Neidio i'r prif gynnwy

Adran A: cyflwyniad

Rydym wedi cyflwyno Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (CANI) newydd o dan thema rheoli tir ar raddfa'r dirwedd. Mae canllawiau llawn y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig: llyfryn rheolau ar gael yma.

Mae'r Canllawiau hyn yn egluro grant datblygu prosiectau CANI, y gofynion a phwy sy’n gymwys am gymorth grant ar gyfer cam datblygu prosiectau’r Cynllun. 

Mae dau gam i’r  broses o wneud cais ar gyfer y cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, sef cam datblygu'r prosiect a cham cyflawni'r prosiect.

  • yn gyntaf, gall grwpiau neu bartneriaethau gyflwyno cais, gan amlinellu cynigion y prosiect ar gyfer yr CANI a gwneud cais am grant datblygu prosiect. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn cyllid grant i gynorthwyo grwpiau newydd neu grwpiau presennol i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (CANI). Unwaith y bydd cynllun cyflawni’r prosiect a'r hawliad wedi'u cyflwyno, bydd cam datblygu'r prosiect yn dod i ben
  • ar ôl cyflwyno cynllun cyflawni'r prosiect i RPW ar-lein, bydd cynlluniau cyflawni'r prosiect yn cael eu gwirio, eu hasesu a'u sgorio yn erbyn meini prawf cynlluniau prosiect cyhoeddedig, a bydd y cynlluniau sy'n llwyddiannus yn ystod y cam hwn yn cael eu hystyried ar gyfer grant cyflenwi prosiect y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y grant datblygu prosiect yn dechrau ar 22 Awst  2024 ac yn gorffen ar 27 Medi 2024.

Mae £500,000.00 o gyllideb ddangosol wedi’i dyrannu ar gyfer cyfnod ymgeisio’r grant datblygu prosiectau, i ddatblygu cynlluniau prosiect ar gyfer cydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng ffermwyr, rheolwyr tir, coedwigwyr a sefydliadau eraill i roi camau gweithredu ac ymyriadau ar waith ar raddfa tirwedd, dalgylch neu genedlaethol. 

Mae'r meini prawf cymhwysedd a'r meini prawf a ddefnyddir i sgorio'r ceisiadau wedi'u nodi yn Adran D. Darllenwch y canllawiau hyn yn ofalus. 

Os ydych chi'n credu y gallai eich grŵp a'ch cynigion fod yn gymwys i gael cymorth o dan grant datblygu prosiect CANI, gweler Adran C.   

Cam datblygu’r prosiect  

Yn aml, mae angen ymrwymiad amser ac arian er mwyn datblygu grwpiau cydweithredol cwbl weithredol a gwneud y gwaith cynllunio sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau rheoli tir ar raddfa fawr. I gydnabod hyn, bydd y CANI yn ariannu'r cam datblygu prosiect hwn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar raddfa tirwedd, dalgylch a chenedlaethol, wrth ddatblygu neu sefydlu grwpiau cydweithredol a nodi cyfleoedd a chamau gweithredu sydd eu hangen ar lefel leol.

Dylai cais ar gyfer grant datblygu prosiect gynnwys tystiolaeth o’r canlynol:

  • y grŵp arweiniol, ei drefniadau llywodraethu, a'i allu i reoli prosiect o'r cwmpas a'r raddfa arfaethedig
  • y dirwedd a'r ardal ddaearyddol sydd i'w cynnwys a'r raddfa briodol
  • yr her genedlaethol neu leol ar gyfer yr ardal a nodi'r prif ffocws ar gyfer y prosiect
  • y grŵp cydweithredol cychwynnol a'i aelodau ac unrhyw gynlluniau ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol
  • effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a'u cysylltiad â'r canlyniadau a'r manteision dymunol ar gyfer bioamrywiaeth, a gwasanaethau a gwytnwch ecosystemau

Adran B: cymhwystra ar gyfer grant datblygu prosiect

Mae'r CANI yn agored i grwpiau a phartneriaethau newydd a phresennol sydd eisiau dod at ei gilydd i gyflawni prosiectau ar raddfa tirwedd, dalgylch neu genedlaethol sy'n cefnogi'r amcanion a'r canlyniadau a ddisgrifir yn y canllawiau hyn. 

Rhaid i grwpiau cydweithredol gynnwys 2 fusnes fferm o leiaf a bydd y busnesau hynny’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol. Yn ogystal â'r ddau fusnes fferm, gall unigolion neu sefydliadau eraill, megis ffermwyr, rheolwyr tir, tirfeddianwyr neu goedwigwyr eraill sy'n rheoli tir mewn tirwedd, neu gorff cyhoeddus, sefydliad amgylcheddol anllywodraethol, awdurdod lleol, elusen, ymddiriedolaeth, buddsoddwyr preifat, busnesau neu gwmnïau neu sefydliad ategol perthnasol arall gydweithio â'r grŵp hefyd.

Diffinnir gweithgaredd amaethyddol fel:

  • cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio a gweithredu 
  • cadw tir amaethyddol mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer ei bori neu ei drin ond heb ei baratoi yn fwy na thrwy ddulliau neu â pheiriannau amaethyddol arferol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu rheoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd
  • cynnal gweithgarwch sy’n bodloni gofynion sylfaenol ar dir amaethyddol sy’n cael ei gadw’n naturiol mewn cyflwr addas ar gyfer ei bori neu ei drin. Yng Nghymru, morfeydd heli a thwyni tywod yw’r rheini. Rhaid ichi o leiaf bori’r tir hwn gyda 0.01 i 0.05 uned da byw yr hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, neu reoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd

Gwneud cais am gyllid datblygu prosiect CANI:

  • gall ymgeisydd arweiniol wneud cais ar ran grŵp cydweithredol neu grŵp, i gefnogi gwaith llywodraethu a datblygu prosiect
  • gall grwpiau neu bartneriaethau newydd a phresennol sydd wedi ffurfio endid cyfreithiol a strwythur llywodraethu wneud cais
  • hefyd, byddwn yn croesawu ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno gan hwylusydd neu gontractwr sy'n gweithio ar ran grŵp ar gyfer cyllid yn ystod y cam datblygu yn unig

Yn ogystal, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi derbyn Cyfeirnod Cwsmer.

