Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 (‘y Rheoliadau drafft’) wedi’i gosod gerbron Senedd Cymru. 

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd yn yr hydref, bydd y Rheoliadau drafft yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru fel y darperir ar ei gyfer gan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (‘Deddf CGI’) a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Chwefror.

Ynghyd â’r Rheoliadau drafft, ceir Canllawiau Statudol drafft sy’n nodi’r egwyddorion gweithredol y mae angen i ‘awdurdodau perthnasol’, fel y’u diffinnir yn adran 10A(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (fel y’i mewnosodir gan Ddeddf CGI), eu dilyn wrth gaffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru. 

Mae’r Canllawiau Statudol drafft ar gael ar yr un pryd â gosod y Rheoliadau drafft i roi cyfle i randdeiliaid ymgyfarwyddo â’r newidiadau arfaethedig i gaffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.