Neidio i'r prif gynnwy

Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut y bydd y pysgodfeydd cocos cyhoeddus (y rhai nad ydynt o dan Orchymyn Rheoleiddio) yn cael eu rheoli gan Weinidogion Cymru. Mae hyn yn dilyn Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2024. 

1. Esboniad o rai termau y byddwch yn dod o hyd iddynt yn y Gorchymyn nad ydynt o bosibl yn gyfarwydd i chi

  • Ardal benodedig – ardal (neu bysgodfa gyhoeddus) sydd wedi cael ei chrybwyll yn y Gorchymyn newydd lle cynaeafir cocos am resymau masnachol ac sy'n cael ei rheoli gennym ni. 
  • Asesiad amgylcheddol – a wneir pan fo gwely cocos mewn ardal warchodedig amgylcheddol. Nod yr asesiad yw sicrhau nad yw unrhyw benderfyniad a wneir wrth agor gwely cocos yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
  • Cocos (Cerastoderma edule) – math o bysgod cregyn bwytadwy a elwir hefyd yn folysgiaid dwygragennog ac y gellir dod o hyd iddynt mewn traethau tywodlyd ledled y byd.
  • Cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol – cwrs sy'n dysgu pobl sy'n ei ddilyn i ddod yn gyfarwydd ag asesu risg, gwybodaeth am lanwau, canfod lleoliad, peryglon croesi dŵr ac ardaloedd meddal, y ddeddfwriaeth ar ddefnyddio cychod masnachol a sut i ofyn am gymorth mewn argyfwng.
  • Gornifer cocos y gellir eu cynaeafu – swm y cocos sydd ar gael i'w casglu ar wely cocos, gan ganiatáu i rai gael eu gadael i dyfu ar gyfer y flwyddyn nesaf a gadael rhai ar gyfer adar sy'n gaeafu i fwydo arnynt
  • Gwely cocos - ardal o dywod neu waddod mân lle mae casgliad o gocos yn bresennol.
  • Llestr – mae hyn yn cyfeirio at long/cwch a ddefnyddir i gario cocos y pysgotir amdanynt neu a gymerir o wely cocos.  (Bydd amodau'r drwydded yn egluro pa ddull cludiant y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at gocos a'u symud ymaith o welyau penodol e.e. gall hyn fod yn gwch neu'n feic cwad).
  • Pwysau byw – pwysau cocos byw pan fyddant yn cael eu pwyso mewn sachau rhwyllog gweuedig. 
  • Safle gwarchodedig perthnasol – ardal ddynodedig lle mae rhywogaethau prin neu bwysig yn byw ac yn cael eu gwarchod gan y gyfraith.   
  • Terfyn Dalfa Dyddiol – Er mwyn gwarchod stociau, mae'n bosibl y bydd angen cyfyngu ar faint o gocos y caniateir i gasglwyr ei gymryd mewn un diwrnod. Bydd deiliad trwydded yn cael gwybod os bydd hyn yn digwydd a faint o gocos (mewn pwysau) y caniateir iddynt eu cymryd bob dydd.
  • Un cyfnod trwydded  – os ydych yn gwneud cais am drwydded, byddwch yn gallu anfon eich cais unrhyw bryd rhwng 1 Mehefin a 31 Mai y flwyddyn ganlynol. Bydd disgwyl i chi dalu ffi’r drwydded lawn pa bynnag adeg o'r flwyddyn y byddwch yn gwneud cais. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu cael trwydded am gyfnod o lai na mis.

2. Pryd y byddaf yn gallu casglu cocos o bysgodfa gocos neu wely cocos?

Bydd yr holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gennym yn aros ar gau nes eu bod yn cael eu hagor yn swyddogol. Bydd pob pysgodfa gocos yn agor unwaith y bydd wedi'i hasesu a chadarnheir bod digon o gocos ar gael i'w casglu. Bydd pob deiliad trwydded yn cael gwybod cyn agor pob pysgodfa.