Os nad oes gan y grŵp unrhyw strwythur ffurfiol a'i fod yn cael ei gefnogi gan sefydliad arweiniol, rhaid sefydlu cytundeb mewnol a chylch gorchwyl ar gyfer y grŵp fel rhan o waith datblygu cynlluniau'r prosiect, wedi'u llofnodi gan yr holl bartïon i'r cais. Bydd yn nodi'r mynegiant o gytundeb i barhau, y bwriadau parodrwydd a'r rhwymedigaethau a osodir ar bob person neu bersonau mewn grŵp ar ôl cyflwyno cynllun y prosiect.

Pa dir sy’n gymwys

Rhaid i’r holl dir fod yng Nghymru. 

Bydd tir y 2 fusnes fferm wedi’i gofrestru gyda’r RPW. 

Rhaid i'r holl dir a amlinellir yn y cais am gyllid datblygu prosiect fod o dan reolaeth y partneriaid sy'n cydweithredu. Rhaid bod gan bartneriaid sy'n cydweithredu reolaeth lawn a diogelwch deiliadaeth dros y tir yn eich cais dros gyfnod llawn y cynigion (gan gynnwys unrhyw ofynion gwydnwch neu gynnal a chadw). Os nad oes gennych reolaeth lawn dros y tir, rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth dros y tir a chynnwys tystiolaeth o gymeradwyaeth gyda'ch cais neu gael cydlofnod ar y cais gan y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr, y landlord neu'r corff perthnasol. 

Bydd pob math o dir yn gymwys ar gyfer camau gweithredu arfaethedig, gan gynnwys tir y tu mewn neu'r tu allan i ardaloedd gwarchodedig a dynodedig, tir comin a thir pori a rennir.

Gall amrywiaeth o drefniadau rheoli neu ddefnydd presennol fod yn berthnasol i'r tir – gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a thir sy'n cael ei reoli er budd amgylcheddol yn unig. 

Mae tir sydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol ar hyn o bryd yn gymwys i fod yn rhan o brosiect cydweithredol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw weithgareddau neu brosesau rheoli a gynigir ragori ar y gofynion yn y cytundebau presennol. 

Os yw eich prosiect neu unrhyw weithgaredd arfaethedig yn eich cais wedi'i leoli ar safle gwarchodedig fel SoDdGA, neu os gallai gael effaith ar safle o'r fath, rhaid i chi sicrhau bod gennych chi'r cydsyniad, y caniatâd neu'r cymorth perthnasol. Gallwch wirio a yw’ch tir yn cynnwys safle gwarchodedig, neu a oes safle o'r fath gerllaw, trwy ddefnyddio Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig (ar Cyfoeth Naturiol Cymru). Bydd y gweithgaredd arfaethedig a'r math o ddynodiad yn penderfynu â phwy y mae angen cysylltu, a'r mathau o gydsyniad neu ganiatâd sydd eu hangen. Os yw cynigion y prosiect ar dir dynodedig, byddem yn disgwyl gweld tystiolaeth o ymgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru yn y datganiad o ddiddordeb.

Allbwn datblygu prosiect CANI

Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu ar ffurf grant refeniw, sy'n cael ei ddarparu i hwyluso'r gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni prosiect CANI. 

Bydd cam datblygu’r prosiect yn para o ddyddiad rhoi llythyr dyfarnu’r grant tan 31 Mawrth 2025. 

Ar ddiwedd y cam datblygu a nodir yn eich llythyr dyfarnu’r grant, rhaid i chi wneud y canlynol

  • cyflwyno eich cais am gynllun cyflawni’r prosiect erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant
  • cyflwyno eich hawliad a thystiolaeth erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant

Bydd rhagor o ddogfennau i’ch helpu i ddatblygu cynllun y prosiect ar gael pan gaiff roddir llythyr dyfarnu’r grant.

Costau cymwys  

  • costau staff
  • gweithgareddau hyrwyddo (gwybodaeth am weithgareddau'r prosiect)
  • llogi ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau, deunydd ysgrifennu a nwyddau traul

 Costau anghymwys 

  • TAW y gellir ei hadhawlio
  • offer a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw
  • costau cyfalaf

Y grant uchaf a’r trothwy grant uchaf

Y grant lleiaf y gellir ei roi yw £10,000 a’r grant mwyaf yw £30,000 ar sail y gyfradd fesul awr, a hyd at 10% o'r swm hwn ar gyfer nwyddau traul, digwyddiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau CANI manwl a fydd yn sylfaen i'r cais am grant cyflawni prosiect CANI. Bydd cyfradd grant o hyd at 100%.

Os caiff eich cais am grant datblygu prosiect ei ddewis, byddwch yn derbyn cyllid grant ar ffurf cymorth refeniw ar gyfradd safonol o £23.41 yr awr i helpu i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect manwl ar raddfa tirwedd. 

Prif ofynion

Rhaid i brosiect gyflwyno cais am grant cynllun cyflawni’r prosiect ar RPW ar-lein erbyn 31 Mawrth 2025. 

Ni fyddai’r Prosiect yn gallu mynd yn ei flaen heb y grant. 

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Tendro a Chaffael Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler adran F am ragor o fanylion

Rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes cais wedi’i wneud am unrhyw arian cyhoeddus arall ar gyfer y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig. 

Os caiff y prosiect ei gynnal ar dir dynodedig, rhaid rhoi tystiolaeth gyda’ch cais am grant datblygu’r prosiect eich bod wedi trafod â CNC. 

