchel ac asedau cyfalaf eraill nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â chanlyniadau amgylcheddol neu/a ffocws y prosiect neu weithgareddau uniongyrchol y prosiect 
  • prynu ceir, faniau, beiciau modur, beiciau ac unrhyw fath arall o gludiant personol (at ba ddiben bynnag) 
  • prynu cerbydau ar gyfer cludiant allanol (megis lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini, neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl) 
  • gwaith dros dro nad oes ganddo gysylltiad uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
  • cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu drwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector
  • costau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau, peiriannau neu offer presennol
  • eitemau cyfatebol newydd 
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu, fel elw'r prydleswr, costau ariannu llog, gorbenion a chostau yswiriant
  • costau trefnu benthyciadau, TAW a threthi eraill y gellir eu hadennill gan y buddiolwr, costau gweinyddol a chostau staff neu iawndal a delir i drydydd partïon i'w difeddiannu, ac ati 
  • gorbenion a ddyrannwyd neu a ddosrannwyd ar gyfraddau sy'n sylweddol uwch na'r cyfraddau ar gyfer costau tebyg a ysgwyddir gan ddulliau cyflawni tebyg eraill 
  • gwariant tybiannol 
  • taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol 
  • dibrisiad, amorteiddiad ac amhariad asedau 
  • darpariaethau
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • argyfyngau
  • difidendau i gyfranddalwyr
  • costau llog
  • taliadau gwasanaethau o ganlyniad i brydlesau cyllid, trefniadau hurbwrcasu a chredyd 
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • costau sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni masnachol i ben
  • taliadau i bensiynau heb eu cyllido
  • iawndal am golli swydd
  • dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain 
  • taliadau am anrhegion a rhoddion
  • adloniant personol (gan gynnwys alcohol)
  • dirwyon a chosbau statudol 
  • trethi statudol (ac eithrio TAW nad oes modd ei hadennill)
  • dirwyon ac iawndal troseddol
  • treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha
  • TAW y gellir ei hadhawlio 
  • meddalwedd cyfrifiadurol ac apiau ar gyfer cynnal systemau rheoli busnes cyffredinol / cyfrifon / marchnata a hyrwyddo / gwefannau / gwerthiannau ar-lein
  • cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu trwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau datblygu gwledig a phontio Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector 
  • nid yw cymorth ar gyfer cydlynu cadwyni cyflenwi pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth yn gymwys o dan y cynllun hwn, a 
  • eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd neu weithgarwch masnachol

Adran H: tendro cystadleuol a chaffael

Os ydych chi'n gwneud cais i ariannu eitem neu weithgaredd nad oes cost safonol gyfatebol ar gael ar ei gyfer, bydd angen i chi ddilyn rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru a derbyn dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith ar sail cost wirioneddol. 

Mae Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol gyfer Thendro Cystadleuol, ac maent ar gael trwy’r canlynol Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.

Adran I: gofynion cyffredinol y cynllun

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion canlynol y cynllun yn ystod y cam cyflawni prosiect:

  • rhaid i unrhyw waith sy'n cael ei wneud ar dir sy'n cael ei reoli a/neu ei berchenogi ragori ar rwymedigaethau a gofynion cyfreithiol 
  • rhaid i brosiectau ddangos na allant gael eu rhoi ar waith heb gymorth ac na fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant
  • rhaid i brosiectau ddangos nad yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgaredd
  • rhaid i brosiectau gytuno ar dargedau dangosyddion perfformiad yn ystod cam cynllunio'r prosiect a dangos sut y byddant yn monitro’r prosiect a pha dystiolaeth a fydd yn cael ei darparu
  • rhaid i brosiectau ddangos cydymffurfiaeth gyfreithiol a hyfywedd ariannol
  • rhaid i brosiectau ddangos cynaliadwyedd hirdymor
  • rhaid i brosiectau ddangos cefnogaeth a dangos ymrwymiad i'r holl gydweithwyr
  • rhaid i brosiectau ddangos bod ganddynt systemau llywodraethu a rheoli prosiectau da
  • rhaid i brosiectau ddangos mai swm y grant yn y cais yw'r cyllid llenwi bwlch lleiaf sydd ei angen i'r prosiect fynd rhagddo
  • mae'n rhaid i geisiadau nodi a yw prosiectau wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol neu wedi'i sicrhau, a lle bo angen, nodi bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi'i sicrhau 
  • rhaid recriwtio staff allweddol trwy gystadleuaeth deg ac agored
  • cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch; lle bo hynny'n briodol a/neu yn angenrheidiol
  • rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant
  • rhaid i brosiectau ddarparu cadarnhad nad oes cais wedi'i wneud am unrhyw arian cyhoeddus arall ar gyfer gweithgareddau arfaethedig
  • rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru

Adran J: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newidiadau mewn Dehongli)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro, a bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau'r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i reolau'r cynllun neu'r contract

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli er mwyn ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein wefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran K: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau'r CANI. 

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn i chi dderbyn y taliad neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad, a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno'r cais a'r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a'r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod ymweliadau'n tarfu arnoch gyn lleied â phosibl, ond mae angen ymweliadau dirybudd ar gyfer rhai gwiriadau, sy'n golygu na fydd modd rhoi rhybudd i chi o reidrwydd. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.

