Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, aelod
Dianne Bevan, aelod 
Sara Rees, ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, ysgrifenyddiaeth

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 13 Chwefror 2024. 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Kate Watkins, aelod.

Nod y cyfarfod oedd:

  • diweddariad gan Gadeirydd y Panel
  • adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Mawrth 2024 (nodiadau llawn a chryno), gan nodi camau gweithredu a diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
  • trafod Adroddiad Blynyddol 2024 i 2025 a chyfathrebu ynghylch yr Adroddiad
  • adolygu Crynodeb o Benderfyniadau 2023 i 2024 
  • adolygu gwariant cyllideb 2023 i 2024
  • trafod gofynion Canllawiau
  • diweddariad ar ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • adolygiad o gynllun gwaith 2024 i 2025
  • trafod unrhyw faterion eraill

Diweddariad gan y Cadeirydd

Nododd y Panel y gwaith pontio o'r Panel a'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ("y Comisiwn") a fyddai'n cael ei wneud cyn sefydlu Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ym mis Ebrill 2025.

Cytunodd y Panel i weithio gyda'r Comisiwn i gyfnewid gwybodaeth a deall y math o sgiliau a fyddai'n ofynnol gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Nododd y Panel yr adolygiad mawr o Gynghorau Cymuned a Thref a gynhelir gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd. 

Nodiadau cyfarfod mis Ionawr (llawn a chryno)

Cytunodd holl aelodau'r Panel a oedd yn bresennol ar y nodiadau llawn a chryno o gyfarfod mis Ionawr. 

Trafododd y Panel ddiweddariad gan yr Ysgrifenyddiaeth a'i nodi. Roedd y diweddariad yn cynnwys camau gweithredu ac ymholiadau gan wahanol randdeiliaid. 

Adroddiad Blynyddol 2024 i 2025 a chyfathrebu

Trafododd y Panel gyhoeddi a chyfathrebu'r Adroddiad Blynyddol terfynol drafft.

Crynodeb o Benderfyniadau 2023 i 2024

Cytunodd y Panel i gyhoeddi Penderfyniadau ar gyfer 2023 i 2024 ar y wefan. O 1 Ebrill 2024, bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu disodli gan grynodeb o benderfyniadau 2024 i 2025.

Canllawiau ar gyfer prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, a chyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru: taliadau cydnabyddiaeth i aelodau

Cytunodd y Panel i gyhoeddi cnllawiau ar gyfer prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, a chyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru taliadau cydnabyddiaeth i aelodau.

Gwariant cyllideb 2023 i 2024

Cytunodd y Panel ar wariant ar gyfer 2023 i 2024. 

Diweddariad ar ymgysylltu â rhanddeiliaid

Nododd y Panel yr adborth o gyfarfod y Cadeirydd â Phrif Weithredwr a Chadeirydd Un Llais Cymru.

Cytunodd y Panel y byddai dau aelod yn mynychu Cynhadledd Un Llais Cymru ar 27 Mawrth, gan gytunwyd i noddi'r Wobr Iechyd Democrataidd yn dilyn y Gynhadledd.

Cynllun gwaith 2024 i 2025

Cytunodd y Panel i gael cefnogaeth y Comisiwn wrth gyflawni meysydd penodol o gynllun gwaith 2024 i 2025.

Nododd y Panel adborth o gyfarfod y Cadeirydd â swyddogion polisi o Lywodraeth yr Alban, Cynullydd Pwyllgor Taliadau Cydnabyddiaeth Awdurdodau Lleol yr Alban (SLARC), a COSLA, sef llais Llywodraeth Leol yn yr Alban, ynghylch taliadau cydnabyddiaeth i aelodau etholedig yn yr Alban.

Nododd y Panel benodiad comisiynwyr yn ddiweddar i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

Unrhyw fater arall

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 12 Mawrth: Diwrnod Strategaeth.