Adran C: gwneud cais am grant datblygu prosiect CANI

RPW Ar-lein

Mae'n rhaid i chi ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein i gwblhau cais am grant datblygu prosiect CANI. Os oes gennych chi Gyfeirnod Cwsmer yn barod, dylech chi fod wedi derbyn llythyr yn eich hysbysu am eich Cod Actifadu er mwyn sefydlu eich cyfrif. Os nad yw'r llythyr gennych chi, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Iau 8:30 – 17:00, Dydd Gwener 8:30 – 16:30) a rhoi’ch Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredwr. Bydd yn anfon Cod Actifadu newydd atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu arnom am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae CANI ar gael yn yr adran "Ceisiadau a Hawliadau" yn eich cyfrif.

Bydd angen i asiantiaid sy’n gweithredu ar ran cleient gofrestru fel asiant Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Ffermio (Cymru) ar-lein, neu gopi papur ar unwaith. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW) atoch. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Bydd yn gallu darparu cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein wefan.

Cyflwyno cais

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich cais trwy RPW Ar-lein ar gael yma.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod y wybodaeth sydd wedi'i darparu i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru’n gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r gwerthusiad.

Adran D: cais am grant datblygu prosiect

Mae canllawiau llawn y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn rhoi arweiniad a chymorth ar sut i ddarparu tystiolaeth er mwyn cefnogi'r cais am grant datblygu prosiect. 

Meini prawf dewis ar gyfer grant datblygu prosiect CANI

Ar gyfer y grant datblygu prosiect, caiff pob cais ei asesu yn ôl set o feini prawf a’i sgorio gan ddefnyddio graddfa o 0 i 4, a lluosir y sgôr hon wedyn â’r ffactor pwysoli i roi cyfanswm sgôr.

Y rhan sy’n cael ei hasesu SgôrPwysoliad 
1 – Prosiect cydweithredol0 - 3x 4
2 – Y dirwedd0 – 3x 3
3 – Cyfleoedd a heriau0 – 3x 4
4 – Effeithiau, canlyniadau a manteision posibl0 – 3x 3
5 – Gwerth am arian0 – 3x 3

Caiff y ceisiadau eu sgorio yn nhrefn eu teilyngdod. Bydd y ceisiadau’n cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael wedi’i ddyrannu. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr holl arian yn cael ei ddyrannu, neu y bydd pob cais yn cael ei ddewis i dderbyn y grant datblygu prosiect. 

Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen os oes ganddo sgôr o lai na 34. 

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn cael ei wneud ar sail y wybodaeth a'r dystiolaeth sydd wedi'u darparu, a lle mae prosiectau’n gallu dangos yn y cais sut mae'r camau a'r ymyriadau arfaethedig yn cyflawni nodau a chanlyniadau strategol y cynllun.

Byddai sgôr o 1 neu 0 mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried ar gyfer y grant datblygu prosiect.

Bydd modd sicrhau sgoriau uwch trwy ddarparu esboniadau ar sail tystiolaeth gadarn sy'n cael eu hategu gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig. Bydd angen cynnwys manylion am sut y bydd y gweithgareddau hyn yn bodloni'r canlyniadau dymunol a amlinellir yng nghanllawiau'r cynllun, yn cyflawni ar gyfer bioamrywiaeth, yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac yn darparu ar gyfer ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. 

Bydd angen i brosiectau ddangos tystiolaeth o gamau gweithredu arfaethedig a'u cysylltiad â'r dirwedd/tirweddau neu'r dalgylch/dalgylchoedd, gan nodi'r ffocws ar gyfer y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y dirwedd/tirweddau neu'r dalgylch/dalgylchoedd a'u pwysigrwydd. 

Bydd gofyn i brosiectau nodi'r manteision y gallan nhw eu sicrhau er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, helpu ffermwyr i gyrraedd y targed sero net a lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy ddangos tystiolaeth o'u camau gweithredu arfaethedig sy'n cysylltu'r camau hynny â'r canlyniadau dymunol a amlinellir yng nghanllawiau'r cynllun llawn a ffocws y prosiect. 

Bydd angen i brosiectau mawr ac uchelgeisiol ar raddfa tirwedd ddangos y trefniadau llywodraethu priodol sydd eu hangen i adlewyrchu natur prosiect cydweithredu neu brosiect tirwedd mwy o ran maint a nodi effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, gan eu cysylltu â'r canlyniadau a'r manteision dymunol ar gyfer bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau a gwytnwch ar y raddfa hon. 

Ni fydd prosiectau tirwedd cymedrol neu lai o dan unrhyw anfantais, a byddant yn derbyn sgôr sy'n adlewyrchu eu huchelgeisiau, eu systemau llywodraethu priodol, a'u gweithgareddau sy'n briodol i'r dirwedd a'r grŵp. Hefyd, bydd cymedrolwr yn asesu addasrwydd strategol y cais cyfan, felly bydd prosiectau'n cael eu barnu'n deg ac yn gymesur. 

Cwestiynau’r cais a’r meini prawf asesu

Y prosiect cydweithredol 

C1. Amlinellu strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r prosiect cydweithredol. 

C2. Esbonio sut y bydd y prosiect cydweithredol yn sicrhau systemau llywodraethu a rheoli da ar gyfer prosiect aml-flwyddyn.  

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi'r sefydliad neu'r grŵp arweiniol a fydd yn cyflwyno'r cynllun sydd wedi'i ddatblygu, partneriaid y prosiect, a'r prosiect cydweithredol ehangach posibl. 

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o sut y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud, a rhaid dangos trefniadau llywodraethu, strwythur a gallu'r grŵp i reoli prosiect o'r cwmpas a'r raddfa arfaethedig. 

Mae prosesau cydweithredu yn gallu arwain at sawl her, felly bydd eglurder, llywodraethu a phrosesau rheoli prosiectau da yn hanfodol i lwyddiant. 

Mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am geisiadau arloesol ac uchelgeisiol o safbwynt cydweithredu a chanlyniadau. Mae angen dulliau gweithredu amlsector, cydweithredol a'r 'camau cywir, yn y lle cywir' er mwyn cael yr effaith fwyaf wrth reoli tir ar raddfa tirwedd. Mae'r adran hon yn gyfle i ymgeiswyr ddangos eu bod yn cynllunio prosiect sydd wedi'i gynllunio a'i strwythuro yn dda. 