3. Sut mae'r gwelyau cocos yn cael eu hasesu?

O leiaf unwaith y flwyddyn byddwn yn arolygu pob pysgodfa gocos gyhoeddus i asesu helaethrwydd y cocos. Os oes digon o gocos, bydd ‘gornifer cocos y gellir eu cynaeafu’ (yr uchafswm y gellir ei gymryd gan gasglwyr heb effeithio ar iechyd y stoc neu'r amgylchedd) yn cael ei gyfrifo ar gyfer y bysgodfa. Bydd hyn yn sicrhau bod digon o gocos yn cael ei adael fel stoc magu ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac i fwydo adar sy'n gaeafu.

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwybod pryd i agor pysgodfa gocos neu wely cocos?

O ganlyniadau'r arolwg, mae ein swyddogion yn gallu cyfrifo pa bryd yw'r amser gorau i'r cocos gael eu casglu. Yna byddant yn agor y bysgodfa neu'r gwely unwaith y bydd y cocos wedi cyrraedd y maint cywir ac mae digon ar gael i'w casglu. Bydd amodau yn cael eu gosod i sicrhau bod unrhyw waith casglu cocos yn cael ei wneud mewn modd diogel ac nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd.

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwybod pryd i gau pysgodfa gocos neu wely cocos?

Mae nifer o resymau pam y gellir cau pysgodfa gocos neu wely cocos. Fel arfer bydd ar gau unwaith y bydd yr holl ‘ornifer cocos y gellir eu cynaeafu' wedi'i gasglu. Neu mae'n bosibl y bydd ar gau i asesu a oes risg o gymryd mwy na'r gornifer cocos y gellir eu cynaeafu. Efallai y bydd angen i’r bysgodfa gocos/gwely cocos gau hefyd os oes perygl o niwed iddynt a'r amgylchedd cyfagos.

6. Pam mae angen trwydded arnaf a phwy all wneud cais?

Os ydych yn bwriadu casglu cocos yn fasnachol, bydd angen trwydded arnoch i gasglu ar bysgodfa gocos gyhoeddus. Gellir rhoi trwydded i unrhyw un sydd wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir, wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a thalu'r ffi. Yna gellir defnyddio'r drwydded ar unrhyw un o'n pysgodfeydd cyhoeddus a reolir sydd wedi'i hagor yn swyddogol. Dim ond deiliad y drwydded fydd yn gallu defnyddio'r drwydded. Ni chaiff unrhyw un arall ei defnyddio.

7. Beth yw amodau'r drwydded a pham mae eu hangen arnaf?

Pan fydd trwydded yn cael ei rhoi, bydd set o reolau (amodau) yn cael eu pennu ar yr un pryd. Bydd yr amodau hyn yn berthnasol i bob pysgodfa gocos neu wely cocos sydd wedi'i hagor yn swyddogol. Bydd angen eu darllen yn ofalus gan na fydd pob amod yr un fath, gan ddibynnu ar yr ardal y mae'r cocos yn cael eu casglu ohoni. Bydd holl amodau'r drwydded yn cynnwys manylion, cyfesurynnau a mapiau o'r ardal lle gellir casglu cocos a'r gornifer cocos y gellir eu cynaeafu ar gyfer y tymor hwnnw. (Gweler Rhif 15 isod hefyd) Ar rai achlysuron, mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r amodau oherwydd newid mewn amgylchiadau.  Gall newidiadau i amodau trwyddedau gynnwys y canlynol:

  • unrhyw newid o ran y gornifer cocos y gellir eu cynaeafu
  • terfyn dalfa dyddiol (os yw'r gwaith rheoli wedi penderfynu bod angen hyn)
  • maint glanio lleiaf penodedig
  • dyddiadau, amseroedd neu lanwau penodedig pan na chaniateir pysgota am gocos na chymryd cocos
  • dulliau neu gyfarpar penodedig y caniateir eu defnyddio neu ei ddefnyddio wrth bysgota am gocos neu gymryd cocos
  • dulliau mynediad penodedig i'r ardal benodedig neu wely cocos (er enghraifft, gallai hyn olygu mewn cwch neu feic cwad ac ati, yn dibynnu ar yr ardal a'r amgylchedd o amgylch y bysgodfa)

Pan fo'n bosibl, hysbysir deiliaid trwyddedau ac weithiau rhanddeiliaid eraill am unrhyw newidiadau cyn iddynt ddigwydd.

8. Pwy sy'n cael gwneud cais am drwydded?

Gallwch wneud cais am drwydded os:

  • ydych yn 16 oed neu'n hŷn
  • ydych wedi mynychu cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol yn ystod y 3 blynedd diwethaf ac wedi derbyn tystysgrif gan ddarparwr y cwrs
  • nad ydych wedi eich cael yn euog o drosedd sy'n gysylltiedig â physgodfa o fewn y 12 mis diwethaf. Os ydych o dan 18 oed, ni ddylech fod wedi eich cael yn euog o drosedd sy'n gysylltiedig â physgodfa o fewn y 6 mis diwethaf.

9. Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf i allu cwblhau'r cais am drwydded?

Ers mis Mehefin 2024 os ydych am wneud cais am drwydded, bydd angen i chi wneud cais ar-lein drwy'r dudalen “Cais am drwydded bysgota” Cymru. Mae hyn ar gael yn LLYW.CYMRU. Bydd angen i chi sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth yn barod fel y gallwch gwblhau pob rhan o'r cais yn gywir. Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu prosesu a byddant yn cael eu dileu'n awtomatig o'r system ar ôl saith niwrnod.

Cyn cwblhau'r cais, bydd angen i chi sicrhau bod gennych y prawf canlynol wrth law:

  • eich dull adnabod (trwydded yrru neu basbort)
  • eich enw a'ch cyfeiriad (rhyw fath o ddull adnabod sy'n cadarnhau'r manylion hyn e.e. bil cyfleustodau) 
  • rhif a/neu dystysgrif a gafwyd o gwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol.
  • rhif Yswiriant Gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (os ydych yn hunangyflogedig)

Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio cwch i gario cocos o'r bysgodfa/gwely cocos bydd angen y dystiolaeth ganlynol arnoch:

  • Cymhwyster Meistr Llong/Cwch. (Mae nifer o gymwysterau y gallwch eu cael ar gyfer y prawf hwn. Y peth gorau yw gwirio gyda Llywodraeth Cymru y bydd eich cymhwyster yn cael ei dderbyn cyn i chi wneud cais).
  • Gwybodaeth am y llong/cwch a ddefnyddir, gan gynnwys rhif tystysgrif codio Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA). 

Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod yn gallu talu'r ffi ar-lein ar adeg y cais.

10. Pam mae angen i mi dalu ffi am drwydded?

Bydd ffi’r drwydded yn cael ei defnyddio i dalu am gost rheoli'r pysgodfeydd cyhoeddus, gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol a gwyddonol. 

11. A oes unrhyw eithriadau i'r angen i gael trwydded?

Nid oes angen trwydded arnoch os ydych chi'n casglu hyd at 5kg o gocos bob dydd i'ch defnydd personol eich hun. 

Nid oes angen trwydded arnoch ychwaith os ydych yn casglu cocos at ddibenion gwyddonol.  Fodd bynnag, bydd angen i chi ofyn am ein caniatâd ymlaen llaw a darparu tystiolaeth o'r angen gwyddonol am gasglu'r samplau o gocos.

12. Beth sy'n digwydd i'r cocos os canfyddir bod rhywun yn casglu mwy na 5kg heb drwydded neu ganiatâd?

Bydd y cocos yn cael eu rhoi yn ôl mor gyflym ac mor agos â phosibl i'r man lle cawsant eu casglu a'u gwasgaru'n denau a chyfartal er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi.  

