Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gen i rannu â’r Aelodau gopi o adroddiad ynghylch cadernid y gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod gaeaf 2017/18, sy’n gwneud argymhellion allweddol ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae copi o’r adroddiad i’w weld drwy’r ddolen isod:
https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/winter/?skip=1&lang=cy
Ar sail yr hyn a ddysgwyd wrth adolygu gaeaf 2017/18, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gydag arweinwyr clinigol cenedlaethol ac arweinwyr o sefydliadau’r GIG a’r awdurdodau lleol i ddatblygu pum blaenoriaeth gyflawni ar gyfer 2018/19.
Cytunwyd ar y pum blaenoriaeth ganlynol mewn digwyddiad ymgysylltu cenedlaethol ym mis Mai a chawsant eu cyfleu i’r Byrddau Iechyd Lleol, yr Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin:
Blaenoriaeth gyflawni’r gaeaf 1: gwneud y gorau o bartneriaethau clinigol a thraws-sefydliadol i ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer y gaeaf;
• Blaenoriaeth 2: Ffocws penodol ar reoli cleifion yn well yn y gymuned yn ystod y gaeaf;
• Blaenoriaeth 3: Gwella’r gafael gweithredol a rhoi ffocws clinigol wrth reoli mewn ysbytai er mwyn lleddfu’r uchafbwyntiau mewn gweithgarwch a rheoli risgiau’n effeithiol;
• Blaenoriaeth 4: Canolbwyntio ar alluogi pobl i fynd adref o’r ysbyty pan fyddant yn barod;
• Blaenoriaeth 5: Canolbwyntio’n benodol ar ddulliau ‘rhyddhau i asesu’ er mwyn atal derbyniadau i’r ysbyty neu arosiadau diangen o hir yn yr ysbyty.
Mae’r paratoadau ar gyfer gaeaf 2018/19 wedi bod yn digwydd drwy Gymru ac ar draws ffiniau sefydliadau ers gaeaf y llynedd. Mae’r byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio gyda’u partneriaid dros y misoedd diwethaf i ddatblygu cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf yn eu cymunedau iechyd a gofal, ar sail y pum blaenoriaeth hyn.
Cafwyd cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf gan bob bwrdd iechyd a rhoddwyd adborth iddynt i’w galluogi i fireinio’u cynlluniau ymhellach cyn y gaeaf. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd wedi llunio cynllun cenedlaethol sydd wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.
I helpu i roi’r cynlluniau hyn ar waith, rwy’n falch o gyhoeddi pecyn ariannol o £20m ar gyfer y GIG a’i bartneriaid ar gyfer cyfnod prysur y gaeaf.
Bydd £16 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i’r Byrddau Iechyd Lleol i’w helpu i roi’r camau sydd wedi’u nodi yn y cynlluniau cyflawni lleol ar waith, ar y cyd â’r gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector.
Bydd yr arian hwn yn helpu pobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai a bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty a mynd adref pan fyddant yn barod.
Bydd y £4 miliwn arall yn ariannu blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer cyfnod y gaeaf. Bydd yr arian yn cael ei dargedu at y meysydd canlynol:
• Ehangu’r mynediad at feddygon teulu fel bod gwasanaeth ar gael fin nos ac ar benwythnosau, yn ogystal ag ar wyliau banc mewn rhai ardaloedd, i helpu pobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi;
• Helpu pobl hŷn sydd wedi cwympo, ond heb gael anaf, i aros gartref neu mewn cartrefi gofal;
• Cynyddu nifer y parafeddygon a’r nyrsys sydd ar gael yng nghanolfannau cyswllt clinigol y gwasanaeth ambiwlans, i roi cyngor dros y ffôn a helpu i atal pobl rhag teithio i’r ysbyty yn ddiangen;
• Cynyddu capasiti yn yr Adrannau Brys i hwyluso llif cleifion a helpu i adsefydlu pobl hŷn yn eu cartrefi ar ôl iddynt gael eu hasesu yn yr adran;
• Lledaenu arferion da drwy Gymru ar sail cynllun peilot llwyddiannus gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i ddefnyddio parafeddygon medrus iawn i helpu i gadw pobl gartref;
• Cefnogi’r fenter ‘Fy Iechyd y Gaeaf Hwn’ er mwyn helpu clinigwyr sy’n ymweld â phobl yn eu cartrefi i ddeall mwy am eu cyflyrau hirdymor a’u hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty pan fyddai gofal o fath arall yn diwallu eu hanghenion yn well.
Daw’r cyllid a gyhoeddir heddiw ar ben y £5 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu i leddfu’r pwysau ar unedau gofal critigol a’r £10 miliwn i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.
Bydd swyddogion yn parhau i weithio law yn llaw â GIG Cymru a’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddo i’w cynorthwyo i ddeall y galw ac i wybod faint o gapasiti sydd ei angen i ddiwallu anghenion eu poblogaeth, gan nodi cyfleoedd ar gyfer cymorth cenedlaethol a lleol yn ôl yr angen.
Rwy’n bwriadu gwneud datganiad arall ar 13 Tachwedd am y paratoadau ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.