Yn yr adran hon, dylai ymgeiswyr esbonio sut y bydd dyheadau'r prosiect yn cael eu rheoli drwy'r camau datblygu a chyflawni, ac esbonio sut y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud. 

Dylai ymgeiswyr gynnwys rolau a chyfrifoldebau, a threfniadau llywodraethu a strwythur y prosiect cydweithredol arfaethedig ynghyd ag amlinelliad o'r dulliau rheoli prosiect arfaethedig i gyflwyno'r gweithgareddau arfaethedig. 

Os yw prosiect cydweithredol newydd yn cael ei gynnig nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, dylai'r ymgeisydd gynnwys tystiolaeth o'r posibilrwydd o ddatblygu'r prosiect cydweithredol newydd yn llwyddiannus yn ystod cam datblygu'r prosiect, hyd at lefel lle bydd modd llywodraethu, rheoli, monitro a chyflawni'r prosiect arfaethedig yn effeithiol yn ystod y cam cyflawni. 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad, gallu, a'r strategaeth ar gyfer gwarchod y dirwedd yn yr hirdymor. 

Sgôr 

3: Mae'r ymgeisydd wedi darparu disgrifiad sylweddol a chlir o strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r prosiect cydweithredol. Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth sylweddol ac amlinelliad clir o sut y bydd y prosiect yn sicrhau llywodraethu da a sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli a'i weinyddu i gyflwyno'r gweithgareddau arfaethedig o ddydd i ddydd. Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth sylweddol a chlir i gefnogi prosiect cydweithredol uchelgeisiol ac arloesol yn gyffredinol.

2: Mae'r ymgeisydd wedi darparu disgrifiad boddhaol o strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r prosiect cydweithredol. Mae'r ymgeisydd wedi darparu amlinelliad boddhaol o sut y bydd y prosiect yn sicrhau llywodraethu da a sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli a'i weinyddu i gyflwyno'r gweithgareddau arfaethedig o ddydd i ddydd. Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol i gefnogi prosiect cydweithredol uchelgeisiol ac arloesol yn gyffredinol.

1: Mae'r ymgeisydd wedi darparu disgrifiad anghyflawn neu annigonol o strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r prosiect cydweithredol. Mae'r ymgeisydd wedi darparu disgrifiad anghyflawn neu annigonol o sut y bydd y prosiect yn sicrhau llywodraethu da a sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli a'i weinyddu i gyflwyno'r gweithgareddau arfaethedig o ddydd i ddydd. Mae'r ymgeisydd yn darparu amlinelliad rhannol yn unig i gefnogi prosiect cydweithredol eang neu uchelgeisiol.

0: Mae'r ymgeisydd wedi darparu ymateb anghyflawn neu ddim wedi ymateb i'r meini prawf.

Y dirwedd

Nodi'r dirwedd a'r ardal ddaearyddol sydd i'w cynnwys, gan amlinellu natur a phwysigrwydd parhaus y dirwedd arfaethedig a nodi graddfa briodol gweithgareddau'r prosiect.

Bydd tirwedd barhaus yn cael ei diffinio yn ôl ei natur neu ei statws a/neu bydd yn cael ei chysylltu trwy ecosystemau integredig a chynefinoedd neu nodweddion naturiol cysylltiedig, er mwyn sicrhau bod grwpiau yn gallu datblygu a nodi tir cyfagos a chysylltiedig posibl a fydd yn cael ei ddwyn ynghyd yn ystod y datblygiad. Mae enghreifftiau o nodweddion cysylltiol naturiol yn cynnwys gwrychoedd, coridorau ar lannau nant neu goetiroedd. 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi'r ardal/ardaloedd daearyddol lle maent am weithredu a dangos tystiolaeth glir o natur barhaus y dirwedd, a'i defnydd a'i chyflwr presennol, gan roi sylw i safleoedd gwarchodedig neu enghreifftiol lle bo hynny'n briodol. 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi pa reolaeth sydd gan y prosiect cydweithredol dros y dirwedd/tirweddau a nodi lle mae modd rhoi camau gweithredu ac ymyriadau ar waith. 

Yn yr adran hon, dylai ymgeiswyr ddiffinio pam mai'r ardal/ardaloedd a nodir ganddynt yw'r raddfa briodol ar gyfer eu camau gweithredu arfaethedig a'r hyn y maent am ei gyflawni o safbwynt canlyniadau sy'n gysylltiedig â'r cyfleoedd trin a rheoli. 

Gall ymgeiswyr amlinellu sut maent yn gobeithio ymgysylltu â rheolwyr tir yn y dirwedd/tirweddau er mwyn datblygu a nodi tir/tirweddau cyfagos a chysylltiedig posibl a fydd yn cael eu dwyn ynghyd yn ystod y datblygiad.

Gall ymgeiswyr gyflwyno mapiau o ardal y prosiect os ydynt ar gael, gan amlinellu prif raddfa arfaethedig y prosiect, yr ardal/ardaloedd lle bydd gweithgarwch yn digwydd, y tir lle mae rheolwyr/perchnogion tir wedi cytuno i gymryd rhan neu lle maen nhw'n cymryd rhan weithredol yn y prosiect, ac unrhyw wybodaeth bwysig am gysylltiadau'r dirwedd/tirweddau â safleoedd gwarchodedig, er enghraifft. 

Mae'n rhaid datblygu camau gweithredu clir i greu neu wella asedau er mwyn gallu cytuno ar gyllid cyfalaf yn ystod y cam cyflawni llawn. Yn y cynllun hwn, byddai'r rhain yn nodweddion i wella'r adnoddau naturiol ledled ardal eich prosiect. Mae enghreifftiau ar gael yn Adran D o'r canllawiau llawn

Sgôr 

3: Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth sylweddol a chlir o ymarferoldeb y dirwedd/tirweddau arfaethedig ac esboniad manwl o'r natur barhaus, y defnydd a'r cyflwr presennol. Mae'r ymgeisydd wedi amlinellu esboniad sylweddol a chlir o briodoldeb y raddfa a'r allbynnau arfaethedig.