13. Sut y byddaf i'n gwybod pryd mae pysgodfa gocos neu wely cocos ar agor?

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael gafael ar yr wybodaeth hon – fel a ganlyn:

  • Os oes gennych drwydded, mae'n bosibl y cewch wybod drwy e-bost (neu ddulliau cyfathrebu eraill) bod y bysgodfa/gwely cocos ar agor.
  • Bydd cyhoeddiad yn cael ei roi ar wefan LLYW.CYMRU. (Rhaid i ddeiliaid trwyddedau wirio'r dudalen we bob dydd cyn iddynt fynd i gasglu cocos i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ganddynt a sicrhau bod y gwely cocos ar agor)
  • Bydd hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos yn agos at y bysgodfa cocos neu'r gwely cocos gan roi manylion ynghylch yr agoriad.

14. Beth mae'r cyfesurynnau yn cyfeirio atynt yn y Gorchymyn?

Mae'r cyfesurynnau'n cyfeirio at yr ‘Ardal Benodedig’. Mae'r ardal hon yn cynnwys yr holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gennym ni yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys manylion cyfesurynnau ar gyfer y pysgodfeydd cocos canlynol:

  • Pysgodfa'r Tair Afon (mae'r bysgodfa hon yn cynnwys pum gwely cocos h.y. Llansteffan, Llanybri, Llanismel/Tan-y-lan, Glanyfferi a Gwendraeth)
  • Whiteford
  • Cilfach Tywyn*
  • Traeth Lafan
  • Traeth Melynog
  • Traeth Coch

Ceir mapiau o'r ardaloedd hyn ar wefan LLYW.CYMRU yn: Mapiau Ardaloedd Penodedig 

*Ar hyn o bryd mae Cilfach Tywyn yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Orchymyn Rheoleiddio. Daw'r Gorchymyn Rheoleiddio hwn i ben ym mis Mehefin 2025 a bydd y bysgodfa yn dychwelyd i bysgodfa gocos gyhoeddus a bydd yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion Cilfach Tywyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn am y rheswm hwn.

15. Beth sy'n ddisgwyliedig gennyf pan fyddaf yn cael fy nhrwydded?

When you get your permit, you will also be sent permit conditions. You will need to read these conditions carefully as they include information which will help to ensure your safety when gathering cockle on the fisheries. The conditions will also contain the following information:

  • Yr angen i wirio'r wefan bob dydd i sicrhau bod y bysgodfa gocos/gwely cocos ar agor cyn mynd ati i gasglu.
  • NI CHAIFF unrhyw un gasglu cocos yn y nos, h.y. rhwng hanner awr ar ôl machlud haul ar unrhyw ddiwrnod a hanner awr cyn i'r haul godi'r diwrnod wedyn.
  • Wrth ddefnyddio cwch i gael mynediad i wely cocos, rhaid iddo fod yn llai na 10 metr o hyd.
  • Os ydych yn defnyddio cwch rhaid i chi sicrhau eich bod yn ein hysbysu o unrhyw newidiadau, e.e. cwch newydd, enw newydd ar gwch, gwybodaeth codio Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi'i diweddaru ac ati.
  • Mae'n RHAID i chi gyflwyno ffurflen dalfa ddyddiol. Rhaid i'r ffurflen ddalfa hon gynnwys manylion y dyddiad y casglwyd y cocos, pwysau'r cocos a gasglwyd y diwrnod hwnnw a manylion y gwely cocos y casglwyd ohono y diwrnod hwnnw.
  • Y math o gyfarpar y caniateir i chi ei ddefnyddio i gasglu'r cocos o bob pysgodfa gocos / gwely cocos. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar amodau'r bysgodfa a'r amgylchedd lleol.