Fel rhan o ofynion ac amodau'r grant, rhaid pennu llinell sylfaen ar gyfer cynnydd eich prosiect, monitro'r prosiect a gwerthuso ei effaith ar ôl ei gwblhau yn erbyn yr amcanion a'r targedau a nodir yn y cais cymeradwy. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â hyn yn gymwys.

Gofynnir i chi ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y prosiect drwy gyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd sy'n adrodd yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau a amlinellir yn eich cynllun cyflawni prosiect. 

Dysgu allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru 

Bydd gweithgarwch o fewn y cynllun hwn hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosesau, methodolegau a dulliau gweithredu er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu elfen gydweithredol o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn barhaus, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau ar raddfa rheoli fferm a thirwedd.

Bydd angen i aelodau allweddol o'r grwpiau cydweithredol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'n cynrychiolwyr ar ddechrau'r broses o gyflawni prosiectau. Bydd Llywodraeth Cymru a'u cynrychiolwyr yn monitro ac yn gwerthuso sut mae prosiectau wedi cyflwyno llinell sylfaen a sut maen nhw wedi cofnodi cyflwr presennol y dirwedd. Hefyd, byddant yn gweithio gyda phrosiectau i gefnogi dull cyson o fonitro, gosod llinell sylfaen, ac asesu effaith er mwyn gwerthuso'r prosiect yn effeithiol.

Bydd Llywodraeth Cymru a'n cynrychiolwyr yn cynnig dysgu rhwng cymheiriaid ac yn creu rhwydwaith o grwpiau cydweithredol CANI i rannu gwybodaeth, cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau a darparu argymhellion i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol.

Monitro a gwerthuso 

Fel cynllun sydd â'r nod o gefnogi'r diwydiant amaethyddol, bydd yn ofynnol i CANI weithio tuag at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Un o ofynion y llythyr dyfarniad grant yw bod angen cadw’r eitemau a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau eu bod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddynt gael eu defnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau hirhoedledd y prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwn. Gwneir ymweliadau safle â chanran o'r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl eu cwblhau'n derfynol (Dyddiad Diwedd Llythyr Cynnig Grant).

Hefyd, mae'n rhaid i chi gydweithredu â'r bobl sydd wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r cynllun.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel y'i nodir yn eich contract.

Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • darparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract CANI o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch prosiect CANI i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid. Caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran L: apelio a gweithdrefn gwyno

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a gafodd ei wneud yn ystod Cam Datblygu'r Prosiect, gan gynnwys penderfyniad i wrthod eich cais am gyllid Datblygu Prosiect. 

Hefyd, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a gafodd ei wneud mewn perthynas â'ch cais am gyllid ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, gan gynnwys penderfyniad i wrthod eich cais am gyllid grant Cyflawni'r Prosiect. 

Rhaid i'ch gwrthwynebiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol, gael ei gyflwyno o fewn 60 diwrnod i dderbyn y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych chi am gael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd swyddogion yn adolygu'ch gwrthwynebiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol, a byddwch chi'n cael gwybod am y penderfyniad a'r rhesymau amdano. 

Ar ôl i chi dderbyn cynnig grant ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, bydd apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’. 

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan swyddogion Taliadau Gwledig Cymru
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apeliadau Annibynnol (os ydych yn anfodlon â'r ymateb yng ngham 1)

Mae'r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidog Llywodraeth Cymru, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â'r broses i ben.

Ni chodir tâl ar gyfer Cam 1 o'r broses, ond codir tâl ar gyfer Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Mae'r taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os yw'r apêl Cam 2 yn llwyddiannus yn rhannol neu'n llawn.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i law o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais RPW Ar-lein ar gael gan Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu ar ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Y weithdrefn gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran M: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

I asesu cymhwystra, efallai hefyd y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
  • DEFRA
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr a fydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cyllid grant ar eu cyfer. Fodd bynnag, i bobl sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i £1,250 mewn cyllid grant, ni fydd yr enw'n cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 10 mlynedd ar ôl dyddiad y taliad olaf. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol), ac
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Llawr, 
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Grantiau a thaliadau gwledig: hysbysiad preifatrwydd

Adran N: deddfwriaeth

Mae’r CANI yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r CANI yn cael ei lywodraethu gan gyfraith a gymhathwyd, a elwid gynt yn Rheoliadau’r Cyngor Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013 Cyfraith yr UE a Ddargedwir, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 a 807/2014 (oll fel y’u diwygiwyd o dro i dro).

  • mae'r gyfraith a gymhathwyd yn cael ei gweithredu yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (oll fel y’u diwygiwyd o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (W.129)
  • rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327); a rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (W.328)

Mae cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth
  • cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid hinsawdd, a
  • cyflawni datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’. Mae potensial ar gyfer cynigion prosiect arloesol neu newydd i fod angen offer neu adnoddau sydd y tu allan i'r cwmpas hwn. Os yw'n hanfodol ar gyfer y prosiect, mae'n bosibl y bydd yr eitemau a'r camau gweithredu yn destun cytundebau rheoli cymhorthdal unigol, a byddant yn cael eu diffinio yng nghytundeb y prosiect.  

Adran O: cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig 

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru’n gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch gofrestru hefyd i dderbyn yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau neu yn Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).