2: Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol o ymarferoldeb y dirwedd/tirweddau arfaethedig ac esboniad boddhaol o'r natur barhaus, y defnydd a'r cyflwr presennol. Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol o briodoldeb y raddfa a'r allbynnau arfaethedig.

1: Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth, neu dystiolaeth aneglur, o ymarferoldeb y dirwedd/tirweddau arfaethedig, ac esboniad gwael o'r natur barhaus a'r defnydd a'r cyflwr presennol. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth i gefnogi'r raddfa arfaethedig a'r allbynnau posibl.

0: Nid oes unrhyw dystiolaeth berthnasol wedi'i darparu ac ni chafwyd unrhyw ymateb.

Y cyfle a'r heriau 

Nodi'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol neu leol, a'r ffocws ar gyfer y dirwedd.  

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol neu leol, a'r ffocws ar gyfer y dirwedd/tirweddau arfaethedig

Mae'n rhaid i ymgeiswyr amlinellu'n fras yr uchelgais ar gyfer rheoli'r dirwedd/tirweddau sy'n gysylltiedig â'r heriau a'r cyfleoedd a nodwyd.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi'r heriau cenedlaethol neu leol perthnasol ar gyfer y dirwedd/tirweddau a nodwyd a dangos yn glir sut mae'r grŵp yn bwriadu mynd i'r afael â'r heriau hynny a darparu atebion drwy nodi cyfleoedd sydd ar gael yn y dirwedd/tirweddau. 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gael ffocws sy'n gysylltiedig â'r her neu'r cyfle i dargedu gweithgarwch a helpu i gysylltu ymyriadau i gyflawni'r canlyniadau dymunol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi mai'r camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig yw'r camau cywir yn y lle cywir. 

Dylai ymgeiswyr ddechrau nodi, lle bynnag y bo modd, eu nodau i wella cyflwr, cysylltedd ac amrywiaeth ecosystemau, gan amlinellu'n fras yr uchelgais a'r ymyriadau ar gyfer rheoli'r dirwedd/tirweddau a sut y bydd yn mynd i'r afael â'r ffocws a'r her a nodwyd. 

Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i ddarparu enghreifftiau o gyfleoedd, problemau, llwyddiannau ac uchelgeisiau yn y dirwedd/tirweddau er mwyn helpu i ddangos tystiolaeth ar gyfer yr adran hon.

Anogir ymgeiswyr i fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol wrth nodi sut y byddent yn hoffi defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i gyflawni'r canlyniadau dymunol. 

Sgôr 

3: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad sylweddol a chlir o'r ffocws ar gyfer y dirwedd/tirweddau a sut mae'r prosiect arfaethedig yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau a'r cyfleoedd a'u cysylltiad â'r canlyniadau dymunol a amlinellir yng nghanllawiau llawn y cynllun CANI. Mae'r ymgeisydd wedi amlinellu sail resymegol sylweddol a chlir ar gyfer yr ymyriadau arfaethedig a'r canlyniadau posibl. Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad sylweddol o sut y bydd gweithgareddau arfaethedig y prosiect yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau neu'r cyfleoedd a nodwyd yn y dirwedd/tirweddau. Mae'r ymgeisydd wedi nodi ac amlinellu'n glir y dystiolaeth i gefnogi'r camau a'r ymyriadau arfaethedig, ac mae wedi nodi bod allbynnau arfaethedig y prosiect yn berthnasol i'r dirwedd/tirweddau. 

2: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol o'r ffocws ar gyfer y dirwedd/tirweddau a sut mae'r prosiect arfaethedig yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau a'r cyfleoedd a'u cysylltiad â'r canlyniadau dymunol a amlinellir yng nghanllawiau llawn y cynllun CANI. Mae'r ymgeisydd wedi darparu sail resymegol foddhaol ar gyfer yr ymyriadau arfaethedig a'r canlyniadau posibl. Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol o sut y bydd gweithgareddau arfaethedig y prosiect yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau neu'r cyfleoedd a nodwyd yn y dirwedd/tirweddau. Mae'r ymgeisydd wedi nodi ac amlinellu'r dystiolaeth i gefnogi'r camau a'r ymyriadau arfaethedig, ac wedi nodi bod allbynnau arfaethedig y prosiect yn berthnasol i'r dirwedd/tirweddau.

1: Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o'r ffocws ar gyfer y dirwedd/tirweddau a sut mae'r prosiect arfaethedig yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau a'r cyfleoedd a'u cysylltiad â'r canlyniadau dymunol a amlinellir yng nghanllawiau llawn y cynllun CANI. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth, tystiolaeth aneglur neu ddim tystiolaeth o gwbl o sut y bydd gweithgareddau arfaethedig y prosiect yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau neu'r cyfleoedd a nodwyd yn y dirwedd/tirweddau. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth i gefnogi'r camau a'r ymyriadau arfaethedig a bod allbynnau arfaethedig y prosiect yn berthnasol i'r dirwedd/tirweddau.

0: Nid yw'r ymgeisydd wedi nodi'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol neu leol, na'r ffocws ar gyfer y dirwedd/tirweddau arfaethedig. Nid oes unrhyw dystiolaeth berthnasol wedi'i darparu neu ni chafwyd unrhyw ymateb.

Effeithiau, canlyniadau a manteision posibl 

Nodi effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a'u cysylltiad â'r canlyniadau a'r manteision dymunol ar gyfer bioamrywiaeth, gwasanaethau a gwytnwch ecosystemau, ac â llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gysylltu'r camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig â'r amcanion, ac mae'n ofynnol i chi ddangos sut mae eich camau gweithredu a'ch ymyriadau arfaethedig yn cyfrannu at o leiaf bedwar o'r canlyniadau a restrir isod:

  • gwella ansawdd aer
  • gwella ansawdd dŵr
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maen nhw'n eu darparu
  • gwella bioamrywiaeth a chysylltedd i safleoedd gwarchodedig ar draws tirwedd a/neu gynefinoedd nad ydynt yn gyfagos (er enghraifft mewn perthynas â rhywogaeth adran 7)
  • rheoli a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol ar draws tirwedd, ar lefel ranbarthol neu genedlaethol
  • addasu i'r hinsawdd
  • cynyddu effeithlonrwydd adnoddau
  • lliniaru risgiau llifogydd a sychder
  • gwarchod a gwella tirweddau (cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol) a'r amgylchedd hanesyddol
  • helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau'r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a'u cymunedau
  • cynnal yr iaith Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd
  • dal a storio mwy o garbon
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 
  • cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid 
  • annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy
  • gwella gwytnwch busnesau amaethyddol
  • cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a'r amgylchedd hanesyddol, a’u hymgysylltiad â nhw, neu 
  • annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (trwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir)

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau. Mae ecosystemau iach yn arwain at nifer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut mae ymyriadau'r prosiect yn gallu sicrhau'r manteision hynny.   

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth am y camau gweithredu arfaethedig a'u heffaith bosibl. Rhaid nodi effaith bosibl y camau a'r ymyriadau arfaethedig a amlinellwyd yn y meini prawf blaenorol ar y broses o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth, a sut maen nhw'n gallu gwella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Sgôr 

3: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad sylweddol a chlir o effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a sut maent yn cyfrannu at o leiaf bedwar o'r canlyniadau a restrir. Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad sylweddol a chlir ac mae wedi ystyried y manteision a allai ddeillio o'r camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig. Mae'r ymgeisydd wedi nodi'n glir pwy fydd prif fuddiolwyr allbynnau'r prosiect arfaethedig. Mae'r ymgeisydd wedi ystyried, ac wedi rhoi sicrwydd clir, y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn cyflawni yn erbyn y canlyniadau dymunol.

2: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol o effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a sut maent yn cyfrannu at o leiaf bedwar o'r canlyniadau a restrir. Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol ac wedi ystyried yn rhannol y manteision a allai ddeillio o'r camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig. Mae'r ymgeisydd wedi nodi rhai o brif fuddiolwyr allbynnau'r prosiect arfaethedig. Mae'r ymgeisydd wedi ystyried, ac wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd, y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn cyflawni yn erbyn y canlyniadau dymunol.

1: Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o effaith bosibl y camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig, a sut maent yn cyfrannu at o leiaf bedwar o'r canlyniadau a restrir. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth neu ddim tystiolaeth o gwbl, ac nid yw wedi ystyried yn llawn y manteision a allai ddeillio o'r camau gweithredu a'r ymyriadau arfaethedig. Nid yw'r ymgeisydd wedi nodi'n glir pwy fydd prif fuddiolwyr allbynnau'r prosiect arfaethedig. Nid yw'r ymgeisydd wedi ystyried, nac wedi rhoi sicrwydd, y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn cyflawni yn erbyn y canlyniadau dymunol.

0: Nid yw'r ymgeisydd wedi darparu unrhyw dystiolaeth berthnasol neu nid yw wedi ymateb.

Gwerth am arian 

Nodi nifer yr oriau sydd eu hangen ar gyfer y cam hwn, manylion yr ymgysylltu a’r digwyddiadau a’r nwyddau traul rydych yn gofyn am arian ar eu cyfer. Rhaid cynnwys esboniad yn egluro sut y bydd yn darparu gwerth am arian. 

Yn yr adran hon, dylai ymgeiswyr ddisgrifio sut maen nhw wedi cyfrifo'r swm y gofynnwyd amdano yn y cais hwn gan grant datblygu'r prosiect (yr isafswm yw £10,000 a'r uchafswm yw £30,000). Dylai ymgeiswyr nodi nifer yr oriau sydd eu hangen ar gyfradd safonol o £23.41 sydd ar gael o dan gam datblygu'r prosiect. 

Dylai'r ymgeisydd esbonio sut mae nifer yr oriau y gofynnir amdanynt yn rhesymol o ystyried cwmpas a graddfa'r prosiect arfaethedig. Anogir yr ymgeisydd i amlinellu amcangyfrif o'r amser sydd ei angen i baratoi cynllun y prosiect, maint y daliadau arfaethedig (mewn hectarau) a nifer y daliadau unigol dan sylw. 

Anogir yr ymgeisydd i amlinellu faint o amser a chostau sydd eu hangen i ymgysylltu â thirfeddianwyr a rheolwyr tir lleol ynghyd â chymunedau, grwpiau a sefydliadau lleol, a darparu gwybodaeth am faint o unigolion neu sefydliadau y mae angen ymgynghori â nhw yn ystod y cam cynllunio.

Anogir yr ymgeisydd i amlinellu unrhyw dirweddau sensitif neu warchodedig sydd angen mwy o ganiatâd cynllunio a chydsyniad a chytundeb gan dirfeddiannwr neu gymdeithas a allai gymryd mwy o amser i'w sicrhau. 

Bydd angen i'r ymgeisydd nodi holl gostau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau. 

Sgôr 

3: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad sylweddol a chlir yn erbyn y nifer o oriau y gofynnwyd amdanynt, ac mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad manwl iawn o sut mae nifer yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol ac yn cyd-fynd â phrosiectau arfaethedig o'r cwmpas a'r raddfa hon. Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad manwl iawn o'r amser a'r costau gofynnol mewn perthynas ag ymgysylltu ac ymgynghori.  Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad manwl iawn ar gyfer yr amserlenni arfaethedig sydd eu hangen i baratoi cynllun y prosiect. Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad manwl iawn o amcangyfrif o nifer yr hectarau, y daliadau arfaethedig, ynghyd â chymunedau, grwpiau a sefydliadau lleol perthnasol, ac mae wedi darparu esboniad clir a da o'r amser sydd ei angen i ymweld a dwyn ynghyd y cynigion ar draws daliadau. Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth glir iawn o holl gostau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau.

2: Mae'r ymgeisydd wedi darparu esboniad boddhaol yn erbyn y nifer o oriau y gofynnwyd amdanynt, ac mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad boddhaol o sut mae nifer yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol ac yn cyd-fynd â phrosiectau arfaethedig o'r cwmpas a'r raddfa hon. Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad boddhaol o'r amser a'r costau gofynnol mewn perthynas ag ymgysylltu ac ymgynghori. Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad boddhaol o'r amserlenni arfaethedig sydd eu hangen i baratoi cynllun y prosiect. Mae'r ymgeisydd wedi darparu dadansoddiad boddhaol o amcangyfrif o nifer yr hectarau, y daliadau arfaethedig, ynghyd â chymunedau, grwpiau a sefydliadau lleol perthnasol, ac mae wedi darparu esboniad boddhaol o'r amser sydd ei angen i ymweld a dwyn ynghyd y cynigion ar draws daliadau. Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol o holl gostau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau.

1: Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, yn erbyn y nifer o oriau y gofynnwyd amdanynt, ac mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o sut mae nifer yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol ac yn cyd-fynd â phrosiectau arfaethedig o'r cwmpas a'r raddfa hon. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o ddadansoddiad, neu ddadansoddiad aneglur neu afrealistig, o'r amser a'r costau gofynnol mewn perthynas ag ymgysylltu ac ymgynghori. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o'r amserlenni arfaethedig sydd eu hangen i baratoi cynllun y prosiect. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o amcangyfrif o nifer yr hectarau, y daliadau arfaethedig, ynghyd â chymunedau, grwpiau a sefydliadau lleol perthnasol, ac mae wedi darparu ychydig iawn o esboniad, neu esboniad aneglur neu afrealistig, o'r amser sydd ei angen i ymweld a dwyn ynghyd y cynigion ar draws daliadau. Mae'r ymgeisydd wedi darparu ychydig iawn o dystiolaeth o gostau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau.

0: Nid oes unrhyw dystiolaeth berthnasol wedi'i darparu neu ni chafwyd unrhyw ymateb.

Mae tri chanlyniad posibl i arfarniad datblygu prosiect CANI:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac ni chaiff ei gymeradwyo am ddyfarniad grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ond nid yw wedi'i ddewis ar gyfer dyfarniad oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Gallwch wneud cais gyda’r un prosiect eto os bydd cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan newid y cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  3. Mae eich prosiect yn gymwys ar gyfer datblygu prosiect CANI ac mae’n cael ei gymeradwyo am ddyfarniad. Bydd llythyr dyfarnu yn cael ei anfon atoch chi sy'n nodi nifer yr oriau cymeradwy, y symiau ar gyfer costau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau, y canlyniadau disgwyliedig, a thelerau ac amodau’r dyfarniad trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gofynnir i chi gadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig o fewn 30 niwrnod er mwyn dangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y llythyr Dyfarnu Grant yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith hefyd. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y llythyr dyfarnu o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y Grant o fewn y 30 niwrnod, caiff y llythyr cynnig ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y grant.

Os ydych chi’n penderfynu tynnu yn ôl oddi wrth y Dyfarniad Grant cyn cwblhau’r prosiect, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am grant datblygu prosiect CANI yn y cylch nesaf, ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi.

Gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd cyn Dyfarnu’r Grant ac ni fydd hynny’n effeithio ar unrhyw geisiadau yn y dyfodol ar gyfer y CANI.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol ein bod yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Adran E: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r CANI (Gweler Atodiad A). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd / derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r cynnig o grant datblygu prosiect CANI yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich llythyr cymeradwyo grant, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd cyfnod dyfarniad y grant yn para o ddyddiad dyfarnu’r grant tan 31/03/2025.  

Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol yn drosedd. 

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig yn gyntaf i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. 

Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a wneir o dan gyfraith y DU.

Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn nodiadau cyfarwyddyd y cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen hawliadau Grantiau RPW Ar-lein, a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sy’n ofynnol o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr Dyfarniad Grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Mae’n rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r prosiect i ben.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol ein bod yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu gwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o'ch prosiect.

Mae hysbysiad preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio’r modd y byddwm yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol, a hefyd nodir eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F: caffael a thendro cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Tendro Cystadleuol Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.

Adran G: taliadau

Hawliadau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hawlio grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein i hawlio grant CANI. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu'ch hawliad yn llwyddiannus. 

Dim ond un hawliad y cewch ei gyflwyno. Ni fydd yr arian yn cael ei dalu nes bod i ni yn fodlon bod y gwaith perthnasol wedi'i gwblhau yn foddhaol a bod cynllun cyflawni prosiect Adnoddau Naturiol Integredig wedi’i gyflwyno. Caiff y taliad ei wneud drwy drosglwyddiad electronig i'ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn taliad datblygu prosiect CANI mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • fod wedi derbyn dyfarniad datblygu prosiect CANI o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig a chydymffurfio â'r holl ofynion
  • sicrhau eich bod wedi cyflwyno'r cynllun cyflawni prosiect manwl i RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r ffurflen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau – 31 Mawrth 2025
  • byddwn yn cyhoeddi uchafswm o 2 nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy'n weddill trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau
  • cyflwyno taflenni amser fel tystiolaeth o'r oriau gwaith ynghyd â thystiolaeth o daliadau
  • cyflwyno un dyfynbris ar gyfer pob eitem (costau nwyddau traul, ymgysylltu a digwyddiadau) dros £1000
  • cyflwyno anfonebau a thystiolaeth o daliadau i gefnogi costau cymwys eraill
  • caiff y taliad ei wneud i gyfrif banc sy’n gysylltiedig â’r prif CRN ar y cais  

Rhaid i anfonebau arddangos y gair 'anfoneb' yn glir yn y ddogfen a chynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cwmni
  • enw a chyfeiriad y cwmni sy'n anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn y codir tâl arnoch amdano
  • y dyddiad y darparwyd y nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau sy'n cael eu codi
  • swm TAW os yw'n berthnasol
  • cyfanswm sy'n ddyledus

Mae angen cynnwys cyfriflenni banc fel prawf o daliadau. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyfateb i werth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn ymwneud â'r prosiect gan yr un cyflenwr) bydd angen dadansoddiad o'r taliad cyfan gydag anfonebau ategol.

Os ydych yn defnyddio siec i wneud taliad, bydd angen sgan neu ffotograff o'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc.

Gallwch gyflwyno’r anfonebau, dyfynbrisiau, a thystiolaeth o daliadau trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r ffurflen Hawlio Grantiau a hyd nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gwaith.  

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Rhagdaliadau 

Byddwn yn talu fel arfer ar ffurf ôl-daliadau (h.y. ar ôl i dderbynnydd y grant ysgwyddo’r gwariant); ond rydym yn sylweddoli nad oes gan rai mudiadau Trydydd Sector lawer o arian wrth gefn ac nid oes ganddynt yr adnoddau i wneud y gwaith cyn cael eu talu am ei wneud. Felly, os ydych wedi ymrwymo i wariant, gallwn ystyried rhoi rhagdaliad i chi i dalu amdano, ond dim ond os oes tystiolaeth glir bod ei angen. 

Hawliadau anghywir a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys, a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno’n brydlon.

Rhaid i'r holl weithgarwch / costau a ysgwyddir ddigwydd ar ôl i'r contract gael ei gynnig.

Mae eich hawliad yn anghywir yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych wedi ymgymryd â gweithgaredd / ysgwyddo costau cyn i'r contract gael ei gynnig
  • nid ydych wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawliadau
  • nid ydych wedi cyflwyno cynllun cyflawni prosiect Adnoddau Naturiol Integredig (INR) erbyn y dyddiad cau

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r cyfanswm sy’n cael ei hawlio, yna bydd cosb ariannol yn cael ei chymhwyso. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei leihau yn ôl swm y camgymeriad, ac felly bydd cyfanswm y grant i’w dalu yn is na’r disgwyl.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae'r Rheoliad hwnnw a'r troseddau hynny’n berthnasol i'r CANI. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H: newidiadau i reoliadau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (gan gynnwys Newidiadau mewn Dehongli)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro, a bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau'r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i reolau'r cynllun neu'r contract 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y rhaglen. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.  

Adran I: mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau datblygu prosiect y CANI.  

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn i chi dderbyn y taliad neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad. 

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad, a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno'r cais a'r hawliad yn cael eu gwirio. 

Bydd Llywodraeth Cymru a'r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod ymweliadau'n tarfu arnoch gyn lleied â phosibl, ond mae angen ymweliadau dirybudd ar gyfer rhai gwiriadau, sy'n golygu na fydd modd rhoi rhybudd i chi o bosibl. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr. 

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am saith mlynedd.

Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • darparu unrhyw wybodaeth i ni am eich contract datblygu prosiect CANI o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â'ch contract datblygu prosiect CANI i ni, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid
  • caniatáu i ni gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran J: gweithdrefn apelio a chwyno

Gweithdrefn apelio

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a gafodd ei wneud yn ystod Cam Datblygu'r Prosiect, gan gynnwys penderfyniad i wrthod eich cais am gyllid Datblygu Prosiect. 

Hefyd, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a gafodd ei wneud mewn perthynas â'ch cais am gyllid ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, gan gynnwys penderfyniad i wrthod eich cais am gyllid grant Cyflawni'r Prosiect. 

Rhaid i'ch gwrthwynebiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol, gael ei gyflwyno o fewn 60 diwrnod i dderbyn y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych chi am gael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd swyddogion yn adolygu'ch gwrthwynebiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol, a byddwch chi'n cael gwybod am y penderfyniad a'r rhesymau amdano. 

Ar ôl i chi dderbyn cynnig grant ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, bydd apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’. 

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb Cam 1)

Mae'r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidog Llywodraeth Cymru, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â'r broses i ben.

Ni chodir tâl ar gyfer Cam 1 o'r broses, ond codir tâl ar gyfer Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Mae'r taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os yw'r apêl Cam 2 yn llwyddiannus yn rhannol neu'n llawn.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i law o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais RPW Ar-lein ar gael gan Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu ar ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Y weithdrefn gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu'ch cais am gyllid grant

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Byddwn y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwystra, efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol hefyd:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
  • DEFRA
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU.
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cymhorthdal ar eu cyfer. Fodd bynnag, i bobl sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i £1,250 mewn cymorthdaliadau, ni fydd yr enw'n cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan Defra.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gennym a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Grantiau a thaliadau gwledig: hysbysiad preifatrwydd

Adran L: cysylltiadau

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig 

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch gofrestru hefyd i dderbyn yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Atodiad A

Mae grantiau CANI wedi cael eu hystyried yn erbyn amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel y nodir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, a chredir eu bod yn gwneud y cyfraniad gorau at gyflawni'r amcanion hynny.

Mae’r grant datblygu prosiect CANI yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r grant datblygu prosiect CANI yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau’r Cyngor Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013 Cyfraith yr UE a Ddargedwir, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 a 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (oll fel y cânt eu diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (W.129):

  •  Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327)
  •  Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a   Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (W.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  •  meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth
  •  cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  •  sicrhau cadernid hinsawdd
  •  sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer CANI:

  •  lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Fel rhan o gam cyflawni'r prosiect, byddwn yn gofyn i chi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • y iaith Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau ar gyfer CANI yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd angen i weithgareddau fod yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig
  2. gwella hyfywedd ffermydd a chystadleurwydd pob math o amaethyddiaeth ym mhob rhanbarth a hyrwyddo technolegau ffermio arloesol a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth
  4. adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth
  5. hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygiad economaidd mewn ardaloedd gwledig

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.